Cyhoeddiad newydd: Addysgu o bell a dulliau addysg ysgol yng nghyd-destun COVID-19

Cyhoeddwyd 15/09/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munud

[rt_reading_time label="Amcangyfrif o amser darllen:" postfix="Munud" postfix_singular="Munud"]

15 Medi 2020

Read this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (PPIA) y Senedd wedi cyhoeddi papur (PDF) a gomisiynwyd gan Dr Sofya Lyakhova ym Mhrifysgol Abertawe ynghylch addysgu a dysgu o bell. Cynhyrchwyd y papur hwn o dan gynllun Cofrestr Arbenigwyr COVID-19 Ymchwil y Senedd, lle mae academyddion perthnasol yn cynorthwyo'r Senedd gyda'i gwaith yn ymwneud â phandemig COVID-19 a'i effeithiau, gan ganolbwyntio'n benodol ar Gymru.

Gofynnodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am yr astudiaeth i lywio ei ymchwiliad i effaith argyfwng COVID-19 ar blant a phobl ifanc yng Nghymru, yn gynharach yn yr haf cyn i Lywodraeth Cymru gyhoeddi y byddai disgyblion yn dychwelyd i'r ysgol yn llawn amser ym mis Medi. Er ei fod yn credu y dylai unrhyw benderfyniad yn y dyfodol i gau ysgolion fod yn ddewis olaf yn unig, mae'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi cyflwyno'r adroddiad i Lywodraeth Cymru (PDF) er mwyn caniatáu iddo lywio'r gwaith cynllunio wrth gefn y mae gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn ei wneud. , Dr Sofya Lyakhova

Addysgu o bell a dulliau addysg ysgol yng nghyd-destun COVID-19 (PDF), Dr Sofya Lyakhova


Erthygl gan Michael Dauncey, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru