Cyhoeddwyd 04/08/2016
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
  |  
Amser darllen
munudau
04 Awst 2016
Erthygl gan Megan Jones, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg
Un o bolisïau Llywodraeth Cymru yw y dylai pob disgybl astudio'r Gymraeg rhwng 3 ac 16 oed, naill ai fel iaith gyntaf neu fel ail iaith. Fodd bynnag, nid oes dyletswydd gyfreithiol ar awdurdodau lleol i ddarparu addysg cyfrwng Cymraeg.
Rhaid i awdurdodau lleol roi sylw i'r egwyddor gyffredinol bod disgyblion i'w haddysgu yn unol â dymuniadau eu rhieni cyn belled ag y bo hynny'n gydnaws â darparu addysg a hyfforddiant effeithlon ac osgoi gwariant cyhoeddus afresymol. Mae'r
briff ymchwil yn egluro'r mater hwn yn fwy manwl.
Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd gyfreithiol hefyd i asesu'r galw am addysg cyfrwng Cymraeg yn eu hardaloedd perthnasol drwy eu Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (WESPs).
Categoreiddio ysgolion o ran eu hiaith
Mae Deddf Addysg 2002 yn diffinio ysgol fel 'ysgol Gymraeg ei hiaith'
os yw mwy na hanner y pynciau a ganlyn yn cael eu haddysgu (yn llawn neu’n rhannol) drwy gyfrwng y Gymraeg -
(a) addysg grefyddol, a
(b) y pynciau, heblaw am y Gymraeg a’r Saesneg, sy’n bynciau sylfaen ar gyfer y disgyblion yn yr ysgol.
Gall ysgolion gael eu categoreiddio hefyd yn ôl y diffiniadau sydd wedi'u cynnwys yn y
canllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2007, ond nid oes unrhyw sail ddeddfwriaethol i'r categorïau hyn.
Ystadegau ar gyfer categoreiddio ysgolion o ran eu hiaith
Yn ôl y categorïau a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru,
fel ar 2014/15:
- Roedd 391 o ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg yng Nghymru; 39 o ysgolion dwy ffrwd; 33 o ysgolion cyfrwng Saesneg yn bennaf ond â defnydd sylweddol o'r Gymraeg; a 862 o ysgolion cyfrwng Saesneg.
- Roedd 23 o ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg; 27 o ysgolion dwyieithog; 9 o ysgolion cyfrwng Saesneg yn bennaf ond â defnydd sylweddol o'r Gymraeg; a 148 o ysgolion uwchradd cyfrwng Saesneg.
Y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg
Mae'r
Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2010 yn nodi chwe amcan strategol. Mae hefyd yn cynnwys targedau dangosol ar gyfer cyfnodau o bum mlynedd a deng mlynedd. Er enghraifft, mae targed ar gyfer cynyddu nifer y plant 7 oed sy'n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi
Adroddiadau Blynyddol ar y cynnydd a wneir yn erbyn yr amcanion yn ei strategaeth.
Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg
O dan
Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, mae'n ofynnol i awdurdodau lleol lunio Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg tair blynedd a'i gyflwyno i Weinidogion Cymru i'w gymeradwyo. Dylai'r cynlluniau hyn gynnwys asesiad o'r galw am addysg cyfrwng Cymraeg, manylion ynghylch targedau'r awdurdod lleol a'i gynlluniau i wella'r broses o gynllunio'r ddarpariaeth a gwella safon y ddarpariaeth.
Y Pumed Cynulliad
Yn dilyn etholiad y Cynulliad ym mis Mai 2016, a'r broses o ddyrannu rolau yng Nghabinet Llywodraeth Cymru, mae cyfrifoldeb dros yr iaith Gymraeg wedi symud oddi wrth Carwyn Jones, y Prif Weinidog, i Alun Davies. Gwnaeth Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes,
ddatganiad ar 12 Gorffennaf 2016 yn nodi ei flaenoriaethau ar gyfer y Gymraeg dros y flwyddyn i ddod. Dywedodd ei fod yn 'awyddus i ailedrych ar y broses o gynllunio addysg Gymraeg' er mwyn sicrhau gweithredu 'pendant a chyflym', a bod hynny'n digwydd mewn modd a fyddai'n arwain at dwf mewn addysg cyfrwng Cymraeg.
Dywedodd y Gweinidog ei fod hefyd wedi ymrwymo i weithredu'r blaenoriaethau a nodwyd gan
Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2016 o ran y 'camau nesaf' ar gyfer y strategaeth addysg cyfrwng Cymraeg.
Briff ymchwil ar addysg cyfrwng Cymraeg (PDF, 793KB)