Dyma'r ail bapur briffio mewn cyfres sy’n cynnig canllaw cyflym ar addysg a gofal plentyndod cynnar (ECEC). Yng nghyd-destun tystiolaeth ryngwladol, mae'n ceisio ystyried beth yw addysg a gofal plentyndod cynnar o ansawdd, sut y mae angen trefnu addysg a gofal plentyndod cynnar o ansawdd, a sut y mae'r polisïau, y ddarpariaeth a'r arferion cyfredol yng Nghymru yn adlewyrchu hyn.
Cyhoeddiad Newydd: Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar: Pwysigrwydd ansawdd (PDF, 877KB)
Lluniwyd y papur briffio hwn gan Dr David Dallimore o Ysgol y Gwyddorau Iechyd, Prifysgol Bangor fel rhan Gynllun Cymrodoriaeth Academaidd Ymchwil y Senedd i gynorthwyo Aelodau’r Cynulliad wrth iddynt graffu ar y ddarpariaeth addysg a gofal plentyndod cynnar.
Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod cefnogaeth Prifysgol Bangor a alluogodd Dr Dallimore i gymryd rhan yn y gymrodoriaeth hon.