Cyhoeddiad Newydd: Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar: Datblygu Polisi

Cyhoeddwyd 27/09/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Dyma’r trydydd papur briffio mewn cyfres sy’n cynnig canllaw cyflym ar addysg a gofal plentyndod cynnar (ECEC). Roedd y ddau bapur cyntaf yn ystyried sut y gellir strwythuro, trefnu a darparu gwasanaethau ECEC. Mae’r papur olaf hwn yn edrych ar y cwestiynau polisi allweddol sy’n ymwneud ag ECEC gan gynnwys i bwy mae’r gwasanaeth mewn gwirionedd, ei argaeledd a’i hygyrchedd, a sut mae’n cael ei ariannu.

Cyhoeddiad Newydd: Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar: Datblygu Polisi (PDF, 3729KB)

Ysgrifennwyd y briff gan Dr David Dallimore o’r Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas ym Mhrifysgol Bangor o dan Gynllun Cymrodoriaeth Academaidd Gwasanaeth Ymchwil y Senedd i gefnogi Aelodau’r Cynulliad i graffu ar ddarpariaeth ECEC.


Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod cefnogaeth Prifysgol Bangor sydd wedi galluogi Dr Dallimore i gymryd rhan yn y gymrodoriaeth hon.