Cyhoeddwyd 25/09/2014
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
  |  
Amser darllen
munudau
25 Medi 2014
Erthygl gan Michael Dauncey, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
[caption id="attachment_1590" align="alignnone" width="300"]

Llun: o Pixabay. Dan drwydded Creative Commons.[/caption]
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi model newydd i gategoreiddio ysgolion yng Nghymru. Mae hyn yn dilyn ei haddewid i gyflwyno system raddio ar gyfer ysgolion cynradd a bydd hefyd yn disodli’r system bresennol ar gyfer bandio ysgolion uwchradd. Cyhoeddir y canlyniadau cyntaf ym mis Ionawr 2015.
Mewn
Datganiad gan y Cabinet a gyhoeddwyd heddiw (25 Medi 2014), nododd Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, fanylion am y broses tri cham ar gyfer categoreiddio ysgolion cynradd ac uwchradd.
- Bydd Cam 1 yn defnyddio data ar berfformiad a safonau ysgol i ffurfio barn rhwng 1 a 4. Mae manylion am y matrics data ar gyfer ysgolion cynradd wedi cael eu cyhoeddi yn natganiad y Gweinidog a bydd manylion am yr ysgolion uwchradd yn dilyn y mis nesaf.
- Mae Cam 2 yn cynnig cyfle i ysgolion hunan-werthuso eu hunain a bydd yn seiliedig ar allu’r ysgol i wella ei hun. Bydd yn canolbwyntio ar arweinyddiaeth, dysgu ac addysgu. Bydd Cynghorwyr Herio y consortia rhanbarthol, sydd mewn gwirionedd yn cyflawni rôl flaenorol swyddogaethau gwella ysgolion awdurdodau lleol unigol, yn archwilio sut mae hunan-werthusiad ysgolion yn cyfateb i’r data perfformiad o dan Gam 1. Y bwriad yw sicrhau bod y broses yn gadarn. Bydd y canlyniad Cam 2 yn ddyfarniad rhwng A a D.
- O dan Gam 3, bydd y ddau ddyfarniad a gafwyd o dan y ddau gam cyntaf yn arwain at ddyfarniad cyffredinol a chategori ar gyfer pob ysgol yn seiliedig ar bedwar lliw: Gwyrdd, Melyn, Oren a Choch. Bydd y dyfarniadau hyn yn sbarduno rhaglen wedi’i theilwra a fydd yn cynnwys cymorth, her ac ymyrraeth, y bydd angen cytuno arni rhwng yr awdurdod lleol a’r consortia rhanbarthol.
I grynhoi, mae datganiad y Gweinidog yn disgrifio pob lliw categori fel hyn:
- Gwyrdd: yw’r ysgolion gorau
- Melyn: yw’r ysgolion da
- Oren: yw’r ysgolion sydd angen gwella
- Coch: yw’r ysgolion sydd angen y gwelliant mwyaf
(Gwelir eglurhad pellach o bob lliw categori yn natganiad y Gweinidog)
O fewn eglurhad y data a ddefnyddir o ran ysgolion cynradd yng Ngham 1, bydd cyd-destun economaidd-gymdeithasol ysgolion, fel y cynrychiolir yn ôl lefelau cymhwyster Prydau Ysgol am Ddim, yn parhau i fod yn ffactor allweddol yn yr un modd â’r system bandio ysgolion uwchradd bresennol. Bydd y mesurau a ddefnyddir ar gyfer data ysgolion cynradd yn cael eu gosod mewn grwpiau meincnodi yn seiliedig ar y gyfran o ddisgyblion sy’n gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim.
Mae Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio y bydd cyflwyno system genedlaethol ar gyfer categoreiddio ysgolion yn adeiladu ar y trefniadau presennol lle mae rhai awdurdodau lleol neu ranbarthau eisoes yn graddio ysgolion. Mae hefyd wedi pwysleisio rôl llywodraeth leol a’r consortia rhanbarthol o ran datblygu’r model categoreiddio cenedlaethol a’r cyfuniad o egwyddorion bandio ysgolion uwchradd presennol gyda dull gweithredu system gyfan sy’n ystyried arweinyddiaeth, addysgu a dysgu.
Bydd y model newydd yn wahanol i fandio ysgolion uwchradd o ran na fyddai ysgol yn codi un categori neu fwy o reidrwydd yn golygu bod ysgol arall yn disgyn. Hefyd, drwy ddefnyddio cyfartaleddau tair blynedd, dylai’r model newydd ddarparu dadansoddiad tymor hwy o safle ysgol yn hytrach nag un y gellir dadlau sy’n seiliedig yn bennaf ar un garfan o ddisgyblion ar gyfer y flwyddyn honno.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler
erthygl blog flaenorol y Gwasanaeth Ymchwil ar fandio ysgolion ym mis Rhagfyr 2013.