Gydag etholiad y Senedd ar y gorwel, mae Llywodraeth Cymru wedi nodi ei blaenoriaethau deddfwriaethol ar gyfer blwyddyn olaf y tymor hwn.
Mewn datganiad i'r Senedd ar 29 Ebrill 2025, ymrwymodd y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni, Julie James AS, i gyflwyno deddfwriaeth ar feysydd sy’n cynnwys digartrefedd, twristiaeth ac atebolrwydd Aelodau o'r Senedd.
Ac eithrio deddfwriaeth i roi terfyn ar rasio milgwn, cafodd yr holl ymrwymiadau deddfwriaethol eu cynnwys yn natganiad y llynedd.
Mae'r erthygl hon yn edrych ar ymrwymiadau Llywodraeth Cymru yn fanylach a sut ymatebodd y gwrthbleidiau.
Pa ddeddfwriaeth fydd yn cael ei chyflwyno?
Tai a chynllunio
Ymrwymodd y Cwnsler Cyffredinol i gyflwyno “Bil i drawsnewid ein system digartrefedd” i sicrhau ei fod yn “hygyrch ac yn canolbwyntio ar yr unigolyn”, gan alluogi’r rhai sy’n ddigartref “i gael tai tymor hir yn gyflym, cynyddu eu hunangynhaliaeth eu hunain, ac aros mewn cartref”.
Rydym wedi ysgrifennu cyfres o erthyglau ar y system digartrefedd yng Nghymru cyn i’r Bil gael ei gyflwyno, gan gynnwys ar ailgartrefu cyflym a mynediad at dai cymdeithasol. Gwnaethom hefyd ysgrifennu am y papur gwyn a oedd yn gofyn am safbwyntiau ar yr hyn y dylai'r Bil ei gynnwys.
Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn cyflwyno Bil ar ddiogelwch adeiladau, a fydd yn “diwygio'r drefn diogelwch adeiladau yng Nghymru yn sylfaenol ac yn mynd i'r afael â materion diogelwch tân”.
Cyhoeddodd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd adroddiad ar ddiogelwch adeiladau y llynedd, lle mynegodd obaith y bydd y Bil sydd ar ddod “yn gwneud cynnydd sylweddol” yn y maes hwn.
Bydd deddfwriaeth i gydgrynhoi cyfraith gynllunio yn cyfuno cyfraith Cymru yn y maes hwn mewn un statud. Bydd yn golygu y bydd deddfwriaeth gynllunio ar gael yn llawn yn y Gymraeg a'r Saesneg am y tro cyntaf.
Yr amgylchedd a lles anifeiliaid
Cadarnhaodd y Cwnsler Cyffredinol y bydd Bil yr Amgylchedd (Llywodraethiant, Egwyddorion a Thargedau Bioamrywiaeth) yn cael ei gyflwyno cyn gwyliau'r haf. Bydd y Bil yn sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol newydd i oruchwylio’r gwaith o weithredu cyfraith amgylcheddol a chydymffurfiaeth â hi, yn ogystal â fframwaith ar gyfer gosod targedau bioamrywiaeth. Bydd hefyd yn cyflwyno egwyddorion amgylcheddol cyffredinol i ategu penderfyniadau polisi yn y dyfodol.
Ers 31 Rhagfyr 2020 a diwedd goruchwyliaeth yr Undeb Ewropeaidd o gyfraith amgylcheddol yn y DU, mae trefniadau dros dro wedi bod ar waith yng Nghymru. Cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar y Bil y llynedd, ac ymrwymodd yn gyntaf i ddeddfu ar y mater hwn yn 2018. Cymru fydd yr olaf o bedair gwlad y DU i sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol. Mae ein papur briffio yn rhoi rhagor o wybodaeth.
Bydd deddfwriaeth hefyd yn cael ei chyflwyno i weithredu gwaharddiad ar rasio milgwn "cyn gynted â phosibl yn ymarferol". Mae hyn yn sgil sefydlu grŵp gweithredu i gynghori Llywodraeth Cymru ar sut i weithredu'r gwaharddiad. Cytunwyd ar y gwaharddiad fel rhan o gytundeb cyllideb rhwng Llywodraeth Cymru ac AS Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds.
Atebolrwydd Aelodau o’r Senedd
Yn dilyn adroddiadau gan Bwyllgor Safonau Ymddygiad y Senedd ar gyflwyno system adalw Aelodau a chamau i fynd i'r afael â dichell fwriadol gan ymgeiswyr ac Aelodau, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i gyflwyno Bil ar atebolrwydd Aelodau.
Rydym wedi ysgrifennu erthyglau ar y system adalw arfaethedig a dichell fwriadol.
Awgrymodd y Cwnsler Cyffredinol y bydd Llywodraeth Cymru yn gofyn am amserlen graffu gyflymach ar gyfer y Bil gan na fydd yn barod cyn hanner tymor yn hydref 2025.
Twristiaeth
Yn sgil cyflwyno Bil i sefydlu cofrestr o letyau ymwelwyr a chyflwyno pwerau ar gyfer ardoll ymwelwyr, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Bil i reoleiddio lletyau ymwelwyr drwy drefn drwyddedu.
Bydd y Bil yn cyflwyno “set berthnasol o safonau i helpu i roi hyder i ymwelwyr yn eu diogelwch a gwella profiad ymwelwyr”. Cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar gynllun trwyddedu yn 2023.
Tribiwnlysoedd a thacsis – diffyg amser
Nid oes digon o amser ar gyfer Biliau ar dacsis a cherbydau hurio preifat a diwygio Tribiwnlysoedd Cymru. Yn lle hynny, bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi Biliau drafft neu'n ymgysylltu ymhellach â rhanddeiliaid gyda'r bwriad y bydd y llywodraeth newydd yn cyflwyno deddfwriaeth yn fuan ar ôl yr etholiad y flwyddyn nesaf.
Cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriadau ar bapurau gwyn ar gyfer tacsis a cherbydau hurio preifat a system tribiwnlysoedd newydd i Gymru yn 2023.
Ymrwymiadau eraill
Cadarnhaodd y Cwnsler Cyffredinol fod Llywodraeth Cymru yn cefnogi Bil Aelod Preifat Mark Isherwood AS ar Iaith Arwyddion Prydain, ac y byddai amser deddfwriaethol ar gael ar gyfer y Bil hwn.
Dywedodd hefyd y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi papur gwyrdd, yn unol â dyletswydd i adolygu Deddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022.
Ochr yn ochr â’r ddeddfwriaeth sylfaenol a gyhoeddwyd, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol y bydd “ystod enfawr” o ddeddfwriaeth eilaidd i’w chyflwyno, i weithredu Deddfau sydd eisoes wedi’u pasio gan y Senedd.
Cyfri’r dyddiau
Mewn ymateb i'r datganiad, beirniadodd Tom Giffard AS o’r Ceidwadwyr Cymreig y nifer isel o Filiau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru o'i gymharu â seneddau'r Alban a'r DU.
Croesawodd Heledd Fychan AS o Blaid Cymru rai mesurau, ond dywedodd ei bod yn anffodus bod llawer o ymrwymiadau Llywodraeth Cymru wedi cael eu “gwasgu i mewn” i flwyddyn olaf y Senedd.
Wrth i ddeddfwriaeth gael ei chyflwyno a mynd drwy'r Senedd dros y flwyddyn nesaf, byddwch yn gallu dod o hyd i wybodaeth gynhwysfawr ar gyfer pob Bil ar ein tudalen adnoddau.
Erthygl gan Adam Cooke a Josh Hayman, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru