Dau berson yn eistedd wrth ddesg yn edrych ar gyfrifiadur. Mae un ohonyn nhw'n defnyddio cadair olwyn.

Dau berson yn eistedd wrth ddesg yn edrych ar gyfrifiadur. Mae un ohonyn nhw'n defnyddio cadair olwyn.

“Cyfres o fethiannau” yn null Llywodraeth Cymru o ymdrin ag amrywiaeth mewn penodiadau cyhoeddus, yn ôl Cadeirydd y Pwyllgor

Cyhoeddwyd 19/06/2025

Mae heriau o ran sicrhau bod penodiadau cyhoeddus yn adlewyrchu'r boblogaeth ehangach yng Nghymru.

Er enghraifft, mae data a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2025 gan Lywodraeth Cymru yn awgrymu bod cynrychiolaeth annigonol o bobl anabl ar Fyrddau Sector Cyhoeddus (14% o'i gymharu â 21% o'r boblogaeth gyffredinol).

Ym mis Hydref 2022, fe lansiodd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd ymchwiliad i benodiadau cyhoeddus. Ymhlith pethau eraill, aeth y Pwyllgor ati i edrych ar y rhwystrau i sicrhau amrywiaeth mewn penodiadau cyhoeddus.

Yn ei adroddiad dilynol, cododd y Pwyllgor nifer o bryderon yn ymwneud â diffyg amrywiaeth ymhlith ymgeiswyr ar gyfer rolau cyhoeddus a hygyrchedd y broses benodi.

Mae'r erthygl hon yn edrych ar rai o'r materion sy'n effeithio ar amrywiaeth mewn penodiadau cyhoeddus yng Nghymru.

Beth yw penodiadau cyhoeddus a pham maen nhw'n bwysig?

Yn gyffredinol, mae penodiadau cyhoeddus yn cyfeirio at swyddi mewn cyrff cyhoeddus sy’n cael eu penodi gan y Llywodraeth. Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud ystod eang o benodiadau cyhoeddus. Mae'r rhain yn cynnwys cadeiryddion, aelodau bwrdd, comisiynwyr a rheoleiddwyr.

Er enghraifft, mae penodiadau uwch-swyddogion gan Weinidogion Cymru yn cynnwys:

  • cadeiryddion ac aelodau anweithredol byrddau cyrff fel Cyfoeth Naturiol Cymru, Cymwysterau Cymru ac Amgueddfa Cymru;
  • cadeiryddion, is-gadeiryddion ac aelodau anweithredol y saith bwrdd iechyd lleol, ymddiriedolaethau'r GIG ac aelodau anweithredol cyrff iechyd penodol eraill;
  • a’r pedwar comisiynydd statudol ar gyfer plant, pobl hŷn, cenedlaethau'r dyfodol a'r iaith Gymraeg.

Mae'r rolau hyn yn cynnig cyfleoedd i ddylanwadu ar sut mae'r cyrff hyn yn cael eu llywodraethu.

Pam mae'r Pwyllgor yn ymchwilio i’r mater hwn?

Mae sicrhau amrywiaeth mewn penodiadau cyhoeddus yn helpu i sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn adlewyrchu'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.

Yn rhagair y Cadeirydd i adroddiad y Pwyllgor, mae Mark Isherwood AS yn dweud dylai penodiadau cyhoeddus alluogi’r rhai o gefndiroedd amrywiol i “gyfrannu at gyfarwyddo a rheoli gwasanaethau cyhoeddus a dod yn rhan allweddol o’r broses atebolrwydd a llywodraethu”.

Penderfynodd y Pwyllgor edrych ar ddull Llywodraeth Cymru o ymdrin â’r broses penodiadau cyhoeddus, gan gynnwys meysydd y gellid eu gwella i gynyddu amrywiaeth y penodiadau cyhoeddus a wneir gan Weinidogion Cymru.

Beth sydd ar waith ar hyn o bryd i annog amrywiaeth?

Uned Cyrff Cyhoeddus

Ystyriodd y Pwyllgor rôl Uned Cyrff Cyhoeddus Llywodraeth Cymru (yr Uned), a oedd yn goruchwylio penodiadau cyhoeddus. Roedd yr oruchwyliaeth hon yn cynnwys mesurau i gefnogi gwella amrywiaeth a chynhwysiant yn y broses penodiadau cyhoeddus.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, darparodd yr Uned “fframwaith ar gyfer llywodraethu a sicrhau atebolrwydd yr holl Gyrff Hyd Braich”.

Fodd bynnag, canfu rhai unigolion sydd wedi dal rolau cyhoeddus nad oedd yr Uned yn weladwy a’i bod yn aml yn araf wrth ymateb i ymholiadau am benodiadau cyhoeddus.

Cynhaliodd Tîm Ymgysylltu â Dinasyddion Comisiwn y Senedd gyfweliadau â phobl sydd wedi bod mewn swydd a oedd yn benodiad cyhoeddus, sydd mewn swydd o’r fath ar hyn o bryd, neu sydd wedi gwneud cais am swydd sy’n benodiad cyhoeddus. Yn ystod cyfweliad, dywedodd un cyfwelai:

Mae’n teimlo fel bod yr uned penodiadau cyhoeddus yn islawr Llywodraeth Cymru a ‘does neb am iddi gael ei chanfod. Os ydym ni am gael sefydliad mwy amrywiol ledled Cymru, sy'n gynrychioliadol, mae angen i'r uned penodiadau cyhoeddus honno fod yn fwy cyhoeddus.

Canfu ymchwiliad y Pwyllgor fod rôl yr Uned mewn perthynas â phenodiadau cyhoeddus “yn ddryslyd ac yn aneglur” a chanfuwyd nad oedd llawer o bobl sy’n ceisio penodiadau cyhoeddus “yn ymwybodol o fodolaeth yr uned”.

Mae’n argymell bod Llywodraeth Cymru “yn ail-frandio ac yn ail-lansio” yr Uned, gan gynnwys sicrhau bod ei rolau a’i chyfrifoldebau’n cael eu nodi’n glir a’i bod yn darparu mwy o wybodaeth i’r cyhoedd.

Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru fod yr Uned wedi cael ei diddymu, a bod ei swyddogaethau “wedi cael eu cysoni â chanolfannau arbenigedd corfforaethol”.

Strategaeth amrywiaeth a chynhwysiant

Yn 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus ar gyfer y cyfnod 2020-2023. Nod y Strategaeth yw:

  • creu prosesau mwy agored a thryloyw ar bob lefel o wneud penderfyniadau, gan gynnwys hysbysebu, recriwtio, cyfweld, ac yn bellach i fyny’r gadwyn;
  • herio’r rhwystrau mae grwpiau gwarchodedig yn eu hwynebu fel tâl cyfyngedig, anawsterau o ran mynediad, rhagfarn ddiarwybod, a rhwystrau eraill; a
  • chreu systemau sy’n defnyddio’r holl dalentau, yn parchu gwahaniaethau, ac yn seiliedig ar brofiadau uniongyrchol grwpiau gwarchodedig.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun gweithredu ar gyfer blwyddyn gyntaf y Strategaeth. Dywedwyd wrth y Pwyllgor mai dim ond 28 o'r 44 targed yn y cynllun hwn oedd wedi cael eu cyflawni. Nid oes rhagor o gynlluniau gweithredu wedi cael eu cynhyrchu.

Er bod tystion yn gyffredinol yn cefnogi amcanion y Strategaeth, gwnaeth sawl un gwestiynu i ba raddau y mae wedi cael ei rhoi ar waith.

Mae’r Pwyllgor wedi dweud ei fod yn “bryderus iawn” nad yw Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i amserlen ar gyfer Strategaeth newydd. Ychwanegodd ei bod yn “warthus” bod blwyddyn wedi pasio ers i’r Strategaeth ddod i ben ac “na fu unrhyw werthusiad, ymgynghoriad, camau gweithredu, na hyd yn oed gynllun i greu strategaeth newydd”.

Yn ei hymateb i adroddiad y Pwyllgor dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai''r Strategaeth yn cael ei hadfer hyd at fis Mai 2026 a bod “gwaith yn mynd rhagddo” o ran gwerthusiad ffurfiol.

Y broses recriwtio

Gall y broses recriwtio greu rhwystrau sy'n effeithio ar amrywiaeth yn y penodiadau cyhoeddus.

Dywedodd Damian Bridgeman o Gofal Cymdeithasol Cymru fod diffyg ymwybyddiaeth yn yr Uned ynghylch pa addasiadau rhesymol y gellir eu cynnig i ymgeiswyr. Ychwanegodd fod y cyfrifoldeb yn cael ei roi ar ymgeiswyr i ofyn am bethau penodol, megis darllenwyr sgrin a thechnolegau cynorthwyol eraill (nad ydynt yn aml yn gweithio gyda systemau cymwysiadau generig), yn hytrach na bod yr Uned yn cynnig atebion yn rhagweithiol i ymgeiswyr.

Cyfeiriwyd hefyd at ddiffyg hygyrchedd a hwylustod y feddalwedd gyfredol fel rhwystr yn arolwg y Tîm Ymgysylltu â Dinasyddion (er enghraifft, codwyd anawsterau defnyddio ffeiliau PDF gyda darllenwyr sgrin).

Daeth y Pwyllgor i’r casgliad bod ganddo “bryderon difrifol” am y broses ymgeisio, a’i fod yn “bryderus iawn” am y diffyg ymwybyddiaeth yn yr Uned ynghylch pa addasiadau rhesymol y gellir eu cynnig i ymgeiswyr. Mae wedi argymell y dylai’r Uned weithio i fynd i'r afael â hyn, ac wedi gofyn am gael diweddariad mewn chwe mis.

Cytunodd Llywodraeth Cymru i ddarparu diweddariad erbyn mis Hydref 2025.

"Cyfres o fethiannau"

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor, Mark Isherwood AS, fod yr ymchwiliad wedi “datgelu cyfres o fethiannau” yn null Llywodraeth Cymru o sicrhau bod ganddi’r ystod ehangaf o ymgeiswyr amrywiol o ansawdd ar gyfer penodiadau cyhoeddus.

Roedd adroddiad y Pwyllgor hefyd yn ymdrin â materion yn ymwneud â chasglu data ar amrywiaeth a phenodiadau cyhoeddus a wneir gan y Senedd. Mae hefyd wedi cyhoeddi adroddiad atodol, gan archwilio (ac argymell) sefydlu Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus pwrpasol i Gymru.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei hymateb i’r Pwyllgor ar 18 Mehefin 2025, er, nid yw’n dweud a yw’n derbyn neu yn gwrthod yr argymhellion. Mynegodd Aelodau’r Pwyllgor eu siom am yr ymateb; disgrifiodd Mark Isherwood AS yr ymateb fel un amharchus i’r Pwyllgor ac i Senedd Cymru.

Bydd cyfle i’r Aelodau drafod y materion a godwyd gan y Pwyllgor ac ymateb y Llywodraeth pan gynhelir dadl ar yr adroddiad ar 25 Mehefin 2025. Gallwch wylio'r ddadl yn fyw ar Senedd.tv.

Erthygl gan Adam Cooke, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru.