Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r mwyaf o blith y Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, sy’n cyflogi bron 2000 o staff ac sydd â chyllideb o £180 miliwn. Ac eto, yn ei waith craffu blynyddol cyntaf ar y corff, mae Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith y Senedd wedi canfod bod diffyg capasiti, oedi o ran cynllunio a materion gweithredol a “chryn ddadlau” hefyd yn y sefydliad.
Mae’r Pwyllgor yn bwriadu cynnal gwaith craffu cyfnodol ar Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn ystod y Chweched Senedd, a chyhoeddodd ei Adroddiad Blynyddol cyntaf ar y sefydliad ar 23 Mawrth 2022. Ynddo, mae’n gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru, ac yn awgrymu bod cyfle “y mae mawr ei angen i ailosod y trefniadau ariannu” ar gyfer y corff.
Mae’r erthygl hon yn edrych yn fanylach ar ganfyddiadau’r Pwyllgor, a sut y mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb. Nid yw CNC ei hun wedi ymateb eto, ond mae disgwyl iddo wneud hynny cyn mis Medi.
Taith llawn anhawster
Cafodd Cyfoeth Naturiol Cymru ei greu gan Lywodraeth Cymru yn 2013, gan uno tri chorff, sef: Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru - yn ogystal â chorffori rhai o gyfrifoldebau Llywodraeth Cymru ar y pryd. Mae ei rôl yn eang, am ei bod yn cwmpasu swyddogaethau cynghori, rheoleiddio, dynodi a rheoli ledled Cymru.
Fodd bynnag, roedd y Pwyllgor yn disgrifio Cyfoeth Naturiol Cymru fel corff sydd mewn “cyflwr cyson o newid ers ei greu” a bod “pryder eang ymhlith rhanddeiliaid” am ei:
… allu i fonitro a gorfodi cyfreithiau diogelu'r amgylchedd; ymateb i achosion o lygredd amgylcheddol a llifogydd; monitro ac asesu cyflwr safleoedd daearol a morol; a chefnogi defnydd tir a chynllunio morol.
Yn ystod y gwaith craffu ar y gyllideb ddrafft, dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd wrth y Pwyllgor y byddai'r cwestiwn parhaus ynghylch a yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn gallu arfer ei ddyletswyddau a'i gyfrifoldebau'n effeithiol yn cael sylw drwy adolygiad sylfaenol. Diben allweddol yr adolygiad yw edrych ar y dyraniad o adnoddau i CNC ochr yn ochr â’i swyddogaethau statudol ac ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu. Mae’r Gweinidog yn disgwyl y bydd yr adolygiad yn dod i ben cyn mis Ebrill 2023.
Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru wrth y Pwyllgor fod diweddariadau i’w gynllun corfforaethol a’i gynllun busnes, a’i lythyr cylch gwaith, wedi’u gohirio oherwydd yr adolygiad sylfaenol hwn. Eto er gwaethaf yr oedi canlyniadol hyn, daeth y Pwyllgor i’r casgliad bod gwir angen yr adolygiad, ac efallai y bydd “yn gyfle i roi diwedd ar y cyfnod anhrefnus hwn”.
Dywedodd Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru, wrth y Pwyllgor hefyd fod disgwyl “y llythyr cylch gwaith ‘tymor llawn y llywodraeth” yn fuan ac y byddai’n gosod fframwaith trosfwaol ar gyfer gwaith CNC, wedi’i ategu gan lythyrau cylch gwaith blynyddol manylach. Byddai’r llythyr cylch gwaith tymor y Llywodraeth yn “cyd-fynd â chyllideb Cyfoeth Naturiol Cymru a byddai’n cael ei lywio gan yr adolygiad sylfaenol, y Rhaglen Lywodraethu, y Cytundeb Cydweithredu, a’r holl bethau hynny’n dod at ei gilydd.” Fodd bynnag nid oes dim llythyrau cylch gwaith wedi'u cyhoeddi ers i’r Pwyllgor glywed tystiolaeth.
A oes angen i drefniadau ariannu CNC newid?
Mae CNC yn cael cyllid craidd ar gyfer ei swyddogaethau sylfaenol, a chyllid grant ychwanegol ar gyfer prosiectau y tu hwnt i’r swyddogaethau hynny e.e. £1.5 miliwn i ddarparu’r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd.
Fodd bynnag, canfu’r Pwyllgor ers ei greu:
Roedd cyllideb CNC wedi’i lleihau o dros draean. Gan fod ei gyllideb wedi gostwng flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae Llywodraeth Cymru wedi pentyrru cyfrifoldebau a dyletswyddau ychwanegol ar y sefydliad.
Nid yw cyllid craidd CNC wedi cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf er gwaetha’r cynnydd yn ei gyfrifoldebau. Dywedodd y Gweinidog wrth y Pwyllgor y bydd yr adolygiad sylfaenol yn mynd i’r afael ag unrhyw ymlediad o fwriad, ac y bydd yn amlinellu’r hyn y disgwylir i CNC ei wneud â’i gyllideb sylfaenol, a beth ddylai fod yn drefniant ariannu ychwanegol.
Mae CNC hefyd yn ennill incwm drwy weithgareddau masnachol, fel rheoli ynni adnewyddadwy a phren ar ystâd Llywodraeth Cymru, a thaliadau rheoleiddio. Dywedodd CNC fod incwm taliadau yn “weddol sefydlog”, ond bod incwm masnachol yn “llai rhagweladwy gan ei fod yn sensitif iawn i newidiadau i'r gyfradd gyfnewid, sy'n effeithio ar brisiau pren”. Mae gweithgareddau CNC o ran pren hefyd wedi bod yn destun dadl, oherwydd canfuwyd bod “methiannau difrifol” yn ei ddull o ymdrin â chontractau pren yn y gorffennol.
Bydd yr adolygiad yn ystyried a yw hon yn ffordd briodol o ariannu sefydliad yn y sector cyhoeddus, yn enwedig gan fod yn rhaid i Gyfoeth Naturiol Cymru amsugno unrhyw risgiau sy’n deillio o amrywiadau yn y farchnad. Un opsiwn sy’n cael ei ystyried yw ai Llywodraeth Cymru, yn hytrach na CNC, a ddylai fod yn amsugno’r manteision a’r risgiau o ran dull gweithredu masnachol. Galwodd y Pwyllgor ar i gyllid CNC fod yn gymesur â’i rolau a’i gyfrifoldebau, ac mae’n disgwyl gweld cynnydd yn y cyllid yn dilyn yr adolygiad.
Cwestiynwyd lefelau staffio a chapasiti Cyfoeth Naturiol Cymru.
Cadarnhaodd y Gweinidog y bydd yr adolygiad hefyd yn ystyried staffio CNC, o ran a oes ganddo ddigon o staff, ac a ydynt yn y lle iawn i allu cyflawni ei gyfrifoldebau yn effeithiol ac yn effeithlon.
Mae pryderon ynghylch capasiti staffio CNC wedi bod yn cynyddu. Dywedodd CNC wrth Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd y byddai gorfodi'r rheoliadau llygredd amaethyddol diweddar yn “llwyth gwaith enfawr”. Mae'n amcangyfrif fod angen 60 aelod o staff ychwanegol arno i gyflawni'r hyn sy’n isafswm o ran cynnyrch hyfyw, ond ymhell dros 200 i gyflawni'r rôl lawn.
Yn yr un modd, canfu’r adolygiad o lifogydd gan CNC ym mis Chwefror 2020 y bydd arno angen tua 60-70 aelod o staff ychwanegol i sicrhau gwelliannau tymor hir, cynaliadwy yn y gwasanaethau rheoli llifogydd.
Bu’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith yn holi CNC am y digwyddiad o lygredd ym mis Gorffennaf 2020 ar Afon Llynfi, a laddodd 45,000 o bysgod, a bywyd gwyllt arall yn yr afon. Beirniadwyd Cyfoeth Naturiol Cymru am oedi am 13 awr cyn bod yn bresennol yn y digwyddiad, a dywedir i hynny ddigwydd oherwydd bod swyddogion mewn digwyddiadau llygredd eraill a oedd â blaenoriaeth uchel. Roedd anawsterau o ran canfod ffynhonnell y llygredd o ystyried yr oedi a fu, a chanfu ymchwiliad nad oedd unrhyw 'obaith realistig o bennu euogfarn'.
Dywedodd CNC wrth y Pwyllgor ei fod yn ystyried newidiadau i gontractau er mwyn cynyddu'r gronfa o bobl sydd ar gael ar gyfer digwyddiadau o'r fath. Fodd bynnag, o ystyried bod CNC eisoes wedi gwneud newidiadau staffio diweddar roedd y Pwyllgor yn pryderu y gallai cylch pellach o adolygiadau staffio fod yn niweidiol i forâl staff.
Craffu ar gyngor cynllunio newydd CNC
Ym mis Ionawr 2021, adroddodd CNC, o'r naw afon Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) yng Nghymru, roedd 61 y cant o gyrff dŵr, wedi methu â chyrraedd targedau ffosfforws newydd a oedd wedi’u tynhau. Aeth CNC ymlaen i ddiweddaru ei gyngor i awdurdodau cynllunio, gan arwain at lawer o ddadlau ac adroddiadau yn y cyfryngau ei fod wedi dod â cheisiadau cynllunio i ben, oherwydd y gofyniad newydd i ddatblygiadau fod yn ffosffad-niwtral.
Dywedodd y Gweinidog fod “mabwysiadu targedau ffosfforws tynnach yn yr Ardaloedd Cadwraeth Arbennig gan CNC yn ymateb i dystiolaeth a chyngor gwyddonol gan y Cydbwyllgor Cadwraeth Natur”. Ond disgrifiodd Laura Anne Jones AS ef fel “rheoleiddio drwy'r drws cefn” a dywedodd Mabon ap Gwynfor AS er bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi nodi problem, roedd wedi methu â “chydweithio â rhanddeiliaid”.
Yn y sesiwn graffu, rhoddodd CNC sicrwydd i’r Pwyllgor fod ymgynghori ystyrlon yn digwydd gyda rhanddeiliaid. Dywedodd fod Prosiect afonydd Ardal Cadwraeth Arbennig wedi ei sefydlu, ac y gofynnwyd i awdurdodau cynllunio lleol adrodd o ran i ba raddau y mae ystyriaethau ffosffad yn effeithio ar gynllunio. Yn fwy diweddar, cyhoeddodd y Gweinidog y bydd ‘uwchgynhadledd ffosffad’ yn cael ei chynnal yn Sioe Frenhinol Cymru eleni, o dan gadeiryddiaeth y Prif Weinidog.
Bwrw ymlaen â'r gwaith
Y flwyddyn nesaf nodir deng mlynedd ers creu Cyfoeth Naturiol Cymru, pan unwyd tri sefydliad gwahanol. Mae’r Pwyllgor yn nodi bod y “daith i'r pwynt hwn wedi bod yn llawn anhawster a chryn ddadlau” ar gyfer y sefydliad, ond mae’n obeithiol:
Dylai’r adolygiad sylfaenol arwain at ddarlun cliriach o’r dyletswyddau a’r cyfrifoldebau y mae Llywodraeth Cymru yn dymuno i Cyfoeth Naturiol Cymru eu harfer, a’r cyllid sydd ei angen i wneud hynny’n effeithiol.
Cynhelir dadl ar adroddiad y Pwyllgor yn y Senedd ar 22 Mehefin. Gallwch wylio’r sesiwn yn fyw ar Senedd TV.
Erthygl gan Lorna Scurlock, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru