Beth yw rhaglen Cyflymu Cymru?
Ym mis Gorffennaf, 2012, dyfarnodd Llywodraeth Cymru y cytundeb i roi prosiect band eang yr oes nesaf ar waith, sef “Cyflymu Cymru,” i BT. Nod y prosiect yw cyflwyno band eang ffeibr yr oes nesaf (a fydd yn cynnig cyflymder o 24 megabit neu ragor yr eiliad) i 96 y cant o Gymru erbyn 2016. Dim ond y seilwaith y mae BT yn ei ddarparu - unwaith y bydd hyn wedi'i gwblhau, bydd ar gael i ddarparwyr gwasanaethau rhyngrwyd eraill ei ddefnyddio. Mae llawer o wybodaeth am brosiect Cyflymu Cymru ar gael ar wefanCyflymu Cymru. Ar y wefan, gallwch weld pryd y bydd band eang cyflym iawn ar gael mewn ardal benodol drwy nodi rhif ffôn neu god post .Faint o gynnydd y mae BT wedi'i wneud?
Mae BT wedi dweud bod y cynllun yn mynd rhagddo'n ôl y disgwyl, a bod gan dros 290,000 o gartrefi a busnesau fand eang erbyn hyn o ganlyniad i brosiect Cyflymu Cymru. Yn ôl BT, y cyflymder sydd ar gael i ddefnyddwyr yw dros 60 megabit yr eiliad, ar gyfartaledd. Wrth ychwanegu hyn at raglen band eang ffeibr fasnachol BT, mae gan dros 920,000 (neu dros 60 y cant o holl gartrefi a busnesau Cymru) fand eang ffeibr yn awr. Ym mis Gorffennaf 2014, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg blaenorol ddatganiad ysgrifenedig yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am raglen Cyflymu Cymru. Nododd hwn mai'r targed yw "sicrhau ei fod ar gael [drwy raglen Cyflymu Cymru] i ryw 480,000 – neu ryw un rhan o dair – o gartrefi a busnesau Cymru erbyn gwanwyn 2015". Meddai'r Dirprwy Weinidog ar y pryd: I gyrraedd y targed hwn, mae angen prysuro’r gwaith, a’i gyflwyno i ryw 100,000 o gartrefi a busnesau y chwarter. Mae hynny’n golygu ei gyflwyno’n gyflymach o lawer nag mewn sawl rhan arall o’r Deyrnas Unedig Er bod BT wedi dweud bod ardaloedd menter ac ardaloedd twf lleol yn cael blaenoriaeth yn yr amserlen, nid yw band eang cyflym iawn ar gael yn yr holl ardaloedd hyn ar hyn o bryd.A fydd pawb yng Nghymru yn elwa?
Ni fydd rhaglen Cyflymu Cymru o fudd i bob cartref a busnes yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru a BT yn rhagweld y bydd 4 y cant o gartrefi neu fusnesau'n rhy anhygyrch i fanteisio ar y prosiect hwn ac na fyddai ehangu'r prosiect i'r lleoedd hyn yn gost-effeithiol. Mae BT wedi sylweddoli lle mae'r lleoedd hyn wrth iddynt fwrw ymlaen â'r prosiect. Er y bydd llawer o'r safleoedd hyn mewn ardaloedd anghysbell, bydd rhai mewn canolfannau trefol – fel Caerdydd ac Abertawe – lle mae problemau lleol (fel cyfyngiadau cynllunio neu rwystrau ffisegol sy'n eu hatal rhag gosod ceblau). Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu defnyddio prosiect mewnlenwi Cyflymu Cymru i ddod â band eang ffibr i ardaloedd na ellir eu cynnwys yn rhaglen Cyflymu Cymru na rhaglenni ffeibr y cwmnïau telathrebu eu hunain. Mae Llywodraeth Cymru wedi dynodi 45,887 o gartrefi neu fusnesau na chânt eu cynnwys yn rhaglen Cyflymu Cymru nac unrhyw raglen fasnachol debyg yn ystod y tair blynedd nesaf. Mae lleoliad y lleoedd hyn i'w gweld (wedi'u hamlygu'n wyn) ar y map a ganlyn, sydd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.Sut mae mynd ati i gael gwasanaeth band eang ffibr cyflym?
Ni fydd unrhyw eiddo'n cael ei gysylltu â'r rhwydwaith band eang cyflym iawn fel mater o drefn. Unwaith y bydd y rhwydwaith lleol wedi'i uwchraddio, bydd angen i bawb gysylltu â darparwr eu gwasanaethau rhyngrwyd i drefnu i uwchraddio'u gwasanaethau. Dywedodd y Gweinidog Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth fod gan Lywodraeth Cymru a BT "strategaeth cyfathrebu ac ymgysylltu gynhwysfawr ar waith" i godi ymwybyddiaeth o raglen Cyflymu Cymru a'r manteision sydd ynghlwm wrth gael band eang cyflym iawn. Mae BT wedi gofyn am gymorth gan Aelodau'r Cynulliad i godi ymwybyddiaeth o'r cyfleoedd a gynigir gan brosiect Cyflymu Cymru.A yw Cymru yn gwneud y gorau o'r band eang sydd ar gael?
Yn ôl ymchwil Ofcom, o holl wledydd y DU, Cymru sydd â'r nifer leiaf sy’n manteisio ar wasanaeth band eang, sef 71 y cant o gartrefi o'i gymharu â 77 y cant o gartrefi yn y DU ar gyfartaledd. At hynny, mae ymchwil wedi dangos bod y nifer sy'n manteisio ar wasanaeth band eang fel arfer yn adlewyrchu anghydraddoldebau eraill yn y gymdeithas (gweler adran 4.2.3 o adroddiad Ofcom 2014 ar y Farchnad Cyfathrebu). Mae hyn yn golygu bod perygl i'r rhaniadau presennol yn y gymdeithas ddwysáu wrth i'r rhai sydd wedi cael addysg dda, ac sydd mewn swyddi proffesiynol da, fanteisio ar wasanaethau band eang cyflym iawn nad ydynt ar gael i aelodau mwy difreintiedig o gymdeithas. Bydd angen ymgymryd â chryn dipyn o waith ym maes cynhwysiant digidol i sicrhau bod Cymru yn gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd y mae band eang cyflym iawn yn eu cynnig.Erthygl gan Robin Wilkinson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.