Cyhoeddwyd 16/07/2014
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
  |  
Amser darllen
munudau
16 Gorffennaf 2014
Erthygl gan Anne Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
[caption id="attachment_1411" align="alignnone" width="300"]

Llun: o Pixabay. Dan drwydded Creative Commons.[/caption]
Mae Bil Aelod Preifat sy'n ceisio hyrwyddo cynhwysiant ariannol yng Nghymru wedi cael ei osod gerbron y Cynulliad gan Bethan Jenkins AC.
Dywed Bethan Jenkins fod y
Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru) yn anelu at fynd i'r afael â'r sefyllfa lle mae llawer o bobl yng Nghymru yn mynd i drafferthion ariannol oherwydd diffyg gwybodaeth a sgiliau wrth reoli arian. Mae
Memorandwm Esboniadol y Bil yn dadlau bod hyn yn cael ei gymhlethu gan duedd, mewn hinsawdd economaidd anffafriol, i bobl droi at fenthyciadau llog uchel, anghynaliadwy fel llwybr i fynd i'r afael â'u problemau ariannol.
Mae tair prif elfen i'r Bil:
- Yn gyntaf, mae'r Bil yn darparu sylfaen ddeddfwriaethol ar gyfer addysg ariannol yng Nghymru drwy ei wneud yn rhan statudol o'r cwricwlwm ysgol ar gyfer ysgolion a gynhelir.
- Yn ail, bydd y Bil yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol fabwysiadu strategaeth cynhwysiant ariannol yn amlinellu pa gamau y maent yn bwriadu eu cymryd i hyrwyddo cynhwysiant ariannol trigolion yn eu hardal.
- Yn drydydd, mae'r Bil yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu cyngor i ddinasyddion am wasanaethau ariannol a rheolaeth ariannol.
O dan y rheolau sy'n llywodraethu sut mae'r Cynulliad yn cynnal ei fusnes, neu'r 'rheolau sefydlog' fel y'u gelwir yn ffurfiol, gall Biliau gael eu cyflwyno gan Aelodau Cynulliad unigol (AC), yn ogystal â chan Lywodraeth Cymru sef y ffynhonnell fwyaf cyffredin o ddeddfwriaeth y Cynulliad. Gall Pwyllgorau'r Cynulliad a Chomisiwn y Cynulliad ei hun hefyd gynnig deddfwriaeth. Bethan Jenkins fu'n llwyddiannus mewn balot ymhlith yr Aelodau ym mis Gorffennaf 2013, ac felly rhoddir cyfle iddi gynnig deddf newydd ar bwnc a ddewiswyd ganddi hi, sef addysg a chynhwysiant ariannol.
Ymgynghorwyd ar ei chynigion ym mis Mawrth a mis Ebrill eleni.
Pan gafodd y cynnig ei drafod gyntaf yn y Cynulliad yn gynnar iawn yn y broses,
fis Hydref diwethaf, cyfeiriodd Llywodraeth Cymru at gamau y mae eisoes yn eu cymryd i gyflwyno gwybodaeth am reoli arian i ddisgyblion mewn ysgolion. Gwneir hyn yn bennaf trwy'r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd, a gyflwynwyd ym mis Medi 2013 ac mae cymhwyster TGAU newydd mewn rhifedd fathemategol i gael ei addysgu o fis Medi 2015. Fodd bynnag, mae Bethan Jenkins wedi tynnu sylw at anghysonderau'r ddarpariaeth addysg ariannol rhwng ysgolion yng Nghymru - rhywbeth a
adroddwyd gan Estyn yn 2011 hefyd - ac mae'n dadlau bod angen gwneud rhywbeth er mwyn diogelu addysg ariannol yn y cwricwlwm, wedi'i wreiddio mewn deddfwriaeth sylfaenol.
O ran rôl llywodraeth leol, mae gan Lywodraeth Cymru
Strategaeth Cynhwysiant Ariannol i Gymru gyfan. Fodd bynnag, mae
Memorandwm Esboniadol y Bil yn dadlau ei bod yn anodd barnu'r cynnydd a wnaed gan awdurdodau lleol o ran hyrwyddo cynhwysiant ariannol a nodi canlyniadau diriaethol. Felly fe ddywed Bethan Jenkins fod angen y ddeddfwriaeth i orfodi awdurdodau lleol i gynllunio'n strategol i hyrwyddo cynhwysiant ariannol eu trigolion.
Bydd y Bil yn awr yn dechrau ar ei daith drwy broses ddeddfwriaethol y Cynulliad, a fydd yn cynnwys gwaith craffu gan un o bwyllgorau'r Cynulliad yr hydref hwn, gan arwain at welliannau posibl a dadl a phleidlais derfynol gan bob Aelod yn y Cyfarfod Llawn ynghylch pasio'r ddeddfwriaeth ai peidio. Disgwylir i'r broses hon bara tan yn gynnar y flwyddyn nesaf. Ond yn gyntaf, bydd Bethan Jenkins yn gwneud datganiad i Aelodau'r Cynulliad yn y Cyfarfod Llawn heddiw (dydd Mercher 16 Gorffennaf) i nodi cyflwyno'i Bil yn ffurfiol.