Dyma lun o adeilad ysgol

Dyma lun o adeilad ysgol

Cyfle cyfartal? Archwilio mynediad at addysg a gofal plant yng Nghymru

Cyhoeddwyd 11/11/2024   |   Amser darllen munudau

Mae’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi ymchwilio i’r mater ynghylch a yw plant a phobl ifanc anabl yn cael mynediad cyfartal at addysg a gofal plant. Yr ateb a ganfuwyd, sy’n peri pryder, oedd nad yw nifer sylweddol ohonynt yn cael mynediad o’r fath.

Roedd y Pwyllgor eisiau dysgu am y profiadau y mae plant a phobl ifanc ag anableddau corfforol a synhwyraidd, anghenion dysgu ychwanegol (ADY) a’r rhai sy’n niwroamrywiol yn eu cael o ran gofal plant ac addysg. Yn ogystal â chlywed gan y rheini sy’n gweithio ym maes addysg a gofal plant neu mewn sefydliadau sy’n cefnogi pobl anabl, clywodd y Pwyllgor gan lawer o deuluoedd a dysgwyr sydd â’u profiadau eu hunain, sy’n aml yn rhai anodd.

Drwy gydol tymor y Senedd hon (mis Mai 2021 i fis Mawrth 2026), mae’r Pwyllgor yn craffu ar weithrediad y diwygiadau ADY, yn ogystal â’r diwygiadau cwricwlwm. Er bod ymchwiliad y Pwyllgor i fynediad at addysg yn ystyried grŵp ehangach o ddysgwyr, roedd y dystiolaeth yn awgrymu bod amrywiaeth o anawsterau i ddysgwyr ag ADY o ran cael mynediad at eu hawliau addysgol. Mae'r ddau ddarn hyn o waith wedi ategu a llywio’i gilydd. Gallwch ddarllen am adroddiad diweddaraf y Pwyllgor ar weithredu'r diwygiadau yn ein herthygl o’r mis diwethaf

Beth wnaeth y Pwyllgor ei ddarganfod am ofal plant?

Soniodd rhieni am yr anawsterau mawr wrth lywio'r system i ddod o hyd i ofal plant a oedd yn addas ar gyfer plant anabl. Yn aml nid oes gofal plant ar gael yn lleol i gefnogi plant anabl, ac mewn rhai achosion mae'n rhaid i rieni deithio'n bell er mwyn cael gofal o’r fath. Clywodd y Pwyllgor fod anawsterau o ran dod o hyd i ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg addas yn ogystal â gofal plant hygyrch sy’n cyd-fynd â’r diwrnod ysgol neu yn ystod gwyliau ysgol.

Mae hyn yn cael effaith amlwg ar allu rhieni a gofalwyr i weithio, yn ogystal â rhwystro plant rhag cael y cyfle i gymdeithasu a mwynhau’r holl fanteision a ddaw yn sgil gofal plant. Yn ogystal â’r heriau i deuluoedd, roedd y Pwyllgor yn deall bod heriau hefyd yn wynebu’r sector gofal plant o ran darparu lleoedd gofal plant fforddiadwy a hygyrch.

Pa mor hygyrch yw addysg?

Mae gan blant a phobl ifanc hawl i addysg o dan Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP). Daeth y Pwyllgor i’r casgliad nad yw’r hawl hon yn cael ei rhoi i nifer sylweddol o ddysgwyr anabl, y rheini ag ADY neu rheini sy’n niwroamrywiol. Mae llawer o resymau am hyn, gan gynnwys:

  • diffyg mynediad addas i adeilad ysgol neu fannau dysgu addas;
  • gwahaniaethu uniongyrchol ac anuniongyrchol;
  • heriau wrth gyflawni’r diwygiadau ADY;
  • darpariaeth anghyson ledled Cymru;
  • diffyg dealltwriaeth o anableddau;
  • teuluoedd yn gorfod newid yr iaith y maent yn ei siarad gartref i gefnogi eu plentyn i fynd i ysgol a fydd yn cefnogi eu hanghenion;
  • adnoddau ariannol neu staffio cyfyngedig;
  • plant a phobl ifanc yn colli allan ar y gweithgareddau allgyrsiol y mae eu cyfoedion yn eu mwynhau.

Er bod rhai teuluoedd a dysgwyr wedi adrodd am brofiadau addysgol cadarnhaol, roedd llawer o dystiolaeth o blant, pobl ifanc, teuluoedd ac ysgolion yn brwydro i sicrhau bod addysg yn gynhwysol. Dro ar ôl tro, dywedodd teuluoedd fod yn rhaid iddynt frwydro dros eu hawliau sylfaenol, yr hawliau y mae teuluoedd heb blant anabl yn eu cymryd yn ganiataol.

Sut mae hyn yn effeithio ar blant, pobl ifanc a'u teuluoedd?

Mae gwrthod yr hawl i addysg yn cael effeithiau amlwg ar blant, pobl ifanc a’u teuluoedd. Gall effeithio ar iechyd emosiynol a chorfforol, yn ogystal ag effeithio ar gyrhaeddiad addysgol a chyfleoedd yn y dyfodol.

Gwnaeth y Pwyllgor gyfanswm o 31 argymhelliad. Roedd y rhain yn cynnwys sicrhau bod mwy o ymchwil a data ar y bylchau yn y ddarpariaeth gofal plant, ac y dylai Llywodraeth Cymru nodi sut y dylid llenwi bylchau a nodwyd mewn gofal plant cynhwysol a hygyrch. Hefyd, dylai athrawon, staff ysgol a'r rhai mewn addysg gychwynnol athrawon gael mwy o hyfforddiant ynghylch deall a chefnogi dysgwyr ag anableddau. Cafwyd argymhellion hefyd ynghylch gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a sut y darperir gwybodaeth i deuluoedd.

Er bod llawer o argymhellion, roedd y Pwyllgor am gyfleu un neges gyffredinol, sef bod hawliau plant yn cael eu gwrthod. Mae hyn yn cael effeithiau anfesuradwy ar blant a phobl ifanc eu hunain, ond hefyd ar eu teuluoedd a'r gymuned ehangach. Canfu'r Pwyllgor fod llawer o’r dystiolaeth gan deuluoedd a phobl ifanc yn anodd ei chlywed, ond bod y llawenydd a’r cariad a oedd gan y teuluoedd a’u penderfynoldeb i wneud eu gorau glas yn ysbrydoledig.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru ymateb ar 2 Hydref 2024, gan dderbyn 25 o’r 31 argymhelliad naill ai’n llawn neu mewn egwyddor. Bydd y Senedd yn cynnal dadl ar yr ymchwiliad ar 13 Tachwedd 2024, a gallwch ei dilyn ar Senedd TV, gyda thrawsgrifiad ar gael yn fuan wedyn.


Erthygl gan Sian Hughes, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru