cy

cy

Cyfiawnder yng Nghymru: Goruchwylio ac atebolrwydd

Cyhoeddwyd 11/11/2021   |   Amser darllen munud

Mae dwy flynedd ers i’r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru argymell bod angen i Lywodraeth Cymru sefydlu 'arweinyddiaeth glir ac atebol' ar gyfiawnder. Mae’r erthygl hon yn edrych ar rolau'r Senedd a Llywodraeth Cymru o ran goruchwylio'r system gyfiawnder.

Rhaniad rhwng cyfrifoldebau datganoledig a chyfrifoldebau a gedwir yn ôl

Yng Nghymru a Lloegr, Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am y rhan fwyaf o'r sefydliadau sy'n rhan o'r system gyfiawnder, fel y llysoedd, yr heddlu a charchardai.

Fodd bynnag, mae gan y Senedd a Llywodraeth Cymru eisoes gyfrifoldebau sylweddol am gyfiawnder yng Nghymru hefyd, gan gynnwys:

  • goruchwylio datblygiad cyfraith weinyddol a sefydliadau datganoledig ar gyfer datrys anghydfodau, fel Tribiwnlysoedd Cymru;
  • helpu i atal trosedd a rheoli ac adsefydlu troseddwyr;
  • datblygu agweddau ar bolisi a chyfraith teulu cyhoeddus; a
  • chefnogi gwasanaethau cynghori ac eirioli a'r sector cyfreithiol i hyrwyddo mynediad at gyfiawnder.

Weithiau gelwir y rhaniad hwn rhwng cyfrifoldebau datganoledig a chyfrifoldebau a gedwir yn ôl yn 'ymyl miniog'. Canfu gwaith ymchwil gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru fod 38 y cant o’r gwariant ar gyfiawnder yng Nghymru yn 2017-18 wedi deillio o gyllid datganoledig neu gyllid llywodraeth leol.

Yr angen am well cydweithio

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mynegwyd pryderon nad yw cyrff datganoledig a chyrff a gedwir yn ôl yn cydweithio'n effeithiol i sicrhau cyfiawnder yng Nghymru.

Comisiynodd Llywodraeth Cymru yr Arglwydd Thomas i adolygu gweithrediad y system gyfiawnder yng Nghymru yn 2017. Cyflwynodd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru adroddiad ym mis Hydref 2019

Canfu Comisiwn Thomas 'o dan y drefn ddatganoli bresennol nid oes dull gweithredu unedig nac integredig' o ran cyfiawnder. Dywedodd ‘nad yw’r system bresennol yn diwallu anghenion pobl Cymru’.

Argymhellodd y Comisiwn y dylid datganoli deddfwriaeth lawn i Gymru mewn perthynas â chyfiawnder. Fodd bynnag, gwnaeth hefyd ystod eang o argymhellion i'w datblygu o dan y setliad datganoli presennol.

Dywedodd fod angen i Lywodraeth Cymru sefydlu 'arweinyddiaeth glir ac atebol' ar gyfiawnder drwy roi goruchwyliaeth dros yr holl faterion yn ymwneud â chyfiawnder i un Gweinidog neu Ddirprwy Weinidog. Dywedodd hefyd fod angen i'r Senedd gymryd agwedd fwy rhagweithiol tuag at graffu ar yr hyn yr oedd Llywodraeth Cymru yn ei wneud.

Canfu'r Comisiwn hefyd fod trefniadau ar gyfer goruchwylio a chydlynu cyfiawnder yn 'rhy gymhleth'. Er mwyn gwella atebolrwydd, argymhellodd y dylid diwygio cyrff sy’n goruchwylio a systemau cyfiawnder troseddol a chyfiawnder teuluol ac y dylid sefydlu cyrff newydd i oruchwylio cyfiawnder sifil a gweinyddol a chyllid ar gyfer cyngor a chymorth cyfreithiol.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mewn ymateb i Gomisiwn Thomas, penderfynodd Llywodraeth Cymru ar y pryd sefydlu is-bwyllgor Cabinet ar gyfiawnder, dan gadeiryddiaeth y Prif Weinidog. Rhannodd Llywodraeth Cymru ei rhaglen waith trawsnewid cyfiawnder gyda'r Pumed Senedd ym mis Hydref 2020. Mae hwn yn nodi cynlluniau Llywodraeth Cymru ar draws pum maes.

Yn Llywodraeth newydd Cymru, mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi cymryd cyfrifoldeb am bolisi cyfiawnder a'r ymateb i Gomisiwn Thomas gan y Prif Weinidog. Bydd yn cadeirio Is-bwyllgor y Cabinet ar Gyfiawnder ac mae hefyd yn gyfrifol am gysylltu â'r sector cyfreithiol a’r polisi tribiwnlysoedd.

Nid y Cwnsler Cyffredinol yw'r unig weinidog sydd â chyfrifoldeb am gyfiawnder. Er enghraifft, mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn gyfrifol am gysylltiadau â'r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu, yr heddlu ac asiantaethau cyfiawnder troseddol eraill; cysylltiadau â Llywodraeth y DU mewn perthynas â'r Carchardai a'r Gwasanaeth Prawf; a gwasanaethau cynghori ac eirioli.

Rhoddodd y Cwnsler Cyffredinol ddarlith gyhoeddus dan y teitl 'Getting Justice for Wales' i Brifysgol Aberystwyth ar 8 Gorffennaf. Dywedodd y byddai Llywodraeth Cymru yn rhyddhau adroddiad a rhaglen strategol ar gyfiawnder yn yr hydref. Ym mis Medi, cyhoeddodd y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad ysgrifenedig yn amlinellu ei flaenoriaethau Nid yw'r rhaglen strategol arfaethedig wedi'i chyhoeddi eto.

Gwaith craffu yn y Senedd

Yn ystod y Pumed Senedd, cynhaliodd pwyllgorau ymchwliadau ar agweddau ar bolisi cyfiawnder yng Nghymru. Er enghraifft, edrychodd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar ddarparu gofal iechyd a gofal cymdeithasol ar yr ystâd carchardai i oedolion ac iechyd meddwl yng nghyd-destun plismona a dalfa'r heddlu.

Yn gynnar yn 2020, pasiodd y Pumed Senedd gynnig gan Lywodraeth Cymru i gefnogi bwrw ymlaen ag argymhellion Comisiwn Thomas. Hefyd ychwanegodd gyfiawnder at gylch gwaith y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad.

Cynhaliodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ymchwiliad byr ar Wneud i Gyfiawnder weithio yng Nghymru. Er bod y pandemig wedi cyfyngu ei ddull, comisiynodd y Pwyllgor waith ymchwil yn mapio'r sefydliadau sy'n rhan o'r system gyfiawnder yng Nghymru a chymerodd dystiolaeth gan y Prif Weinidog a’r Cwnsler Cyffredinol, yr Arglwydd Ganghellor, Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru ac amrywiaeth o randdeiliaid.

Yn ei adroddiad gwaddol, dywedodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru adrodd yn flynyddol i’r Senedd ar ei gwaith ar gyfiawnder ac y dylid sefydlu sesiynau tystiolaeth blynyddol gyda’r Arglwydd Ganghellor a Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru.

Mae'r Senedd newydd wedi ailsefydlu'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad. Ym mis Gorffennaf, bu Pwyllgor Busnes y Senedd yn trafod cylch gwaith y pwyllgor newydd a chytunwyd:

… y dylid neilltuo materion polisi cyfiawnder lefel uchel, fel datganoli cyfiawnder a phlismona, ac unrhyw faterion sy'n ymwneud â deddfu, i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad. Dylai materion eraill sy'n ymwneud â chymhwyso polisi cyfiawnder yn ymarferol fod yn agored i waith craffu gan bwyllgorau polisi a deddfwriaeth priodol.

Gofynnodd Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i'r Cwnsler Cyffredinol am gyfiawnder yng Nghymru yn ei sesiwn dystiolaeth gyntaf ym mis Medi a chymerodd dystiolaeth gan Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru ym mis Tachwedd. Bydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn olrhain datblygiadau ar bolisi cyfiawnder o fewn ei gylch gwaith drwy adroddiadau monitro rheolaidd, tra bydd pwyllgorau eraill hefyd yn gallu craffu ar gyfiawnder fel rhan o'u gwaith craffu ar bolisi.


Erthygl gan Lucy Valsamidis, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru