Cyfeiriad newydd ar gyfer ynni gwynt yng Nghymru?

Cyhoeddwyd 03/10/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

3 Hydref 2013

[caption id="attachment_440" align="aligncenter" width="300"] Llun o Wicipedia gan James Hearton. Dan drwydded Creative Commons[/caption]

Ym mis Mehefin 2013, ymrwymodd datblygwyr ynni gwynt a gweithredwyr ffermydd gwynt ledled Cymru i ddatganiad buddion cymunedol newydd, a gefnogir gan RenwableUK Cymru a Llywodraeth Cymru. Mae'r Datganiad yn cynnwys addewid i sicrhau bod cymunedau sy'n cynnal ffermydd gwynt yn cael eu cynnwys yn llawn a'u bod yn cael buddion cadarnhaol yn y tymor hir. Mae ystod o gwmnïau wedi ymrwymo i'r datganiad, gan gynnwys SSE, RWE, West Coast Energy a Vattenfall.

Mae'r Datganiad yn amlinellu nifer o fathau o fanteision cymunedol y gallai fod ar gael i'r rheini sy'n cynnal ffermydd gwynt. Mae'r rhain yn cynnwys y canlynol, ond nid ydynt yn gyfyngedig iddynt:

  • Cymorth ariannol uniongyrchol;
  • Perchnogaeth gymunedol, rhannu elw a pherchen ar gyfranddaliadau;
  • Mesurau neu fentrau i gefnogi lleihau costau ynni;
  • Darparu isadeiledd lleol newydd neu well;
  • Noddi sefydliadau a digwyddiadau chwaraeon a diwylliannol;
  • Cynigion eraill fel rhaglenni rheoli cynefinoedd, a
  • Cyfleoedd addysg a hyfforddiant.

Mae'r Datganiad yn nodi bod y rhain yn ffordd i ddod â manteision gwirioneddol i'r cymunedau hynny sy'n cynnal prosiectau gwynt, yn ychwanegol at y manteision economaidd, diogelwch ynni ac amgylcheddol sy'n deillio o'r datblygiadau hynny. At hynny, mae'r datganiad yn rhoi ymrwymiad i greu cofrestr o fuddion economaidd a chymunedol ar gyfer Cymru, ac ychwanegu ato yn barhaus, gan weithio gyda Llywodraeth Cymru, cymunedau a rhanddeiliaid eraill.

Ar adeg pan fo Powys yng nghanol yr ymchwiliad cyhoeddus mwyaf erioed ym Mhrydain i ffermydd gwynt, a all y datganiad buddion cymunedol newydd wneud gwahaniaeth i ganfyddiad y gymuned o ddatblygiadau ffermydd gwynt, eu helpu i'w derbyn ac i deimlo mwy o gysylltiad â'r broses?

Erthygl gan Chloe Corbyn