Pan fydd Senedd y DU am ddeddfu ar bwnc sydd wedi'i ddatganoli i'r Senedd, ni fydd, fel arfer, yn gwneed hynny heb gydsyniad y Senedd. Yr enw ar hyn yw’r confensiwn cydsyniad deddfwriaethol (neu gonfensiwn Sewel).
Hyd yn hyn yn y Chweched Senedd, mae Llywodraeth Cymru wedi gosod memoranda cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer 17 o Filiau’r DU. Mae hyn yn fwy mewn saith mis nag unrhyw flwyddyn ac eithrio 2020. Mae'r darlun yn parhau i ddatblygu wrth i filiau gael eu diwygio a gosodir memoranda cydsyniad deddfwriaethol atodol i adlewyrchu'r diwygiadau hynny.
Mae'r memoranda cydsyniad a osodwyd hyd yn hyn yn ystod y Senedd hon yn cynnwys tua 360 o gymalau ac atodlenni. Mewn cymhariaeth, ym mlwyddyn gyntaf y Bumed Senedd (mis Mai 2016 i fis Mai 2017), gosododd Llywodraeth Cymru femoranda cydsyniad ar gyfer 10 bil, yn ymwneud ag oddeutu 80 o gymalau ac atodlenni yn unig.
Ddydd Mercher, bydd y Senedd yn trafod cynnig ar y cynnydd yn nifer y memoranda cydsyniad deddfwriaethol. Mae'r erthygl hon yn edrych ar agwedd Llywodraeth Cymru tuag at gydsyniad deddfwriaethol a sut y mae'r Senedd wedi ymateb.
Dull Llywodraeth Cymru o geisio cydsyniad y Senedd
Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i’r Senedd gydsynio i 11 bil y DU (yn llawn neu’n rhannol), yn hytrach na chyflwyno ei biliau ei hun i’r Senedd. Er enghraifft, mae Llywodraeth Cymru yn ceisio cydsyniad i:
- oddeutu 30 p gymalau yn y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir);
- mwy na 30 o gymalau yn y Bil Diogelwch Adeiladau.;
- yr holl gymalau yn y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir)
Ym mis Medi, rhannodd y Cwnsler Cyffredinol gyfres o egwyddorion Llywodraeth Cymru ar gyfer biliau'r DU â Phwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (DCC) y Senedd. Dywed y ddogfen hon fod Llywodraeth Cymru yn “dilyn yr egwyddor y dylai deddfwriaeth sylfaenol mewn meysydd datganoledig gael ei deddfu gan Senedd Cymru” – ond ei bod weithiau’n “synhwyrol ac yn fanteisiol” defnyddio biliau’r DU yn lle hynny.
Mae Pwyllgor DCC wedi codi pryderon ynghylch rhesymau Llywodraeth Cymru dros argymell cydsynio i ddeddfwriaeth y DU, gan gynnwys:
- caniatáu i Senedd y DU basio deddfwriaeth newydd o bwys i Gymru mewn meysydd datganoledig pwysig, gan atal y Senedd rhag gwneud gwaith craffu deddfwriaethol (er enghraifft, Bil (Deddf bellach) yr Amgylchedd a'r Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir));
- colli cyfleoedd i ddatblygu corff cyfunol, dwyieithog o gyfraith Cymru, ac felly mynd yn groes i raglen Llywodraeth Cymru i wneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch (er enghraifft, y Bil Diogelwch Adeiladau).
Mewn tystiolaeth i’r Pwyllgor DCC, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol fod y galw ar ein capasiti i ddeddfu wedi cynyddu, yn rhannol o ganlyniad i’r angen i ddeddfu ar gyfer gadael yr UE a phandemig COVID-19.
Dull Llywodraeth Cymru o argymell yn erbyn cydsyniad y Senedd
Mae Llywodraeth Cymru wedi argymell yn erbyn cydsyniad y Senedd (yn llawn neu'n rhannol) ar gyfer wyth o'r biliau y gosodwyd memoranda cydsyniad deddfwriaethol ar eu cyfer yn y Senedd hon.
Mewn rhai achosion, mae hyn oherwydd gwahaniaethau mewn polisi rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Er enghraifft, mae Llywodraeth Cymru yn anghytuno â darpariaethau mewn biliau sy'n sefydlu fframweithiau rheoleiddio ar ôl Brexit ar gyfer rheoli cymorthdaliadau ac ar gyfer cydnabod cymwysterau proffesiynol, yn ogystal ag etholiadau, sy’n fater a gedwir yn ôl a chyfiawnder troseddol.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi codi pryderon ynghylch sut y bydd darpariaethau mewn rhai o filiau’r DU yn effeithio ar sut y gall Llywodraeth Cymru a'r Senedd arfer eu pwerau, gan gynnwys:
- cyfyngu ar y defnydd o bwerau datganoledig: er enghraifft, dywed Llywodraeth Cymru y byddai’r Bil Rheoli Cymorthdaliadau yn “tanseilio pwerau hirsefydlog y Senedd a Gweinidogion Cymru i weithredu mewn perthynas â materion ym maes cymhwysedd datganoledig fel datblygu economaidd, amaethyddiaeth a physgodfeydd.”
- gosod dyletswyddau ar sefydliadau datganoledig: er enghraifft, dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai’r Bil Iechyd a Gofal, fel y'i cyflwynwyd, yn caniatáu i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud rheoliadau a allai roi swyddogaethau neu rwymedigaethau i awdurdodau datganoledig Cymru.
- cyfyngu ar atebolrwydd y Senedd: er enghraifft, dywed Llywodraeth Cymru y byddai’r Bil Etholiadau yn galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol i gyhoeddi datganiad strategaeth a pholisi i’r Comisiwn Etholiadol. Os yw datganiad drafft yn ymwneud â swyddogaethau datganoledig Cymreig y Comisiwn, mae’n rhaid i'r Ysgrifennydd Gwladol ymgynghori â Gweinidogion Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn dadlau nad yw hyn yn gydnaws ag atebolrwydd y Comisiwn Etholiadol i Bwyllgor y Llywydd yn y Senedd ar gyfer swyddogaethau datganoledig.
Dirprwyo pwerau i Weinidogion
Mae’r Pwyllgor DCC hefyd wedi codi pryderon ynghylch goblygiadau rhai o filiau'r DU ar gyfer atebolrwydd y Senedd, yn enwedig y ffordd y mae biliau'n dirprwyo pwerau i Weinidogion y DU a Chymru.
Mae egwyddorion Llywodraeth Cymru ar gyfer biliau'r DU yn nodi mai dim ond i Weinidogion Cymru y dylid rhoi pwerau dirprwyedig mewn meysydd datganoledig. Fodd bynnag, mae’r Pwyllgor DCC wedi codi pryderon ynghylch dirprwyo pwerau ym miliau'r DU, gan gynnwys biliau:
- rhoi pwerau i Weinidogion y DU yn unig mewn meysydd datganoledig: er enghraifft, cododd y Pwyllgor bryderon ynghylch darpariaethau ym Mil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd i roi pwerau i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud rheoliadau a chyhoeddi canllawiau mewn meysydd datganoledig sy'n ymwneud â'r ddyletswydd trais difrifol.
- rhoi pwerau cydredol neu gydredol plws i Weinidogion y DU a Chymru, er enghraifft ym Mil (Deddf bellach) yr Amgylchedd a'r Bil Cymwysterau Proffesiynol. Mae pwerau cydredol yn bwerau y caniateir eu harfer gan Weinidogion Cymru neu Weinidogion y DU i wneud is-ddeddfwriaeth mewn perthynas â Chymru. Mae pwerau cydredol plws yn bwerau cydredol y caiff Gweinidogion y DU eu harfer gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru yn unig.
- rhoi pwerau Harri’r Wythfed i Weinidogion, er enghraifft, yn y Bil Cymwysterau Proffesiynol a'r Bil Iechyd a Gofal. Mae pwerau Harri’r Wythfed yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol drwy reoliadau. Mae'r Pwyllgor wedi codi pryder arbennig ynghylch rhoi pwerau Harri’r Wythfed i Weinidogion y DU a fyddai'n caniatáu iddynt ddiwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006 drwy reoliadau.
- galluogi Gweinidogion y DU i weithredu rhwymedigaethau rhyngwladol drwy is-ddeddfwriaeth: lle y mae cytundebau rhyngwladol yn gofyn newidiadau i ddeddfwriaeth ddomestig, mae'n gonfensiynol defnyddio deddfwriaeth sylfaenol. Fodd bynnag, cododd y Pwyllgor bryderon ynghylch y byddai’r ddarpariaeth yn y Bil Iechyd a Gofal i ganiatáu i'r Ysgrifennydd Gwladol weithredu cytundebau gofal iechyd rhyngwladol drwy is-ddeddfwriaeth yn golygu gwyro oddi wrth y confensiwn cyfansoddiadol hwnnw.
Mae pwyllgorau yn Senedd y DU hefyd wedi mynegi pryderon ynghylch dull Llywodraeth y DU o greu pwerau dirprwyedig newydd, gyda Phwyllgor Craffu Is-ddeddfwriaeth a Phwyllgor Pwerau Dirprwyedig a Diwygio Rheoleiddio Tŷ’r Arglwyddi yn rhybuddio’n ddiweddar am filiau yn dirprwyo pwerau newydd helaeth i'r llywodraeth.
Y camau nesaf
Ceir rhagor o wybodaeth am femoranda cydsyniad deddfwriaethol a osodir gerbron y Senedd, gwaith craffu gan bwyllgorau a dadleuon ar gynigion cydsyniad yn y Cyfarfod Llawn ar wefan y Senedd. Mae ein hysbysiadau hwylus cyfansoddiadol yn rhoi rhagor o gefndir.
Bydd y Senedd yn parhau i ystyried memoranda cydsyniad atodol a newydd wrth i filiau gael eu cyflwyno a'u cymryd drwy Senedd y DU yn y flwyddyn newydd.
Erthygl gan Lucy Valsamidis, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru