Dau Dŷ Senedd y Deyrnas Unedig yn ystod y dydd o’r ochr draw i Afon Tafwys, a’u hadlewyrchiad yn y dŵr.

Dau Dŷ Senedd y Deyrnas Unedig yn ystod y dydd o’r ochr draw i Afon Tafwys, a’u hadlewyrchiad yn y dŵr.

Cydsyniad deddfwriaethol yn y Chweched Senedd

Cyhoeddwyd 02/04/2026

Dros gyfnod y Chweched Senedd, gwelwyd cynnydd sylweddol yn nifer y cyfreithiau sy’n cael eu gwneud gan Senedd y DU mewn meysydd datganoledig o’u cymharu â thermau blaenorol y Senedd.

Wrth i’r tymor hwn ddirwyn i ben, mae’r erthygl hon yn bwrw golwg ar ddyfodiad y mater hwn a’r defnydd cynyddol o’r broses gydsyniad deddfwriaethol. Dyma’r broses a ddefnyddir i ofyn i’r Senedd roi ei chydsyniad i Senedd y DU ddeddfu mewn meysydd datganoledig. Mae’r erthygl yn ystyried goblygiadau’r newidiadau hyn, yr achosion lle y gwrthodwyd cydsyniad ar gyfer Bil, a pha faterion sy’n parhau heb eu datrys ar ddiwedd y tymor hwn.

Pryd mae angen ceisio cydsyniad?

Er gwaethaf datganoli pwerau deddfu i’r Senedd, mae Senedd y DU yn cadw’r hawl i ddeddfu i Gymru ar unrhyw fater. Cytunwyd ar gonfensiwn i sicrhau bod barn seneddau datganoledig, gan gynnwys y Senedd, yn cael ei hystyried os yw Senedd y DU yn deddfu mewn maes datganoledig.

Confensiwn Sewel

Mae Confensiwn Sewel yn darparu na fydd Senedd y DU fel rheol yn deddfu mewn perthynas â materion datganoledig heb gydsyniad y Senedd. Fodd bynnag, mae’r Goruchaf Lys wedi dyfarnu mai confensiwn gwleidyddol yn unig yw hwn ac nad oes modd ei orfodi yn gyfreithiol pe bai Senedd y DU yn ei dorri.

Mae gan y Senedd brosesau ar waith i ystyried Biliau Senedd y DU sydd angen cydsyniad. Gosodir Memorandwm ar gyfer pob Bil, er enghraifft, sy’n esbonio pa rannau o’r Bil sy’n ymwneud â maes datganoledig. Mae’r Senedd yn cynnal pleidleisiau ar b'un a ddylid rhoi cydsyniad i Fil ai peidio. Gallwch ddarllen mwy am gefndir y broses yn yr erthygl hon.

Mater cynyddol yn y Chweched Senedd

Yn ystod tymor y Senedd hon, cafwyd cynnydd sylweddol yn nifer Biliau Senedd y DU y bu angen cydsyniad ar eu cyfer. Mae’r siart isod yn dangos nifer Biliau Senedd y DU y gosodwyd memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ar eu cyfer ym mhob un o bedwar tymor diwethaf y Senedd. Gwelwyd cynnydd o dros 60% yn nifer y Biliau a ystyriwyd yn y Chweched Senedd (2021-26), o’u cymharu â phumed tymor y Senedd (2016-21). Mae’r defnydd o Filiau’r DU fel hyn wedi bod yn gyson o dan Lywodraeth bresennol y DU (Gorffennaf 2024–) a’r un flaenorol (Mai 2021–Mehefin 2024).

Siart 1: Nifer Biliau Senedd y DU y gosodwyd memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ar eu cyfer ym mhob un o bedwar tymor diwethaf y Senedd

Siart bar yn dangos nifer Biliau Senedd y DU sydd angen memoranda cydsyniad deddfwriaethol ar draws pedwar tymor o’r Senedd, gan godi’n gyson o 14 (2007–11) i 76 (2021–26).

Ffynhonnell: Dadansoddiad Ymchwil y Senedd o gydsyniad deddfwriaethol

Yn ogystal â’r cynnydd hwn yn nifer y Biliau, mae’r Chweched Senedd hefyd wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y cymalau y ceisir cydsyniad ar eu cyfer. Golyga hyn, yn hytrach na nifer fach o gymalau ym mhob Bil sydd angen cydsyniad, bod enghreifftiau bellach o Filiau lle mae rhannau cyfan, neu fwyafrif y Bil, yn ymwneud â materion datganoledig.

Yn ystod y Chweched Senedd, gosodwyd memoranda cydsyniad deddfwriaethol mewn perthynas ag 1,718 o gymalau ym Miliau Senedd y DU. Mae hyn yn cymharu â llai na 500 o gymalau yn y Bumed Senedd (2016-21).

Mae’r Chweched Senedd hefyd wedi gweld cynnydd mawr yn nifer y memoranda cydsyniad deddfwriaethol atodol sy’n cael eu gosod. Mae angen y memoranda hyn os yw Senedd y DU yn diwygio’r Bil i wneud newidiadau pellach iddo, pan fo’r diwygiadau hynny’n ymwneud â materion datganoledig.

Yn ystod y tymor hwn, gwelwyd rhai Biliau â chymaint â saith memorandwm wedi’u gosod ar eu cyfer. Gosodwyd 202 o femoranda yn y Chweched Senedd mewn perthynas â 76 o Filiau Senedd y DU. Mae hyn yn cymharu â dim ond 67 o femoranda a osodwyd mewn perthynas â 47 o Filiau yn y Bumed Senedd.

Pam mae hyn o bwys?

Mae’r cynnydd hwn yn golygu bod corff cynyddol o gyfraith ddatganoledig yn cael eu gwneud yn Senedd y DU, yn hytrach nag yn y Senedd. Mae’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad wedi rhybuddio bod y defnydd helaeth o Filiau o’r fath wedi creu “diffyg democrataidd”, sy’n amddifadu Aelodau o’r Senedd, rhanddeiliaid a’r cyhoedd o lais wrth lunio’r gyfraith sy’n effeithio ar fywydau bob dydd dinasyddion Cymru. Mae’r Pwyllgor wedi codi pryderon bod capasiti Llywodraeth Cymru yn ffactor o ran y defnydd o Filiau’r DU i ddeddfu fel hyn. Mae ei adroddiad gwaddol yn nodi bod ymateb Llywodraeth Cymru i’r pryderon hyn wedi bod yn ‘gymysg’, gyda rhai ymatebion yn cydnabod problemau capasiti, tra bod eraill yn awgrymu nad yw capasiti yn broblem a'i bod yn fwy pragmatig defnyddio Biliau'r DU.

Mae’r nifer o gymalau sy’n cael eu cynnwys ym Miliau’r DU hefyd yn ychwanegu at gymhlethdod y gyfraith yng Nghymru, gan fod darpariaethau cynyddol mewn meysydd datganoledig wedi’u rhannu rhwng Deddfau a basiwyd gan y Senedd a Senedd y DU. Mae’r Pwyllgor yn tynnu sylw at ddiogelwch adeiladau fel maes lle gwelwyd Deddf Senedd y DU a Deddf y Senedd yn gwneud newidiadau i gyfraith ddatganoledig o fewn cyfnod tebyg i’w gilydd.

Gall nifer fawr o femoranda cydsyniad atodol a diwygiadau i Filiau’r DU yn hwyr iawn yn eu taith drwy Senedd y DU hefyd ei gwneud yn heriol deall pa gymalau y ceisir cydsyniad ar eu cyfer, ac olrhain y newidiadau a wneir i’r Bil wrth iddo symud ymlaen. Er enghraifft, gosodwyd saith memorandwm mewn perthynas â’r Bil Dŵr (Mesurau Arbennig).

Pryd na roddwyd cydsyniad yn ystod y Chweched Senedd?

Yn ystod tair blynedd gyntaf tymor y Senedd hon, gwelwyd nifer fawr o Filiau gan Senedd y DU lle gwrthododd y Senedd roi ei chydsyniad. Rhwng mis Mai 2021 a mis Mehefin 2024, roedd 14 o Filiau Senedd y DU lle y gwrthodwyd cydsyniad ar gyfer rhai o’r cymalau yn y Biliau, neu bob un ohonynt. Mae’r nifer hwn yn arbennig o drawiadol o ystyried mai dim ond ar naw achlysur y gwrthodwyd cydsyniad cyn 2021.

Yn y rhan fwyaf o’r achlysuron hyn, cytunodd Senedd y DU ar y Bil beth bynnag, rhywbeth a ddisgrifiwyd gan Lywodraeth Cymru fel “agwedd mor sylfaenol amharchus a dinistriol”. Cytunodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad â galwadau gan Lywodraeth Cymru i “godeiddio” Confensiwn Sewel er mwyn galluogi iddo gael ei orfodi pan fo risg o dorri’r Confensiwn.

Yn dilyn etholiad Llywodraeth bresennol y DU ym mis Gorffennaf 2024, mae nifer yr achosion o wrthod cydsyniad wedi gostwng eto. Er bod nifer y Biliau yn Senedd y DU sydd angen cydsyniad yn parhau i fod yn uchel, ni wrthodwyd cydsyniad o gwbl tan i’r Senedd bleidleisio ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol mewn perthynas â’r Bil Troseddau a Phlismona ar 17 Mawrth 2026.

Ar yr achlysur hwn, pleidleisiodd y Senedd dros wrthod cydsyniad, er gwaethaf y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi argymell y dylid rhoi cydsyniad. Mae hyn wedi creu sefyllfa heriol i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, sydd bellach yn gorfod ystyried penderfyniad y Senedd i wrthod cydsyniad ar ddiwedd taith y Bil drwy Senedd y DU.

Mae nifer o Filiau yn parhau heb eu datrys

Yn ogystal â’r sefyllfa ynglŷn â’r Bil Troseddau a Phlismona, mae yna nifer o Filiau eraill lle mae diddymiad y Senedd ar 8 Ebrill yn golygu nad yw'r Senedd hon wedi pleidleisio arnynt. Y Biliau hyn yw:

Bydd hyn yn debygol o olygu y bydd angen i’r Seithfed Senedd ystyried y Biliau hyn yn gynnar yn y tymor newydd.

O ystyried y pryderon a godwyd gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch y defnydd helaeth o’r broses cydsyniad deddfwriaethol i wneud deddfau mewn perthynas â materion datganoledig, bydd agwedd y Llywodraeth newydd yng Nghymru yn fater pwysig i’r Seithfed Senedd ei hystyried.

Erthygl gan Josh Hayman, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru