Cryfhau atebolrwydd Aelodau o’r Senedd

Cyhoeddwyd 21/08/2024   |   Amser darllen munud

Mae sicrhau bod gwleidyddion yn atebol i’w hetholwyr yn un o egwyddorau allweddol democratiaeth fodern. Ond a yw’r system bresennol yn y Senedd yn ddigon cadarn i herio Aelodau sy’n torri’r rheolau?

Mae sut i ddal aelodau etholedig yn atebol am eu gweithredoedd wedi bod yn bwnc llosg yng Nghymru, ac ar draws gweddill y DU, yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae nifer o astudiaethau wedi dangos bod lefelau ymddiriedaeth mewn gwleidyddion etholedig yn gostwng. Mae Pwyllgor Safonau'r Senedd yn cynnal ymchwiliad i ddiwygiadau posibl i'r system a ddefnyddir i ddwyn Aelodau i gyfrif yn y Senedd.

Mae hyn yn dilyn gwaith gan y Pwyllgor Biliau Diwygio yn y Senedd ac Aelodau o'r Senedd ar ddiwygio etholiadol ar gyfer etholiadau datganoledig.

Mae'r erthygl hon yn edrych yn benodol ar ddau faes allweddol y mae’r Pwyllgor Safonau yn eu hystyried i gryfhau atebolrwydd: adalw a thwyll bwriadol. 

Mesurau atebolrwydd presennol

Y prif ddull o ddal Aelodau o’r Senedd yn atebol yw etholiadau.  Ym mhob etholiad, mae'r cyhoedd yng Nghymru yn cael dweud eu dweud ar lwyddiant plaid mewn llywodraeth neu fel gwrthblaid, a'i maniffesto, neu ar berfformiad unigolyn.

Fodd bynnag, mae mecanweithiau eraill ar waith i ddal gwleidyddion yn atebol rhwng etholiadau.

Yn y Senedd, daw hyn yn bennaf ar ffurf Cod Ymddygiad yr Aelodau. Diben y Cod Ymddygiad hwn yw cynnal enw da’r Senedd a'r ethos agored ac atebol sy'n angenrheidiol i atgyfnerthu hyder y cyhoedd yn y Senedd.

Caiff cwynion am Aelod sy'n torri'r Cod eu hymchwilio gan y Comisiynydd Safonau. Os ymchwilir i gŵyn, bydd y Comisiynydd yn adrodd i’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad, a all argymell sancsiwn i’r Aelod, a bydd hyn yn destun pleidlais gan y Senedd.

Mae’r sancsiynau hyn yn cynnwys gwahardd yr Aelod o drafodion y Senedd am gyfnod penodol, tynnu hawliau a breintiau penodol fel eu cyflog, neu ‘geryddu’ Aelod.

Adalw

Un o’r meysydd sydd wedi’i drafod i gryfhau’r atebolrwydd hwn yw system ar gyfer adalw Aelodau o’r Senedd. Byddai hyn yn caniatáu i bleidleiswyr ddiswyddo eu cynrychiolydd rhwng etholiadau.

Mae system adalw wedi cael ei defnyddio yn San Steffan ers 2015 a hyd yn hyn mae pedwar AS wedi’u diswyddo drwy’r broses. Dim ond o dan amgylchiadau arbennig y gellir sbarduno deiseb adalw yn San Steffan.

Mae'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad wedi clywed gan dystion arbenigol bod model San Steffan yn gyffredinol yn un da i’w ddilyn, ond bod angen ystyried amgylchiadau penodol y Senedd.

Un o’r rhain yw’r system etholiadol a fydd yn cael ei defnyddio o 2026 ymlaen – y system rhestr gaeedig – nad yw'n caniatáu ar gyfer is-etholiadau. Pan gaiff AS ei adalw yn San Steffan, llenwir ei sedd drwy gynnal is-etholiad. Caiff yr AS sydd wedi’i adalw sefyll yn yr is-etholiad.

Ni fyddai hyn yn bosibl yn system y Senedd, felly mae angen ystyried sut y gallai hyn effeithio ar y model a gaiff ei fabwysiadu ar gyfer adalw. Byddai’n golygu y byddai deiseb adalw lwyddiannus yn arwain yn uniongyrchol at Aelod o’r Senedd yn colli ei sedd heb roi cyfle iddo sefyll mewn is-etholiad.

Mae tystion hefyd wedi awgrymu y gallai’r Senedd ddymuno ystyried cyflwyno trothwy uwch o ran nifer y llofnodion sydd eu hangen er mwyn i ddeiseb fod yn llwyddiannus. Ar hyn o bryd o dan fodel San Steffan mae angen i 10 y cant o bleidleiswyr cofrestredig lofnodi deiseb. Mewn system ar gyfer y Senedd, byddai deiseb lwyddiannus yn cael gwared ar Aelod heb roi cyfle iddo sefyll mewn is-etholiad, felly gallai’r trothwy hwn o 10 y cant fod yn rhy isel ar gyfer y cam diswyddo awtomatig hwnnw. Dewis arall fyddai cynnig cyfle i bleidleiswyr hefyd ddangos eu cefnogaeth i Aelod aros yn ei sedd mewn deiseb adalw, yn hytrach na phleidleisio i’w ddiswyddo yn unig.

Mae'r Pwyllgor yn gofyn am ystod eang o safbwyntiau ar adalw ond mae'n cynnig dau opsiwn posibl:

  1. Byddai deiseb adalw yn gofyn dim ond a ddylai Aelod gael ei adalw. Pe bai hynny'n llwyddiannus, byddai’r Aelod yn colli ei sedd a byddai'r person nesaf ar restr y blaid honno yn cael ei ethol i lenwi'r sedd.
  2. Byddai deiseb adalw yn gofyn a ddylai Aelod aros yn ei sedd ai peidio, gan gynnig cyfle i bleidleiswyr ddangos eu cefnogaeth i’r Aelod. Byddai hyn yn ddarostyngedig i gyfnod ymgyrchu, gan roi cyfle i'r Aelod sy'n destun y broses 'adalw' amddiffyn ei sedd gyda'r etholwyr.

Twyll bwriadol

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i’r canlynol:

bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno’r ddeddfwriaeth cyn 2026 ar gyfer datgymhwyso Aelodau ac ymgeiswyr a geir yn euog o dwyllo’n fwriadol drwy broses farnwrol annibynnol…

Daeth hyn o ganlyniad i drafodaethau rhwng Gweinidogion Cymru ac Aelodau o’r Senedd a gefnogodd welliant i'r Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) i wneud twyll 'bwriadol' gan wleidyddion y Senedd yn drosedd.

Byddai’r gwelliant wedi golygu y byddai unrhyw Aelod o’r Senedd neu ymgeisydd mewn etholiad i’r Senedd a geir yn euog o drosedd o dwyll wedi’i anghymhwyso rhag bod yn Aelod am bedair blynedd.

Mae’r rhai sy’n cefnogi gwneud 'twyll bwriadol' yn drosedd yn dadlau bod y systemau presennol ar gyfer rheoli ymddygiad gwleidyddion etholedig wedi gwneud fawr ddim i atal y dirywiad mewn lefelau ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth. Maent yn dweud bod angen creu trosedd i fynd i'r afael â chamwybodaeth a chamliwio’r gwirionedd 'er budd gwleidyddol'.

Er ei bod yn cydnabod pwysigrwydd y mater, mynegodd Llywodraeth Cymru bryderon ynghylch “canlyniadau anfwriadol”  y gwelliant. Cynhaliodd drafodaethau felly gyda chefnogwyr y cynigion i ddileu'r gwelliant o'r Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) yn gyfnewid am ymrwymiad i gyflwyno deddfwriaeth ychwanegol cyn 2026 ar ôl ymgynghori pellach.

Gofynnwyd i Bwyllgor Safonau’r Senedd gynnal yr ymgynghoriad pellach hwn fel rhan o’i ymchwiliad i Atebolrwydd Aelodau Unigol. Bydd Aelodau o’r Senedd ychwanegol o bob un o’r pedair plaid yn y Senedd yn ymuno â’r Pwyllgor i ystyried y mater penodol hwn.

Mae’r Pwyllgor eisoes wedi cymryd rhywfaint o dystiolaeth ar dwyll ond yn edrych i gasglu safbwyntiau pellach yn ei ymgynghoriad presennol ar atebolrwydd. Mae'n ceisio safbwyntiau ar ystod o fesurau i fynd i'r afael â thwyll bwriadol gan gynnwys y posibilrwydd o greu trosedd newydd.

Sut mae cymryd rhan

Mae ymgynghoriad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar gryfhau atebolrwydd ar agor tan 27 Medi 2024. Gallwch ddweud eich dweud drwy lenwi’r ffurflen ymgynghori hon.

Bydd y Pwyllgor yn ystyried y dystiolaeth sy’n dod i law dros yr hydref mewn pryd i gefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth cyn Etholiad Cyffredinol y Senedd yn 2026.

Erthygl gan Josh Hayman a Nia Moss, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru