“Cryfder yn unig all gydweithio, dim ond erfyn all gwendid” – beth all Eisenhower (ac arolygon barn) ei ddysgu inni am ddyfodol cysylltiadau rhynglywodraethol y DU?

Cyhoeddwyd 05/06/2026   |   Amser darllen munudau

 Dyma erthygl wadd gan Dewi Knight a Hannah Ellis. Dewi yw Cyfarwyddwr PolicyWISE ac mae Hannah yn Gynorthwyydd Ymchwil yn PolicyWISE.

PolicyWISE yw'r felin drafod polisi, ymchwil a chyfnewid gwybodaeth gymharol rhwng y DU ac Iwerddon, sydd wedi’i chynnal yn y Brifysgol Agored. Cafodd ganmoliaeth uchel fel 'un i'w wylio' yng ngwobrau melin drafod Smart Thinking ar gyfer 2025. Ei nod yw llywio a gwella llunio polisïau drwy ymchwil a dadansoddi traws-genhedloedd a chymharol.

www.policywise.org.uk

https://www.linkedin.com/company/policywise5/

dewi.knight@open.ac.uk

Wrth wneud y datganiad uchod yn ystod ei flwyddyn olaf yn y swydd, pwysleisiodd yr Arlywydd Eisenhower y dylai “cryfder eang” cenhedloedd arwain at adeiladu “partneriaethau cynhyrchiol”, gan gyflawni “diogelwch, rhyddid a heddwch”.

Er bod ambell un yn darogan perthynas oeraidd – yn hytrach na Rhyfel Oer go iawn – o ran cysylltiadau rhynglywodraethol y DU yn y dyfodol yn dilyn etholiadau mis Mai, ein hymchwil ac arolygon barn yn awgrymu bod hyn yn cynnig cyfle cadarnhaol ar gyfer cydweithio cryfach rhwng y cenhedloedd.

At hynny, mae pobl yng Nghymru yn disgwyl partneriaeth well rhwng y llywodraethau ar faterion rhyngwladol, yn ogystal ag ar heriau polisi domestig.

Fe wnaethom gynnal arolwg barn gydag 806 o bobl yng Nghymru a 1,035 yn yr Alban ddechrau mis Chwefror 2026. Gweithiodd PolicyWISE gyda More in Common ar yr arolwg barn hwn, y cyntaf o'i fath i archwilio agweddau cyhoeddus yr Alban a Chymru yn benodol tuag at gydweithrediad rhynglywodraethol ledled y DU.

Daw eto haul ar fryn?

Yn ddiweddar, mae PolicyWISE wedi cyhoeddi adroddiad ymchwil newydd 'the strength to co-operate'. Mae'n dwyn ynghyd ganlyniadau arolygon barn, ymgysylltu â llunwyr polisi ac arweinwyr dinesig, a dadansoddiad o gysylltiadau rhynglywodraethol yn y DU, ac ar lefel ryngwladol.

Mae'r adroddiad yn dadlau y gall llywodraethau aml-lefel y DU, a'i chymeriad amlwladol, fod yn gryfder o ran mynd i'r afael â heriau polisi mawr. Dyma’r hyn y mae'r cyhoedd yn ei ddisgwyl, ac eisiau i ddigwydd.

Pan ofynnwyd iddynt ym mis Chwefror (cyn etholiad y Senedd a'r newid llywodraeth), nid oedd pobl yng Nghymru o’r farn bod y berthynas rhwng llywodraethau mewn lle da. Dim ond un o bob pump oedd o’r farn bod llywodraethau Cymru a'r DU (ar y pryd) yn cydweithio'n dda. Fodd bynnag, safbwynt y mwyafrif yw bod cydweithio yn bosibl, er gwaethaf y diffyg cydweithrediad canfyddedig.

Dim ond un ym mhob pump o bobl yng Nghymru sydd o’r farn ei bod hi'n amhosibl i lywodraethau Cymru a'r DU gydweithio'n dda, sy'n awgrymu optimistiaeth a chefnogaeth gyhoeddus sylweddol i well cysylltiadau rhynglywodraethol.

Yn ôl pleidleiswyr, mae angen cydweithredu agosach ar y materion pwysicaf gan gynnwys costau byw, yr economi, y GIG, ynni, mewnfudo a mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched.

Siart 1 – siart bar yn dangos barn pobl ar ba mor dda y mae llywodraethau Cymru a'r DU yn cydweithio ar hyn o bryd. Mae 25% o’r farn nad ydyn nhw'n gweithio'n dda o gwbl, mae 43% o’r farn nad ydyn nhw'n gweithio'n dda iawn, mae 17% o’r farn eu bod nhw'n gweithio'n eithaf da, mae 3% o’r farn eu bod nhw'n gweithio'n dda iawn.

Ffynhonnell: PolicyWISE

Siart 2 – siart bar yn ceisio barn pobl ynghylch a allai llywodraethau Cymru a'r DU gydweithio'n dda. Mae 51% o’r farn y gallent gydweithio'n dda, ond nid ydynt ar hyn o bryd. Mae 22% o’r farn na fyddant byth yn gallu cydweithio'n dda. Mae 10% o’r farn eu bod yn cydweithio'n ddigon da.

Ffynhonnell: PolicyWISE

Blaenoriaethau polisi

Gan ystyried yr hyn sydd bwysicaf iddyn nhw, mae'r cyhoedd eisiau gweld llywodraethau'n cydweithredu, ni waeth ai Parc Cathays neu Whitehall sydd â’r prif gyfrifoldeb. Mae cefnogaeth, a disgwyliad, y bydd llywodraethau'n cydweithio ar faterion datganoledig a materion a gedwir yn ôl.

O ran y GIG, mae dwy ran o dair o bobl yng Nghymru o’r farn bod cydweithio rhwng llywodraethau Cymru a'r DU yn "hanfodol" neu'n "ddefnyddiol", er taw cyfrifoldeb datganoledig yw hwn. Dim ond 8% sydd o’r farn bod gweithio gyda Llywodraeth y DU yn "rhwystro" llywodraeth ddatganoledig.

O ran polisi tai, mae’r mwyafrif (52%) o’r farn y byddai cydweithrediad rhynglywodraethol yn “hanfodol” neu’n “ddefnyddiol” a dim ond 8% oedd o’r farn ei fod yn “rhwystro”.

Mae'r un duedd yn amlwg ar draws addysg, newid hinsawdd a lleihau tlodi, gyda mwyafrifoedd yn cefnogi cydweithredu, a chyfrannau bach iawn yn ei ystyried yn rhwystr.

Siart 3 – siart bar yn dangos pa rôl y mae ymatebwyr yn ei hystyried sydd gan weithio gyda Llywodraeth y DU mewn perthynas â thri maes polisi: Iechyd a'r GIG, tai, a lleihau tlodi. Yn y tri maes, mae nifer o ymatebwyr o'r farn bod cydweithio yn hanfodol i wneud cynnydd.

Ffynhonnell: PolicyWISE

Y DU yn gyfystyr â Lloegr?

Mae cyflawni cydweithio mwy effeithiol hefyd yn dibynnu ar fwy o eglurder ynghylch rôl Llywodraeth y DU. Yn benodol, mae angen gwahaniaethu pa bryd mae'n gweithredu fel llywodraeth genedlaethol de facto ar gyfer Lloegr, a phryd mae'n gweithredu ar ran y DU gyfan.

Mae llywodraethau olynol y DU wedi bod yn amharod i gydnabod y ddeuoliaeth hon yn ffurfiol, ond mae'r polau piniwn yn dangos bod y cyhoedd yng Nghymru ar y blaen iddyn nhw ar y mater hwn.

Safbwynt 41% o bobl Cymru yw bod Llywodraeth y DU yn gweithredu'n bennaf fel llywodraeth i Loegr, a dim ond 29% sydd o’r farn ei bod yn gweithredu'n bennaf fel llywodraeth ledled y DU. Mae llai nag un o bob tri, hefyd, o’r farn bod Llywodraeth y DU yn glir wrth gyfathrebu pan fydd ei phenderfyniadau'n effeithio ar Loegr yn unig.

Mae'r canfyddiadau hyn yn tanlinellu her allweddol i lywodraethiant, datganoli a gwneud penderfyniadau yn Lloegr, yng nghyd-destun y DU: heb gyfathrebu cliriach a chydnabyddiaeth sefydliadol o'r rôl ddeuol hon, mae'n anoddach cefnogi gweithio rhynglywodraethol effeithiol, a chreu'r amodau ar gyfer cydweithio gwirioneddol y gall y boblogaeth ledled y DU ei gydnabod.

Siart 4 – siart bar yn dangos safbwynt ymatebwyr o ran y modd y mae Llywodraeth y DU yn llywodraethu. Yn ôl 15% mae hi’n llywodraethu'n gyfartal â llywodraeth y DU/Lloegr. Yn ôl 29% y mae hi’n llywodraethu'n bennaf fel llywodraeth y DU gyfan. Yn ôl 42% mae hi’n llywodraethu'n bennaf fel llywodraeth Lloegr.

Ffynhonnell: PolicyWISE

Llywodraethiant cydweithredol

Mae ein hadroddiad newydd yn argymell bod y DU yn mabwysiadu dull mwy cydweithredol o lywodraethiant ar draws ei gwledydd (a'i rhanbarthau). Dylai gwahanol lywodraethau'r DU gydnabod, er mwyn cyflawni llawer o'u blaenoriaethau, fod angen iddynt weithio gydag eraill.

Dylai penaethiaid llywodraethau nodi a chytuno ar eu blaenoriaethau cyffredin ar y cyd, ac ymrwymo i gydweithio i wneud cynnydd ar y materion hyn. Ni ddylai'r camau adnabod a blaenoriaethu hyn orwedd gydag un llywodraeth yn unig, ac nid yw'n golygu mynd ar drywydd yr un polisïau yn union.

Byddai'r ffordd newydd hon o weithio yn golygu bod llywodraethau'n rhannu dysgu ac arferion gorau yn systematig, yn cydlynu'n well ar draws awdurdodaethau, ac yna'n ystyried a ddylid ymrwymo i fentrau ar y cyd sydd wedi'u diffinio'n glir. Dylai cysylltiadau rhynglywodraethol ganolbwyntio ar faterion dethol, ac y cytunwyd arnynt ar y cyd.

Dyma’r hyn y mae pobl yng Nghymru yn ei ddisgwyl gan gysylltiadau rhynglywodraethol. Mae hanner y cyhoedd o’r farn y dylai “cydweithio i ddatrys problemau ar y cyd” fod yn ffocws cysylltiadau rhynglywodraethol yn y DU, gyda 28% yn dewis dysgu ar draws y cenhedloedd fel blaenoriaeth allweddol i gysylltiadau rhynglywodraethol. Dim ond 18% oedd o’r farn bod llywodraethau’n “sefyll o blaid eu hardal” yn arfer pwysig o ran cysylltiadau rhynglywodraethol.

Siart 5 – siart bar yn dangos barn ymatebwyr o ran sut ddylai'r Prif Weinidog ymdrin â chysylltiadau rhynglywodraethol gyda Llywodraeth y DU. Mae 30% o’r farn y dylai'r Prif Weinidog ganolbwyntio ar weithio'n adeiladol, hyd yn oed os yw hynny'n golygu cyfaddawdu, tra bod 20% o’r farn y dylai'r Prif Weinidog ganolbwyntio ar herio San Steffan, hyd yn oed os yw cydweithrediad yn dioddef. Mae 39% o’r farn y dylai'r Prif Weinidog geisio cydbwyso'r naill safbwynt a’r llall.

Ffynhonnell: PolicyWISE

Y tu hwnt i geometreg pwerau – arfer gorau rhyngwladol

Mae tri chategori posibl o faterion strategol a all elwa o well cysylltiadau rhynglywodraethol:

  • Y rheini ‘a gadwyd yn ôl’ i Senedd y DU,
  • y rheini sy'n gymhwysedd a rennir neu’n gymhwysedd cydredol, a hefyd
  • materion 'datganoledig'.

Wrth gynnig ffurf fwy cydweithredol o lywodraethiant sy'n trawstorri cyfrifoldebau, mae PolicyWISE wedi archwilio'r modelau cysylltiadau rhynglywodraethol a arferir yn Awstralia a Chanada, a'r gwersi sydd ganddyn nhw i'r DU.

Yn y naill wlad a’r llall, mae arweinwyr ffederal a 'datganoledig' yn dod ynghyd i gydweithredu a chytuno ar gamau gweithredu ar y cyd ar heriau cymdeithasol megis trais ar sail rhywedd (Awstralia), a materion a chysylltiadau economaidd rhyngwladol (Canada).

Mae polisi tramor, amddiffyn a diogelwch yn faes unigryw i'r llywodraeth 'ganolog' ym mron pob achos. Fodd bynnag, gall geowleidyddiaeth gael goblygiadau dwys sy'n trawstorri gwahanol feysydd o awdurdod. Yn ôl pôl piniwn PolicyWISE, mae pobl yng Nghymru (a'r Alban) yn nodi pedwar mater blaenoriaeth ar gyfer y math hwn o gydweithrediad:

  • polisi ynni,
  • masnach, a hefyd
  • cysylltiadau â’r UE.

Mae pobl yn glir eu barn eu bod yn disgwyl gweld Prif Weinidog y DU yn gweithio gyda Phrif Weinidogion y llywodraethau datganoledig, yn rhannu ei farn, ac yn ceisio eu mewnbwn ar y materion hyn. Gellid defnyddio fforymau cysylltiadau rhynglywodraethol presennol i ddwyn llywodraethau datganoledig i siarad â'r llywodraeth 'ganolog' ar y materion hyn o bwys cyffredin.

Casgliad – trobwynt i gysylltiadau rhynglywodraethol?

Barn PolicyWISE yw y dylai llywodraethau ledled y DU ganolbwyntio o ddifrif ar nodi materion o bryder cyffredin a phwysigrwydd strategol ar y cyd – lle bynnag y maent yn eistedd o fewn 'geometreg' pwerau wedi'u cadw a'u datganoli.

Mae’r dull hwn o 'reol a rennir' yn un sy’n cyd-fynd â disgwyliadau'r cyhoedd. Rydym yn rhannu ein hargymhellion yn yr ysbryd adeiladol hwn.

Mae symud i ddull ymgysylltu mwy cydweithredol a chynhyrchiol yn gofyn am hyblygrwydd a chydnabyddiaeth na all unrhyw awdurdod llywodraethu sengl yn y DU – gan gynnwys Llywodraeth y DU – gyflawni ei flaenoriaethau ar ei ben ei hun.

Dylai hyn, hefyd, olygu bod y pedair deddfwrfa – yn unigol ac ar y cyd – yn ymgysylltu’n gadarnhaol â chysylltiadau rhynglywodraethol, yn monitro cynnydd, ac yn craffu ar ddatblygiadau o fewn eu hawdurdodaethau ac ar draws y DU. Mae ymchwiliad diweddar pwyllgor Senedd yr Alban i’r materion hyn yn gwneud argymhellion cadarnhaol ar gyfer mwy o gydweithio rhyngseneddol. Mae’r erthygl hon gan Ymchwil y Senedd yn darparu trosolwg rhagorol o gysylltiadau rhynglywodraethol a thryloywder.

Mae ein harolwg barn yn dangos bod pobl yn disgwyl i'w llywodraethau gydweithio i fynd i'r afael â heriau canolog megis lleihau costau byw, diwygio gwasanaethau cyhoeddus a thyfu'r economi yng Nghymru, ac ar draws y DU.

Yn ei araith ‘Cyflwr yr Undeb’ olaf, dywedodd yr Arlywydd Eisenhower, heb gryfder mewn “partneriaeth gynhyrchiol” y gallai fod “trobwynt…tywyll mewn hanes”. Mae ein harolygon barn a'n hymchwil yn dangos bod y cyhoedd yng Nghymru eisiau trobwynt ym mherthynas rhynglywodraethol y DU, gan ganolbwyntio ar y blaenoriaethau hynny.