Lansiwyd y Gronfa Ffyniant Gyffredin ym mis Ebrill 2022 ac, wedi’i phrisio yn £2.6 biliwn ledled y DU hyd at fis Mawrth 2025, bwriedir iddi ddisodli Cronfa Gymdeithasol Ewrop a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.
Dywed Llywodraeth y DU y bydd y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn galluogi gwneud penderfyniadau gwirioneddol leol, ond mae Llywodraeth Cymru yn honni ei bod yn "osgoi sefydliadau etholedig Cymru". Mae'r llywodraethau hefyd yn anghytuno a yw cyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn bodloni ymrwymiadau Llywodraeth y DU i ddisodli rhaglenni’r UE yng Nghymru.
Wrth baratoi ar gyfer dadl y Senedd ddydd Mercher, mae'r erthygl hon yn ystyried rhai materion a nodwyd yn ystod ymchwiliad y Pwyllgor Cyllid i drefniadau ariannu ar ôl gadael yr UE. Mae'n darparu diweddariad i elfennau o'n herthygl flaenorol ynghylch y mater hwn ym mis Mai 2022.
Pawb yn dawel yn Natganiad yr Hydref
Nid yw Datganiad yr Hydref Llywodraeth y DU (17 Tachwedd) wedi rhoi diweddariad ar statws cynlluniau buddsoddi a dyraniadau’r Gronfa Ffyniant Gyffredin. Yn wir, ni soniwyd am y Gronfa yn araith y Canghellor o gwbl. Mae disgwyl i £429 miliwn gael ei ddyrannu eleni, gydag £89 miliwn ar gael i Gymru.
Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn awgrymu y bu gostyngiad o £400 miliwn yng ngwerth y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn ei hymateb i adroddiad y Pwyllgor Cyllid. Fodd bynnag, yn dilyn hynny, ysgrifennodd Llywodraeth y DU at y Pwyllgor Cyllid (ar 29 Tachwedd) yn mynd i’r afael â hynny gan ddweud na fu newid i gyfanswm cwantwm ariannu Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Mae’r llythyr yn esbonio nad yw’r ariannu ar gyfer y Gronfa Ffyniant Gyffredin 2022-23 yn cael ei ddangos, mwyach, fel dyraniad ar wahân yn Natganiad yr Hydref (fel mewn cyllideb gynharach) ond ei fod wedi’i gynnwys o fewn yr ariannu ar gyfer Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau Llywodraeth y DU.
O gymharu, cadarnhaodd y Canghellor y bydd cynigion llwyddiannus i'r Gronfa Ffyniant Bro yn cael eu cyhoeddi cyn diwedd y flwyddyn, gydag o leiaf £1.7 biliwn yn cael ei ddyrannu i brosiectau seilwaith lleol â blaenoriaeth.
Pwy sy'n gwneud beth?
Yn dilyn ei ymchwiliad, dywedodd Cadeirydd Pwyllgor Cyllid y Senedd mai’r canfyddiad pwysicaf oedd:
…bod rhoi’r cronfeydd newydd hyn ar waith yn llwyddiannus yng Nghymru mewn perygl oherwydd diffyg ymgysylltiad rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
Bydd yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn arwain y broses asesu, gan oruchwylio’r Gronfa Ffyniant Gyffredin ledled y DU. Bydd awdurdodau lleol, gan gynnwys y rhai yng Nghymru, yn datblygu cynlluniau buddsoddi ar draws 'daearyddiaethau strategol' sy'n adlewyrchu ardaloedd y fargen ddinesig a’r fargen dwf, gydag awdurdod arweiniol yn gyffredinol atebol am gyllid.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cael gwahoddiad i eistedd ar fforwm gweinidogol y DU gyfan ac mae prosbectws y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn amlinellu awydd am ddaearyddiaethau strategol i gynnwys Llywodraeth Cymru wrth baratoi eu cynlluniau buddsoddi. Mae hefyd yn nodi y dylid cysylltu ag Aelodau o’r Senedd pan fo hynny’n berthnasol.
Tra bod Ysgrifennydd Gwladol blaenorol Cymru yn awgrymu bod y Gronfa Ffyniant Gyffredin wedi cael ei thrafod cyhyd ag y mae wedi bod yn Ysgrifennydd Gwladol, adroddodd Llywodraeth Cymru mai dim ond yn gynnar ym mis Ebrill y cynigiwyd trafodaeth ystyrlon ar flaenoriaethau a strwythurau llywodraethu’r Gronfa, ychydig cyn cyhoeddi’r prosbectws.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud na fydd yn defnyddio ei hadnoddau i weithredu rhaglenni Llywodraeth y DU yng Nghymru, y mae’n eu hystyried yn “ddiffygiol ac yn tanseilio'r setliad datganoli”. Fodd bynnag, yn ei hymateb i adroddiad y Pwyllgor Cyllid, mae’n dweud ei bod yn parhau i fod yn ymrwymedig i’w phartneriaid yng Nghymru.
Dyddiad cau y cynlluniau buddsoddi yn mynd heibio
Ers ein herthygl flaenorol ar y mater hwn, mae’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cynlluniau buddsoddi y Gronfa Ffyniant Gyffredin (1 Awst) wedi mynd heibio. Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn flaenorol fod yr amserlenni ar gyfer datblygu a chyflawni prosiectau’r Gronfa yn “hynod o heriol”.
Mae’r prosbectws i'r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn dweud y byddai rhai cynlluniau buddsoddi yn cael eu cytuno, a thaliadau cyntaf yn cael eu gwneud i awdurdodau lleol arweiniol, o fis Hydref ymlaen.
Ar 16 Tachwedd, gwnaeth Gweinidog yr Economi sylwadau ar y cam cyflawni, gan nodi yn y Cyfarfod Llawn:
…nid yw'r gronfa wedi dod yn weithredol eto: nid oes ceiniog o gyllid, nid oes un geiniog o gyllid o'r gronfa ffyniant gyffredin wedi cyrraedd Cymru…
Fodd bynnag, ar ddechrau mis Tachwedd dywedodd y Gweinidog Ffyniant Bro, Dehenna Davison, Aelod o Senedd y DU, fod yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn cwblhau dilysiad cynlluniau buddsoddi Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU a bydd yn hysbysu awdurdodau arweiniol o’r canlyniad maes o law.
Anghytundebau ynghylch cyllid yn parhau
Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cytuno’n fras ar ffigur blynyddol cyfartalog cyffredinol ar gyfer cyllid i Gymru drwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, sef tua £290 miliwn y flwyddyn. Fodd bynnag, maent yn anghytuno sut mae’r cyllid sydd ar ôl i’w wario drwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop yn cael ei gynnwys yng nghyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn 2022-23 a 2023-24. Dywed Llywodraeth Cymru fod sawl prosiect a allai hawlio gwariant hyd at fis Rhagfyr 2023. Mae Llywodraeth y DU yn cyfrif am weddill cyllid Cronfa Gymdeithasol Ewrop a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop wrth gyfrifo dyraniadau’r Gronfa Ffyniant Gyffredin i wledydd y DU.
Dywed Llywodraeth y DU fod y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn cynyddu i gyfateb â swm cyfatebol o gyllid blynyddol yr UE erbyn blwyddyn olaf y Gronfa Ffyniant Gyffredin (2024-25). Dywedodd yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol blaenorol i Gymru (sydd bellach yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru), David T.C Davies, Aelod o Senedd y DU, nad oedd darparu gwerth llawn Cyllid Strwythurol blynyddol yr UE drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn ogystal â’r arian a ddaw yn ôl o’r UE yn rhywbeth a addawyd erioed. Yn ei hymateb i adroddiad y Pwyllgor Cyllid, mae Llywodraeth y DU yn gwneud y pwynt ei bod yn gwneud buddsoddiadau eraill yng Nghymru, megis cyllid ar gyfer porthladdoedd rhydd.
Mae Llywodraeth Cymru yn cyfrifo, oherwydd y dull hwn, y bydd Cymru yn colli allan ar tua £772 miliwn rhwng 2021 a 2025. Mae'n dweud, o dan raglenni’r UE, y byddai Cymru wedi cael cyllid sy’n weddill yn gysylltiedig â Rhaglen Cronfeydd Strwythurol 2014-20 yn ogystal ag unrhyw gyllid newydd gan yr UE.
Mae CLlLC a Llywodraeth Cymru hefyd yn dadlau o blaid cynyddu hyblygrwydd o ran cyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin. Roedd Pwyllgor Cyllid y Senedd yn cefnogi hyn, gan alw am y gallu i symud arian rhwng prosiectau a blynyddoedd. Yn ei hymateb i’r Pwyllgor, dywedodd Llywodraeth y DU:
Where a strategic geography within Wales is forecasting an underspend within its allocation for one financial year, they will be asked to develop credible plans on how to utilise this underspend in the next financial year.
Llywodraethau yn parhau i anghytuno ynghylch y pwerau i gyflwyno’r Gronfa Ffyniant Gyffredin
Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU hefyd yn anghytuno ar egwyddor gwariant Llywodraeth y DU ar amcanion y Gronfa Ffyniant Gyffredin. Mae Llywodraeth y DU yn defnyddio pwerau o dan Ddeddf Marchnadoedd Mewnol 2020 i gyflwyno'r Gronfa Ffyniant Gyffredin. Dywed Llywodraeth Cymru fod datblygu economaidd yn amlwg wedi’i ddatganoli. Ym mis Mehefin, cyfeiriodd Gweinidog yr Economi at y Gronfa Ffyniant Gyffredin fel “ymosodiad bwriadol ar ddatganoli yng Nghymru”.
Mae cyfran benodol o'r Gronfa hefyd wedi’i chlustnodi at ddibenion rhifedd oedolion. Gelwir y rhaglen hon yn “Multiply” ac mae Llywodraeth Cymru yn ailadrodd pryderon ynghylch Llywodraeth y DU yn gweithredu yn y maes datganoledig hwn.
Tra bod Llywodraeth y DU yn dweud nad yw’n ceisio creu rhyw fath o benbleth cyfansoddiadol cymhleth, mae rhanddeiliaid wedi mynegi pryderon ymarferol ynghylch y meysydd y bydd y Gronfa yn gweithredu ynddynt. Mae Dadansoddi Cyllid Cymru yn awgrymu y gallai cael tair haen o lywodraeth yn gweithredu mewn meysydd datganoledig arwain at ddyblygu gwariant, gan nodi lefel yr ymgysylltiad rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU fel ffactor.
Mae Pwyllgor Cyllid y Senedd yn dweud bod ymagwedd Llywodraeth y DU i “Multiply” yn codi cwestiynau ehangach ynghylch ei gwariant mewn meysydd datganoledig, heb iddi gael ei dwyn i gyfrif gan y Senedd.
Beth nesaf?
Rydym yn aros am gadarnhad o statws y cynlluniau buddsoddi. Hyd yn oed os cytunir ar y cynlluniau, mae’r anghytundebau sylfaenol ynghylch gwerth, defnydd a llywodraethu’r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn debygol o barhau.
Cafodd adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar drefniadau ariannu ar ôl gadael yr UE ei gyhoeddi ym mis Hydref. Gallwch wylio dadl y Senedd ar SeneddTV ddydd Mercher 30 Tachwedd.
Diweddarwyd yr erthygl hon ar 30 Tachwedd 2022 yn dilyn gohebiaeth gan Lywodraeth y DU i’r Pwyllgor Cyllid, a ddaeth i law ar 29 Tachwedd.
Erthygl gan Owen Holzinger, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru