Credyd Cynhwysol yng Nghymru: y wybodaeth ddiweddaraf

Cyhoeddwyd 18/03/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Ddydd Mawrth 19 Mawrth, cynhelir dadl yn y Cyfarfod Llawn ar effaith diwygio lles ar aelwydydd yng Nghymru. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddadansoddiad newydd yn ddiweddar o effaith diwygio lles yng Nghymru, gan gynnwys cyflwyno’r Credyd Cynhwysol.

Erbyn 2023, bydd tua thraean o aelwydydd yng Nghymru yn hawlio’r Credyd Cynhwysol ar ryw ffurf.

Ym mis Tachwedd 2018, roedd 61,466 o aelwydydd yng Nghymru yn hawlio’r budd-dal newydd hwn, ac roedd 292,212 o aelwydydd yn hawlio budd-daliadau ‘etifeddol’ a fydd yn cael eu disodli gan y Credyd Cynhwysol yn y pen draw. Mae hyn yn golygu bod 17 y cant o’r broses o gyflwyno’r Credyd Cynhwysol wedi’i chwblhau yng Nghymru.

Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru a Chyngor ar Bopeth yn amcangyfrif y bydd 400,000 o aelwydydd yng Nghymru yn hawlio’r Credyd Cynhwysol erbyn 2023, gan nodi mai dim ond 15 y cant o’r broses o gyflwyno’r budd-dal newydd sydd wedi’i chwblhau.

Gallwch weld yr amcangyfrifon diweddaraf ar gyfer cyflwyno’r Credyd Cynhwysol fesul etholaeth yn yr offeryn hwn gan Lyfrgell Tŷ’r Cyffredin.

Beth yw’r Credyd Cynhwysol?

Mae’r Credyd Cynhwysol yn fudd-dal nawdd cymdeithasol newydd sy’n cael ei gyflwyno’n raddol ledled y DU. Mae’n cymryd lle chwe budd-dal a chredyd treth a roddir yn ôl prawf modd i bobl o oedran gweithio a theuluoedd (a elwir yn fudd-daliadau ‘etifeddol’), sef:

  • Budd-dal Tai;
  • Credydau Treth Gwaith;
  • Credyd Treth Plant;
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm; a
  • Chymhorthdal Incwm

Nid yw’r Credyd Cynhwysol yn cymryd lle budd-daliadau eraill fel Lwfans Byw i’r Anabl (DLA)/Taliad Annibyniaeth Personol (TAP), Budd-dal Plant na Lwfans Gofalwyr.

Cyflwyno’r budd-dal yng Nghymru

Dechreuodd y broses o gyflwyno’r CC yn 2013, ac roedd Llywodraeth y DU wedi bwriadu cwblhau’r broses o gyflwyno’r budd-dal hwn erbyn mis Hydref 2017. Arweiniodd problemau TG a phroblemau gweinyddol at gyfres o oediadau, a’r disgwyl erbyn hyn yw y caiff y broses ei chwblhau erbyn mis Rhagfyr 2023.

Mae pob Canolfan Waith yn y DU bellach yn ganolfan ‘gwasanaeth llawn’, sy’n golygu na ellir gwneud ceisiadau newydd am fudd-daliadau etifeddol (gydag eithriadau cyfyngedig). Nid yw hawlwyr budd-daliadau etifeddol yn symud i’r CC ar unwaith, ond gall newid mewn amgylchiadau arwain at symud i’r CC. Gelwir hyn yn ‘fudo naturiol.’

Bydd hawlwyr budd-daliadau presennol nad yw eu hamgylchiadau wedi newid yn symud i’r CC rhwng mis Gorffennaf 2019 a mis Rhagfyr 2023. Gelwir hyn yn ‘fudo a reolir’. Bydd hyn yn dechrau gyda chynllun peilot o 6 mis yn Harrogate.

Roedd adroddiad a gyhoeddwyd gan Bwyllgor Dethol Gwaith a Phensiynau Tŷ’r Cyffredin ym mis Tachwedd 2018 yn mynegi pryderon difrifol ynghylch mudo a reolir.

Effaith y Credyd Cynhwysol

Mae’n anodd barnu effaith wirioneddol y Credyd Cynhwysol am fod dyluniad y budd-dal wedi newid yn sylweddol ers i’r Adran Gwaith a Phensiynau gyhoeddi ei hasesiad gwreiddiol o’r effaith yn 2012. Pan ofynnwyd a gâi’r asesiad hwn ei ddiweddaru, nododd Llywodraeth y DU, “whilst there have been changes to Universal Credit since the impact assessment in 2012, these have not fundamentally altered the service.”

Ym mis Hydref 2018, trechodd Llywodraeth y DU ymgais gan y Blaid Lafur yn Nhŷ’r Cyffredin i’w gorfodi i ryddhau ei dadansoddiad diweddaraf o effaith y CC.

Rhwng 2012 a 2015, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ystod o asesiadau o effaith diwygio lles.

Mae dadansoddiad newydd gan Lywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2019 yn rhoi trosolwg o effaith y Credyd Cynhwysol ar aelwydydd yng Nghymru (o dudalen 21).

Ym mis Mawrth 2018, cyhoeddodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol asesiad o effaith gronnus diwygiadau treth a lles, sy’n cynnwys data ar gyfer Cymru.

Problemau a newidiadau i’r Credyd Cynhwysol

Fel y nodwyd yn ein blog blaenorol ym mis Hydref 2017, mae yna nifer o bryderon hirdymor ynghylch cyflwyno’r Credyd Cynhwysol.

Lwfans gwaith

Caiff y swm y mae hawlydd yn ei dderbyn o dan y Credyd Cynhwysol ei dynnu’n ôl pan fydd yn dechrau gweithio, ar gyfradd o 63c fesul punt a enillir (cafodd hwn ei ostwng o 65c o fis Ebrill 2017). Fodd bynnag, gall hawlwyr gadw peth o’r incwm a enillir ganddynt (y ‘lwfans gwaith’) cyn iddo ddechrau effeithio ar eu Credyd Cynhwysol. Gostyngwyd y lwfans gwaith o £6,420 i £3,850 yng nghyllideb Llywodraeth y DU yn haf 2015.

Fodd bynnag, cyflwynodd Llywodraeth y DU gynnydd o £1,000 yn y lwfans gwaith i bobl sydd â phlant neu bobl sydd â gallu cyfyngedig i weithio o fis Ebrill 2019. Amcangyfrifodd y Sefydliad Astudiaethau Cyllid y bydd y newid hwn o fudd i 2.4 miliwn o aelwydydd yn y DU, gan ganiatáu iddynt gadw £630 yn ychwanegol o’u hincwm bob blwyddyn.

Amseroedd aros

Mae amseroedd aros am daliad cyntaf y CC yn llawer hirach nag ar gyfer budd-daliadau ‘etifeddol’. Cynyddwyd y cyfnod aros ar gyfer y CC i chwe wythnos ar ôl cyflwyno cyfnod aros ychwanegol o saith diwrnod yn 2015.

Yn 2017, cafodd y cyfnod aros o saith diwrnod ei ddileu, gan leihau’r amser aros cyffredinol o chwech i bum wythnos.

Mae dadansoddiad newydd gan Lywodraeth Cymru yn datgan (yn seiliedig ar waith ymchwil gan yr Ymddiriedolaeth Trussell yn 2017-18) bod aros am y taliad cyntaf yn un o’r prif resymau am y cynnydd mewn defnydd o fanciau bwyd:

“Canfu’r ymchwil, ar gyfartaledd, bod banciau bwyd wedi gweld cynnydd o 52 y cant mewn galw 12 mis ar ôl cyflwyno’r credyd Cynhwysol mewn ardal o gymharu â chynnydd o 13 y cant yn ardaloedd lle nad oed y Credyd /cynhwysol wedi’i gyflwyno eto neu ei fod wedi’i gyflwyno ers 3 mis neu lai.”

Talu rhent yn uniongyrchol i landlordiaid, rhannu taliadau ac amlder y taliadau

Cyflwynwyd Trefniadau Talu Amgen yn 2013 ac maent ar gael i hawlwyr nad ydynt yn gallu ymdopi â thaliad safonol y CC.

Ceir tri math o Drefniadau Talu Amgen:

  • talu costau tai yn uniongyrchol i landlordiaid (a elwir yn daliadau a reolir);
  • rhannu’r taliad rhwng dau berson mewn cwpl; a
  • thalu’r budd-dal yn amlach.

Canfu’r dadansoddiad newydd gan Lywodraeth Cymru:

“O’r 22,630 o aelwydydd yng Nghymru sy’n derbyn taliad Credyd Cynhwysol gyda hawl i gymorth ar gyfer costau tai ym mis Awst 2018, mae ystadegau’r Adran Gwaith a Phensiynau’n dangos bod 20 y cant wedi cael talu eu costau tai’n uniongyrchol i landlord.

Mae ystadegau’r Adran Gwaith a Phensiynau’n dangos hefyd mai dim ond 1 y cant (540) o aelwydydd yng Nghymru oedd yn derbyn taliad Credyd Cynhwysol ym mis Awst 2018 a gafodd eu taliad wedi’i rannu dros y mis i’w dalu mewn dau neu bedwar rhandaliad, trwy Daliadau Amlach y Trefniadau Taliadau Amgen (APA).

Roedd nifer fach iawn o aelwydydd yn cael eu taliad Credyd Cynhwysol wedi’i rannu rhwng y ddau aelod o gwpl, trwy Daliad Hollt APA.”

Cafodd y canllawiau cyfredol ar Drefniadau Taliadau Amgen eu diweddaru ym mis Ebrill 2018 i sicrhau bod yr opsiwn hwnnw’n cael ei gynnig i hawlwyr y CC ar ddechrau eu hawliad CC. Hefyd, ym mis Ionawr, fe wnaeth Llywodraeth y DU gyhoeddi creu system ar-lein i landlordiaid preifat fel y gallant ofyn i rent eu tenantiaid gael ei dalu iddynt yn uniongyrchol.

Hefyd, dywedodd Llywodraeth y DU y byddai mwy’n cael ei wneud i sicrhau bod y CC yn cael ei rannu rhwng dynion a menywod mewn aelwydydd.

Yn 2017, defnyddiodd Llywodraeth yr Alban ei phwerau newydd dros y system les i ganiatáu i denantiaid ofyn am daliadau uniongyrchol ar gyfer rhent a gwasanaethau, ac i ofyn am daliadau ddwywaith y mis, a elwir yn ‘Gredyd Cynhwysol – Deiwisiadau’r Alban’.

Mae Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau y Cynulliad yn trafod ar hyn o bryd a ddylid datganoli pwerau tebyg dros y CC i Gymru.

Taliadau ychwanegol (‘run ons’)

Ym mis Tachwedd 2017, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai pobl sy’n symud o fudd-daliadau etifeddol yn cael pythefnos o fudd-dal tai ychwanegol yn ystod y pum wythnos y maent yn aros am y CC (gelwir y taliad ychwanegol hwn yn ‘run on’ yn Saesneg).

O fis Gorffennaf 2020 ymlaen, caiff pythefnos o daliadau ychwanegol hefyd eu cyflwyno ar gyfer hawlwyr presennol y Lwfans Ceisio Gwaith a’r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth. Fodd bynnag, mae hyn yn golygu na all pobl sy’n symud ymlaen i’r CC rhwng nawr a mis Gorffennaf 2020 elwa o’r newid hwn.

Taliadau ymlaen llaw

Gall yr Adran Gwaith a Phensiynau wneud taliad ymlaen llaw o’r CC i hawlwyr newydd sy’n disgwyl cael trafferth yn gwneud taliadau hanfodol tra byddant yn aros am eu taliad cyntaf.

Yn 2017, newidiodd Llywodraeth y DU uchafswm y dyfarniad i 100 y cant (i fyny o 50 y cant) o’r dyfarniad terfynol amcangyfrifedig, a’i gynnig i bawb. Hefyd, ymestynnodd y cyfnod ad-dalu, felly mae gan hawlwyr 12 mis i’w talu’n ôl yn hytrach na 6 mis.

Didyniadau

Yng Nghyllideb mis Tachwedd 2018, gostyngodd Llywodraeth y DU gyfran y Credyd Cynhwysol y gellir ei didynnu i ad-dalu dyledion presennol o 40 y cant i 30 y cant o’r lwfans safonol – yn gyffredinol o £127.13 i £95.35.

Er bod hyn wedi’i groesawu gan Gyngor ar Bopeth, roedd yn parhau i fynegi pryderon, gan nodi: “deductions in Universal Credit were taken from more than half of all payments in September 2018”.

Ôl-ddyledion rhent

Mae rhai wedi dadlau bod dyluniad y CC (fel y cyfnod aros cychwynnol ar gyfer taliad cyntaf y CC, rhent yn cael ei dalu’n uniongyrchol i’r hawlydd (yn hytrach na’r landlord) a hawlwyr yn symud o daliadau budd-dal wythnosol neu daliadau bob pedair wythnos i daliad misol) wedi arwain at gynnydd mewn ôl-ddyledion rhent.

Mae Cartrefi Cymunedol Cymru yn adrodd bod tenantiaid cymdeithasau tai sy’n derbyn y CC yng Nghymru eisoes mewn dros £1 miliwn o ddyled o ran ôl-ddyledion rhent, yn ôl eu harolwg o sampl o 29 o gymdeithasau tai yng Nghymru.

Hefyd, canfu gwaith ymchwil gan Gyngor ar Bopeth fod pobl sy’n derbyn y CC yn fwy tebygol o fod â dyledion sy’n flaenoriaeth (gan gynnwys ôl-ddyledion rhent ac ôl-ddyledion treth gyngor) na’r bobl sy’n derbyn budd-daliadau etifeddol.

Sancsiynau

Sancsiynau yw gostyngiadau neu ataliadau o daliadau budd-dal oherwydd nad yw person wedi bodloni amodau’r Credyd Cynhwysol. Gallai hyn olygu methu apwyntiadau mewn canolfannau gwaith neu wrthod cynnig o swydd.

Rhwng mis Awst 2015 a mis Tachwedd 2018, codwyd 51,303 o sancsiynau yn erbyn hawlwyr y CC yng Nghymru. Roedd y mwyafrif llethol yn sancsiynau ail isaf. Mewn gwaith ymchwil a amlygwyd yn ymchwiliad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn 2017, awgrymwyd y gallai colli incwm yn sydyn oherwydd i fudd-daliadau gael eu hatal arwain at “severely detrimental financial, material, emotional and health impacts”.

Cymorth tai i bobl rhwng 18 a 21 oed

Yn y gyllideb ar gyfer 2015, cyhoeddwyd na fyddai gan rai pobl rhwng 18 a 21 oed sy’n hawlio’r CC hawl i gael cymorth â’u costau tai. Fodd bynnag, ar ddiwedd mis Mawrth 2018, cafodd y penderfyniad hwn ei wyrdroi gan Lywodraeth y DU, felly byddai gan bob person ifanc rhwng 18 a 21 oed yr hawl i hawlio cymorth ar gyfer costau tai o fewn y CC. Byddai’r newid hwn wedi effeithio ar 500 o bobl yng Nghymru erbyn 2020-21, yn ôl dadansoddiad Llywodraeth Cymru.

Cyfyngiadau ar deuluoedd sydd â mwy na dau blentyn

O 2017, cafodd yr elfen deuluol o’r Credyd Cynhwysol (sy’n dyfarnu arian ychwanegol ar gyfer pob plentyn) ei chyfyngu i’r ddau blentyn cyntaf mewn teulu.

Fodd bynnag, ar 11 Ionawr, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai teuluoedd sy’n gwneud hawliad ar gyfer y CC, y cafodd eu plant i gyd eu geni cyn gweithredu’r polisi (hynny yw, 6 Ebrill 2017), yn cael eu heithrio o’r polisi hwn (amcangyfrifir y byddai 15,000 o deuluoedd ledled y DU yn elwa o hyn).

Fodd bynnag, i’r teuluoedd hynny y cafodd y trydydd plentyn ei eni ar ôl mis Ebrill 2017, ni fydd y newid hwn yn cael unrhyw effaith ac ni fydd yn newid effaith hirdymor y polisi arnynt, oherwydd y bydd pob plentyn wedi ei eni ar ôl Ebrill 2017, gydag amryw eithriadau ar gyfer genedigaethau lluosog, mabwysiadu ac ati.


Erthygl gan Hannah Johnson, Senedd Ymchwil, Cynulliad Cenedlaethol Cymru