Mae’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn cynnal sesiwn ar 11 Gorffennaf 2025 gydag Eluned Morgan AS, y Prif Weinidog, i graffu ar gyflawniad ei blaenoriaethau a'r Rhaglen Lywodraethu, wrth i ddiwedd ei blwyddyn gyntaf yn y swydd agosáu.
Rydym wedi llunio papur briffio sy’n nodi’r wybodaeth gefndir berthnasol a rhai o’r prif faterion y gallai'r Pwyllgor eu trafod.
Gellir gwylio’r cyfarfod yn fyw, neu ar alw, ar Senedd.tv. Bydd trawsgrifiad ar gael ychydig ddyddiau ar ôl y cyfarfod.
Erthygl gan Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru.