Mae'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn cynnal sesiwn ar 13 Mawrth 2026 gyda'r Prif Weinidog, Eluned Morgan AS, i graffu ar gyflawniad Llywodraeth Cymru o'i Rhaglen Lywodraethu yn ystod tymor hwn o’r Senedd.
Rydym wedi llunio papur briffio sy’n nodi’r wybodaeth gefndir berthnasol a rhai o’r prif faterion y gallai'r Pwyllgor eu trafod.
Gellir gwylio’r cyfarfod yn fyw, neu ar alw, ar Senedd.tv. Bydd trawsgrifiad ar gael ychydig ddyddiau ar ôl y cyfarfod.
Erthygl gan Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru