Grŵp o bobl yn eistedd wrth ddesgiau mewn ystafell ddosbarth, yn dal pensiliau a phapurau yn ystod trafodaeth neu wers.

Grŵp o bobl yn eistedd wrth ddesgiau mewn ystafell ddosbarth, yn dal pensiliau a phapurau yn ystod trafodaeth neu wers.

Craffu ar waith y Prif Weinidog ynghylch addysg, pobl ifanc a chenedlaethau’r dyfodol

Cyhoeddwyd 12/12/2025   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 12/12/2025

Mae’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn cynnal sesiwn ar 12 Rhagfyr 2025 gydag Eluned Morgan AS, y Prif Weinidog, gan ganolbwyntio ar faterion yn ymwneud ag “addysg, pobl ifanc a chenedlaethau’r dyfodol”.

Rydym wedi llunio papur briffio sy’n nodi rhai o’r prif faterion y gallai'r Pwyllgor eu trafod.

Bydd y Pwyllgor hefyd yn craffu ar waith y Prif Weinidog ar faterion cyfoes yn ei gyfarfod ar 12 Rhagfyr 2025.

Gellir gwylio’r cyfarfod yn fyw, neu ar alw, ar SeneddTV. Bydd trawsgrifiad ar gael ychydig ddyddiau ar ôl y cyfarfod.

 

Erthygl gan Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru