Yr wythnos nesaf bydd yr Aelodau'n trafod adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith yn dilyn ei waith craffu blynyddol ar Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Dyma rai pwyntiau allweddol cyn y ddadl:
- Bu'r Pwyllgor yn canolbwyntio ar dri phrif fater yn ystod y gwaith craffu, sef: strwythurau llywodraethu Cyfoeth Naturiol Cymru; y pwysau cyllidebol arno a'i reolaeth; a nifer o faterion cyfoes gan gynnwys heriau o ran bioamrywiaeth, llygredd amaethyddol a phlannu coed.
- O ran strwythurau llywodraethu, argymhellodd y Pwyllgor fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i ddatblygu Cytundebau Lefel Gwasanaeth (SLAs) ar gyfer pob maes gwaith. Mae’r rhain wedi’u datblygu’n ddiweddar ar gyfer meysydd allweddol, ac fe’u defnyddir i ddiffinio’r hyn y gall y sefydliad ei gyflawni am yr arian a ddyrennir iddo gan Lywodraeth Cymru.
- Cafodd y ddau argymhelliad ynghylch Cytundebau Lefel Gwasanaeth eu gwrthod gan Lywodraeth Cymru, a dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru y bydd nawr yn canolbwyntio ar ddatblygu 'cynlluniau aml-flwyddyn' yn lle Cytundebau Lefel Gwasanaeth.
- O ran y pwysau cyllidebol arno, cydnabu’r Pwyllgor fod Cyfoeth Naturiol Cymru “yn wynebu diffyg cyllid sylweddol, sydd wedi gwaethygu yn sgil costau cynyddol a dyraniadau cymorth grant nad ydynt yn cyd-fynd â chwyddiant”.
- Roedd argymhellion y Pwyllgor yn canolbwyntio ar leihau effeithiau negyddol cyhyd ag y bo modd, ar gynnal gwasanaethau ac ar ymgysylltu â rhanddeiliaid ynghylch penderfyniadau ailstrwythuro. Nodwyd rhagor o fanylion ar leihau gwasanaethau ac ailstrwythuro Cyfoeth Naturiol Cymru yn y cyfryngau ers hynny.
- O ran bioamrywiaeth, mynegodd y Pwyllgor bryder ynghylch lefelau staffio ac adnoddau presennol y sefydliad, a’u bod yn annigonol i gyflawni ei nodau. Mae ymateb Llywodraeth Cymru yn cyfeirio at “adolygiad beirniadol” Cyfoeth Naturiol Cymru o’r modd y mae’n darparu ei wasanaethau, a’r cynigion ar gyfer ‘Bil Natur’, a gyhoeddwyd yn ddiweddar ac a ddisgwylir yn ystod cyfnod y Senedd hon.
- Mae’r Pwyllgor hefyd yn pryderu am y dull gweithredu newydd o ran rheoli llygredd amaethyddol, gan gynnwys yr “anghydweld sylweddol” ymhlith rhanddeiliaid, am ddyrannu adnoddau digonol ar gyfer monitro a gorfodi yn hyn o beth, a thryloywder adolygiad statudol sydd i’w gynnal cyn bo hir.
Gallwch wylio’r ddadl yn fyw ar Senedd TV ddydd Mercher nesaf, 2 Hydref.
Erthygl gan Lorna Scurlock, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru