Craffu ar Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru: Pigion

Cyhoeddwyd 22/09/2025

Ddydd Mercher bydd y Senedd yn trafod adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith yn dilyn ei sesiwn graffu flynyddol ddiweddaraf gyda Chomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru.

Dyma rai pwyntiau allweddol cyn y ddadl:

  • Mae Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru yn gorff cynghori annibynnol, anstatudol i Weinidogion Cymru. Ei ddiben allweddol yw gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru ar anghenion seilwaith hirdymor Cymru dros gyfnod o 5 i 80 mlynedd.
  • Yn ystod ei sesiwn graffu flynyddol ddiweddaraf ym mis Chwefror, holodd y Pwyllgor Gadeirydd y Comisiwn am faterion yn cynnwys ei gyllideb, ei annibyniaeth a sut mae'n ymateb i adolygiad Llywodraeth Cymru o'r Comisiwn.
  • Craffodd yr Aelodau hefyd ar raglen waith y Comisiwn, yn enwedig ei waith ar lifogydd, a helpodd hefyd i lywio’r adroddiad a gyhoeddwyd gan y Pwyllgor yn ddiweddar ar ymateb i stormydd.
  • Cyhoeddodd y Comisiwn ei adroddiad 'Meithrin y Gallu i Wrthsefyll Llifogydd yng Nghymru erbyn 2050' ym mis Hydref 2024. Gwnaeth 17 o argymhellion i Lywodraeth Cymru ar faterion a oedd yn cynnwys cynllunio defnydd tir, ymwybyddiaeth y cyhoedd, cyllid addasu i’r hinsawdd, cyllid a data risg llifogydd. Galwodd hefyd am sefydlu Comisiynydd Dŵr a Fforwm Gwrthsefyll Dŵr newydd, ac i Lywodraeth Cymru ddarparu cymorthdaliadau i berchnogion tai incwm isel i feithrin cydnerthedd rhag llifogydd ar lefel yr eiddo
  • Ymatebodd Llywodraeth Cymru i’r Comisiwn ym mis Ebrill. Derbyniodd rai o argymhellion y Comisiwn ond nid pob un ohonynt.
  • Mae adroddiad y Pwyllgor – pwnc dadl yr wythnos hon - yn gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru a’r Comisiwn. Ar y cyfan, daeth y Pwyllgor i’r casgliad bod y Comisiwn wedi parhau i gynhyrchu adroddiadau heriol a gwerth chweil. Fodd bynnag, roedd yn cwestiynu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i’r Comisiwn, gan dynnu sylw at oedi wrth ymateb i adroddiadau, ffocws cul ei adolygiad, a’r ansicrwydd ynghylch y gyllideb a rolau Comisiynwyr yn y dyfodol. Dywedodd y Pwyllgor hefyd nad oedd wedi gweld tystiolaeth bod cyngor y Comisiwn yn llywio penderfyniadau Llywodraeth Cymru nac yn sicrhau eu bod yn addas ar gyfer y dyfodol.
  • Mae’r Comisiwn a Llywodraeth Cymru wedi ymateb i adroddiad y Pwyllgor – mae holl argymhellion y Pwyllgor i Lywodraeth Cymru wedi’u derbyn neu wedi’u derbyn mewn egwyddor.

Gallwch wylio'r ddadl yn fyw ar Senedd TV ddydd Mercher 24 Medi. 

Erthygl gan Francesca Howorth, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru.