Costau cynyddol a diwylliant a chwaraeon: “mae’r argyfwng sy’n wynebu’r sector erbyn hyn yr un mor fawr ag unrhyw beth a welsom yn y ddwy flynedd diwethaf”

Cyhoeddwyd 24/01/2023   |   Amser darllen munudau

Ar 25 Ionawr bydd y Senedd yn trafod adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol (y Pwyllgor Diwylliant) ar effaith y cynnydd mewn costau byw ar ddiwylliant a chwaraeon.

Roedd diwylliant a chwaraeon yn dal i adfer o’r pandemig pan ddaeth hi’n amlwg beth oedd graddau y cynnydd mewn costau byw. Mae gweithredwyr yn cael eu gwasgu o’r ddwy ochr – gyda llai o arian yn dod i mewn gan gwsmeriaid sy’n brin o arian parod, a mwy yn mynd allan ar gyfleustodau a chostau eraill.

Galwodd adroddiad y Pwyllgor Deisebau am gyllid ychwanegol wedi’i dargedu i’r sectorau chwaraeon a diwylliant i helpu lleoliadau a sefydliadau sy’n wynebu’r posibilrwydd o orfod cau ond sydd â dyfodol cynaliadwy y tu hwnt i’r argyfwng uniongyrchol. Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn, ond mae’r swm sy’n cael ei ddarparu yn ffracsiwn o’r hyn y mae’r sector wedi galw amdano.

Ers i’r Pwyllgor gyhoeddi ei adroddiad ym mis Tachwedd 2022, mae Llywodraeth y DU wedi lleihau’r cymorth y bydd yn ei roi gyda biliau ynni. Mae UK Active (mudiad sy’n cynrychioli campfeydd a chanolfannau hamdden) a’r Ymddiriedolaeth Lleoliadau Cerddoriaeth (mudiad sy’n cynrychioli lleoliadau cerddoriaeth fyw) wedi rhybuddio y gallai hyn arwain at gau lleoliadau’n barhaol.

Effaith hir y pandemig

Roedd gwaharddiad ar grwpiau yn cymryd rhan mewn diwylliant a chwaraeon yn ystod rhan helaeth o gyfnod acíwt y pandemig. Er i’r cyfyngiadau terfynol gael eu codi ar ddechrau 2022, mae cyfranogiad yn parhau i fod yn is na lefelau 2019, wrth i effeithiau hirdymor y pandemig uno ag effeithiau costau byw uwch. Ym mis Medi 2022 dywedodd Cyngor Celfyddydau Cymru (elusen sy’n ariannu a datblygu’r celfyddydau) fod cynulleidfaoedd ddim ond yn 60% hyd 80% o'u lefel cyn y pandemig.

Gadawodd y pandemig waddol o gyfranogiad anghyfartal mewn chwaraeon, gyda dynion, oedolion hŷn, y rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is a’r rhai â chyflwr neu salwch hirsefydlog yn fwyaf tebygol o deimlo bod y pandemig wedi effeithio’n negyddol ar eu harferion ymarfer corff. Mae Cymdeithas Chwaraeon Cymru (corff aelodaeth ar gyfer y diwydiant chwaraeon a hamdden) yn nodi bod presenoldeb mewn lleoliadau a digwyddiadau chwaraeon tua 70-90% o gyfraddau 2019.

Mae’r data diweddaraf (Awst 2022) gan Chwaraeon Cymru (y sefydliad cenedlaethol ar gyfer chwaraeon a gweithgarwch corfforol) yn dangos bod 41% o bobl yn dweud bod yr argyfwng costau byw wedi lleihau eu gallu i fod yn actif.

Ymysg effeithiau eraill y pandemig mae llai o arian wrth gefn a phrinder staff. Mae Cyngor y Celfyddydau yn egluro, “hyd yn oed mewn cyfnod da, mae bywyd ariannol ein sefydliadau’n fregus.“. Ar ôl gwario er mwyn oroesi’r diffyg gweithgarwch yn yr hirdymor, nid oes gan sefydliadau lawer ar ôl i lenwi bylchau sy’n cael eu hachosi gan leihad yn eu hincwm presennol.

Yn ôl Owen Hathway o Chwaraeon Cymru, roedd goroesi’r pandemig yn “a bit of a Herculean effort […] If the pandemic hadn't happened, the cost-of-living increase, currently, might be more negotiable, but we are compounding two issues, which are obviously leading towards a much worse impact”

Gadawodd llawer o weithwyr y sector diwylliannol yn ystod y pandemig, i chwilio am waith â chyflog gwell a llai o ansicrwydd, ac nid yw pob un wedi dychwelyd. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn nodi bod 40% o’r sefydliadau a holwyd yn ei chael hi'n anodd llenwi swyddi gwag.

Mae’n anodd troi nôl ar ôl cau

Mae llai o gyfranogiad yn cael effaith uniongyrchol ar y rhai sy'n colli allan ar ddiwylliant a chwaraeon, ac yn lleihau incwm masnachol sefydliadau. Ond byddai cau lleoliadau, a allai fod yn barhaol, yn amharu ar gyfranogiad am flynyddoedd i ddod.

Yn ystod cyfnod masnachu arferol, mae lleoliadau cerddoriaeth llawr gwlad yn gweithredu gyda maint elw tynn – os elw o gwbl. Mae’r rhain yn cael eu gwasgu gan chwyddiant ar hyd eu cadwyni cyflenwi a llai o incwm. Tenantiaid yw 93% o leoliadau cerddoriaeth llawr gwlad. Yn ôl yr Ymddiriedolaeth Lleoliadau Cerddoriaeth, mae cau lleoliadau yn debygol o arwain at golli’r gofodau diwylliannol hyn yn barhaol ymhlith cymunedau. Mae amodau’r farchnad anodd yn debygol o beri gofid i ddarpar weithredwyr lleoliadau, ac mae landlordiaid yn debygol o osod yr unedau hyn, sy’n aml wedi’u lleoli yng nghanol dinasoedd, at ddefnyddiau eraill fel manwerthu.

Mae defnydd uchel o ynni, yn ogystal â chynnydd mewn costau ar gyfer cemegau hanfodol, yn rhoi pyllau nofio mewn sefyllfa fregus iawn. Unwaith y byddant wedi cau, mae costau ailagor cyfleusterau hamdden yn helaeth. Mae Cymdeithas Chwaraeon Cymru yn nodi bod angen buddsoddiad sylweddol i ailgychwyn pympiau, gwresogyddion a phrofion halogiad, ac felly os bydd costau cynyddol yn arwain at gau lleoliadau hamdden cyhoeddus a phreifat, maent yn rhagweld ei bod yn annhebygol y byddant yn ailagor.

Galw am gyllid ychwanegol wedi’i dargedu ar gyfer cyrff sydd â “dyfodol cynaliadwy y tu hwnt i’r argyfwng uniongyrchol”

“Mae’r argyfwng sy’n wynebu’r sector erbyn hyn”, dywedodd Cyngor y Celfyddydau wrth y Pwyllgor Diwylliant “yr un mor fawr ag unrhyw beth a welsom yn y ddwy flynedd diwethaf”. Galwodd am fuddsoddiad ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i sefydlu cronfa gwerth £5-10 miliwn, ar gyfer y celfyddydau yn unig, a fydd yn helpu i sefydlogi cwmnïau mewn cyfnod tyngedfennol.

Cytunodd y Pwyllgor, ac argymellodd y dylai Llywodraeth Cymru “roi cyllid ychwanegol wedi’i dargedu i’r sectorau chwaraeon a diwylliant i helpu lleoliadau a sefydliadau sy’n wynebu’r posibilrwydd o orfod cau ond sydd â dyfodol cynaliadwy y tu hwnt i’r argyfwng uniongyrchol.” Fel arall, roedd yn teimlo y byddai’r £140 miliwn a fuddsoddwyd gan Lywodraeth Cymru i gadw’r sectorau hyn i fynd yn ystod y pandemig yn cael ei wastraffu.

Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn. Yn ei ymateb tynnodd sylw at £3.75 miliwn ychwanegol ar gyfer diwylliant a chwaraeon yn ystod blwyddyn ariannol 2022-23 i helpu gydag “effeithiau aruthrol chwyddiant ar gostau cyfleustodau a chostau byw cyrff hyd braich a sefydliadau yn y sector lleol”. Nid yw’r cyllid ychwanegol hwn wedi arwain at gyllid wedi’i dargedu i helpu sefydliadau i oroesi’r cyfnod o gostau uwch, fel y galwodd Cyngor y Celfyddydau a’r Pwyllgor amdano.

Mae cyllideb ddrafft 2023-24 yn cynnwys mwy o gyllid refeniw o 3-7% ar gyfer cyrff diwylliant a chwaraeon a ariennir gan Lywodraeth Cymru (yr Ardd Fotaneg Genedlaethol yw’r unig gorff i weld ei gyllid yn cael ei dorri). Mae’n ymddangos y bydd yr enillion cymedrol hyn yn cael eu herydu gan chwyddiant, sy’n 10.5%.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Celfyddydau a Chwaraeon nad yw cyllid ychwanegol yn ymarferol, ac y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i wneud popeth o fewn ei gallu i geisio sicrhau bod y sefydliadau hyn yn cael eu cefnogi’n effeithiol. Roedd hi eisoes wedi gwrthod galwad y Pwyllgor i drafod pecyn ariannu brys diwylliant a chwaraeon ar gyfer y DU gyfan gyda Llywodraeth y DU, gan ddweud mai “mater i Lywodraeth y DU yw hwn”.

“Mae’n annigonol, felly mae’n siŵr o arwain at gau lleoliadau’n barhaol”

Ym mis Medi 2022 roedd Cynllun Rhyddhad ar Filiau Ynni Llywodraeth y DU yn achubiaeth i’r rhai sy’n delio â chostau ynni cynyddol. Ond mae cynllun wedi’i gwtgoi, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2023, ac a ddisgwylir iddo ddechrau ym mis Ebrill, wedi arwain at bryderon bod cau lleoliadau ar raddfa eang wedi’i ohirio, ond nid ei osgoi.

Roedd Llywodraeth y DU bob amser wedi bod yn glir mai lefelau cymorth dros dro oedd y rhai a gyhoeddwyd ym mis Medi. O fis Ebrill 2023, bydd llai o gymorth ar gael, er bod rhai sectorau – gan gynnwys amgueddfeydd, llyfrgelloedd a safleoedd hanesyddol – yn cael cymorth ychwanegol.

Dywedodd yr Ymddiriedolaeth Lleoliadau Cerddoriaeth fod y cynllun newydd yn annigonol, felly mae’n siŵr o arwain at gau lleoliadau’n barhaol.” Dywedodd UK Active y bydd yn achosi cyfyngiadau gwasanaeth pellach, cau lleoliadau, a cholli swyddi.

Gall y cynnydd mewn costau byw wneud yr hyn na lwyddodd y pandemig, sef dinistrio’r sectorau diwylliant a chwaraeon.


Erthygl gan Robin Wilkinson, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru