Coronafeirws: Yr effaith economaidd ar draws gwahanol rannau o Gymru

Cyhoeddwyd 01/10/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Yn yr un modd ag y bydd y coronafeirws yn cael effaith wahanol ar wahanol rannau o’r DU, mae hyn hefyd yn wir am wahanol ardaloedd yng Nghymru.

Mae'r erthygl hon yn trafod pa ddata y gall awdurdodau lleol eu rhannu am sut mae gwahanol rannau o Gymru yn cael eu heffeithio o ran diweithdra, gweithwyr yn cael eu rhoi ar gynllun ffyrlo, swyddi gwag sydd ar gael, cau busnesau dros dro mewn 'sectorau sydd wedi’u cau’n llwyr', a llai o allbwn economaidd.

Er bod amrywiadau o ran ardaloedd a mesurau ar waith, yr awdurdodau lleol mewn ardaloedd gwledig ac yn y Cymoedd yw’r rhai y mae’r pandemig wedi effeithio fwyaf arnynt hyd yma.

Yr effaith ar y gweithlu

Y dangosydd diweddaraf ar gyfer diweithdra yw'r nifer o bobl sy’n hawlio budd-daliadau, ond mae rhai cyfyngiadau i hyn. Mae'r cyfrif hwn yn cynnwys pobl sydd naill ai'n hawlio Lwfans Ceisio Swydd neu sy'n gorfod chwilio am waith fel amod i dderbyn Credyd Cynhwysol.

Gan y bu ambell newid i drefniadau Credyd Cynhwysol yn ystod y misoedd diwethaf, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn awgrymu y gallai hyn fod wedi cynyddu nifer y bobl mewn gwaith sy'n gymwys i gael Credyd Cynhwysol a fyddai'n cael eu cynnwys yn y nifer o bobl sy’n hawlio budd-daliadau. Mae hyn yn golygu na fydd yr holl gynnydd dros y misoedd diwethaf yn sgil cynnydd mewn diweithdra.

Ym mis Awst 2020, Casnewydd oedd â'r gyfradd uchaf o bobl sy’n hawlio budd-daliadau ymhlith awdurdodau lleol Cymru, sef 7.8% o bobl 16-64 oed (i fyny o 4.2% ym mis Mawrth 2020), ac yna Merthyr Tudful, Blaenau Gwent a Chonwy.

Rhwng mis Mawrth ac Awst 2020, gwelwyd cynnydd yn nifer y bobl sy’n hawlio budd-daliadau yn holl awdurdodau lleol Cymru, gan ddyblu mewn 13 o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru. Roedd nifer yr hawlwyr ym Mhowys ym mis Awst 2020 dros ddwywaith a hanner yn uwch nag ydoedd ym mis Mawrth 2020. Rhwng mis Mawrth ac Ebrill, ar ddechrau'r pandemig, y gwelwyd y cynnydd mwyaf ledled Cymru, gyda chynnydd llai dros yr ychydig fisoedd diwethaf.

Yng Nghaerdydd a rhai o’r awdurdodau lleol yn y Cymoedd ac ardaloedd gwledig, gwelwyd y cynnydd canrannol mwyaf yn y gyfradd o bobl a oedd yn hawlio budd-daliadau rhwng mis Mawrth ac Awst 2020.

Ffigur 1: Cyfrif y bobl a oedd yn hawlio budd-daliadau fel canran o bobl ifanc 16-64 oed, Awst 2020

Figure 2: Percentage change in claimant count between March 2020 and August 2020

Graff yn dangos y cynnydd canrannol yng nghyfradd y bobl sy’n hawlio budd-daliadau yn awdurdodau lleol Cymru rhwng Mawrth 2020 ac Awst 2020.

Ffigur 3: Newid canrannol yng nghyfradd y bobl a oedd yn hawlio budd-daliadau rhwng Mawrth 2020 ac Awst 2020

Graff yn dangos y cynnydd canrannol yng nghyfradd y bobl sy’n hawlio budd-daliadau yn awdurdodau lleol Cymru rhwng Mawrth 2020 ac Awst 2020.Ffynhonnell ar gyfer y mapiau a’r graffiau yn ffigurau 1-3: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, NOMIS – Nifer y bobl sy’n hawlio budd-dal diweithdra yn ôl rhyw ac oedran

Mae Llywodraeth y DU wedi ceisio amddiffyn swyddi ac incwm drwy greu'r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws, neu'r cynllun ffyrlo, ac mae hwnnw wedi talu’r rhan fwyaf o gyflog rhai gweithwyr ers dechrau'r pandemig. Mewn nifer o awdurdodau lleol, â’r rhan fwyaf ohonynt mewn ardaloedd gwledig, mae dros 30% o swyddi wedi cael eu cefnogi drwy'r cynllun hwn am o leiaf rywfaint o’r cyfnod rhwng mis Mawrth a mis Mehefin 2020.

Ffigur 4: Canran y swyddi a gefnogwyd gan y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws rhwng Mawrth a Mehefin 2020 ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru

Ffynhonnell: Cyllid a Thollau EM, Ystadegau’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws: Awst 2020

I'r rhai sy'n chwilio am waith, mae nifer y swyddi gwag hefyd yn sylweddol is na chyn y pandemig mewn rhai rhannau o Gymru, er bod y Sefydliad Astudiaethau Cyflogaeth yn nodi bod “rhai arwyddion o adferiad yn y farchnad lafur wrth i fesurau cloi gael eu llacio”.

Mae’r Sefydliad Astudiaethau Cyflogaeth wedi canfod bod tri awdurdod lleol yng Nghymru, sef Casnewydd, Torfaen a Sir Gaerfyrddin, sydd â llai na hanner lefel y swyddi gwag ym mis Awst o gymharu â chanol mis Mawrth, ac roedd gan 17 o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru lai o swyddi gwag ym mis Awst nag yng nghanol mis Mawrth. Fodd bynnag, roedd gan holl awdurdodau lleol Cymru fwy o swyddi gwag ym mis Awst nag ym mis Gorffennaf, gydag awdurdodau yn ne Cymru yn gweld y cynnydd mwyaf.

Roedd y Sefydliad Astudiaethau Cyflogaeth hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod gan rannau o’r Cymoedd nifer uchel iawn o bobl di-waith fesul swydd wag oedd ar gael, yn yr un modd ag ardaloedd ôl-ddiwydiannol eraill yng nghanolbarth yr Alban a gogledd Lloegr. Yn benodol, mae gan Rhondda Cynon Taf 37 hawlydd am bob swydd wag sydd ar gael, ac mae gan Merthyr Tudful 35 hawlydd am bob swydd wag.

Yr effaith ar fusnesau a sectorau

Ym mis Mawrth 2020, gorchmynnodd Llywodraeth Cymru fod rhaid i fusnesau mewn nifer o sectorau gau dros dro, megis tafarndai, bwytai, lletyau gwyliau a siopau manwerthu nad ydynt yn hanfodol. Yn dilyn y cyfnod clo, dechreuodd rhai busnesau ailagor o fis Mai ymlaen, gydag eraill yn cael ailagor yn fwy diweddar, ac mae ychydig iawn o adeiladau gan fusnesau (fel theatrau, clybiau nos a lleoliadau cerddoriaeth fyw) yn parhau ar gau.

Awdurdodau lleol yn y Cymoedd ac yng Ngogledd Cymru sydd â'r ganran uchaf o fusnesau mewn sectorau yr oedd yn rhaid iddynt gau yn ystod y pandemig. Yn Nghonwy a Chastell-nedd Port Talbot, mae 23% o fusnesau yn y sectorau hyn sydd wedi cau yn llwyr.

Mae'r sectorau a gaewyd yn llwyr yn cyflogi dros 20% o'r gweithlu yn Ngwynedd a Sir Benfro, ac yn cyflogi'r ganran isaf o'r gweithlu yn awdurdodau lleol y Cymoedd.

Ffigur 5: Canran y busnesau mewn sectorau yr oedd yn rhaid iddynt gau, 2019

Graff yn dangos canran y busnesau ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru yn 2019 a oedd mewn 'sectorau a gaewyd yn llwyr'.Ffynhonnell: Dadansoddiad y Gwasanaeth Ymchwil o'r Swyddfa Ystadegau Gwladol, NOMIS – Cyfrif Busnesnau’r DU Mentrau yn ôl diwydiant a maint band cyflogaeth, gan ddefnyddio’r categori 'sector wedi eu cau yn llwyr' gan Lywodraeth Cymru yn Coronafeirws a chyflogaeth: dadansoddiad ar nodweddion gwarchodedig

Ffigur 6: Canran y gweithlu a gyflogir mewn sectorau yr oedd yn rhaid iddynt gau, 2019

Graff yn dangos canran y gweithlu ym mhob awdurdod lleol yng NghymruFfynhonnell: Dadansoddiad y Gwasanaeth Ymchwil o Coronafeirws a chyflogaeth: dadansoddiad ar nodweddion gwarchodedig gan Lywodraeth Cymru, a NOMIS - Arolwg Poblogaeth Blynyddol gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol

Effaith ar allbwn economaidd

Ym mis Ebrill-Mehefin 2020, gostyngodd Cynnyrch Domestig Gros y DU 20.4%, sef y cwymp mwyaf a welwyd ers i'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ddechrau cyhoeddi data chwarterol ym 1955. Mae'r DU bellach mewn dirwasgiad, yn dilyn dau chwarter lle mae’r Cynnyrch Domestig Gros wedi gostwng.

Y sectorau o'r economi a welodd ostyngiad chwarterol o 30% neu fwy mewn Cynnyrch Domestig Gros oedd Bwyd a Llety; Gwasanaethau Eraill (gan gynnwys y Celfyddydau, Adloniant a Hamdden); Adeiladu; ac Addysg. Yn ogystal gwelwyd gostyngiadau chwarterol o 20-30% ym meysydd Iechyd a Gwaith Cymdeithasol; Proffesiynol a Gwyddoniaeth; Gweithgynhyrchu; a Manwerthu a Chyfanwerthu.

Mae’r graff isod gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar ffigurau awdurdodau lleol ar gyfer allbwn economaidd yn dangos mai awdurdodau diwydiannol a gwledig sydd â'r ganran fwyaf o allbwn economaidd yn y sectorau a amlinellir uchod. Mewn cyferbyniad, roedd y ddwy ddinas fwyaf yng Nghymru ymhlith yr awdurdodau gyda'r ganran isaf o allbwn economaidd yn y sectorau yr effeithiwyd arnynt.

Ffigur 7: Canran allbwn economaidd yn 2018 mewn sectorau a welodd y gostyngiad mwyaf mewn Cynnyrch Domestig Gros ym mis Ebrill-Mehefin 2020

Graff yn dangos canran allbwn economaidd pob awdurdod lleol yng Nghymru yn y sectorau yr effeithir arnynt fwyaf gan y coronafeirws.Ffynhonnell: Dadansoddiad gan y Gwasanaeth Ymchwil o Amcangyfrif chwarterol cyntaf Cynnyrch Domestig Gros, y DU: Ebrill i Mehefin 2020 a Gwerth ychwanegol gros rhanbarthol (wedi’i gydbwyso) yn ôl diwydiant: awdurdodau lleol yn ôl rhanbarth NUTS1 gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol

Gall dirwasgiad effeithio ar yr economi am nifer o flynyddoedd wedi hynny. Er enghraifft, ar ôl dirwasgiad 2008, a welodd gwymp cyffredinol llai mewn allbwn economaidd na'r dirwasgiad presennol, cymerodd tan ganol 2013 i economi'r DU adfer i'r maint ydoedd cyn y dirwasgiad.

Mae’r Ganolfan Polisi Blaengar yn nodi y gall rhai awdurdodau lleol yng Nghymru gymryd cryn amser i adfer y gwerth ychwanegol gros a gollwyd. Mae’n awgrymu mai Blaenau Gwent, Merthyr Tudful, Casnewydd, Sir Benfro a Rhondda Cynon Taf yw’r awdurdodau lleol yng Nghymru sydd fwyaf agored i gael eu heffeithio’n economaidd dros y tymor hir. Mae’r Ganolfan hefyd yn nodi ffactorau creiddiol posibl a allai effeithio ar y modd y gall ardaloedd lleol wella ar ôl y dirwasgiad, megis lefelau sgiliau a diweithdra cyn y dirwasgiad. Mae’r Ganolfan Trefi yn tynnu sylw at y ffaith bod trefi arfordirol a cyn-ddiwydiannol yn arbennig o debygol o fod â lefelau isel o wytnwch cymdeithasol ac economaidd, gan nodi nifer o drefi yng Nghymru fel Glynebwy, Merthyr Tudful, Aberpennar, Y Rhyl a Thredegar fel ardaloedd sy'n wynebu effeithiau tymor byr a thymor hir y pandemig.


Erthygl gan Gareth Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Rydym wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau ar y pandemig coronafeirws, gan gynnwys erthygl sy’n nodi’r cymorth a’r canllawiau sydd ar gael i bobl yng Nghymru ac amserlen o ymateb llywodraethau Cymru a’r DU.

Gallwch weld ein holl gyhoeddiadau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy glicio yma. Caiff pob un ei ddiweddaru’n rheolaidd.