Mae gwledydd ledled y byd yn wynebu’r dirwasgiadau economaidd mwyaf difrifol ers bron i ganrif oherwydd pandemig y coronafeirws. Mae’r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd, sy'n arwain ar adferiad Cymru yn dilyn y pandemig wedi dweud:
Mae’r coronafeirws wedi cael cryn effaith ar bob gwlad yn y byd ac ar Gymru. Yn ogystal â’r risgiau iechyd; mae swyddi yn y fantol; mae arian cyhoeddus yn y fantol; mae ein cymunedau bregus yn y fantol.
Does dim dwywaith nad ydym ni’n wynebu heriau enfawr, digynsail.
Mae'r erthygl hon yn defnyddio'r data sydd ar gael i ystyried yr effaith ar allbwn economaidd, busnesau, sectorau, y farchnad lafur, ac ar wahanol grwpiau yng nghymdeithas Cymru. Byddwn yn cyhoeddi erthygl ar wahân ar ystadegau sy'n ymwneud â'r mesurau cymorth busnes a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
Effaith ar allbwn economaidd
Ym mis Ebrill 2020, gostyngodd Cynnyrch Domestig Gros y DU (GDP) 20.4%, y cwymp misol mwyaf ers i'r cofnodion ddechrau. Mae’r GDP yn mesur gwerth nwyddau a gwasanaethau a gynhyrchir, ac mae'n fesur o dwf economaidd.
Er nad oes ffigurau GDP misol ar gyfer Cymru ar gael, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn llunio ffigurau chwarterol, ond ni fydd y rhain ar gael ar gyfer cyfnod y pandemig tan yn ddiweddarach eleni.
Yn y cyfamser, mae’r Ganolfan Ragoriaeth Ystadegau Economaidd a sefydlwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cyhoeddi amcangyfrifon chwarterol o’r GDP ar gyfer y cenhedloedd datganoledig a rhanbarthau Lloegr ar gyfer chwarter cyntaf 2020. Mae'r set ddata hon yn edrych ar dwf hanesyddol y cenhedloedd datganoledig a rhanbarthau Lloegr yn ogystal â ffactorau fel prisiau olew a chwyddiant. Mae'n defnyddio'r rhain i amcangyfrif sut mae gostyngiad GDP y DU ar gyfer chwarter 1 wedi’i rannu ar draws gwahanol rannau'r DU.
Ffigur 1: Amcangyfrifon o’r newid mewn Cynnyrch Domestig Gros (GDP) ar gyfer y cenhedloedd datganoledig a rhanbarthau Lloegr yn chwarter 1, 2020
Ffynhonnell: Canolfan Ragoriaeth Ystadegau Economaidd, Regional growth at the start of Covid-19: What happened across the UK in Q1 2020?
Yr effaith ar fusnesau
Mae’r arolwg diweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar y coronafeirws a'r effeithiau economaidd ar y DU yn dangos ar ddiwedd mis Mai:
- Roedd 20% o fusnesau Cymru wedi cau neu stopio masnachu dros dro, y ganran uchaf o unrhyw un o genhedloedd y DU. Dywed Sefydliad Bevan fod yr achosion hyn o gau yn fwyaf tebygol o fod mewn ardaloedd gwledig ac yn y Cymoedd.
- Roedd 65% o fusnesau Cymru wedi gweld gostyngiad mewn trosiant o'r hyn y byddent fel arfer yn ei ddisgwyl yr adeg hon o'r flwyddyn, yn debyg i'r sefyllfa ledled y DU. Dywedodd 23% o fusnesau fod eu trosiant wedi gostwng o dros hanner.
- Roedd gan 46% o fusnesau Cymru chwe mis neu lai o gronfeydd arian wrth gefn,y ganran uchaf o genhedloedd y DU.
Ffigur 2: Statws masnachu busnesau yn y DU yn ôl cenedl, 18-31 Mai 2020
Ffigur 3: Canran y busnesau sy'n nodi gostyngiad mewn trosiant yn y DU yn ôl cenedl, 18-31 Mai 2020
Ffigur 4: Canran y busnesau sydd â chwe mis neu lai o gronfeydd arian wrth gefn yn y DU yn ôl cenedl, 18-31 Mai 2020
Ffynhonnell ar gyfer ffigurau 2-4: Swyddfa Ystadegau Gwladol, Coronavirus and the economic impacts on the UK: 18 June 2020 – data for Wave 6
Yr effaith ar sectorau
Dywed Sefydliad Bevan fod dau sector sydd wedi cael eu heffeithio fwyaf yn sgil y gofyniad i gau – y sector bwyd a llety; a sector y celfyddydau a gweithgareddau hamdden – yn cyfrif am dros hanner yr holl achosion o gau busnesau yng Nghymru dros dro. O ychwanegu’r ddau sector hwnnw at y sector manwerthu, sydd wedi dechrau ailagor yn rhannol yr wythnos hon, caewyd bron i 20,000 o fusnesau dros dro ar draws y tri sector am gyfnod o dri mis yn ystod y cyfyngiadau symud.
Mae Cymru yn cyflogi mwy o bobl mewn 'sectorau a gaewyd' na llawer o rannau eraill o'r DU. Dywedodd y Sefydliad Dysgu a Gwaith fod Cymru a'r Alban yn dibynnu’n fwy ar gyflogaeth mewn 'sectorau a gaewyd' na Gogledd Iwerddon a Lloegr. Meddai’r Ganolfan Trefi fod Cymru yn cyflogi canran uwch o bobl yn y sectorau hyn na holl ranbarthau Lloegr ac eithrio'r De Orllewin. Mae hefyd yn nodi mai trefi arfordirol bach oedd yr ardaloedd yr effeithiwyd arnynt fwyaf yng Nghymru, gan gynnwys Aberystwyth, Porthcawl a Llandudno.
Dangosodd Baromedr Twristiaeth Llywodraeth Cymru ar ddechrau mis Mai fod busnesau yn y sector twristiaeth wedi colli 20% o'u refeniw blynyddol arferol, gyda rhai cwmnïau wedi colli hyd at 80%. Dangosodd hefyd nad yw tua chwarter y busnesau yn disgwyl goroesi'r tri mis nesaf os bydd y cyfyngiadau symud yn parhau.
Mae 90% o fusnesau gweithgynhyrchu yng Nghymru wedi profi gostyngiad mewn archebion, gyda Make UK yn adrodd roedd bod hyn yn uwch na chyfartaledd y DU o 83%. Meddai Make UK hefyd fod cyflogaeth a buddsoddiad yn sector gweithgynhyrchu Cymru wedi gostwng dros y chwarter blaenorol, a bod cwmnïau'n rhagweld gostyngiadau sylweddol mewn allbwn, archebion a chyflogaeth dros y tri mis nesaf.
Yr effaith ar y farchnad lafur
Mae data swyddogol y farchnad lafur o’r Arolwg o’r Llafurlu yn cwmpasu cyfnod o dri mis, sy'n golygu y bydd data sy'n cwmpasu cyfnod y pandemig yn gyfan gwbl ar gael fis nesaf. Fodd bynnag, yn y cyfamser mae yna ffynonellau eraill sy'n llunio gwybodaeth gyfoes i Gymru.
Ar lefel y DU, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn nodi bod 600,000 yn llai o weithwyr cyflogedig ym mis Mai nag oedd ym mis Mawrth, gyda llawer o'r gostyngiad yn dod ar ddechrau'r pandemig.
Y dangosydd diweithdra mwyaf diweddar yng Nghymru yw'r cyfrif hawlwyr, er mae rhai cyfyngiadau i’r dangosydd hwn. Mae'n cynnwys pobl sydd naill ai'n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith neu bobl y mae’n ofynnol iddynt chwilio am waith fel amod derbyn Credyd Cynhwysol. Cyfradd cyfrif hawlwyr Cymru ym mis Mai 2020 oedd 8%, sef y gyfradd uchaf er 1996, ac ychydig yn uwch na ffigur y DU o 7.8%.
Gan y bu rhai newidiadau i Gredyd Cynhwysol yn ystod y misoedd diwethaf, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn awgrymu y gallai hyn fod wedi cynyddu nifer y bobl sydd mewn gwaith sy'n gymwys i gael Credyd Cynhwysol ac a gâi eu cynnwys yn y cyfrif hawlwyr. Mae hyn yn golygu na fydd yr holl gynnydd dros yr ychydig fisoedd diwethaf oherwydd cynnydd mewn diweithdra.
Ffigur 5: Cyfradd cyfrif hawlwyr ar gyfer y cenhedloedd datganoledig a rhanbarthau Lloegr, Mai 2020
Ffynhonnell: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Labour market in the regions of the UK: June 2020 – dataset S01: Regional Labour Market Summary
Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn ystyried gweithwyr sydd wedi cael eu rhoi ar gynllun ffyrlo i fod ‘i ffwrdd o’r gwaith dros dro’ yn hytrach nag yn ddi-waith. Yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd gan Drysorlys EM, roedd 316,500 o swyddi yng Nghymru, ar ddiwedd mis Mai, wedi'u cadarnhau o dan y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws allan o gyfanswm o 8.7 miliwn o swyddi ledled y DU. Bydd gweithwyr sydd wedi cael eu rhoi ar gynllun ffyrlo gan fwy nag un cyflogwr yn cael eu cyfrif fwy nag unwaith.
Ffigur 6: Nifer y swyddi a gadarnhawyd o dan y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws, yn ôl Etholaeth Seneddol
Roedd astudiaeth y Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, ‘Understanding Society’, yn dod i'r casgliad bod 22% o aelwydydd yng Nghymru wedi colli o leiaf 20% o'u henillion wythnosol rhwng mis Chwefror ac Ebrill, gyda 36% o aelwydydd wedi colli o leiaf 5% o'u henillion. Roedd y ffigurau hyn ychydig yn is na chyfartaledd y DU.
Mae pobl wedi bod yn gweithio llawer llai o oriau ers dechrau'r pandemig. Dangosodd yr astudiaeth ‘Understanding Society’ fod yr oriau cyfartalog a weithiwyd yr wythnos yng Nghymru wedi gostwng o 34 awr i 22 awr rhwng mis Chwefror ac Ebrill 2020. Ar draws y DU, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn nodi bod yr oriau a weithiwyd wedi gostwng 9% yn y flwyddyn hyd at fis Chwefror-Ebrill 2020, sef y gostyngiad mwyaf erioed.
Mae gweithwyr yng Nghymru wedi gallu gweithio gartref yn llai nag mewn rhannau eraill o'r DU. Canfu Griffith a Taylor fod ychydig dros 40% o weithwyr yng Nghymru yn cael eu cyflogi mewn galwedigaethau y gellir eu gwneud gartref. Llundain a'r De Ddwyrain yw'r unig ddwy ran o'r DU lle gall dros 50% o weithwyr wneud eu swyddi gartref.
I'r rhai sy'n chwilio am waith, mae swyddi gwag hefyd yn sylweddol is na chyn y pandemig. Dywed y Sefydliad Astudiaethau Cyllid fod nifer y swyddi gwag ganol mis Mai yng Nghymru bron 60% yn is nag ar yr un adeg yn 2019. Canfu’r Sefydliad Astudiaethau Cyflogaeth mai Caerdydd, y Cymoedd ac ardaloedd gwledig sydd wedi gweld y gostyngiadau mwyaf mewn swyddi gwag rhwng Mawrth 2020 a Mehefin 2020, a bod yna tua 15 o bobl ddi-waith yng Nghymru ar gyfer pob swydd wag sydd ar gael.
Effaith ar wahanol grwpiau o fewn cymdeithas
Mae adroddiad grŵp cynghori Llywodraeth Cymru ar y coronafeirws a chymunedau pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) yn tynnu sylw at y ffaith bod grwpiau BAME yn fwy tebygol na phobl wyn o gael eu cyflogi mewn 'sectorau a gaewyd' ledled Cymru. Yn 2019, dangosodd ymchwil Llywodraeth Cymru fod 20% o weithwyr BAME yn cael eu cyflogi yn y sectorau hyn o gymharu â 15% o bobl wyn, ond fel y mae Dadansoddiad Cyllidol Cymru yn dangos bod cryn amrywiaeth rhwng gwahanol grwpiau ethnig. Roedd dros hanner yr holl weithwyr BAME a gyflogir mewn sectorau a gaewyd yn gweithio yn y sector gwasanaeth bwyd a diod.
Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod gweithwyr BAME yn fwy tebygol o fod mewn gwaith ansicr, â chyflog isel ac felly eu bod yn cael llai o hawliau cyflogaeth megis tâl salwch, sy'n golygu efallai na fydd gan weithwyr “unrhyw ddewis ond parhau i weithio”.
Mae Dadansoddiad Cyllidol Cymru wedi canfod bod gweithwyr o ethnigrwydd Bangladeshaidd, Caribïaidd Du a Phacistanaidd fwyaf tebygol o gael eu cyflogi mewn 'sectorau a gaewyd' yng Nghymru.
Ffigur 7: Canran y gweithwyr yng Nghymru a gyflogir mewn sectorau 'a gaewyd' yn ôl grŵp ethnig, 2019
Ffynhonnell: Dadansoddiad Cyllidol Cymru, Covid-19 and the Welsh economy: shutdown sectors and key workers
Tra bo dirwasgiadau blaenorol wedi tueddu i leihau lefelau cyflogaeth mewn sectorau sy'n cyflogi dynion yn bennaf, mae tystiolaeth ar lefel y DU yn awgrymu bod cau sectorau wedi effeithio'n arbennig ar fenywod. Er enghraifft, mae’r Resolution Foundation wedi awgrymu bod menywod yn fwy tebygol na dynion o fod wedi cael eu rhoi ar gynllun ffyrlo, o golli eu swydd neu o fod wedi colli oriau a chyflog. Yn yr un modd, mae gan academyddion o Brifysgolion Rhydychen, Caergrawnt a Zurich ymchwil wedi’i chyhoeddi sy’n nodi bod menywod yn y DU oddeutu 5% yn fwy tebygol o fod wedi colli eu swydd ers dechrau'r pandemig na dynion.
Mae’r arolwg ‘Understanding Society’ wedi canfod bod mamau yng Nghymru yn fwy tebygol o dreulio mwy o amser ar addysg gartref a gwaith tŷ na thadau, gan adrodd eu bod yn treulio 39 awr yr wythnos ar y rhain. Fodd bynnag, canfu hefyd fod tadau yng Nghymru wedi nodi eu bod wedi treulio mwy o amser ar addysg gartref a gwaith tŷ nag mewn mannau eraill yn y DU.
Canfu Llywodraeth Cymru, yn 2019, fod 18% o fenywod yn cael eu cyflogi mewn 'sectorau a gaewyd' o gymharu â 14% o ddynion, a bod menywod 16-24 oed a thros 65 oed yn arbennig o debygol o weithio mewn sectorau a gaewyd. Ar gyfer dynion a menywod, pobl ifanc 16-24 oed oedd y grŵp oedran mwyaf tebygol o gael eu cyflogi mewn 'sector a gaewyd'.
Ffigur 8: Canran y gweithwyr a gyflogir mewn 'sectorau a gaewyd' yn 2019 yn ôl rhyw ac oedran
Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru, Coronafeirws a chyflogaeth: dadansoddiad ar nodweddion gwarchodedig
Ar lefel y DU, mae’r Resolution Foundation wedi canfod bod 30% o’r gweithwyr yn yr 20% isaf o enillwyr wedi cael eu rhoi ar gynllun ffyrlo neu wedi colli eu swydd ers dechrau'r pandemig; dyma’r ganran uchaf o unrhyw grŵp. Mewn cyferbyniad, mae 8% o'r 20% uchaf o enillwyr wedi cael eu rhoi ar gynllun ffyrlo neu wedi colli eu swyddi. Canfu'r Resolution Foundation hefyd fod gweithwyr ar gontractau dim oriau; gydag oriau amrywiol; yn cael eu cyflogi gan asiantaeth; neu ar gontractau dros dro yn llawer mwy tebygol o fod wedi cael eu rhoi ar gynllun ffyrlo neu wedi colli eu swydd na'r rheini mewn cyflogaeth fwy traddodiadol.
Mae Dadansoddiad Cyllidol Cymru wedi canfod bod bron i 50% o'r 10% isaf o enillwyr yng Nghymru yn cael eu cyflogi mewn 'sectorau a gaewyd'. Mae hyn ddeg gwaith cymaint â’r 10% uchaf o enillwyr yng Nghymru.
Erthygl gan Gareth Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru
Rydym wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau ar y pandemig coronafeirws, gan gynnwys erthygl sy’n nodi’r cymorth a’r canllawiau sydd ar gael i bobl yng Nghymru ac amserlen o ymateb llywodraethau Cymru a’r DU.
Gallwch weld ein holl gyhoeddiadau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy glicio yma. Caiff pob un ei ddiweddaru’n rheolaidd.