Coronafeirws: 'y wyddoniaeth'

Cyhoeddwyd 21/07/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Rydym wedi clywed y term 'y wyddoniaeth' llawer yn ystod pandemig y coronafeirws. Mae'r erthygl hon yn rhoi amlinelliad o’r ddau brif gorff sy'n darparu cyngor gwyddonol; mae hefyd yn nodi ymhle y gallwch ddod o hyd i'r cyngor hwnnw. Mae'n egluro beth mae'r rhif R yn ei olygu a pham, ym marn rhai, nad yw bellach y dangosydd gorau ar gyfer monitro'r pandemig ar ei ben ei hun. Mae hefyd yn egluro’r gydberthynas rhwng y rhif R a'r gymuned, ysbytai a chartrefi gofal.

Y prif dermau

  • Cyfnod magu/cyn-symptomatig = y cyfnod rhwng cael eich heintio â'r feirws a dangos symptomau. Yn achos COVID-19 mae hyn yn 5-6 diwrnod ar gyfartaledd, ond gall fod mor hir ag 14 diwrnod.
  • Asymptomatig = yn dangos dim o’r symptomau.
  • R₀ = y rhif atgynhyrchu cychwynnol. Nifer y bobl ar gyfartaledd yr oedd person a heintiwyd yn trosglwyddo'r clefyd iddynt ar ddechrau'r epidemig, cyn bod gan unrhyw un imiwnedd iddo. Amcangyfrifwyd mai 2.8 oedd y rhif hwn ar gyfer COVID-19 yng Nghymru.
  • Rt = y rhif atgynhyrchu ar adeg benodol. Nifer y bobl ar gyfartaledd yr oedd person a heintiwyd yn trosglwyddo'r clefyd iddynt ar adeg benodol yn ystod yr epidemig. Ar 10 Gorffennaf, rhagwelir y bydd hwn rhwng 0.7 – 1.0 yng Nghymru gydag amcangyfrif canolog o 0.8.

Cyngor Gwyddonol

Cell Cyngor Technegol

Un o gyrff cynghori Llywodraeth Cymru yw’r Gell Cyngor Technegol. Mae'n “rhoi cyngor gwyddonol a thechnegol i gefnogi penderfynwyr Llywodraeth Cymru yn ystod argyfyngau.” Mae hyn yn cynnwys rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf gan y Prif Swyddog Meddygol yng Nghymru i uwch-swyddogion Llywodraeth Cymru ynglŷn â’r allbynnau sy'n dod i'r amlwg yng ngwaith Grŵp Cynghori Gwyddonol y DU ar Argyfyngau (SAGE).

Mae’r Gell Cyngor Technegol yn cael ei chyd-gadeirio gan Dr Rob Orford (Prif Gynghorydd Gwyddonol dros Iechyd Cymru) a Fliss Bennee (Dirprwy Gyfarwyddwr Technoleg, Digidol ac Arloesedd ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru). Mae Aelodaeth y Gell Cyngor Technegol yn cynnwys pobl o Lywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe, ymysg eraill.

Mae’r Gell yn cyhoeddi crynodebau rheolaidd o'r cyngor y mae'n ei roi i Lywodraeth Cymru ynghyd ag ymchwil i bynciau mwy penodol, fel gorchuddion wyneb.

Grŵp Cynghori Gwyddonol y DU ar Argyfyngau

Dywedodd Rob Orford fod "Llywodraeth Cymru yn defnyddio gwybodaeth gan SAGE - yn ogystal â gwaith modelu gan ein cell cynghori technegol ein hunain - i wneud ymyriadau pwysig yn ein hymateb i Covid-19."

Mae SAGE yn gyfrifol am sicrhau bod cyngor gwyddonol amserol a chydgysylltiedig ar gael i benderfynwyr er mwyn hwyluso penderfyniadau trawslywodraethol y DU. Mae'n dibynnu ar wyddoniaeth allanol a chyngor gan grwpiau arbenigol, gan gynnwys ei is-grwpiau ei hun megis y Grŵp Gwyddonol ar Ffliw Pandemig - Modelu a'r Grŵp Gwyddonol Annibynnol ar Ffliw Pandemig - Ymddygiad.

Mae SAGE yn cael ei gadeirio gan Brif Gynghorydd Gwyddonol Llywodraeth y DU, Syr Patrick Vallance, a'i gyd-gadeirydd yw Prif Swyddog Meddygol Lloegr, yr Athro Chris Whitty. Cyhoeddwyd rhestr o'i Aelodau ond mae'n cynnwys dim ond y rhai a roddodd ganiatâd iddynt gael eu henwi. Rhestrir Dr Rob Orford a Fliss Bennee fel aelodau o SAGE.

Y rhif atgynhyrchu (R)

Nid yw’r rhif R yn aros yn gyson; mae'n dibynnu ar nifer o ffactorau, gan gynnwys ymddygiad dynol, maint a dwysedd y boblogaeth, a pha mor heintus yw’r feirws ar ddechrau'r pandemig.

Os yw'r rhif R yn is nag 1, bydd pob achos yn arwain at lai nag un achos ychwanegol, felly dros amser bydd nifer yr achosion yn gostwng i sero. Er enghraifft, pe bai'r gyfradd R yn 0.7, byddai 10 achos yn arwain at 7 achos ychwanegol. Fodd bynnag, os yw'r rhif R yn uwch nag 1, bydd nifer yr achosion yn cynyddu a pho fwyaf yw’r rhif R, cyflymaf y bydd hyn yn digwydd.

Ar 10 Gorffennaf, amcangyfrifwyd mai'r rhif R yng Nghymru yw 0.8. a’i fod wedi bod yn is nag 1 am o leiaf saith wythnos.

Defnyddio'r rhif R

Ym mis Mehefin dywedodd y Gell Cyngor Technegol am y tro cyntaf "wrth i nifer yr achosion newydd ddisgyn i lefelau isel, mae R yn mynd yn sensitif iawn i newidiadau dyddiol mewn achosion a ganfyddir trwy brofi ac olrhain". Nododd fod "ansicrwydd cynyddol yn amcangyfrifon y rhif R" a'i fod yn "llai defnyddiol" erbyn hyn fel dangosydd o'r epidemig.

Yn ei chrynodeb o’r cyngor ar 10 Gorffennaf, nodwyd nad oedd “hyder gan y Grŵp Cynghori Technegol fod yr amcangyfrif o Rt ar ei ben ei hun yn ddigon cadarn i lywio penderfyniadau”. Awgrymodd y Gell y bydd “mesurau eraill megis nifer yr achosion newydd ac adroddiadau Ymarferwyr Cyffredinol yn bwysicach.”

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi data bob dydd, gan gynnwys nifer yr achosion newydd o COVID-19 yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys profion ar gyfer cleifion mewnol mewn ysbytai, unigolion mewn adrannau brys, cartrefi gofal a charchardai, a phrofion cymunedol.

Cymharu rhifau R

Ym mis Mehefin 2020 cyhoeddodd y Gell adroddiad yn cymharu rhifau R ar draws Ewrop. Nododd fod nifer o wledydd yn Ewrop wedi dangos “gostyngiad sydyn yn y gyfradd heintio [COVID-19] ar ôl i gyfyngiadau symud gael eu cyflwyno”. Fodd bynnag, "ni ddangosodd y DU’r un gostyngiad sydyn yn y gyfradd heintio". Mae’r Gell yn mynd mor bell â dweud:

...gellid dod i'r casgliad nad oedd mesurau’r DU mor llwyddiannus â mesurau nifer o wledydd eraill yn Ewrop, fel y gwelir ymhellach gan y nifer uwch o farwolaethau yn y DU nag unrhyw wlad arall yn Ewrop sy'n debyg o ran maint ei phoblogaeth (Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal).

Graff 1: Yr Almaen – Mae pob bar yn dangos nifer yr achosion newydd fesul diwrnod ac mae'r rhuban glas yn dangos y rhif R a gyfrifwyd.

Graff 2: Yr Eidal – Mae pob bar yn dangos nifer yr achosion newydd fesul diwrnod ac mae'r rhuban glas yn dangos y rhif R a gyfrifwyd.

Graff 3: Y DU – Mae pob bar yn dangos nifer yr achosion newydd fesul diwrnod ac mae'r rhuban glas yn dangos y rhif R a gyfrifwyd.

Mae ein herthygl gynharach yn rhoi cymhariaeth ryngwladol o'r cyfyngiadau coronafeirws.

Tri epidemig gwahanol

Nododd cyhoeddiad cyntaf y Gell ym mis Mai ein bod "yn debygol o fod yn gweld tri epidemig gwahanol ar gyfer grwpiau penodol o’r boblogaeth yng Nghymru" a chategoreiddiodd y lleoliadau a ganlyn:

  • Cymunedol neu'r boblogaeth gyffredinol yng Nghymru;
  • Ysbytai a lleoliadau gofal iechyd – lle mae nifer fawr o achosion COVID-19 mewn un lleoliad ac felly mae risg uwch o drosglwyddo’r clefyd; a
  • Chartrefi gofal – lle gall haint ledaenu’n gyflym.

Nododd y bydd mesurau iechyd cyhoeddus a gyflwynir (fel y cyfyngiadau ar gyfer y coronafeirws) yn lleihau R yn y gymuned ond nid yn yr ysbytai. Fodd bynnag "bydd mesurau rheoli heintiau yn yr ysbyty yn lleihau R mewn ysbytai heb roi unrhyw ymyriadau ar waith yn y gymuned".

Yn ddiweddarach ym mis Mai, nododd y Gell nad yw'r tri lleoliad hyn yn "annibynnol oddi wrth ei gilydd. Gall yr haint gael ei ledaenu rhwng ysbytai a chartrefi gofal, o’r lleoliadau hyn yn ôl i’r gymuned, ac i’r gwrthwyneb".

Trafodwyd hyn gan SAGE hefyd, a ddisgrifiodd yr ‘epidemig cyffredinol’ fel tri epidemig sydd ar wahân ond sydd eto’n rhyngweithio. Dywedodd fod ysbytai a chartrefi gofal yn cyfrif am gyfran gynyddol o'r achosion cyffredinol wrth i nifer yr achosion cymunedol leihau.

Effaith ar y rhif R

Fel y nodwyd yn flaenorol, mae'r rhif R yn dod yn sensitif iawn pan fo nifer yr achosion newydd yn isel. Mae'r tri epidemig hyn hefyd yn chwarae rhan yn hyn o beth; fel y mae’r Gell yn ei nodi, ni ellir dangos lledaeniad yr haint rhwng y lleoliadau hyn "drwy amcangyfrif Rt ar wahân". Mae'n argymell y dylai’r sefyllfa ym mhob lleoliad penodol gael ei monitro "yn nhermau sut y mae nifer yr achosion a marwolaethau ynddynt yn newid" a lle bo modd dylid darganfod sut mae'r tri epidemig hyn yn rhyngweithio.

Ffynonellau allweddol


Erthygl gan Lucy Morgan, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Rydym wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau ar y pandemig coronafeirws, gan gynnwys erthygl sy’n nodi’r cymorth a’r canllawiau sydd ar gael i bobl yng Nghymru ac amserlen o ymateb llywodraethau Cymru a’r DU.

Gallwch weld ein holl gyhoeddiadau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy glicio yma. Caiff pob un ei ddiweddaru’n rheolaidd.