Mae Llywodraeth Cymru a GIG Cymru wrthi’n cymryd nifer o gamau i atgyfnerthu'r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol mewn ymateb i bandemig y coronafeirws. Mae’r rhain yn cynnwys:
- camau i ehangu capasiti’r gweithlu drwy ofyn i weithwyr sydd wedi ymddeol neu wedi gadael cofrestrau proffesiynol a ydynt am ddychwelyd i'r gweithlu, a chamau i roi rhywfaint o ddarpariaeth ar waith fel bod myfyrwyr meddygol yn eu trydedd flwyddyn yn gallu dechrau gweithio yn gynt na’r arfer;
- camau i adleoli ac ail-hyfforddi staff presennol.
Mae'r erthygl hon yn crynhoi'r camau a gymerwyd i atgyfnerthu'r gweithlu ac yn darparu'r wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael am sut y maent yn cael eu gweithredu.
Rydym wedi cyhoeddi erthyglau ar wahân ar gyfarpar diogelu personol (PPE) a’r drefn brofi, ac mae’r erthyglau hyn yn cynnwys gwybodaeth am sut y mae'r materion hyn yn effeithio ar y gweithlu.
Pwy sy'n dychwelyd i'r gweithlu?
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gofyn i weithwyr proffesiynol sydd wedi gadael y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol a ydynt am ddychwelyd i’r gwaith, a hynny er mwyn darparu cymorth i'r sector yn ystod y pandemig. Mae'r cyngor meddygol a’r cyngor nyrsio, ynghyd â chyrff iechyd proffesiynol a Gofal Cymdeithasol Cymru, wedi sefydlu cofrestrau dros dro fel bod y rhai sy'n dymuno dychwelyd i’r sector i wneud swyddi cyflogedig dros dro yn cael cyfle i wneud hynny.
Gofynnwyd i'r rhai sydd wedi'u cynnwys ar gofrestrau dros dro yn y sector iechyd lenwi arolwg gan y GIG, gan nodi'r meysydd y mae ganddynt y gallu a’r diddordeb i weithio ynddynt, a nifer yr oriau y byddent yn gallu eu gweithio. Mae’r gofynion a’r gweithdrefnau sydd ynghlwm wrth y broses gofrestru yn amrywio yn ôl proffesiwn, fel y nodir isod.
Sefydlwyd Hwb COVID Cymru gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a Phartneriaeth Cydwasanaethau’r GIG er mwyn hysbysebu swyddi gwag sy'n gysylltiedig â’r coronafeirws yn y GIG yng Nghymru, gan dargedu’r rhai sy'n dymuno gweithio yn y GIG yn ystod yr argyfwng. Mae swyddi gwag ym maes gofal cymdeithasol hefyd wedi'u cysylltu â'r hwb.
Meddygon
Mae'r Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) wedi sefydlu cofrestr dros dro sy'n cynnwys pob meddyg nad oes ganddynt unrhyw broblemau o ran addasrwydd i ymarfer ond sydd wedi gadael y gofrestr ers 2014, a meddygon sydd ar y gofrestr ond nad oes ganddynt drwydded i ymarfer. Gall meddygon ddewis peidio â chael eu cynnwys ar y gofrestr os nad ydynt am ddychwelyd i’r gwaith. Fel arall, gofynnir i feddygon sydd wedi'u cynnwys ar y gofrestr lenwi arolwg y GIG.
Gall myfyrwyr meddygol yn eu blwyddyn olaf wneud cais i gael eu cofrestru dros dro, ac mae'r Cyngor Meddygol Cyffredinol wedi dweud y bydd yn prosesu eu ceisiadau yn gynt na'r arfer. Gofynnwyd i ysgolion meddygol gyflymu’r broses raddio mewn perthynas â myfyrwyr meddygol sydd yn eu blwyddyn olaf lle bo hynny'n bosibl, a hynny er mwyn hwyluso’r broses o’u cofrestru yn gynt.
Staff nyrsio
Mae'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC) wedi bod yn ysgrifennu, fesul cam, at y rhai a oedd ar ei gofrestr yn flaenorol, gan wahodd gwahanol grwpiau i ymuno â'r gofrestr dros dro. Ar 6 Mawrth 2020, estynnwyd gwahoddiad i ailgofrestru i unrhyw un a oedd wedi gadael y gofrestr o fewn y pedair neu bum mlynedd diwethaf, ynghyd ag ymgeiswyr o dramor a oedd wedi cwblhau’r gofynion cofrestru perthnasol.
Ar 7 Mai 2020, cyhoeddodd y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth na fyddai mwyach yn gofyn i fyfyrwyr nyrsio a oedd yn chwe mis olaf eu cyfnod astudio i ymuno â chofrestr dros dro.
Proffesiynau perthynol i ofal iechyd
Mae'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal, sef y corff proffesiynol ar gyfer gweithwyr perthynol i ofal iechyd, fel parafeddygon a ffisiotherapyddion, wedi cyhoeddi cofrestr dros dro sy’n cynnwys yr holl weithwyr proffesiynol sydd wedi gadael y gofrestr yn ystod y tair blynedd diwethaf.
Gall y rhai sy'n dymuno dychwelyd i’r gwaith naill ai wneud cais uniongyrchol am swydd wag dros dro, neu lenwi arolwg y GIG. Mae myfyrwyr yn eu blwyddyn olaf sy’n dilyn rhaglenni cymeradwy ac sydd wedi cwblhau eu holl leoliadau ymarfer clinigol hefyd wedi'u hychwanegu at y gofrestr dros dro.
Fferyllwyr
Mae'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol wedi cyhoeddi cofrestr dros dro ar gyfer fferyllwyr a thechnegwyr fferyllol. Mae'n cynnwys pawb sydd wedi gadael y gofrestr yn ystod y tair blynedd diwethaf nad oes ganddynt unrhyw broblemau o ran addasrwydd i ymarfer.
Roedd gan fferyllwyr yr hawl i ddewis peidio â chael eu cynnwys ar y gofrestr cyn iddi fynd yn fyw. Gofynnir i'r rhai sy'n dymuno dychwelyd i'r gwaith lenwi arolwg y GIG, gan nodi eu diddordeb a'u hargaeledd. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw gynlluniau i ychwanegu hyfforddeion na myfyrwyr at y gofrestr dros dro.
Gofal cymdeithasol
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi sefydlu cofrestr dros dro yn cynnwys gweithwyr cymdeithasol a oedd wedi'u cofrestru eisoes ond sydd wedi gadael y gofrestr yn ystod y tair blynedd diwethaf. Gall y rhai sydd am ymuno â’r gofrestr dros dro wneud hynny drwy gysylltu â Gofal Cymdeithasol Cymru.
Faint o bobl sydd wedi dychwelyd hyd yn hyn?
Er nad yw'n ymddangos bod y ffigurau diweddaraf ar gael i'r cyhoedd, darparodd Llywodraeth Cymru y wybodaeth a ganlyn ar 16 Ebrill 2020:
- roedd 1,376 o feddygon a 417 o nyrsys wedi 'ailymuno â'r rheng flaen';
- roedd 257 o weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a gwyddonwyr wedi mynegi eu diddordeb mewn dychwelyd gan ddefnyddio arolwg y GIG;
- roedd 358 o fferyllwyr a thechnegwyr fferyllol wedi’u cynnwys ar y gofrestr dros dro ar gyfer eu proffesiwn.
Ar 5 Ebrill 2020 dywedodd Llywodraeth Cymru fod 1,200 o feddygon teulu locwm cofrestredig yn paratoi i ymuno â gweithlu GIG Cymru.
Ar 19 Mai 2020, roedd 68 o weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru wedi ymuno â'r gofrestr dros dro.
Beth oedd lefel yr angen amdanynt?
Yn ystod y cyfarfod a gynhaliwyd gan Bwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Senedd ar 14 Mai 2020, dywedodd Coleg Brenhinol y Nyrsys yng Nghymru (RCN Cymru) y bu ymateb cymysg gan ei aelodau ynghylch hynt y broses o ddod â nyrsys a oedd wedi ymddeol yn ôl i mewn i'r system. Mae nyrsys â sgiliau acíwt wedi cael eu hadleoli'n gyflym i leoliadau acíwt. Fodd bynnag, nid yw Llywodraeth Cymru wedi cysylltu â nifer o'r rhai a nododd fod eu set sgiliau yn fwy addas, o bosibl, ar gyfer cefnogi'r system 111, er enghraifft.
Mae RCN Cymru o’r farn bod y broses o roi swyddi i weithwyr proffesiynol sy'n dychwelyd i’r gwaith wedi bod yn rhy araf. Fodd bynnag, nododd RCN Cymru na fu angen y nifer ofynnol o weithwyr a amcangyfrifwyd yn wreiddiol (yn sgil yr hyn a ddigwyddodd mewn gwledydd eraill fel yr Eidal). Er enghraifft, ni fu angen i fyfyrwyr nyrsio ymuno â'r gofrestr yn gynnar.
Yn ystod yr un cyfarfod, nododd Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu yng Nghymru fod nifer gweddol o feddygon teulu wedi gwirfoddoli i ddychwelyd i'r proffesiwn. Serch hynny, ailadroddodd y ffaith nad yw'r disgwyliadau a fynegwyd ar ddechrau'r pandemig wedi cael eu gwireddu, gan ychwanegu bod prinder staff wedi bod yn fater llai difrifol na’r disgwyl.
Mae'r nyrsys sydd wedi bod drwy'r broses wedi canmol yn fawr y gefnogaeth a'r hyfforddiant a ddarparwyd iddynt at ddibenion gwneud gwaith clinigol. Fodd bynnag, dywedodd RCN Cymru hefyd: “Thinking about if we do have a second wave, we do need to get this process to be slicker so that we can quickly move those people from an expression into a post.” Pwysleisiodd Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu bwysigrwydd sicrhau bod niferoedd digonol o staff sydd wedi'u hyfforddi'n briodol ar gael i fodloni anghenion yn y dyfodol.
Darparu cymorth i'r rhai sy'n dychwelyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer unigolion mewn gwahanol broffesiynau sy'n ail-ymuno â'r gweithlu neu'n ystyried gwneud hynny. Mae'r canllawiau yn ymdrin â materion fel pensiynau, tâl, amodau gwaith a hyfforddiant.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cymryd camau i sicrhau bod pawb sy'n dychwelyd i’r gwaith yn cael eu hindemnio drwy gydol eu cyfnod o ymarfer dros dro, naill ai drwy gynlluniau indemniad proffesiynol sy’n bodoli ar hyn o bryd neu drwy bwerau newydd a ddarperir iddynt drwy Ddeddf y Coronafeirws 2020. Mae hyn yn golygu y bydd pawb sy'n dychwelyd i’r gwaith yn cael yswiriant indemniad mewn perthynas ag unrhyw achosion o hawliadau esgeuluster clinigol a allai godi yn ystod eu cyfnod o waith dros dro.
Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cymryd camau i sicrhau na fydd hawliau pensiwn unrhyw weithwyr proffesiynol sy'n dychwelyd i’r gwaith ac sydd wedi ymddeol yn cael eu heffeithio gan eu penderfyniad i ddychwelyd i'r gwaith dros dro.
Bydd unigolion sy'n dychwelyd i’r gwaith yn y sector hwn hefyd yn elwa ar y budd-daliadau a’r mesurau cymorth eraill a roddwyd ar waith gan Lywodraeth Cymru, busnesau a chyrff eraill ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn ystod yr argyfwng.
Mae rhai o'r budd-daliadau a'r mesurau cymorth a roddwyd ar waith yn cynnwys:
- Cynllun Marwolaeth mewn Gwasanaeth;
- Taliad ychwanegol o £500 ar gyfer yr holl weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru;
- Darpariaeth teithio am ddim ar fysiau a rheilffyrdd ar gyfer staff y GIG;
- Cardiau a chonsesiynau parcio ar gyfer gweithwyr iechyd, gofal a gwirfoddol;
- Gwasanaeth cymorth iechyd meddwl am ddim ar gyfer holl staff rheng flaen GIG Cymru.
Mesurau i adleoli staff presennol
Mae GIG Cymru yn rhoi mesurau ar waith i adleoli staff presennol, yn benodol er mwyn darparu cymorth ym maes gwasanaethau gofal critigol i oedolion. Ar 6 Ebrill 2020, dywedodd, Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:
Mae hyfforddiant wedi'i ddarparu ledled Cymru er mwyn uwchsgilio cannoedd o staff nad ydynt fel arfer yn gweithio ym maes gofal critigol. Roedd yr amser a'r lle yr oedd eu hangen i gynnal yr hyfforddiant hwn yn ystyriaeth allweddol yn fy mhenderfyniad i oedi llawer iawn o weithgarwch y GIG ar 13 Mawrth.
Ar 25 Mawrth 2020, cyhoeddodd GIG Cymru ganllaw yn nodi’r egwyddorion a’r canllawiau y dylid eu dilyn wrth adleoli staff nyrsio at ddibenion darparu cymorth os yw capasiti gofal critigol yn ymchwyddo. Mae'r canllaw yn nodi:
A surge of coronavirus patients will require increased critical care bed capacity. Therefore, a review of staffing due to the need to increase bed capacity, potential staff absence and staff movement from other areas is necessary. Staff moved from other areas may have limited or no knowledge of acute and critical care services and will be required to support increases in critical care activity.
Ar 25 Mawrth 2020, cafwyd datganiad ar y cyd gan adrannau iechyd, cyrff proffesiynol ac undebau llafur y DU mewn perthynas â datblygu capasiti gofal critigol i oedolion ac adleoli staff nyrsio.
O ran y sector gofal, mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru wedi cyflwyno cwrs hyfforddiant ar-lein ar feddyginiaeth er mwyn galluogi mwy o weithwyr gofal i roi meddyginiaeth i bobl yn eu cartrefi.
Hyd yma, ni wireddwyd y pryderon y gallai staff GIG Cymru gael eu gorlethu wrth geisio trin cleifion sy’n dioddef o’r coronafeirws. Fodd bynnag, mae'r ansicrwydd ynghylch effaith y feirws yn y dyfodol yn golygu y bydd angen i Lywodraeth Cymru fod yn barod, gan sicrhau bod gweithwyr ychwanegol ar gael i ymateb i unrhyw achosion pellach o gynnydd yn y feirws.
Erthygl gan Rebekah James a Nia Moss, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru
Rydym wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau ar y pandemig coronafeirws, gan gynnwys erthygl sy’n nodi’r cymorth a’r canllawiau sydd ar gael i bobl yng Nghymru ac amserlen o ymateb llywodraethau Cymru a’r DU.
Gallwch weld ein holl gyhoeddiadau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy glicio yma. Caiff pob un ei ddiweddaru’n rheolaidd.