Coronafeirws: rhagor o newidiadau i ganlyniadau arholiadau’r haf

Cyhoeddwyd 17/08/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Gwnaed yr erthygl hon yn derfynol am 12.00 ar 17 Awst 2020. Cyhoeddodd y Gweinidog Addysg yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw y bydd graddau Safon Uwch, Safon UG, TGAU, Tystysgrif Her Sgiliau a Bagloriaeth Cymru yng Nghymru bellach yn cael eu dyfarnu ar sail Graddau Asesu Canolfannau.

Ar 14 Awst, gwnaethom gyhoeddi erthygl yn nodi'r sefyllfa o ran canlyniadau Safon Uwch ac UG yng Nghymru. Ar 15 Awst, gwnaeth Kirsty Williams AS, y Gweinidog Addysg, gyhoeddiad arall yn pennu seiliau newydd ar gyfer apelio canlyniadau “Safon Uwch, UG, Tystysgrif Her Sgiliau a TGAU”. Mae'r erthygl hon yn trafod y cyhoeddiad diweddaraf a byddwn yn ceisio darparu diweddariadau pan gaiff gwybodaeth ychwanegol ei chyhoeddi.

Cyhoeddwyd sail newydd dros apelio ar 15 Awst

Cyhoeddodd y Gweinidog ar 13 Awst ei bod wedi cyfarwyddo Cymwysterau Cymru “i symud ymlaen yn gyflym gydag addasiadau perthnasol i broses apelio yng Nghymru”. Mewn ymateb, esboniodd Cymwysterau Cymru ei fod yn ailystyried y seiliau dros apelio. Pennodd y seiliau newydd hynny ar 15 Awst, gan ddweud y canlynol:

Bellach gellir apelio ar y sail bod tystiolaeth o asesiad mewnol sydd ym marn yr ysgol neu'r coleg ar radd uwch na'r radd a gyfrifwyd, a ddyfarnwyd. Bydd angen i dystiolaeth asesu fewnol fodloni meini prawf penodol, sy’n cael eu cwblhau ar hyn o bryd ac a gyhoeddir cyn bo hir. Os bydd yr apêl yn llwyddiannus, adolygir gradd y dysgwr i fod yr un fath â’i radd asesu mewnol, ond heb fod yn uwch na’r Radd Asesu Canolfan a gyflwynwyd gan y ganolfan.

Hefyd, esboniodd Cymwysterau Cymru fod y broses apelio newydd hon, yn ei farn ef, yn ymdrin â phryderon “rhai canolfannau” nad yw canlyniadau Safon Uwch a gyfrifir drwy ddefnyddio perfformiad Safon UG yn adlewyrchu’r posibilrwydd ar gyfer perfformiad gwell rhwng dilyn y ddau gymhwyster. Fel yr esboniodd y Gweinidog yn ei chyhoeddiad ar 15 Mai, mae'r seiliau newydd dros apelio hefyd yn cynnwys apelio canlyniadau TGAU. Cyhoeddir canlyniadau TGAU ddydd Iau 20 Awst.

Mewn rhannau eraill o’r DU

Cyhoeddodd Llywodraeth yr Alban ar 11 Awst y byddai disgyblion y byddai Awdurdod Cymwysterau'r Alban (SQA) yn israddio eu canlyniadau’n cael graddau newydd yn seiliedig ar amcangyfrifon athrawon yn unig.

Cyhoeddodd Peter Weir, Gweinidog Addysg Gogledd Iwerddon, ar 16 Awst na fyddai cyfrifiadau safoni bellach yn cael eu cymhwyso i ganlyniadau TGAU yng Ngogledd Iwerddon ac, yn lle hynny, y byddai'r Radd Asesu Canolfannau yn cael ei defnyddio.

Mae gwybodaeth am y sefyllfa yn Lloegr ar gael gan Lywodraeth y DU ac Ofqual.

Gwybodaeth sydd ar ddod

Ar adeg ysgrifennu’r erthygl hon, mae Cymwysterau Cymru yn paratoi dogfennaeth reoleiddio wedi'i diweddaru sydd heb ei chyhoeddi eto, ac nid yw CBAC wedi diweddaru ei ddogfennaeth apeliadau gyhoeddedig ei hun eto i adlewyrchu'r seiliau newydd dros apelio. Mae hyn yn golygu nad yw'n hysbys eto pa ‘feini prawf penodol’ y bydd angen i unrhyw dystiolaeth asesu fewnol eu bodloni ar gyfer apêl lwyddiannus.


Erthygl gan Phil Boshier, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Rydym wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau ar y pandemig coronafeirws, gan gynnwys erthygl sy'n nodi'r cymorth a'r canllawiau sydd ar gael i bobl yng Nghymru ac amserlen o ymateb llywodraethau Cymru a’r DU.

Gallwch weld ein holl gyhoeddiadau sy'n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy glicio yma. Caiff pob un ei ddiweddaru'n rheolaidd.