Coronafeirws: newyddiaduraeth

Cyhoeddwyd 15/10/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Dros yr ychydig ddegawdau diwethaf, mae nifer y bobl sy’n ymweld â gwefannau newyddion wedi cynyddu’n helaeth. Ar y llaw arall, mae’r gostyngiad mewn elw i ddarparwyr newyddion wedi arwain at gau papurau newydd a cholli swyddi yng Nghymru, ac ar draws y byd. Mae argyfwng y Coronafeirws wedi bod yn ergyd bellach i’r model busnes hwn – sydd eisoes wedi profi niwed – gan arwain at ddiswyddiadau yng nghwmnïau newyddion mwyaf Cymru.

Mae’r Prif Weinidog wedi disgrifio’r achosion hyn o golli swyddi fel “bygythiad” i ddemocratiaeth. Rhannwyd y pryderon hyn gan Bwyllgor Diwylliant y Senedd, er iddo ddweud mewn adroddiad diweddar ei bod i raddau helaeth aneglur “sut y mae Llywodraeth Cymru wedi troi'r pryder hwn yn gamau gweithredu”. Roedd sylwadau diweddar y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yn awgrymu bod Llywodraeth Cymru yn edrych o'r newydd ar sut y gall gefnogi sector a oedd yn ei chael hi'n anodd hyd yn oed cyn i argyfwng y coronafeirws ddechrau.

Punnoedd print yn troi’n geiniogau digidol

Mae papurau newyddion yng Nghymru wedi profi gostyngiad parhaus yng nghylchrediad eu fersiynau print. Ers 2008, mae cylchrediad y Western Mail wedi mwy na haneru – o 37,576 yn 2008 i 10,341 yn 2019. Yn ystod yr un cyfnod, mae cylchrediad y Daily Post wedi haneru – o 36,432 yn 2008 i 16,237 yn 2019. Nid yw hyn yn groes i brofiadau papurau dyddiol y DU, gyda chylchrediad y Mirror a'r Express ill dau wedi mwy na haneru yn ystod yr un cyfnod. Mae'r patrymau hyn yn cael eu hadlewyrchu ledled y byd.

Er bod cylchrediad papurau newydd mewn print wedi gostwng, mae’r niferoedd ar -lein wedi cynyddu’n helaeth. Tyfodd defnydd WalesOnline dros 1400% ers rhwng 2008 a 2020, sef cynnydd o 680,000 ym mis Mawrth 2008 [3.3MB] i 9.7 miliwn ym mis Mehefin 2020 [415KB].

Mae sefydliadau newyddion wedi’i chael yn anodd pennu gwerth arian ar gyfer y cynnydd hwn ar-lein. Heblaw am ambell enghraifft, maen nhw wedi bod yn amharod i godi tâl am gael mynediad i'w cynnwys, gan ddibynnu yn hytrach ar hysbysebu digidol, gyda swmp yr hysbysebu hynny [4.87MB] yn dod i feddiant Google a Facebook.

Canlyniad hyn fu cau papurau newydd, colli swyddi a chydgrynhoi'r farchnad gan yr enwau mawr. Yn 2018 gwnaeth Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu’r Senedd ddweud:

Mae cyflwr ansicr newyddiaduraeth newyddion yng Nghymru yn golygu y dylid rhoi ystyriaeth o ddifrif i ryw fath o gymorth i newyddiaduraeth o fudd y cyhoedd yng Nghymru.

Amlygwyd gwerth dinesig newyddiaduraeth newyddion yn yr ymchwil ddiweddar [3.3MB]a gomisiynwyd ar gyfer Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU. Dangosodd fod cynnydd yng nghylchrediad ac argaeledd papurau newydd lleol yn arwain at gynnydd yn y nifer sy’n pleidleisio, a bod cau papurau newydd lleol a rhanbarthol wedi arwain at ddiffyg adroddiadau a llai o waith craffu ar swyddogaethau democrataidd.

"Storm berffaith o amodau’r farchnad."

Mae argyfwng y Coronafeirws wedi tarfu ymhellach ar y farchnad fregus hon. Mae dadansoddiad diweddar yn awgrymu bod yna ostyngiad mewn refeniw hysbysebu o flwyddyn i flwyddyn o 20.5% ar gyfer papurau newydd cenedlaethol, a gostyngiad o 24.1% ar gyfer papurau newydd rhanbarthol. Effeithiwyd ymhellach ar y gostyngiad mewn gwerthiannau o gopïau print gan y cyfyngiadau symud ar ddechrau 2020, wrth i’r niferoedd oedd yn siopa ddisgyn i raddau helaeth.

Ym mis Ebrill, gwnaeth Paul Rowland o Reach PLC – sy'n rhedeg papurau newydd gan gynnwys y Western Mail a'r Daily Post yn ogystal â gwefan WalesOnline – ddisgrifio’r sefyllfa fel bod yn storm berffaith o amodau’r farchnad. Galwodd am fwy o gefnogaeth i'r diwydiant gan y sector cyhoeddus, er enghraifft rhyddhad ardrethi busnes a gosod mwy o hysbysebion gan y Llywodraeth mewn cyhoeddiadau lleol a rhanbarthol.

Mae’r ‘storm berffaith’ hon wedi arwain at diswyddiadau ar draws sector newyddiaduraeth Cymru. Yn gynnar ym mis Gorffennaf, cyhoeddodd Newsquest – y mae ei bapurau newydd yn cynnwys y Western Telegraph, South Wales Argus a South Wales Guardian – y byddai 25 o swyddi’n cael eu colli ar draws ei weithrediadau yng Nghymru. Yn hwyrach y mis hwnnw, cyhoeddodd Reach PLC y byddai oddeutu 20 o swyddi'n cael eu colli.

At hynny, mae’r pandemig wedi effeithio ar y BBC, sy’n cael ei ariannu gan drwydded ac sydd wedi wynebu costau ychwanegol wrth weithredu'n ddiogel yn ystod y pandemig, yn ogystal â gostyngiad yn ei incwm o'i gangen fasnachol. Mae BBC Cymru yn anelu at arbed £4.5 miliwn y flwyddyn ariannol hon trwy fesurau sy'n cynnwys 60 o ddiswyddiadau – sef 6% o'i weithlu yng Nghymru.

Adrodd yn ystod pandemig

Wrth i’r ‘storm berffaith’ hon fynd rhagddi, mae natur ddatganoledig llawer o’r pwerau a ddefnyddir i ymateb i'r pandemig wedi tynnu sylw at adroddiadau ynghylch newyddion Cymru. Tra chynyddodd y defnydd o newyddion, cododd pryderon ynghylch adroddiadau anghywir yn ymwneud â Chymru.

Ym mis Ebrill ysgrifennodd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu’r Senedd at Bwyllgor Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon San Steffan yn amlinellu'r potensial y byddai cam-adrodd yn camarwain pobl yng Nghymru, gan nodi enghreifftiau o bob rhan o wasg y DU, a galw am wneud mwy i gefnogi newyddiaduraeth leol.

Roedd llythyr y Pwyllgor yn ymateb i Bwyllgor yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn gofyn am enghreifftiau o gamwybodaeth a thwyllwybodaeth ynghylch y Coronafeirws, fel rhan o'i waith parhaus ar ‘newyddion ffug’. Nododd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu nad oedd angen iddo “edrych ar y cyfryngau cymdeithasol i ddod o hyd i enghreifftiau o wybodaeth ffug niweidiol am y coronafeirws” a oedd, yn hytrach, yn rhemp yn y wasg brif ffrwd, ac yn cael ei danio gan gyhoeddiadau Llywodraeth y DU, yn “aml sy’n adrodd yn anghywir am faterion sydd wedi’u datganoli i Gymru.”

Mae'r honiadau hyn wedi cael eu cefnogi ers hynny gan ymchwil Prifysgol Caerdydd, o dan arweiniad yr Athro Stephen Cushion. Canfu ei astudiaeth bod mwyafrif llethol y cyfranogwyr yn gallu adnabod ‘newyddion ffug’ fel meddyginiaethau ffals ar gyfer gwella COVID-19. Fodd bynnag:

When we asked them [study participants] about what false or misleading information about COVID-19 they had encountered, many instead referenced examples of what they saw as government or media misinformation.

Canfu’r astudiaeth fod hanner yr holl ymatebwyr yn credu ar gam mai Llywodraeth y DU oedd yn gyfrifol am y cyfyngaidau symud ar draws y pedair gwlad. Roedd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn pryderu bod “effaith y camwybodaeth fesul diferyn fel hyn yn gyson i Gymru, yn niweidio dealltwriaeth y cyhoedd o’r camau a gymerwyd i fynd i’r afael â’r feirws”.

Daeth hyd a lled yr awydd ymysg cyhoedd Cymru am newyddion yn ystod yr argyfwng yn amlwg yn sgil ffigurau gwylio’r newyddion ar y teledu, a’r niferoedd ar-lein. Ym mis Mawrth 2020, roedd cynulleidfaoedd newyddion rhwydwaith y BBC yng Nghymru 40% yn uwch nag oeddent ym mis Mawrth 2019. Cynyddodd ffigurau gwylio newyddion S4C gan 40% yn ystod y cyfyngiadau symud. Cynyddodd ffigurau gwylio newyddion chwech o’r gloch ITV Cymru gan 12% yn ystod y cyfyngiadau symud, o'u cymharu â'r flwyddyn flaenorol, a bu cynnydd o 300% yn y niferoedd oedd yn defnyddio’i wefan, o'i gymharu â'r chwe mis blaenorol.

“Paradocs annerbyniol”

Yn ôl yr hyn wnaeth Dr Ifan Morgan Jones ei ddweud wrth y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ym mis Gorffennaf 2020, “yr hyn mae coronafeirws wedi ei wneud mewn gwirionedd, yn fy marn i, ydy prysuro'r broses gan tua dwy neu dair blynedd oedd yn digwydd beth bynnag.” Teimlai y gallai’r sioc bellach hon i’r diwydiant fod â “rhai manteision”, roedd yn teimlo, os “y byddwn ni'n deffro'n hunain, mewn gwirionedd, i'r brys a'r angen i weithredu”.

Yn 2018, cyfeiriodd y Pwyllgor at yr encilio hwn rhag newyddiaduraeth newyddion yng Nghymru “yn fater polisi cyhoeddus dwys, y mae angen i wneuthurwyr polisi ar bob lefel, yn enwedig Llywodraeth Cymru, fynd i’r afael ag ef fel mater o flaenoriaeth”.

Yn ei adroddiad diweddar ar effaith yr achosion o COVID-19 ar newyddiaduraeth a'r cyfryngau lleol roedd yn rhannu pryderon y Prif Weinidog bod colli swyddi pellach yn y sector yn ystod yr argyfwng yn “niweidiol i ddemocratiaeth”. Fodd bynnag, teimlai, “heblaw am gymorth, sydd i'w groesawu, ar gyfer cyhoeddiadau hyperleol, nid yw'n eglur sut y mae Llywodraeth Cymru wedi troi'r pryder hwn yn gamau gweithredu”.

Galwodd y Pwyllgor hyn yn “baradocs annerbyniol” oherwydd, “wrth i'r Senedd ennill rhagor o bwerau, fod newyddiaduraeth er budd y cyhoedd wedi encilio o Gymru”. Galwodd ar Lywodraeth Cymru “ i gymryd camau cadarnhaol ar frys i gefnogi newyddiaduraeth newyddion yng Nghymru”.

Mae argyfwng y Coronafeirws wedi gostwng capasiti sector newyddion Cymru ymhellach, gan gynyddu'r galw am wybodaeth gywir a dibynadwy am Gymru.

Cefnogaeth i gyfryngau annibynnol

Mewn cyfarfod diweddar gyda’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, awgrymodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth ei fod yn barod i dderbyn galwadau i Lywodraeth Cymru gefnogi newyddiaduraeth newyddion.

Dywedodd fod Cymru Creadigol – uned diwydiannau creadigol Lywodraeth Cymru – wedi cael y dasg o archwilio a allai fod yn gorff lled-braich â’r gallu i gefnogi cyhoeddiad annibynnol arall. Pwysleisiodd y byddai’n rhaid i unrhyw gyhoeddiad o’r fath gynnal annibyniaeth y cyfryngau newyddiaduraeth drwy fod ar wahân i’r Llywodraeth mewn modd effeithiol.

Nododd y Dirprwy Weinidog fod Llywodraeth Cymru eisoes yn cefnogi cyfryngau newyddiaduraeth Cymraeg – er enghraifft Golwg 36 –, lle mae methiant cydnabyddedig yn y farchnad ers amser maith. Nid oedd hynny’n wir yn y gorffennol o ran newyddiaduraeth newyddion Saesneg, a adawyd i raddau helaeth i gael darpariaeth gan y BBC, a darparwyr sy'n seiliedig ar y farchnad.

Bydd y Pwyllgor yn clywed gan arbenigwyr, cyn y Nadolig mae'n debyg, ynglŷn â sut y gallai Llywodraeth Cymru gefnogi newyddiaduraeth newyddion. Bydd Aelodau'r Pwyllgor yn ystyried cwestiynau anodd ynghylch sut i gefnogi sector sydd, er yn hanfodol i ddemocratiaeth, yn gofyn am annibyniaeth o'r wladwriaeth er mwyn cynnal ei waith.


Erthygl gan Robin Wilkinson, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Rydym wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau ar y pandemig coronafeirws, gan gynnwys erthygl sy’n nodi’r cymorth a’r canllawiau sydd ar gael i bobl yng Nghymru ac amserlen o ymateb llywodraethau Cymru a’r DU.

Gallwch weld ein holl gyhoeddiadau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy glicio yma. Caiff pob un ei ddiweddaru’n rheolaidd.