Coronafeirws: materion cydraddoldeb

Cyhoeddwyd 15/04/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munud

Gall unrhyw un gael y coronafeirws, ond efallai na fydd ei effeithiau o ran iechyd, yr economi a’i effaith cymdeithasol yn gyfartal. Gallai’r feirws a’r ymateb iddo ehangu’r anghydraddoldebau sy’n bodoli eisoes, drwy leihau incwm a chynyddu risgiau’n anghymesur i rai grwpiau o bobl.

Mae gwerthoedd craidd Llywodraeth Cymru ar gyfer cynllunio gofal iechyd a gwneud penderfyniadau yn ystod y pandemig yn glir, sef bod “pawb yn bwysig”, ac y “caiff gwasanaethau iechyd eu darparu mewn ffordd sy’n dilyn yr egwyddorion a nodir mewn deddfwriaeth cydraddoldeb a hawliau dynol”.

Rydym hefyd wedi cyhoeddi erthygl ar oblygiadau’r ymateb i coronafeirws o ran hawliau dynol, ac mae un arall ar hawliau plant ar ddod.

Mae poblogaeth Cymru yn fwy agored i’r coronafeirws

Mae rhai pobl mewn risg uwch nag eraill yn sgîl y coronafeirws, fel pobl hŷn a phobl â chyflyrau iechyd penodol fel diabetes a gordewdra.

Yn ôl gwaith ymchwil gan Sefydliad Bevan:

  • Mae bron 15 y cant o boblogaeth Cymru dros 70 mlwydd oed, sef y gyfran uchaf yn y DU;
  • Mae gan 8.3 y cant o boblogaeth Cymru gyflwr y galon, sydd hefyd yn uwch na gweddill y DU. Mae dynion hŷn yn fwy tebygol o fod â chlefyd y galon, ac mae cysylltiad agos rhwng hyn ag amddifadedd;
  • mae gan un person o bob 12 yng Nghymru salwch anadlol, gan gynnwys clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD) ac asthma. Yng Nghymru y mae asthma i’w weld fwyaf o blith pob gwlad yn Ewrop. Mae rhai cyflyrau anadlol yn llawer mwy cyffredin mewn ardaloedd difreintiedig oherwydd lefelau llygredd uwch, cyfraddau uwch o ysmygu, a rhagor o amlygiad i lygryddion mewn rhai diwydiannau;
  • Mae gan Gymru gyfraddau uwch o bobl sy’n ysmygu na chyfartaledd y DU; mae rhagor o ddynion na menywod yn ysmygwyr;
  • Mae 2.5 y cant o boblogaeth Cymru yn ordew iawn, ac mae’r gyfradd yn uwch ymhlith dynion, pobl rhwng 45 a 64 mlwydd oed, a phobl mewn ardaloedd difreintiedig;
  • Mae 7.6 y cant o boblogaeth Cymru sy’n hŷn na 17 oed â diabetes, sef y ffigur uchaf yn y DU. Mae pobl mewn ardaloedd difreintiedig ddwywaith yn fwy tebygol o fod â diabetes. Mae pobl hŷn, dynion a phobl o gefndir du neu dde Asia hefyd yn fwy tebygol o fod â diabetes Math 2; ac
  • mae bron chwarter pobl Cymru yn byw mewn tlodi. Efallai na fydd pobl ar incwm isel yn gallu cadw pellter cymdeithasol os ydynt yn byw mewn tai llai a thai mwy gorlawn neu dai nad ydynt â gerddi, neu os ydynt yn gorfod defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i siopa neu fynd i’r gwaith (nid oes gan 14 y cant o aelwydydd yng Nghymru gar, ac nid oes gan 13 y cant fynediad at y rhyngrwyd ar gyfer siopa neu waith). Mae pobl ddigartref a cheiswyr lloches hefyd mewn rhagor o berygl os ydynt yn cysgu allan neu’n byw mewn ystafelloedd a rennir.

Mae nifer anghymesur yn fwy o ddynion a phobl dduon, pobl Asiaidd a phobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig yn mynd yn ddifrifol wael os bydd y feirws yn eu taro.

Dengys Data gan Iechyd Cyhoeddus Cymru fod (ar y pwynt hwn) gan ragor o fenywod y coronafeirws yng Nghymru.

Fodd bynnag, dengys Data Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) Cymru a Lloegr, hyd yma, bod rhagor o ddynion yn marw o’r feirws (nid oes data ar gael ar farwolaethau yng Nghymru wedi’u gwahanu yn ôl rhyw neu oedran).

Ffigur 1: Achosion o COVID-19 wedi’u cadarnhau yng Nghymru yn ôl rhyw ac oedran

Graff yn dangos yr achosion o’r coronafeirws yn ôl rhyw ac oedran yng NghymruFfynhonnell: Iechyd Cyhoeddus Cymru, Gwyliadwriaeth gyflym Covid-19 (fel ar 14 Ebrill 2020)

Ffigur 2: Nifer y marwolaethau sy’n gysylltiedig â COVID-19, Cymru a Lloegr, yn ôl rhyw ac oedran (y flwyddyn hyd yma)

Graff yn dangos marwolaethau yn sgîl y coronafeirws yn ôl rhyw ac oedran yng Nghymru a Lloegr
Ffynhonnell: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Marwolaethau wedi’u cofrestru’n wythnosol yng Nghymru a Lloegr, dros dro: yr wythnos yn diweddu 3 Ebrill 2020

Adroddodd y Ganolfan Genedlaethol Ymchwil ac Archwilio Gofal Dwys (ICNARC) ar ganlyniadau achosion mewn unedau gofal critigol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ar 10 Ebrill. Mae’r data hwn yn dangos, o’r 3,883 o achosion a dderbyniwyd i unedau gofal critigol, cofnodwyd bod traean ohonynt o gefndiroedd du, Asiaidd neu o gefndir lleiafrifoedd ethnig (BAME).

Mae’r adroddiad yn dangos bod cyfran y cleifion Asiaidd sy’n ddifrifol wael â’r coronafeirws yn gydnaws, i raddau helaeth, â’r boblogaeth leol (sy’n seiliedig ar ddata ward y cyfrifiad), ond ymddengys bod cyfran y cleifion du yn uwch na’r boblogaeth leol (gweler tudalen 7).

Mae rhai pobl yn fwy tebygol o weithio mewn swyddi sydd â risg uwch o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws

Mae gweithwyr ym maes iechyd, gofal cymdeithasol, siopau a thrafnidiaeth yn fwy tebygol o fod yn agored i’r coronafeirws. Mae’n debygol bod y diffyg cyfarpar diogelu personol (PPE) presennol mewn rhai sectorau yn gwaethygu hyn.

Yn 2017 roedd 73 y cant o weithlu’r GIG yn fenywod. Roedd data ar gyflogaeth gan fyrddau iechyd Cymru hefyd yn dangos bod menywod yn gyfran uwch o fandiau cyflog is, a chyfran is o fandiau cyflog uwch.

Mae’r data hefyd yn dangos bod gan rai byrddau iechyd yng Nghymru gynrychiolaeth uwch o weithwyr o gefndiroedd pobl ddu, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig (BAME) nag yn y boblogaeth leol. Er enghraifft, ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda mae 6.8 y cant o’r gweithlu yn bobl dduon, Asiaidd neu o gefndir lleiafrifoedd ethnig, o’i gymharu â 2.7 y cant o’r boblogaeth leol.

Yn Lloegr, mae staff sy’n bobl dduon, Asiaidd neu o leiafrifoedd ethnig yn un rhan o bump o weithlu’r GIG (ni chyhoeddir ystadegau cyfatebol ar gyfer y GIG yng Nghymru). Mae hyn o’i gymharu â 14 y cant o’r boblogaeth gyfan.

Amcangyfrifir bod 80 y cant o’r gweithwyr gofal cartref yng Nghymru yn fenywod, ac mae 50 y cant dros 50 mlwydd oed.

Mae swyddi eraill hefyd mewn rhagor o berygl o ddod i gysylltiad â’r feirws, fel gweithwyr siopau. Dengys data’r DU ar gyfer Tesco, Asda, Sainsbury’s a Morrisons bod menywod yn y siopau yn cyfrif am fwy na 65 y cant o’r rolau ar y cyflog isaf (er enghraifft swyddi gweithwyr yn y siop).

Mae dynion yn llawer mwy tebygol na menywod o weithio mewn swyddi ym maes trafnidiaeth a gyrru yng Nghymru, yn ôl yr Arolwg Poblogaeth Blynyddol.

Mae pobl ifanc, rhai sy’n ennill cyflogau isel a menywod yn fwy tebygol o weithio mewn sectorau sy’n cael eu cau.

Mae’n ofynnol i rai sectorau gau yn llwyr, fel y sector manwerthu heblaw bwyd, a’r sector lletygarwch a hamdden. Er y gall llawer o weithwyr yn y sectorau hyn gael eu rhoi ‘ar seibiant’ yn ystod y cyfnod, mae’n debygol na fydd rhai busnesau yn goroesi, ac mae hynny’n arwain at fod gweithwyr mewn perygl o gael eu diswyddo.

Gallwch ddarllen rhagor am weithwyr ‘ar seibiant’ a materion cyflogaeth eraill yn ein blog ar y pwnc.

Mae Dadansoddiad gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllidol (IFS) yn dangos bod pobl ifanc o dan 25 mlwydd oed ddwywaith a hanner mor debygol â gweithwyr eraill o weithio mewn sector sydd bellach wedi’i gau. Canfu’r dadansoddiad hefyd bod pobl sy’n ennill cyflogau isel a menywod hefyd yn fwy tebygol o weithio yn y sectorau hyn.

Mae Sefydliad Bevan yn amcangyfrif bod 211,500 o bobl yn cael eu cyflogi yn y sectorau hyn yng Nghymru, ac mae hynny tua 16 y cant o holl gyflogaeth y wlad.

Canfu gwaith ymchwil gan y TUC bod 69 y cant o’r 2 filiwn o bobl yn y DU nad ydyn nhw’n gymwys i gael tâl salwch statudol yn fenywod, oherwydd eu bod mewn swyddi â chyflog isel neu mewn swyddi ansicr.

Bydd angen i lawer o bobl y mae’r coronafeirws wedi effeithio ar eu hincwm hawlio budd-daliadau. Gwnaeth bron i filiwn o bobl yn y DU gais am Gredyd Cynhwysol yn ystod y pythefnos hyd at 1 Ebrill 2020 yn unig. Ond mae cyfradd llawer o fudd-daliadau yn is i bobl o dan 25 mlwydd oed, ac mae hyn yn cynnwys y Credyd Cynhwysol.

Ni fydd llawer o weithwyr tymhorol ym maes twristiaeth neu amaethyddiaeth (sydd yn fwy tebygol o fod yn weithwyr ifanc) a oedd fod i ddechrau gweithio ar ôl y dyddiad cau, sef 28 Chwefror, yn gymwys ar gyfer y Cynllun Cadw Swyddi yn sgîl y Coronafeirws.

Mae menywod, pobl iau, pobl anabl a phobl o rai lleiafrifoedd ethnig i gyd yn fwy tebygol o fod ar enillion canolrif is yr awr na grwpiau eraill (fel dynion, pobl nad ydyn nhw’n anabl ac ati).

Mae peth tystiolaeth am gynnydd o ran cam-drin domestig

Ar hyn o bryd mae tystiolaeth am gynnydd o ran cam-drin domestig yn seiliedig ar adroddiadau yn y cyfryngau a faint o bobl sy’n defnyddio gwasanaethau cefnogi, nes bod ystadegau swyddogol yn cael eu cyhoeddi.

Mewn llythyr at y Prif Weinidog ar 3 Ebrill, nododd Cymorth i Fenywod yn Lloegr fod o leiaf wyth o fenywod wedi cael eu lladd yn yr wythnosau diwethaf, lle mae dynion wedi’u cyhuddo neu eu hamau o lofruddiaeth neu lofruddiaeth-hunanladdiadau. Roedd yr elusen Lloches yn adrodd am gynnydd o 700 y cant o ran galwadau i’r llinell gymorth cam-drin domestig genedlaethol mewn un diwrnod. Mae galwadau i Linell Gyngor y Dynion hefyd wedi cynyddu 16.6 y cant yn yr wythnos yn dechrau 30 Mawrth, o’i gymharu â’r wythnos flaenorol.

Fel y dangosir gan ein dangosyddion cydraddoldeb rhywiol blynyddol ar gyfer Cymru, mae menywod yn llawer mwy tebygol o gael eu lladd gan eu partneriaid a’u perthnasau, ac maent yn fwy tebygol na dynion o brofi cam-drin domestig.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2019 y byddai cyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cymorth cam-drin domestig, ac mae wedi cyhoeddi canllawiau o ran y gwasanaethau yn ystod y pandemig.

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 yn ei gwneud yn drosedd i berson adael eu cartref heb ‘esgus rhesymol’. Ond mae’n nodi’n glir bod ‘esgus rhesymol’ yn cynnwys gadael y tŷ i osgoi anaf, salwch neu risg o niwed,neu i gael gafael ar wasanaethau cymorth trais domestig.

Gallai bylchau o ran cyrhaeddiad addysgol ehangu tra bod ysgolion wedi cau

Yn gyffredinol mae gan fechgyn, plant o deuluoedd incwm isel, a phlant ag anghenion addysgol arbennig gyrhaeddiad addysgol is na’u cyfoedion. Mae rhai lleiafrifoedd ethnig fel Sipsiwn / Roma / Teithwyr a phlant du hefyd yn fwy tebygol o fod â chyrhaeddiad addysgol is.

Gallwch ddarllen rhagor am addysg yn ystod y pandemig yn ein blogiau eraill.

Allgáu digidol

Cymru sydd â’r lefel uchaf o dlodi plant yn y DU. Mae’r Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus (IPPR) yn amcangyfrif nad oes gan filiwn o blant yn y DU fynediad digonol at liniadur, llechen na’r rhyngrwyd gartref.

Goblygiadau hyn yw y gall plant fod ymhellach ar ei hôl hi yn yr ysgol os ydyn nhw’n rhannu llechen neu liniadur gyda brodyr a chwiorydd a rhieni sy’n gweithio, neu oherwydd nad oes ganddyn nhw ddyfais na mynediad at y rhyngrwyd o gwbl gartref.

Canfu arolwg diweddar mai dim ond 2 y cant o athrawon sy’n gweithio yn yr ysgolion mwyaf difreintiedig yn Lloegr sy’n credu bod gan eu disgyblion fynediad digonol at ddysgu ar-lein.

Mynegwyd pryderon penodol ynghylch allgau digidol ymhlith plant o deuluoedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Pan fydd y nodweddion hyn yn croestorri (er enghraifft bechgyn Sipsiwn / Roma / Teithwyr ag anghenion addysgol arbennig, neu blant du o deuluoedd incwm isel) mae’n bosibl bod y risg o anfantais yn cynyddu.

Plant ag anghenion addysgol arbennig

Mae cau ysgolion a gofal plant hefyd yn debygol o gael effaith sylweddol ar blant ag anghenion addysgol arbennig a’u teuluoedd. Gall ysgolion ddarparu gofal i blant sy’n ‘agored i niwed’ (sy’n cynnwys plant ag anghenion addysgol arbennig) pan nad oes dewis arall ar gael.

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn nodi “Lle bo modd, Lle bo modd, bydd anghenion dysgwyr â datganiad AAA yn parhau i gael eu diwallu”.

Mae’r canllawiau hefyd yn dweud y “dylai awdurdodau lleol gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod darpariaethau a nodwyd yn y datganiad AAA yn cael ei gyflawni gan yr ysgol a / neu lleoliad gofal plant cofrestredig”.

Bwyd

Bydd plant cymwys o deuluoedd incwm isel yn parhau i gael prydau ysgol am ddim tra bod ysgolion ar gau.

Caiff hyn ei weinyddu drwy wahanol ddulliau gan gynnwys drwy dalebau bwyd, dosbarthu parseli bwyd, a grantiau arian parod. Y trydydd o’r rhain yw’r opsiwn a ffefrir gan Sefydliad Bevan, sy’n ystyried bod arian parod yn fwy hyblyg, yn caniatáu i bobl siopa’n lleol, ac yn cael gwared ar stigma.

Bydd yr ymateb i’r coronafeirws yn effeithio’n anghymesur ar bobl anabl, pobl hŷn a gofalwyr.

Goblygiadau Rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru i ddod â darpariaethau i rym yn Neddf Coronavirus frys y DU yw nad oes dyletswydd mwyach ar awdurdodau lleol i ddiwallu anghenion gofal a chymorth cymwys oedolion, nac anghenion cymorth gofalwyr oedolion. Bellach dim ond yn yr achosion mwyaf difrifol y mae’n rhaid iddynt ddiwallu’r anghenion sef, pan fydd rhywun mewn perygl o gael ei gam-drin neu ei esgeuluso.

Bydd y newidiadau hyn yn effeithio’n anghymesur ar bobl hŷn a phobl anabl sy’n dibynnu ar ofal cymdeithasol. Darllenwch ragor am y Rheoliadau yn ein blog, ac mae rhagor o wybodaeth am y goblygiadau o ran hawliau dynol ar gael mewn blog arall.

Hefyd mae sefydliadau anabledd yng Nghymru wedi nodi pryderon y gallai diffyg adnoddau ar anterth y pandemig arwain at fod pobl anabl yn peidio â derbyn y gofal sydd ei angen arnynt.

Fel yr amlygwyd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC), menywod sy’n dal i ysgwyddo mwyafrif y cyfrifoldebau gofalu am blant a pherthnasau hŷn. Mae faint o angen sydd am ofal di-dâl yn debygol o fod wedi cynyddu yn sgîl yr ysgolion yn cau, a’r angen ychwanegol i ofalu am berthnasau bregus.

Dadansoddiad pellach


Erthygl gan Hannah Johnson, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Rydym wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau ar y pandemig coronafeirws, gan gynnwys erthygl sy’n nodi’r cymorth a’r canllawiau sydd ar gael i bobl yng Nghymru ac amserlen o ymateb llywodraethau Cymru a’r DU.

Gallwch weld ein holl gyhoeddiadau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy glicio yma. Caiff pob un ei ddiweddaru’n rheolaidd.