Coronafeirws: hawliau cyflogaeth

Cyhoeddwyd 25/06/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munud

 phandemig y coronafeirws yn effeithio ar weithleoedd ledled Cymru a'r DU, mae llawer mwy o ymholiadau'n dod i law oddi wrth Aelodau o'r Senedd a'u staff ynghylch hawliau cyflogaeth. Mae'r erthygl hon yn rhoi gwybodaeth gefndirol am y meysydd y cawn ein holi yn eu cylch yn fwyaf aml, ynghyd â ffynonellau cyngor arbenigol ar gyfer achosion unigol. Ar gyfer achosion unigol, dylid ceisio cyngor arbenigol.

Mae hawliau cyflogaeth yn fater a gadwyd yn ôl – ac eithrio pennu cyflogau amaethyddol – sy'n golygu bod penderfyniadau a deddfau yn cael eu gwneud yn San Steffan, yn gyffredinol. Fodd bynnag, mae mesurau iechyd cyhoeddus fel pellter cymdeithasol wedi’u datganoli i'r Senedd. Mae Llywodraeth Cymru a Chyngres Undebau Llafur Cymru (y TUC) wedi gwneud datganiad ar y cyd sy’n nodi eu barn ar sut y dylai cyflogwyr, undebau a gweithwyr gydweithio i wneud yn siŵr bod gweithwyr yn cael eu trin yn deg yn ystod y pandemig.

Mae ein herthygl am y coronafeirws a chyflogaeth yn ymdrin â meysydd pwnc cysylltiedig fel y Cynllun Cadw Swydd drwy gyfnod Coronafeirws, y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig a Thâl Salwch Statudol.

Iechyd, diogelwch a phellter cymdeithasol yn y gwaith

Mae Llywodraethau Cymru a'r DU yn argymell y dylai cyflogwyr annog staff i weithio gartref lle bo hynny'n bosibl yn ystod pandemig y coronafeirws. Fodd bynnag, gall gweithleoedd barhau i weithredu os ydyn nhw’n darparu gwasanaethau allweddol neu os nad oes rhaid iddynt gau, a lle nad yw gweithio gartref yn bosibl.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau i gyflogwyr ar gyfyngu ar ledaeniad coronafeirws mewn gweithleoedd. Dylid atgoffa gweithwyr a chwsmeriaid i olchi eu dwylo yn amlach nag arfer, am 20 eiliad gyda sebon a dŵr, neu i ddefnyddio glanweithydd dwylo os nad oes sebon a dŵr ar gael. At hynny, dylid glanhau a diheintio’n aml y gwrthrychau ac arwynebau hynny sy'n cael eu cyffwrdd yn rheolaidd.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi gwneud rheoliadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr gymryd 'mesurau rhesymol' i gynnal pellter cymdeithasol o 2 fetr rhwng pobl mewn gweithle. Mae'r rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr roi sylw i arweiniad a chanllawiau atodol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar gadw pellter cymdeithasol yn y gweithle. Mae gwelliannau i'r rheoliadau hyn hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i gymryd mesurau rhesymol i sicrhau y cynhelir pellter cymdeithasol ar gyfer archebion clicio a chasglu, ac i fusnesau y mae Gweinidogion Cymru neu awdurdodau lleol yn gofyn iddynt agor.

Mae'r gyfraith yn berthnasol i weithleoedd fel swyddfeydd a ffatrïoedd, a hefyd i leoedd fel safleoedd adeiladu, gwaith ffordd a gwaith sy'n cael ei wneud yng nghartrefi pobl. Fodd bynnag, nid yw’n berthnasol i gerbydau, oherwydd yn ôl Llywodraeth Cymru, nid yw’n bosibl cymryd mesurau rhesymol i gadw pellter cymdeithasol mewn cerbydau.

Mae enghreifftiau o fesurau rhesymol a nodwyd gan Lywodraeth Cymru yn cynnwys pethau fel: lleihau nifer y bobl mewn gweithle ar amser penodol, cynyddu lle rhwng staff, newid natur tasgau a wneir er mwyn lleihau cysylltiad rhwng pobl a gwasgaru sifftiau.

Os na ddilynir y gyfraith hon, gellir gwneud cwynion i swyddogion iechyd yr amgylchedd awdurdodau lleol, neu i'r heddlu sydd â phwerau i ymchwilio. Gall methu â chadw at y rheoliadau hyn arwain at Hysbysiad Cosb Benodedig, neu erlyniad a dirwy ddiderfyn.

Dychwelyd i'r gwaith

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer y gweithle sy’n cynnwys mesurau i ganiatáu i weithwyr ddychwelyd i’r gweithle’n ddiogel. Yn ogystal â’r mesurau a nodir uchod i helpu pawb i gadw pellter cymdeithasol, dyma’r prif bwyntiau yn y canllawiau:

  • Caiff gweithwyr ddychwelyd i’r gweithle dim ond os nad yw’n rhesymol ymarferol iddynt weithio gartref.
  • Rhaid i gyflogwyr barhau i gyflawni eu dyletswyddau cyfreithiol o dan y cyfreithiau iechyd a diogelwch blaenorol a’r cyfreithiau newydd er lles iechyd corfforol a meddyliol, diogelwch a lles eu gweithwyr a’u cwsmeriaid ynghyd â’r rhai sy’n ymweld â’u safleoedd.
  • Dylid asesu pob risg, gan gynnal trafodaethau ystyrlon â staff a/neu eu hundebau llafur cydnabyddedig, cyn i’r gwaith ailddechrau. Os yw’n ofynnol i fusnes, yn ôl y gyfraith, baratoi asesiad risg ysgrifenedig (hy os oes ganddynt 5 gweithiwr neu ragor), rhaid ysgrifennu’r casgliadau arwyddocaol a rhoi mesurau rheoli ar waith. Ni waeth beth yw maint y busnes, mae gofyniad cyfreithiol i baratoi asesiad risg ar gyfer merched beichiog.
  • Pan fydd mesurau ar waith, a’r staff ac ymwelwyr yn dod wyneb yn wyneb â nhw am y tro cyntaf, byddai’n gam synhwyrol trefnu sesiynau cynefino er mwyn i bawb gyfarwyddo ag unrhyw systemau neu weithdrefnau adrodd newydd
  • Mae’n hanfodol sefydlu dulliau cyfathrebu clir rhwng cyflogwyr, gweithwyr ac ymwelwyr eraill â’r gweithle, i drosglwyddo gwybodaeth am y camau rhesymol a chymesur sy’n cael eu cymryd i greu gweithle diogel. Dylid dosbarthu negeseuon am ddiogelwch yn rheolaidd i’r holl weithwyr gan gytuno ar system y gall pawb ei defnyddio. Bydd posteri a hysbysiadau a chymhorthion gweledol amlwg yn y gweithle’n helpu i gadarnhau’r negeseuon hyn am ddiogelwch.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi nifer o ddogfennau ar gyfer sectorau penodol sy’n rhoi manylion y mesurau y gall y diwydiannau dan sylw eu cymryd. Mae’r rhain yn cynnwys:

Absenoldeb o'r gwaith

Efallai na fydd pobl â chyfrifoldebau gofalu, sy’n ‘gwarchod’ yn unol â chanllawiau’r llywodraeth neu yr ystyrir eu bod yn perthyn i grŵp sy’n agored i niwed – sy’n byw gyda pherson bregus, neu’n ofni dal y coronafeirws – yn gallu mynd i’r gwaith, neu efallai y byddant yn anfodlon mynd i’r gwaith.

Efallai y bydd pobl na allant weithio oherwydd yr argyfwng – gan gynnwys y rheini â’u gwaith wedi darfod, a'r rheini sy’n gwarchod neu’n gofalu am bobl – yn gymwys i fynd ar ffyrlo o dan Cynllun Cadw Swydd drwy gyfnod Coronafeirws Llywodraeth y DU. Mae canllawiau Llywodraeth y DU yn awgrymu bod gweithwyr yn gofyn i'w cyflogwr a allant fynd ar ffyrlo, er mai penderfyniad i gyflogwyr unigol yw hwn. Mae’r cynllun hwn yn talu 80 y cant o gostau cyflog misol arferol gweithwyr ar ffyrlo, hyd at £2,500 y mis (heb gynnwys taliadau bonws, ffioedd na chomisiwn). Gall cyflogwyr dalu’r 20 y cant sy’n weddill, neu unrhyw swm sy’n fwy na’r terfyn o £2,500, ond nid oes rhaid iddynt wneud hynny.

At hynny, efallai y bydd pobl yn gallu cymryd yr amser i ffwrdd fel gwyliau neu wyliau di-dâl, ond nid oes rhaid i gyflogwyr gytuno i hynny.

Mae'r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynghori cyflogwyr i wrando ar bryderon eu staff, a chymryd camau i amddiffyn pawb, fodd bynnag maent yn cynghori y gallai gweithwyr sy'n gwrthod mynd i’r gwaith heb reswm dilys wynebu camau disgyblu.

Os oes gan weithiwr gyfrifoldebau gofalu ar frys, efallai y gallant gymryd amser 'rhesymol' i ffwrdd o’r gwaith ar gyfer dibynyddion. Nid oes rhaid i’r amser i ffwrdd fod â thâl, ond gall cyflogwyr ddewis gwneud hynny.

Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn tynnu sylw at y ffaith bod yn rhaid i gyflogwyr gynnal asesiad risg cyffredinol sy'n cynnwys menywod beichiog a mamau newydd, ac os yw'n anniogel iddynt fynd i'r gwaith, mae'n rhaid eu hatal dros dro ar gyflog llawn os na ellir gwneud addasiadau i amodau ac oriau gwaith i gael gwared ar risgiau. Os yw cyfnod o atal dros dro yn gorgyffwrdd â’r 4 wythnos cyn y disgwylir i weithiwr roi genedigaeth, mae Acas yn cynghori y bydd absenoldeb a thâl mamolaeth yn cychwyn yn awtomatig y diwrnod ar ôl diwrnod i ffwrdd cyntaf y gweithiwr. Mae Maternity Action wedi cyhoeddi ystod eang o wybodaeth am y coronafeirws a hawliau a budd-daliadau yn ystod beichiogrwydd ac absenoldeb mamolaeth.https://www.hse.gov.uk/mothers/faqs.htm

Colli swydd

Os yw rhywun i golli ei swydd, mae nifer o ofynion cyfreithiol wedi’u sefydlu gan Lywodraeth y DU sy’n rhaid i’w cyflogwr eu dilyn. Mae Acas wedi cyhoeddi arweiniad manwl sy'n ymdrin â’r modd y mae'r broses ddiswyddo yn gweithio.

Rhaid i'r cyflogwr ddewis pa staff sydd i'w diswyddo mewn ffordd deg a gwrthrychol. Ar ôl i gyflogwyr benderfynu pwy sydd i gael eu diswyddo, mae’n ofynnol ar y cyflogwr i ymgynghori gyda'r gweithwyr yr effeithir arnynt ynghylch pam eu bod yn cael eu diswyddo, ac unrhyw ddewisiadau eraill heblaw diswyddo. Os diswyddir dros 20 o weithwyr ar yr un pryd, rhaid i'w cyflogwr ddilyn rheolau ynghylch ymgynghori ar ddiswyddiadau ar y cyd.

Os yw rhywun wedi bod yn gweithio i'w gyflogwr am o leiaf dwy flynedd, fel arfer bydd ganddo’r hawl i gael tâl diswyddo statudol.

Rhaid rhoi cyfnod o rybudd i weithwyr cyn i'w cyflogaeth ddod i ben. Yn ogystal â thâl diswyddo statudol, dylai cyflogwyr dalu gweithwyr trwy eu cyfnod o rybudd, neu gallant ddod â chyflogaeth rhywun i ben heb rybudd os yw 'taliad yn lle rhybudd' wedi'i gynnwys yn eu contract cyflogaeth.

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cymorth o ran colli swydd i weithwyr a chyflogwyr. Gall Gyrfaoedd Cymru gefnogi gweithwyr sy'n wynebu cael eu diswyddo trwy gyngor gyrfaoedd, helpu i ysgrifennu CVs a cheisiadau, a rhoi gwybodaeth am swyddi gwag a ffynonellau cyllid. Mae hefyd yn cefnogi cyflogwyr sy'n ystyried diswyddo staff, trwy roi cyngor.

At hynny, mae'r rhaglen ReAct yn darparu cymorth i bobl sy'n cael eu diswyddo, er mwyn eu helpu yn ôl i'r gwaith yn gyflym. Mae'n agored i bobl sy'n byw yng Nghymru sydd o dan rybudd diswyddo neu sydd wedi cael eu diswyddo o fewn y tri mis diwethaf. Cynigir sawl elfen o gefnogaeth gan y rhaglen, gan gynnwys grantiau i helpu unigolion i ymgymryd â hyfforddiant, cyllid ychwanegol i helpu pobl i oresgyn rhwystrau i hyfforddiant a grantiau i annog cyflogwyr i gyflogi rhywun sydd wedi'i ddiswyddo o'u swydd ddiwethaf.

Gellir cysylltu â Gyrfa Cymru am y rhaglenni hyn ar 0800 028 4844, neu drwy gyfrwng sgwrs dros y we neu e-bost.

Diswyddo

Os yw cyflogwr yn diswyddo gweithiwr, rhaid i’r cyflogwr ddangos bod ganddo reswm dilys dros wneud hynny, a’i fod wedi gweithredu'n rhesymol o dan yr amgylchiadau. Rhaid eu bod hefyd wedi ymchwilio i'r sefyllfa yn llawn, ac wedi bod yn gyson o ran sut mae'r gweithiwr yn cael ei drin o'i gymharu ag aelodau eraill o staff.

Fel rheol mae'n rhaid rhoi o leiaf yr isafswm o gyfnod rhybudd statudol i rywun sy’n cael ei ddiswyddo, ond gellir diswyddo rhywun ar unwaith mewn rhai sefyllfaoedd, fel trais neu ladrad.

Mae gan Acas enghreifftiau o wahanol sefyllfaoedd y gellir ystyried eu bod yn achosion o ddiswyddo teg, er enghraifft rhesymau sy’n ymwneud ag ymddygiad gweithiwr, ei allu i wneud ei waith, a diswyddo.

Gallai diswyddo fod yn annheg, os nad oes gan y cyflogwr reswm da dros ddiswyddo aelod o staff, neu os nad yw'n dilyn ei broses ddisgyblu neu ddiswyddo ffurfiol. Mae Llywodraeth y DU ac Acas yn tynnu sylw at sefyllfaoedd yr ystyrir eu bod yn ddiswyddo annheg yn awtomatig, gan gwmpasu meysydd fel amgylchiadau teuluol, beichiogrwydd a mamolaeth, a thâl ac oriau gwaith.

Os yw rhywun o'r farn ei fod wedi cael ei ddiswyddo'n annheg, mae’n bosibl y gall gyflwyno hawliad gerbron tribiwnlys cyflogaeth, os na all ddatrys y mater gyda'r cyflogwr. Cyn hawlio, rhaid iddo hysbysu Acas, a rhaid gwneud hawliadau cyn pen tri mis ar ôl i'r gyflogaeth ddod i ben.Mae Acas yn cynnig y dewis o gymodi cynnar i weld a ellir datrys y mater cyn cynnal tribiwnlys.

Er mwyn gallu hawlio diswyddiad annheg, mae’n rhaid ystyried rhywun yn weithiwr yn unol â chyfraith cyflogaeth, ac mae’n rhaid iddo fod wedi gweithio i’w gyflogwr am o leiaf ddwy flynedd. Fodd bynnag, nid yw'r cyfnod cymhwyso o ddwy flynedd yn berthnasol pe cafodd ei ddiswyddo am reswm sy'n annheg yn awtomatig.

Mae diswyddo adeiladol a diswyddo ar gam yn ymwneud â thorri contract gan gyflogwr. Diswyddo adeiladol yw pan fydd gweithiwr yn ymddiswyddo oherwydd ei fod o'r farn bod y cyflogwr wedi torri ei gontract o leiaf unwaith. Diswyddo ar gam yw pan fydd gweithiwr yn ystyried bod ei gontract wedi'i dorri yn y broses ddiswyddo.

Yn ogystal, os yw rhywun o'r farn ei fod wedi cael ei drin yn annheg oherwydd nodwedd warchodedig fel hil, rhyw neu oedran, gall ddwyn yr achos hwnnw gerbron tribiwnlys cyflogaeth, os na all ddatrys y mater gyda'r cyflogwr. Nid yw'r cyfnod o ddwy flynedd yn berthnasol mewn achos o’r fath chwaith. Gall y Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb ddarparu cyngor ar hyn trwy eu tudalen gysylltu ar y we neu trwy eu llinell gymorth, sef 0808 800 0082.

Ble i gael cyngor arbenigol

Ar gyfer achosion unigol, gall gwasanaethau cyngor arbenigol ddarparu cyngor ac arbenigedd wedi'i deilwra:

  • Gall y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) roi cyngor ar gyflogaeth ac mae ganddo dudalen sef Coronavirus: advice for employers and employees Y llinell gymorth yw 0300 123 1100;
  • Gall Cyngor ar Bopeth roi cyngor ar fudd-daliadau a chyflogaeth ar-lein neu dros y ffôn – 03444 77 20 20. Mae ganddo hefyd dudalen wybodaeth am coronafeirws;
  • Gall aelodau o undebau llafur gael cymorth ar faterion sy’n ymwneud â'r gweithle drwy gysylltu â'u hundeb. Mae gan TUC Cymru dudalen gyngor i weithwyr yng Nghymru; ac
  • Mae gan Busnes Cymru dudalen ar y Coronafeirws a gellir cysylltu â nhw ar 03000 6 03000.

Erthygl gan Gareth Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Rydym wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau ar y pandemig coronafeirws, gan gynnwys erthygl sy’n nodi’r cymorth a’r canllawiau sydd ar gael i bobl yng Nghymru ac amserlen o ymateb llywodraethau Cymru a’r DU.

Gallwch weld ein holl gyhoeddiadau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy glicio yma. Caiff pob un ei ddiweddaru’n rheolaidd.