Coronafeirws: gwneud penderfyniadau teg ar adegau o argyfwng

Cyhoeddwyd 30/04/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Mae hawliau dynol yn allweddol wrth ymateb i’r coronafeirws ac i’r adferiad, gan eu bod yn hoelio ein sylw ar y bobl sy’n dioddef fwyaf, y rheswm dros hynny, a’r hyn y gellir ei wneud yn ei gylch, yn ôl Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig.

At hynny, mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi dweud y gall fframweithiau hawliau dynol gryfhau effeithiolrwydd yr ymdrechion byd-eang i fynd i’r afael â’r pandemig.

Mae cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer tywys Cymru allan o'r pandemig yn nodi egwyddorion a fydd yn cael eu defnyddio i archwilio ffyrdd o leddfu'r cyfyngiadau presennol. Yr un olaf o’r saith egwyddor hyn yw asesu a fydd y mesur yn cael effaith gadarnhaol iawn ar gydraddoldeb”, ond nid yw'n sôn am hawliau dynol.

Mae'r cynllun cyfatebol ar gyfer yr Alban yn ymrwymo i amddiffyn y rheini sydd fwyaf mewn perygl a gwarchod hawliau dynol. Mae fframwaith asesu pedair rhan yr Alban yn cynnwys ystyried goblygiadau hawliau dynol, yn ogystal ag effeithiau cydraddoldeb.

Mae llywodraethau ledled y byd yn ceisio sicrhau cydbwysedd da rhwng amddiffyn iechyd, lleihau aflonyddwch economaidd a chymdeithasol, a pharchu hawliau dynol.

Fodd bynnag, sut y gall Llywodraeth Cymru drosi ei hymrwymiadau o ran cydraddoldeb a hawliau dynol yn gamau ymarferol yn ystod argyfwng byd-eang?

Mae ein blogiau blaenorol yn amlinellu goblygiadau hawliau dynol uniongyrchol y cyfyngiadau symud, a'r materion cydraddoldeb sy'n dod i'r amlwg yng Nghymru. Yn y gorffennol, rydym hefyd wedi archwilio sut y gellir trosi hawliau dynol o theori i gamau ymarferol.

Bydd yr erthygl hon yn trafod sut y gall cydraddoldeb a hawliau dynol ddarparu sylfaen ar gyfer gwneud penderfyniadau yng Nghymru wrth bontio o gyfyngiadau symud i 'normal newydd', yn ogystal ag ystyried rôl y Cynulliad.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gydraddoldeb a hawliau dynol, ac mae'n ymdrechu i fod yn arweinydd byd-eang ym maes cydraddoldeb rhywiol

Yn ogystal â'i rhwymedigaethau o dan gyfraith ddomestig ryngwladol a'r DU, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gydraddoldeb a hawliau dynol trwy:

Ymrwymiadau i gydraddoldeb a hawliau dynol yn ystod cyfnod y coronafeirws

Mae gwerthoedd craidd Llywodraeth Cymru ar gyfer cynllunio a darparu gofal iechyd yn ystod y pandemig yn ei gwneud yn glir bod “pawb yn bwysig”, ac y “caiff gwasanaethau iechyd eu darparu mewn ffordd sy'n dilyn yr egwyddorion a nodir mewn deddfwriaeth cydraddoldeb a hawliau dynol.

Gwnaeth y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething AC, roi sylw i effaith anghymesur y feirws ar bobl o gymunedau du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME) (mae tystiolaeth ar y mater hwn wedi’i hamlinellu yn ein herthygl flaenorol). Ymrwymodd i:

bennu a oes unrhyw ffactorau y gellir eu hadnabod a allai fod o gymorth er mwyn penderfynu a oes angen i’r cyngor cyhoeddus fod yn wahanol mewn perthynas â chydafiachedd, ynysu, gwarchod a chyfarpar diogelu personol (PPE) ar gyfer unigolion o gefndiroedd BAME.”

At hynny, dywedodd y Gweinidog y byddai camau monitro marwolaethau Iechyd Cyhoeddus Cymru “yn casglu data manylach am farwolaethau”, gan gynnwys gwybodaeth am ethnigrwydd ac am weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol (y mae grwpiau BAME yn cael eu gorgynrychioli yn eu plith).

Yn ddiweddar, gwnaeth Llywodraeth Cymru ddiwygio'r cyfyngiadau symud er mwyn caniatáu i bobl â chyflyrau iechyd neu anableddau penodol i adael eu tai fwy nag unwaith y dydd i wneud ymarfer corff

Ar 30 Ebrill, cyhoeddodd y Gweinidog Addysg y bydd hyd at £3 miliwn ar gael i ddarparu gliniaduron a rhyngrwyd symudol ar gyfer disgyblion sydd wedi’u ‘hallgáu o’r byd digidol’.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi datganiadau a chanllawiau ar y coronafeirws a: cham-drin domestig; pobl anabl; y gymuned Tsieineaidd; cymunedau lleiafrifoedd ethnig, a chymunedau ffydd.

Gellir defnyddio egwyddorion cydraddoldeb a hawliau dynol i lywio penderfyniadau mewn sefyllfaoedd brys

Mae'n amlwg o’n herthygl flaenorol bod rhai grwpiau o bobl ar hyn o bryd yn profi effeithiau anghyfartal neu benodol oherwydd y feirws.

Mae'r rhain yn gysylltiedig ag iechyd (er enghraifft y ffaith bod poblogaeth Cymru – oherwydd ei demograffeg – yn fwy agored i niwed yn sgil y feirws), yn ogystal ag effeithiau cymdeithasol ac economaidd (er enghraifft cynnydd mewn cam-drin domestig a'r gyfran uwch o bobl ifanc sy'n gweithio mewn sectorau sydd wedi’u cau).

Mae'r mesurau brys a gyflwynwyd i ymateb i'r feirws wedi cael eu galw y cyfyngiadau mwyaf eang ar ryddid sifil am o leiaf 75 mlynedd.

Fodd bynnag, wrth i’r cyfyngiadau symud gael eu llacio’n raddol, mae goblygiadau cydraddoldeb a hawliau dynol ymatebion y llywodraeth yn debygol o newid.

Er enghraifft, yng Nghymru, mae’n bosibl y gellir atal y mesurau o lacio'r dyletswyddau i ddiwallu anghenion gofal (sy'n effeithio'n anghymesur ar bobl anabl a phobl hŷn). Fodd bynnag, gallai’r posibilrwydd o gyflwyno apiau ffôn ar gyfer olrhain cysylltiadau a'r pwerau i gadw pobl 'a allai fod yn heintus' yn gaeth ddod yn ffocws cynyddol.

Mae'r mesurau hyn yn cael effaith ar ein hawl i breifatrwydd a’r hawl i ryddid. Mae'n debygol y byddai angen mesurau diogelwch a monitro i sicrhau nad ydyn nhw'n mynd y tu hwnt i'r hyn sy'n gymesur, ac i warchod yn erbyn arferion gwahaniaethol sy’n deillio ohonynt (er enghraifft cadw pobl yn gaeth ar sail hil).

Mesurau ymarferol i barchu ac amddiffyn cydraddoldeb a hawliau dynol

Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi amlinellu‘r materion hawliau dynol i wladwriaethau fynd i'r afael â hwy yn sgil eu hymateb parhaus i'r pandemig (mae pob un ohonynt yn berthnasol yng Nghymru) gan gynnwys:

  • stigma a gwahaniaethu;
  • cydraddoldeb rhywiol ac atal trais yn erbyn menywod;
  • cymorth i boblogaethau sy’n agored i niwed (gan gynnwys pobl hŷn, pobl anabl, pobl â chyflyrau iechyd, pobl ddigartref, ffoaduriaid, ymfudwyr a charcharorion);
  • cwarantîn a mesurau cyfyngol;
  • prinder cyflenwadau ac offer, a
  • rhwymedigaethau cymorth rhyngwladol.

Cafwyd awgrymiadau ymarferol ar sut y gallai Llywodraeth Cymru gynnal safonau cydraddoldeb a hawliau dynol yn ystod y pandemig, gan gynnwys:

  • cyflwyno mesurau i nodi achosion o gam-drin domestig, trais rhywiol ac anffurfio organau cenhedlu benywod – a mynd i’r afael â’r achosion hynny – trwy, er enghraifft, ymgyngoriadau iechyd o bell a thrwy gyswllt ag ysgolion, gweithleoedd, a hyd yn oed fferyllfeydd a siopau (fel yr awgrymwyd gan Bwyllgor Dethol Senedd y DU ar Faterion Cartref). Mae Cymorth i Ferched Cymru hefyd yn galw am gynnydd mewn cyllid ar gyfer gwasanaethau cam-drin domestig. Gallai'r mesurau hyn gyfrannu at gyflawni rhwymedigaethau o dan Erthygl 3 (gwahardd triniaeth annynol a diraddiol) ac Erthygl 2 (hawl i fywyd) y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol;
  • glynu wrth egwyddorion awgrymedig Cyngor Ewrop ar gadw rhywun yn gaeth wrth arfer ei phwerau o dan Ddeddf y Coronafeirws 2020. Gallai hyn helpu i gyflawni rhwymedigaethau o dan Erthygl 5 (yr hawl i ryddid) ac Erthygl 3;
  • cynnal asesiadau risg ar gyfer staff gofal iechyd BAME a rhoi dyletswyddau gwahanol iddyn nhw, sy’n golygu y bydd llai o risg eu bod yn cael y coronafeirws, fel yn ôl yr hyn sydd wedi’i nodi yn yr arweiniad i Ymddiriedolaethau’r GIG yn Lloegr;
  • datrys problemau gydag Chyfarpar Diogelu Personol er mwyn helpu i gyflawni rhwymedigaethau o dan Erthygl 2 i gymryd camau i amddiffyn bywyd (fel yr awgrymwyd gan gyfreithwyr hawliau dynol);
  • sicrhau bod unrhyw achosion a benderfynwyd gan Dribiwnlys Iechyd Meddwl Cymru heb wrandawiad ddim ond cael eu gwneud gyda chydsyniad y claf, fel yn Lloegr. Mae hyn yn cynnwys yr hawl i wrandawiad teg o dan Erthygl 6;
  • ymchwilio i amgylchiadau holl farwolaethau gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol, yn unol â galwad y BMJ. Mae pwerau yn Neddf y Coronafeirws yn caniatáu ar gyfer rhoi’r gorau i gael cwest rheithgor lle mae achos marwolaeth unigolyn wedi’i restru fel COVID-19, ond gall crwneriaid ddewis gwneud hynny o hyd. O dan Erthygl 2, mae gan lywodraethau rwymedigaeth i gynnal ymchwiliad llawn i unrhyw farwolaeth lle gall y wladwriaeth fod yn gysylltiedig.

Gallai lliniaru'r effaith gymdeithasol ac economaidd anghyfartal yng Nghymru hefyd gynnwys, er enghraifft:

  • defnyddio'r cyfleoedd sy’n codi yn sgil gweithio gartref ar raddfa eang i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau yn y gweithle. Gallai hynny gynnwys annog cyflogwyr yn y sector cyhoeddus i ddefnyddio gweithio hyblyg yn ddiofyn, yn unol ag argymhelliad un o bwyllgorau’r Cynulliad sy'n archwilio mesurau i gynyddu cydraddoldeb rhwng y rhywiau.
  • sicrhau nad yw defnyddio graddau disgwyliedig yn cynyddu anghydraddoldeb i ddysgwyr sydd eisoes dan anfantais, fel y pwysleisiwyd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (CCHD);
  • gwella'r budd-daliadau sydd o dan reolaeth Llywodraeth Cymru. Mae Sefydliad Bevan wedi galw am godiadau i daliadau disgresiwn at gostau tai, ac mae Llywodraeth Cymru’n hyrwyddo ei chynllun gostyngiadau’r dreth gyngor. Gellid gwella'r Gronfa Cymorth Dewisol hefyd (fel yr argymhellir gan y Grŵp Gweithredu Tlodi Plant), trwy gynyddu cyllid, symleiddio ei phroses o gyflwyno ceisiadau, cynyddu partneriaid atgyfeirio, ac ehangu’r meini prawf cymhwysedd.
  • cydnabod pwysigrwydd yr 'economi gofal' (ffurfiol ac anffurfiol). Menywod sy’n ffurfio’r rhan fwyaf o'r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru ac yn ymgymryd â’r mwyafrif o ofal di-dâl, a menywod hefyd yw’r mwyafrif o blith enillwyr isel. Mae rhai sefydliadau yn galw am adolygu'r Cynnig Gofal Plant yng Nghymru, ac yn yr Alban mae'r llywodraeth wedi cynyddu cyflog staff gofal cymdeithasol.

At hynny, gallai llywodraethau ddefnyddio gwerthoedd hawliau dynol (urddas, tegwch, cydraddoldeb, parch ac annibyniaeth) i lunio eu hymateb parhaus i'r pandemig mewn ffyrdd ymarferol.

Gellid defnyddio egwyddorion y Cenhedloedd Unedig o lywodraethu da a hawliau dynol (tryloywder, cyfrifoldeb, atebolrwydd, cyfranogiad, bod yn ymatebol i anghenion y bobl) hefyd.

Rôl y Cynulliad wrth fonitro'r effaith ar gydraddoldeb a hawliau dynol

Mae gan seneddau rôl allweddol wrth ddwyn llywodraethau i gyfrif am benderfyniadau yn ystod y cyfnod hwn, yn enwedig pan nad yw'n bosibl dilyn prosesau a mesurau diogelwch arferol.

Mae arweiniad yr Undeb Rhyngseneddol ar gyfer seneddau wrth asesu ymatebion y llywodraeth yn erbyn safonau hawliau dynol yn pwysleisio'r ystyriaeth o ran:

  • cymesuredd ac anghenraid: Mae hyn yn golygu na ddylai unrhyw fesurau i gyfyngu ar hawliau dynol pobl (er enghraifft, eu rhyddid i gymdeithasu neu eu hawliau i ryddid neu breifatrwydd) wneud mwy nag sy'n hollol angenrheidiol i gyflawni eu nod. Hynny yw, ni ddylent gymryd gordd i dorri cneuen;
  • terfynau amser: dylai natur eithriadol y sefyllfa bresennol gael ei hadlewyrchu gan derfynau amser clir ar bwerau brys neu newidiadau i ddyletswyddau neu fesurau diogelwch;
  • cyfreithlondeb: a oes sail gyfreithiol i fesurau sy'n cyfyngu ar hawliau dynol, a
  • pheidio â gwahaniaethu: dylai seneddau sicrhau nad yw unrhyw fesurau a gymerir gan lywodraethau yn ystod y pandemig yn gwahaniaethu nac yn targedu rhai pobl yn annheg, boed yn fwriadol neu'n anfwriadol. Mae'r Undeb Rhyngseneddol wedi cyhoeddi nodyn arweiniol ar wahân ar gyfer seneddau ar graffu ar faterion sy’n ymwneud â rhywedd yn ystod y pandemig.

Tynnir sylw hefyd at bwysig tryloywder a mynediad at wybodaeth, er mwyn sicrhau bod gan seneddwyr a dinasyddion fynediad at y dystiolaeth sy’n sail i benderfyniadau llywodraethau.

Gall tystiolaeth a gesglir gan Aelodau Cynulliad neu bwyllgorau hefyd helpu i asesu a yw ymrwymiadau cydraddoldeb a hawliau dynol Llywodraeth Cymru yn cael eu cyflawni yn ymarferol.

Mae pwyllgorau'r Cynulliad yn dechrau cymryd tystiolaeth ar effaith y coronafeirws ar fywyd Cymru. Gallwch weld yr holl alwadau am dystiolaeth ar gyfrif Twitter y Cynulliad, neu ar dudalennau gwe pwyllgorau unigol.


Erthygl gan Hannah Johnson, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Rydym wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau ar y pandemig coronafeirws, gan gynnwys erthygl sy'n nodi'r cymorth a'r canllawiau sydd ar gael i bobl yng Nghymru ac amserlen o ymateb llywodraethau Cymru a’r DU.

Gallwch weld ein holl gyhoeddiadau sy'n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy glicio yma. Caiff pob un ei ddiweddaru'n rheolaidd.