Coronafeirws: diweddariad mis Medi 2021 ar y farchnad lafur

Cyhoeddwyd 14/09/2021   |   Amser darllen munudau

A yw’r ystadegau swyddogol wedi dechrau adlewyrchu effaith y coronafeirws ar y farchnad lafur?

Bob mis, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn cyhoeddi amcangyfrifon o gyfraddau cyflogaeth a diweithdra. Mae'r amcangyfrifon hyn yn seiliedig ar wybodaeth a gesglir gan yr arolwg o'r llafurlu ar gyfer y tri mis blaenorol. Mae'r oedi amser i'r ffigurau hyn yn golygu bod y datganiad marchnad lafur diweddaraf a gyhoeddwyd ar 14 Medi 2021 yn rhoi gwybodaeth rhwng mis Mai 2021 a mis Gorffennaf 2021.

Nid yw ffigurau mis Medi yr Arolwg o’r Llafurlu yn adlewyrchu nifer y bobl sydd wedi cael eu rhoi ar ffyrlo o ganlyniad i’r Coronafeirws. Mae'r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws wedi'i ymestyn tan 30 Medi 2021. 

Yn ôl ystadegau CThEM ar y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws roedd dros 54,700 o gyflogaethau yng Nghymru ar ffyrlo ar 31 Gorffennaf 2021. Mae hynny’n cynrychioli cyfradd o 4% sydd wedi defnyddio’r Cynllun. Roedd 25,900 o weithwyr benywaidd a 28,700 o weithwyr gwrywaidd ar ffyrlo o dan y Cynllun ar 31 Gorffennaf 2021.

Beth mae ffigurau diweddaraf yr arolwg o'r llafurlu yn ei ddangos?

Mae'r arolwg o'r llafurlu yn arolwg chwarterol o gartrefi o tua 80,000 o oedolion. Mae'r arolwg yn gofyn amrywiaeth o gwestiynau am gyflogaeth a'r farchnad lafur. Gan fod pobl yn dal i fod ar ffyrlo, ac mae’r oedi amser i’r data hyn, nid yw hyn yn adlewyrchu effaith lawn y coronafeirws ar y farchnad lafur yng Nghymru.

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn esbonio eu bod wedi gwneud newidiadau i’r arolwg o’r llafurlu:

Mae’r ymatebion i’r Arolwg o’r Llafurlu (LFS) wedi cael eu hail-bwysoli i boblogaethau newydd sydd wedi’u deillio drwy ddefnyddio cyfraddau twf o Wybodaeth Amser Real (RTI) Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, i ganiatáu ar gyfer tueddiadau gwahanol yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19). Bydd yr ail-bwysoli yn rhoi amcangyfrifon gwell o'r cyfraddau a'r lefelau.

O fis Mai i fis Gorffennaf 2021, y gyfradd ddiweithdra ymhlith pobl 16 oed a hŷn yng Nghymru oedd 4.2 y cant, fel yr oedd yn y chwarter blaenorol (mis Chwefror 2021 i fis Ebrill 2021). Golyga hyn ostyngiad o 1,000 o bobl ers y chwarter blaenorol, i lawr i 65,000.

Prif ystadegau mis Mai 2021 i fis Gorffennaf 2021 o'u cymharu â'r chwarter blaenorol, mis Chwefror 2021 i fis Ebrill 2021. Y gyfradd ddiweithdra ymhlith pobl 16 oed a hŷn yw 4.2 y cant, gyda 65,000 o bobl yn ddi-waith, sy’n ostyngiad o 1,000 o'r chwarter blaenorol. Y gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16-64 yw 74.6 y cant, gyda 1,493,000 o bobl 16 oed a hŷn mewn cyflogaeth, sy’n ostyngiad o 16,000 o'r chwarter blaenorol. Y gyfradd anweithgarwch economaidd ymhlith pobl 16-64 yw 22.0 y cant, gyda 417,000 o bobl yn economaidd weithgar, sy’n ostyngiad o 16,000 o’r chwarter blaenorol.

Ffynhonnell: SYG, Regional labour market: Headline indicators for Wales

Mae'r gyfradd ddiweithdra yng Nghymru (4.2 y cant) yn is na Lloegr (4.6 y cant) a’r Alban (4.3 y cant) ond yn uwch na Gogledd Iwerddon (4.0 y cant).

Canran y bobl 16 oed neu’n hŷn sy'n ddi-waith, gwledydd y DU; Mai 2016 – Gorffennaf 2016 i Mai 2021 - Gorffennaf 2021.

Graff llinell yn dangos cyfraddau diweithdra pobl 16 oed a hŷn ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae pob un yn dangos gostyngiad yn gyffredinol i ffigur o dan 4 y cant yn 2019. Dilynwyd hyn gan gynnydd sydyn yn gyffredinol ers dechrau 2020. Mae Cymru a Lloegr wedi gweld adferiad yn y ddau chwarter diweddaraf. Nodir y ffigurau diweddaraf uchod.

Ffynhonnell: SYG, Labour market in the regions of the UK: Medi 2021

Mae data o'r arolwg o’r llafurlu yn dangos y gyfradd ddiweithdra yn ôl rhyw ac oedran ar gyfer y 12 mis hyd at fis Mawrth 2021. Mae'r data diweddaraf yn dangos bod cyfraddau diweithdra yn gostwng gydag oedran ar gyfer dynion a menywod. Ym mhob grŵp oedran, mae cyfraddau diweithdra dynion yn uwch na’r gyfradd ar gyfer menywod.

Cyfradd ddiweithdra yn ôl oedran a rhyw yng Nghymru; 12 mis hyd at fis Mawrth 2021

Mae’r gyfradd diweithdra ymhlith dynion rhwng 16 a 24 oed yn 11.3 y cant o'i gymharu â 10.3 y cant ar gyfer menywod. Mae’r gyfradd diweithdra ymhlith dynion rhwng 25 a 49 oed yn 3.7 y cant o'i gymharu â 2.8 y cant ar gyfer menywod. Mae’r gyfradd diweithdra ymhlith dynion rhwng 50 a 64 oed yn 2.7 y cant o'i gymharu â 2.5 y cant ar gyfer menywod.

Mae data ar ddiweithdra hefyd ar gael yn ôl etholaeth seneddol. Mae'r map isod yn dangos y 12 mis hyd at fis Mawrth 2021. Cwm Cynon oedd â'r gyfradd uchaf (8.3 y cant) a Phen-y-bont ar Ogwr a Delyn oedd â’r cyfraddau isaf (2.0 y cant).

Mae’r gyfradd diweithdra ymhlith dynion rhwng 16 a 24 oed yn 11.3 y cant o'i gymharu â 10.3 y cant ar gyfer menywod. Mae’r gyfradd diweithdra ymhlith dynion rhwng 25 a 49 oed yn 3.7 y cant o'i gymharu â 2.8 y cant ar gyfer menywod. Mae’r gyfradd diweithdra ymhlith dynion rhwng 50 a 64 oed yn 2.7 y cant o'i gymharu â 2.5 y cant ar gyfer menywod.

Noder: Mae maint y siamplau yng Ngorllewin Caerdydd a Chaerdydd Canolog yn rhy fach ar gyfer creu amcangyfrifon.

A oes data eraill y gallwn eu defnyddio i weld effaith y coronafeirws ar y farchnad lafur yng Nghymru?

Mae nifer y bobl sy’n hawlio budd-daliadau yn cael eu cyhoeddi'n fisol ac maent yn fwy amserol. Fodd bynnag, gall pobl mewn gwaith hefyd fod yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol a gellid eu cynnwys yn y nifer sy'n hawlio budd-daliadau. Mae’r SYG yn nodi;

As part of the response to the pandemic, the rules about who can claim Universal Credit have changed, meaning an increased proportion of those claiming may actually still be in some kind of work. Because of these reasons, the change in the claimant count almost certainly ends up overstating any underlying change in unemployment.

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd wedi bod yn gweithio gyda Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi i greu amcangyfrifon o gyflogeion sy’n cael eu talu drwy'r cynllun Talu Wrth Ennill. Mae data o’r cynllun Talu Wrth Ennill a addaswyd yn dymhorol ar gyfer mis Awst 2021 (1,272,177) yn dangos bod nifer y gweithwyr cyflogedig yng Nghymru yn uwch na'r nifer ar gyfer mis Chwefror 2020. Roedd cynnydd o 8,749 o weithwyr cyflogedig rhwng mis Gorffennaf a mis Awst 2021.

Nifer yr hawlwyr - wedi'i haddasu'n dymhorol

Mae'r SYG yn cyhoeddi cyfres arbrofol  sy'n cyfrif nifer y bobl sy'n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith ynghyd â'r rhai sy'n hawlio Credyd Cynhwysol ac mae'n ofynnol iddynt geisio gwaith a bod ar gael i weithio. Mae hyn yn disodli nifer y bobl sy'n hawlio’r Lwfans Ceisio Gwaith fel prif ddangosydd nifer y bobl sy'n hawlio budd-daliadau yn bennaf am eu bod yn ddi-waith. Mae'r data diweddaraf ar gyfer mis Awst 2021 yn dangos bod nifer yr hawlwyr yng Nghymru wedi cynyddu o 59,173 ym mis Mawrth 2020 i 119,232 ym mis Awst 2020, ac yna wedi lleihau i 89,427 ym mis Awst 2021.

Nifer yr hawlwyr yng Nghymru; mis Awst 2019 i fis Awst 2021

Mae'r data diweddaraf ar gyfer mis Awst 2021 yn dangos bod nifer yr hawlwyr yng Nghymru wedi cynyddu o 59,173 ym mis Mawrth 2020 i 119,232 ym mis Awst 2020, ac yna wedi lleihau i 89,427 ym mis Awst 2021.

Ffynhonnell, NOMIS, Nifer y bobl sy’n hawlio budd-dal SYG - addesir yn dymhorol

Nodiadau: O fis Mai 2013 ymlaen, ystyrir bod y ffigurau hyn yn ystadegau arbrofol. Dan y cynllun Credyd Cynhwysol, mae'n ofynnol i rychwant ehangach o hawlwyr geisio gwaith na chynllun y Lwfans Ceisio Gwaith. Wrth i Wasanaeth Llawn Credyd Cynhwysol gael ei gyflwyno mewn ardaloedd penodol, mae’n debygol y bydd cynnydd yn nifer y bobl y cofnodir eu bod yn ei hawlio. Caiff y cyfraddau ar gyfer rhanbarthau a gwledydd o 2018 ymlaen eu cyfrifo drwy ddefnyddio trigolion 16-64 oed canol 2015.

Diffiniadau

Mae nifer y bobl ddi-waith yn y DU yn cynnwys pobl sy'n bodloni'r diffiniad o ddiweithdra a nodir gan y Sefydliad Llafur Rhyngwladol (ILO). Mae'r Sefydliad Llafur Rhyngwladol yn diffinio pobl ddi-waith fel:

  • y rhai heb swydd, sydd wedi bod wrthi'n chwilio am waith yn y pedair wythnos diwethaf ac sydd ar gael i ddechrau gweithio yn y pythefnos nesaf
  • y rhai allan o waith, sydd wedi dod o hyd i swydd ac yn aros i'w dechrau yn y pythefnos nesaf

Mae cyflogaeth yn mesur nifer y bobl 16 oed neu’n hŷn sydd mewn gwaith cyflogedig. Y prif fesur o gyflogaeth ar gyfer y DU yw'r gyfradd gyflogaeth ar gyfer y rhai rhwng 16 a 64 oed.

Y prif fesur o anweithgarwchyn y DU yw cyfradd y rhai rhwng 16 a 64 oed heb swydd nad ydynt wedi chwilio am waith yn y pedair wythnos diwethaf a/neu nad ydynt ar gael i ddechrau gweithio yn y pythefnos nesaf.


Erthygl gan Joe Wilkes a Helen Jones, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru