Bu defnyddio gwasanaethau ar-lein yn rhan bwysig o’r ymateb i’r coronafeirws. Mae rhagor o bobl yn gweithio gartref, ac mae rhagor o wasanaethau cyhoeddus fel addysg a gofal iechyd yn cael eu darparu ar-lein. Ond mae mynediad at dechnoleg ddigidol yn anwastad, a gellir dadlau mai’r rhai a allai gael y budd mwyaf o ddefnyddio gwasanaethau digidol yw’r rhai sy’n lleiaf tebygol o allu gwneud hynny.
Yr ymateb digidol i’r coronafeirws
Mae technoleg ddigidol yn cael ei defnyddio i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r feirws - er enghraifft drwy weithio gartref neu drwy siopa ar-lein, ac i liniaru effaith y cyfyngiadau ar symud sy’n ei gwneud yn anodd i gael gafael ar wasanaethau cyhoeddus fel addysg a gofal iechyd.
Mae’r ffyrdd allweddol y mae technoleg ddigidol yn cael ei defnyddio yn cynnwys:
- Ar 16 Mawrth, wythnos cyn cyflwyno’r rheolau aros gartref, cyhoeddodd y Prif Weinidog y dylai pobl a oedd yn gallu gweithio gartref wneud hynny. Yn ôl data arolwg, mae’r amser a dreulir yn gweithio gartref ledled y DU wedi cynyddu 67 y cant ers i’r cyfyngiadau symud gael eu cyflwyno.
- Ar 20 Mawrth caeodd ysgolion y Deyrnas Unedig i’r mwyafrif o blant. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud mai’r dasg nawr yw “dod o hyd i ffyrdd i helpu ein plant ni i ddal ati i ddysgu”, sy’n golygu “galluogi dysgu o bell”. Disgwylir i ysgolion gefnogi dysgu disgyblion gartref, drwy ddefnyddio adnoddau ar-lein fel Hwb.
- Ers dechrau mis Ebrill, gall pob practis meddyg teulu yng Nghymru gael mynediad at system newydd sy’n caniatáu i bobl gael apwyntiadau ar-lein gyda’u meddyg a chyda gweithwyr proffesiynol gofal iechyd eraill. Mae ymgynghoriadau fideo wedi cael eu hestyn i ofal eilaidd a gofal cymunedol.
- Mae archfarchnadoedd mawr wedi cytuno i roi blaenoriaeth i archebion ar-lein ar gyfer pobl sy’n hynod o agored i niwed, gan ddefnyddio manylion personol a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru.
- Rhwng 16 Mawrth a 4 Mai gwnaeth bron i ddwy filiwn o bobl gais am Gredyd Cynhwysol yn y DU. Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau wrth Aelodau Seneddol fod y ffigur hwnnw chwe gwaith y gyfradd hawlwyr arferol, ac mewn un wythnos bu cynnydd "ddeg gwaith" yn yr hawliadau. Gwneir hawliadau Credyd Cynhwysol, yn y lle cyntaf, ar-lein, ac mae llinell ffôn i’w defnyddio os na allwch "ddefnyddio gwasanaethau digidol o gwbl".
- Gall technoleg ddigidol, fel galwadau fideo, leddfu arwahanrwydd cymdeithasol a achosir gan y cyfyngiadau symud ar hyn o bryd. Mae hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer pobl hŷn a all, oherwydd y tuedd iddynt fod yn agored i’r feirws, ynysu eu hunain am gyfnod hirach ac i raddau mwy na grwpiau eraill o’r boblogaeth.
Mae mynediad at wasanaethau digidol yn adlewyrchu anghydraddoldebau eraill yn y gymdeithas
Caiff 97 y cant o eiddo yng Nghymru fynediad at gyflymder band eang o 10 Mbps neu gyflymach, sef, tua’r un cyflymder â chyfartaledd y DU (98 y cant). Mae’r rheoleiddiwr cyfathrebu Ofcom yn galw hyn yn “fand eang gweddus”: sef, dylai fod yn ddigon cyflym ar gyfer yr holl weithgareddau a grybwyllir yn yr erthygl hon.
Ystyr hyn yw, os yw pobl eisiau mynediad at fand eang gweddus, ac y gallant dalu amdano, gall y mwyafrif helaeth danysgrifio i becyn band eang addas gan Ddarparwr Gwasanaeth Rhyngrwyd. Dengys gwaith ymchwil gan Lywodraeth Cymru fodd bynnag, nad oedd gan 13 y cant o aelwydydd fynediad at y rhyngrwyd yn 2018-19, ac mae mynediad at wasanaethau ar-lein yn adlewyrchu anghydraddoldebau eraill mewn cymdeithas:
- Roedd 98 y cant o bobl 16-49 oed yn defnyddio’r rhyngrwyd o’i gymharu â 49 y cant o’r bobl sy’n 75 oed neu’n hŷn.
- Roedd y rhai mewn cyflogaeth yn fwy tebygol o fod â mynediad i’r rhyngrwyd gartref (96 y cant) na’r rhai a oedd yn ddi-waith (84 y cant) neu a oedd yn economaidd anweithgar (78 y cant).
- Defnyddiodd 79 y cant o bobl â salwch hirsefydlog, anabledd neu wendid hirsefydlog y rhyngrwyd, o’i gymharu â 93 y cant o’r rhai heb gyflwr o’r fath.
- O’r rhai â chymwysterau addysgol ar lefel gradd ac uwch, roedd 96 y cant yn defnyddio’r rhyngrwyd; o’r rhai nad oedd ganddynt y cymwysterau hyn, roedd 68 y cant yn defnyddio’r rhyngrwyd.
Gellir dadlau mai pobl sydd â’r mwyaf i’w ennill o gael gwasanaethau digidol yn ystod y pandemig, fel pobl hŷn sy’n awyddus i gael gafael ar wasanaethau iechyd a chadw mewn cysylltiad ag wyrion, neu’r rhai sy’n ddi-waith yn ddiweddar sydd angen ymgeisio am Gredyd Cynhwysol, yw’r bobl lleiaf tebygol o fod â mynediad at y rhyngrwyd gartref.
Mae’r tebygolrwydd y bydd gan bobl y sgiliau sydd eu hangen i wneud y gorau o gysylltiad rhyngrwyd yn adlewyrchu’r anghysondeb hwn. Yn ôl yr un gwaith ymchwil gan Lywodraeth Cymru, y ffactorau allweddol ar gyfer bod ag amrywiaeth o sgiliau digidol yw bod rhwng 16 a 49 mlwydd oed a bod wedi eich addysgu i lefel gradd neu uwch.
Mynd i’r afael ag allgáu digidol yn ystod y pandemig
Mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo mynediad at wasanaethau digidol drwy ei his-adran Cymunedau Digidol. Mae’r gwaith hwn wedi cynyddu mewn sawl ffordd yn ystod y pandemig:
- Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid i brynu rhagor na mil o gyfrifiaduron llechen newydd ar gyfer amgylcheddau iechyd a gofal. Bydd y dyfeisiau’n cael eu hanfon i gartrefi gofal, hosbisau a lleoliadau wardiau, a byddant yn cefnogi gwasanaeth ymgynghori drwy fideo GIG Cymru, sy’n cael ei gyflwyno’n gyflym ar draws GIG Cymru.
- Mae’r Gweinidog Addysg wedi cyhoeddi y rhoddir hyd at £3 miliwn i gefnogi dysgwyr sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol. Bydd awdurdodau lleol yn defnyddio’r cyllid i ddarparu dyfeisiau ysgol wedi’u hailosod a chysylltedd 4G MiFi i ddysgwyr sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol.
Mae gan Cymunedau Digidol dudalen we sy’n esbonio’r amrywiaeth o gymorth ar-lein y mae’n ei ddarparu yn ystod y pandemig, gan gynnwys cyrsiau hyfforddi ac adnoddau ar-lein. Mae hyn yn cynnwys cefnogaeth i bobl ddod yn gyfeillion digidol fel y gallant helpu pobl y maent yn eu hadnabod i gael mynediad at wasanaethau digidol.
Mae’r modd y mae’r coronafeirws wedi dwysau’r anghydraddoldebau presennol wedi ei nodi gan lawer, gan gynnwys Prif Weinidog Cymru. Gall technoleg ddigidol fynd i’r afael ag anghydraddoldeb drwy ehangu mynediad at wasanaethau, ond mae angen gwaith o ran cynhwysiant digidol i sicrhau bod y buddion hyn yn gyfartal ar draws cymdeithas.
Erthygl gan Robin Wilkinson, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru
Rydym wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau ar y pandemig coronafeirws, gan gynnwys erthygl sy’n nodi’r cymorth a’r canllawiau sydd ar gael i bobl yng Nghymru ac amserlen o ymateb llywodraethau Cymru a’r DU.
Gallwch weld ein holl gyhoeddiadau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy glicio yma. Caiff pob un ei ddiweddaru’n rheolaidd.