Yn dilyn yr adolygiad diweddaraf o'r rheoliadau ar gyfyngiadau’r Coronafeirws yng Nghymru ar 21 Awst 2020, cadarnhaodd y Prif Weinidog y bydd hyd at bedair aelwyd yn gallu uno â’i gilydd yng Nghymru, gan ffurfio aelwyd estynedig sy’n fwy o faint. Bydd hyn yn galluogi mwy o aelodau'r teulu a ffrindiau agos sydd wedi cael eu gwahanu yn ystod y pandemig i ailgysylltu. Yn ogystal, bydd y cam hwn yn ceisio cefnogi trefniadau gofalu, er enghraifft drwy helpu rhieni sy'n gweithio gyda’u trefniadau gofal plant anffurfiol.
Pwysleisiodd y Prif Weinidog hefyd nad yw'r amodau eto'n caniatáu llacio’r cyfyngiadau cyffredinol ar allu pobl i gwrdd o dan do. Ni chaniateir i bobl ymweld â chartref rhywun arall o dan do oni bai eu bod yn rhan o'u haelwyd estynedig neu’n darparu gofal. Mae hefyd yn golygu na all bobl ond ymweld â busnes neu safle y tu mewn–megis tafarn neu fwyty–gydag aelodau o'u haelwyd eu hunain neu aelodau o’u haelwyd estynedig. Gall pobl o wahanol aelwydydd gwrdd yn yr awyr agored cyn belled â’u bod yn cofio cadw pellter cymdeithasol Dywedodd y Prif Weinidog:
Mae’r cyngor gwyddonol a meddygol yn parhau i ddangos bod lefelau trosglwyddo’r coronafeirws yn isel yn Nghymru. Fodd bynnag, mae’r cynnydd yn nifer yr achosion yn ardaloedd eraill y DU a thu hwnt yn dal i’n hatgoffa nad yw’r feirws wedi diflannu. Rydym yn dysgu gwersi o’r hyn sy’n digwydd yn y lleoedd hynny, sy’n awgrymu bod cynulliadau o bobl dan do yn parhau i fod yn risg sylweddol.
Beth mae'r rheoliadau a'r canllawiau cyfredol yn ei ddweud?
Aelwydydd estynedig
Yn ôl y canllawiau, gall hyd at bedair aelwyd ar wahân uno i ffurfio aelwyd estynedig. Mae hyn yn golygu y gall dwy aelwyd estynedig (o ddau gartref yr un) sy’n bodoli eisoes uno i greu aelwyd estynedig; fel arall, bydd pedair aelwyd ar wahân (nad ydynt eisoes yn rhan o aelwyd estynedig) yn gallu uno â'i gilydd.
Gall aelwydydd estynedig fod yn drawsffiniol; er enghraifft, gall aelwyd yng Nghymru ymuno ag aelwyd yn Lloegr. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd angen i'r trefniadau gydymffurfio â'r rheolau yn y ddwy wlad.
Beth am ffrindiau ac aelodau’r teulu nad ydynt yn rhan o'ch aelwyd estynedig?
Mae'r rheoliadau'n darparu yr un rhyddid cyfreithiol i aelodau o aelwyd estynedig â’r hyn sydd gan bobl sy’n byw mewn aelwyd unigol (er enghraifft, y gallu i gwrdd o dan do, cael cyswllt corfforol ac aros yng nghartrefi ei gilydd). I raddau helaeth, mae ffrindiau ac aelodau’r teulu nad ydynt yn rhan o'r un aelwyd estynedig yn parhau i orfod cwrdd mewn lleoliadau awyr agored.
Y prif negeseuon ynghylch sefyllfaoedd a gweithgareddau cymdeithasol cyffredin
Ymweld â chartrefi pobl – Gallwch ymweld â phobl nad ydynt yn rhan o'ch aelwyd eich hun/aelwyd estynedig yn eu gerddi, ond ni allwch fynd i mewn i'w cartrefi. Mae’r canllawiau yn cydnabod y posibilrwydd y bydd gofyn i chi fynd drwy gartref rhywun i gyrraedd y gofod awyr agored. Dylech osgoi defnyddio toiled neu gyfleusterau eraill y tu mewn i'r tŷ os yn bosibl.
Tafarndai a bwytai - Dylech ond fynd i dafarndai neu fwytai o dan do gydag aelodau o'ch aelwyd eich hun/aelwyd estynedig. Gallwch fwyta neu yfed yn yr awyr agored gyda hyd at 30 o bobl sydd y tu allan i'ch aelwyd eich hun/aelwyd estynedig, cyn belled â'ch bod yn cadw pellter corfforol.
Priodasau ac angladdau – Gallwch fynd i seremoni briodasol neu seremoni ar gyfer partneriaeth sifil neu angladd os ydych yn cael gwahoddiad. Bydd nifer y bobl sy'n gallu bod yn bresennol yn dibynnu ar gapasiti’r lleoliad, gan gymryd mesurau pellhau corfforol i ystyriaeth. Mae hawl bellach i bobl gynnal derbyniadau neu gynulliadau cyfyngedig dan do ar gyfer hyd at 30 o bobl yn dilyn priodas, seremoni ar gyfer partneriaeth sifil neu angladd.
Gwyliau - Ar hyn o bryd, dylech ond fynd ar eich gwyliau gydag aelodau o'ch aelwyd eich hun/aelwyd estynedig.
Cartrefi gofal – Mae Llywodraeth Cymru wedi awgrymu, os bydd yr amodau'n caniatáu, y bydd hawl cynnal ymweliadau dan do mewn cartrefi gofal o 29 Awst 2020, yn amodol ar gadw at ganllawiau caeth.
Plant – Mae'r cyfyngiadau ar bobl yn cwrdd o dan do yn berthnasol i blant yn ogystal ag oedolion. Ni ddylai plant ymweld â mangreoedd dan do gyda'i gilydd (er enghraifft, siopau, sinemâu, arcedau pleser) oni bai eu bod yn rhan o'r un aelwyd/aelwyd estynedig. Wrth gwrdd a chwarae yn yr awyr agored, ni ddisgwylir i blant lynu’n gaeth wrth y canllawiau ar bellhau corfforol a chadw pellter o ddau fetr.
Yn amlwg, pan fydd ysgolion yn ailagor, bydd llawer mwy o blant yn cymysgu o dan do. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i’r cam o ailagor ysgolion ym mis Medi. Dywedodd y Prif Weinidog:
Mae’r holl lacio yr ydym yn ei wneud i’r cyfyngiadau yn cael effaith ar y cyfraddau trosglwyddo a’r hyblygrwydd sydd ar gael inni. Byddwn yn defnyddio’r hyblygrwydd sydd gennym i sicrhau y gall plant ailafael yn eu haddysg fis nesaf.
Mae'r wybodaeth uchod yn adlewyrchu'r sefyllfa yng Nghymru ar adeg ysgrifennu'r adroddiad hwn. Mae'r rheolau ar aelwydydd estynedig a’r drefn ar gyfer cwrdd â theulu a ffrindiau yn amrywio ledled y DU, fel y crynhoir isod. Neges allweddol sy’n cael ei mynegi ledled y DU yw y dylid cadw pellter corfforol wrth gwrdd â phobl sydd y tu allan i'ch aelwyd eich hun neu eich aelwyd neu swigen estynedig.
Aelwydydd estynedig/swigod cymorth Cymru - Gall hyd at bedair cartref ffurfio aelwyd estynedig Lloegr - Gall aelwydydd un person ffurfio 'swigen gymorth' unigryw gydag un aelwyd arall Yr Alban - Gall dwy aelwyd ffurfio aelwyd estynedig (ar hyn o bryd, dyma’r cyngor a roddir i bobl sy'n byw ar eu pennau eu hunain a/neu bobl sydd mewn perthynas ond nad ydynt yn byw gyda'u partner) Gogledd Iwerddon - Gall pobl sy'n byw ar eu pennau eu hunain ffurfio swigen gymorth gydag un aelwyd arall |
Cymdeithasu o dan do (er enghraifft, mewn tafarn neu fwyty) Cymru – Dim ond gyda'ch aelwyd (estynedig) eich hun Lloegr – Hyd at ddwy aelwyd (mae unrhyw un yn eich swigen gymorth yn cyfrif fel un aelwyd) Yr Alban – Hyd at dair aelwyd Gogledd Iwerddon – Hyd at chwech o bobl o ddwy aelwyd |
Cymdeithasu yn yr awyr agored Cymru – Hyd at 30 o bobl Lloegr – Hyd at chwech o bobl o wahanol aelwydydd neu hyd at ddwy aelwyd Yr Alban – Hyd at bum aelwyd, ond dim mwy na chyfanswm o 15 o bobl Gogledd Iwerddon – Hyd at 15 o bobl |
I gael gwybodaeth bellach ar y rheolau sydd ar waith mewn rhannau eraill o'r DU, gweler yr adnoddau a ganlyn:
- Canllawiau Llywodraeth y DU ar gwrdd â phobl sydd y tu allan i'ch aelwyd;
- Canllawiau Llywodraeth yr Alban ar gwrdd â ffrindiau a theulu;
- Canllawiau Gogledd Iwerddon ar deuluoedd a chymunedau.
Erthygl gan Philippa Watkins, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru
Rydym wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau ar y pandemig coronafeirws, gan gynnwys erthygl sy'n nodi'r cymorth a'r canllawiau sydd ar gael i bobl yng Nghymru ac amserlen o ymateb llywodraethau Cymru a’r DU.
Gallwch weld ein holl gyhoeddiadau sy'n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy glicio yma. Caiff pob un ei ddiweddaru'n rheolaidd.