Cafodd yr erthygl hon ei diweddaru ddiwethaf ar 22 Mai 2020
Mae pandemig y coronafeirws wedi tarfu ar y trafodaethau rhwng y DU a'r UE y gwanwyn hwn. Mae'r ddwy ochr yn dal i baratoi ar gyfer diwedd y cyfnod pontio ar 31 Rhagfyr. Fodd bynnag, mae gwahaniaethau sylweddol rhyngddynt o ran eu perthynas yn y dyfodol, yn ogystal ag anghydweld ar feysydd penodol. Yn y cyfamser, mae'r UE wedi cymryd camau i fynd i'r afael â phandemig y coronafeirws. Yn ystod y cyfnod pontio, mae llawer o'r mesurau hyn hefyd yn berthnasol i'r DU.
Sut mae'r trafodaethau ar y berthynas yn y dyfodol yn mynd rhagddynt?
Mae'r DU a’r UEbellach wedi cynnal tair rownd o drafodaethau ar eu perthynas yn y dyfodol. Mewn datganiadau ar 15 Mai, cytunodd y ddwy ochr na chafwyd ond ychydig o gynnydd, gan nodi pysgodfeydd a rheolau chwarae teg yn feysydd allweddol lle mae anghytuno.
Galwodd prif negodwr y DU David Frost am gytundeb masnach rydd cynhwysfawr safonol, ochr yn ochr â chytundebau allweddol eraill ar faterion megis gorfodi'r gyfraith, niwclear sifil, a hedfan. Cyhoeddodd y DU destunau drafft ar gyfer cytundebau â’r UE ar 19 Mai.
O'i ran ef, pwysleisiodd prif negodwr yr UE, Michel Barnier bwysigrwydd datblygu fframwaith llywodraethu sengl ar gyfer y berthynas yn y dyfodol. Cyhoeddodd yr UE un testun cyfreithiol drafft ar gyfer y berthynas yn y dyfodol, ym mis Mawrth.
Dechreuodd y DU a'r UE ar y trafodaethau ar gyfer eu perthynas yn y dyfodol ar 3 Mawrth. Y bwriad oedd cynnal pum rownd drafod rhwng dechrau mis Mawrth a chanol mis Mai, gyda phob rownd yn para rhai dyddiau.
Ni chynhaliwyd yr ail na'r drydedd rownd o drafodaethau fel y’u cynlluniwyd oherwydd pandemig y coronafeirws. Yn lle hynny, ar 15 Ebrill, cytunodd, sef prif negodwyr y DU a'r UE, y defnyddir fideogynadledda i gynnal y trafodaethau, a’r rheini mewn tair rownd a fyddai’n para wythnos yr un yn dechrau ar 20 Ebrill, 11 Mai a 1 Mehefin, ac y byddid yn pwyso a mesur y sefyllfa yn y cyfarfod a drefnwyd ar gyfer mis Mehefin i drafod cynnydd.
Mae Llywodraeth y DU wedi dweud na fydd yn ceisio estyniad i'r cyfnod pontio o ganlyniad i'r feirws. Os nad yw’n dod i gytundeb â’r UE neu'n cytuno ar estyniad, bydd y DU yn gadael y cyfnod pontio ar delerau'r Cytundeb Ymadael yn unig.
O dan y Cytundeb Ymadael, trefnwyd i’r cyfnod pontio bara tan 31 Rhagfyr 2020, ond gellir ei ymestyn unwaith am hyd at flwyddyn neu ddwy flynedd. Os gofynnir am estyniad, rhaid i'r DU roi gwybod i’r UE am hyn erbyn 1 Gorffennaf 2020. Fodd bynnag, mae Llywodraeth y DU wedi deddfu i atal Gweinidogion rhag cytuno i estyniad yn Neddf yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael) 2020. Mae ein hamserlen Brexit yn nodi'r dyddiadau allweddol rhwng nawr a diwedd mis Rhagfyr.
Mae Prif Weinidog Cymru wedi ysgrifennu at Brif Weinidog y DU yn gofyn iddo ofyn am estyniad yng ngoleuni'r pandemig. Ar 7 Mai, aeth y Dywedodd Jeremy Miles, y Gweinidog Pontio Ewropeaidd, 'er gwaethaf addewidion i wella hyn wrth i’r trafodaethau ar y berthynas yn y dyfodol ddechrau, aeth yr ymgysylltiad â Gweinidogion hyd yn oed yn fwy annigonol'. Dywedodd fod cyfarfod o’r Cydbwyllgor Gweinidogol (Trafodaethau’r UE) - y fforwm sy’n dod â phedair llywodraeth y DU ynghyd i drafod y trafodaethau - wedi cael ei drefnu ar gyfer canol mis Mai, sef y cyfarfod cyntaf ers mis Ionawr.
Nod Llywodraeth y DU hefyd yw cyd-drafod cytundebau masnach newydd â gwledydd eraill ar yr un pryd â thrafod y berthynas â'r UE yn y dyfodol. Cynhaliwyd y rownd gyntaf o drafodaethau ar gyfer cytundeb masnach rydd rhwng y DU ac UDA rhwng 5 a 15 Mai, ar ôl iddynt gael eu gohirio o fis Mawrth. Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ddatganiad ar ganlyniad y rownd gyntaf y trafodaethau ar 18 Mai, a chadarnhaodd y cynhelir y rownd nesaf rhwng 15 a 22 Mehefin.
Ar 13 Mai, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei hamcanion trafod ar gyfer cytundeb masnach rydd â Japan; disgwylir i'r trafodaethau gychwyn yn fuan. Bydd amcanion trafod ar gyfer cytundebau masnach rydd ag Awstralia a Seland Newydd hefyd yn cael eu cyhoeddi cyn hir.
Sut mae pandemig y coronafeirws yn effeithio ar y paratoadau ar gyfer diwedd y cyfnod pontio?
Yn ogystal â thrafod eu perthynas yn y dyfodol, mae angen i'r DU a'r UE hefyd weithredu'r Cytundeb Ymadael. Cyfarfu Cydbwyllgor y DU-yr UE ar weithredu'r Cytundeb Ymadael drwy gyfrwng telegynhadledd am y tro cyntaf ar 30 Mawrth. Cyhoeddodd Llywodraeth y DU a’r Comisiwn Ewropeaidd ddatganiadau eu datganiadau eu hunain ar ôl y cyfarfod.
Ar 15 Ebrill, cytunodd David Frost a Michel Barnier, y prif negodwyr fod gweithredu’r Cytundeb Ymadael mewn ffordd briodol ac amserol yn brif flaenoriaeth i’r ddwy ochr. Cyfarfu’r Pwyllgor Arbenigol ar weithredu’r Protocol ar Iwerddon/Gogledd Iwerddon am y tro cyntaf ar 30 Ebrill. Mae'r DU a'r UE wedi cyhoeddi dogfennau ar weithredu'r Protocol.
Ar lefel ddomestig, mae Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig wedi bod yn paratoi ar gyfer diwedd y cyfnod pontio ar 31 Rhagfyr. Er enghraifft, mae newidiadau i'r system fewnfudo, Cronfa Ffyniant Gyffredin newydd i ddisodli cyllid rhanbarthol yr UE, a fframweithiau polisi cyffredin y DU ar gyfer meysydd sy'n dod o dan gyfraith yr UE ar y gweill. Amlinellodd y Gweinidog Pontio Ewropeaidd effaith y pandemig ar barodrwydd yng Nghymru yn ei ddatganiad ar 7 Mai.
Un mater allweddol ar gyfer y Senedd yw craffu ar ddeddfwriaeth sy'n codi yn sgil ymadael â’r UE. Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn bwriadu pasio deddfau newydd i alluogi awdurdodau'r DU ac awdurdodau datganoledig i ddisodli cyfraith yr UE yn y dyfodol. Mewn sawl achos, mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i Lywodraeth y DU gyflwyno deddfwriaeth mewn meysydd datganoledig er mwyn cyflawni hyn. Gan fod y Biliau hyn yn effeithio ar bwerau datganoledig, bydd angen i'r Senedd ystyried a ddylid rhoi cydsyniad iddynt yn unol â’r confensiwn cydsyniad deddfwriaethol. Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Amaethyddiaeth, y Bil Pysgodfeydd, Bil yr Amgylchedd a’r Bil Masnach.
Sut y bydd camau’r UE i fynd i'r afael â phandemig y coronafeirws yn effeithio ar y DU yn ystod y cyfnod pontio?
Cyfrifoldeb Aelod-wladwriaethau yn yr UE yw gofal iechyd. Fodd bynnag, mae'r UE yn dal i gymryd amrywiaeth o gamau i fynd i'r afael â phandemig y coronafeirws. O dan delerau'r Cytundeb Ymadael, mae'r rhan fwyaf o reolau'r UE yn gymwys i'r DU yn ystod y cyfnod pontio, ond ni chynrychiolir y DU yn ffurfiol yn sefydliadau'r UE. Gall cynrychiolwyr y DU gymryd rhan yn nhrafodaethau’r UE pan fydd y trafodaethau hynny'n ymwneud â'r DU a bod y cynrychiolwyr wedi cael eu gwahodd i wneud hynny, ond nid oes ganddynt hawliau pleidleisio.
Yn ystod y cyfnod pontio, mae gwahanol gamau gweithredu gan yr UE i ymdrin â’r pandemig yn gymwys i’r DU mewn gwahanol ffyrdd. Mae’r hyn a fydd yn digwydd ar ôl y cyfnod pontio yn destun trafodaethau ynghylch y berthynas yn y dyfodol.
- Mae cyfreithiau fferyllol yr UE yn parhau i fod yn berthnasol i'r DU. Yr Asiantaeth Meddyginiaethau Ewropeaidd yw asiantaeth yr UE sy’n gyfrifol am werthuso, goruchwylio a chymeradwyo meddyginiaethau a brechiadau. Mae hefyd yn cefnogi arloesi a gwaith ymchwil gwyddonol yn y sector fferyllol. Yn ystod y cyfnod pontion, mae'r asiantaeth yn gwneud hyn ar gyfer y DU hefyd. Mae'r DU hefyd yn gallu rhannu gwybodaeth am y pandemig trwy System Rhybudd Cynnar ac Ymateb Cynnar yr EU ac mae’n dal i fod yn aelod o Ganolfan Atal a Rheoli Clefydau Ewrop.
- Gall y DU gael mynediad at gyflenwadau a rennir o gyfarpar meddygol, gan gynnwys drwy’r mecanwaith amddiffyn sifil a chymryd rhan mewn prosiectau caffael ar y cyd. Disgwylir i'r DU gael cyfran 1.5 miliwn o fasgiau meddygol a brynwyd gan y Comisiwn ar gyfer 17 Aelod-wladwriaeth a'r DU ym mis Mai. Fodd bynnag,fel Aelod-wladwriaethau’r UE, gall y DU benderfynu a ddylid cymryd rhan mewn mentrau caffael yr UE ai peidio. Gwnaeth 25 Aelod-wladwriaeth gymryd ran yng nghynllun ar y cyd y Comisiwn Ewropeaidd i gaffael cyfarpar diogelu personol a pheiriannau anadlu ym mis Mawrth; ni wnaeth y DU - na'r Ffindir na Gwlad Pwyl.
- Mae mesurau ariannol ac economaidd yr UE yn parhau’n gymwys i'r DU. Mae hyn yn cynnwys y Fenter Fuddsoddi mewn Ymateb i’r Coronafeirws - sy’n rhyddhau €37 biliwn o gronfeydd strwythurol i ymateb i’r argyfwng - a mesurau eraill fel cymorth i'r sector bwyd-amaeth. Nid yw hyn cynnwys cynllun ymateb ardal yr ewro na’r camau gan yr UE i lacio ei rheolau cyllidebol, am nad yw'r DU yn aelod o'r ewro.
- Mae mesurau’r DU i gynorthwyo busnesau yn parhau’n ddarostyngedig i fframwaith yr UE o ran cymorth gwladwriaethol. Mae’r UE wedi cymeradwyo cynlluniau’r DU drwy ei fframwaith dros dro ynghylch cymorth gwladwriaethol mewn argyfwng, gan gynnwys cymorth i bobl hunangyflogedig a busnesau bach a chanolig.
- Caiff dinasyddion a nwyddau’r DU eu trin fel rhan o’r UE at ddibenion cyfyngiadau ar y rhyddid i symud i mewn ac allan o’r UE. Mae Aelod-wladwriaethau’r UE (ac eithrio Iwerddon) a gwledydd cyswllt y cytundeb Schengen wedi cytuno i gyfyngu ar deithiau i’r UE sydd ddim yn hanfodol gan wladolion o wledydd trydydd parti hyd nes 15 Mehefin. Caiff dinasyddion y DU eu trin fel dinasyddion yr UE at ddibenion y cyfyngiadau teithio hyn. Nid yw'r DU wedi cyflwyno cyfyngiadau cyfatebol ar gyfer dinasyddion nad ydynt yn rhan o'r UE. Mae rheolau dros dro yr UE hefyd yn gofyn bod gan fusnesau yn yr UE a’r DU drwydded i allforio cyfarpar diogelu personol y tu allan i’r UE neu’r DU.
- Mewn rhai meysydd, nid yw’r DU yn gymwys mwyach ar gyfer mentrau’r UE yn ystod y cyfnod pontio. Er enghraifft, nid yw busnesau’r DU yn gymwys mwyach i gael cymorth gan Fanc Buddsoddi Ewrop o dan delerau’r Cytundeb Ymadael.
Y camau nesaf
Yn y Datganiad Gwleidyddol, ymrwymodd y DU a’r UE i ddod i gytundeb ar bysgodfeydd ac ar wasanaethau ariannol erbyn dechrau mis Gorffennaf ac i gwblhau trafodaethau ar eu perthynas yn y dyfodol mewn pryd i unrhyw gytundeb gael ei gadarnhau gan y DU a’r UE erbyn mis Rhagfyr 2020.
Erthygl gan Lucy Valsamidis, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru
Rydym wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau ar y pandemig coronafeirws, gan gynnwys erthygl sy'n nodi'r cymorth a'r canllawiau sydd ar gael i bobl yng Nghymru ac amserlen o ymateb llywodraethau Cymru a’r DU.
Gallwch weld ein holl gyhoeddiadau sy'n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy glicio yma. Caiff pob un ei ddiweddaru'n rheolaidd.