Coronafeirws: Adferiad economaidd – busnesau, seilwaith ac adferiad gwyrdd

Cyhoeddwyd 15/09/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/12/2020   |   Amser darllen munudau

Wrth i’r cyfyngiadau symud ddechrau llacio yng Nghymru, ac yn sgil cwymp chwarterol digynsail yng nghynnyrch mewnwladol crynswth y DU, bydd ymateb i heriau a chyfleoedd presennol a newydd dros y blynyddoedd nesaf yn hanfodol bwysig i gymdeithas Cymru a'r economi.

Mae’r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd yn arwain cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer adferiad, ac mae wedi dweud y bydd Llywodraeth Cymru yn creu dull adfer sy’n seiliedig ar:

ymrwymiad i gyfiawnder cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol – ac yn cynnwys ein rhwymedigaethau i’r rhai a ddaw ar ein holau ni yn ogystal â’r rhai sy’n byw drwy COVID-19, o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal nifer o drafodaethau gydag arbenigwyr o Gymru a thu hwnt ynghylch sut y dylai gefnogi’r adferiad ac ailadeiladu ar ôl y coronafeirws. Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi llunio rhestr o'r negeseuon allweddol o'r rhain.

Bydd Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau’r Senedd yn dechrau clywed tystiolaeth ar ei ymchwiliad i’r adferiad economaidd ar 16 Medi. Rydym yn cyhoeddi dwy erthygl yn nodi rhai o'r themâu allweddol y mae'r Pwyllgor yn debygol o'u trafod yn ystod ei sesiynau tystiolaeth nesaf. Mae’r erthygl yn canolbwyntio ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill wedi’i ddweud am adfer yr economi mewn perthynas â’r:

  • cymorth angenrheidiol ar gyfer busnesau a sectorau unigol;
  • y buddsoddiad angenrheidiol mewn seilwaith; a’r
  • potensial ar gyfer adferiad gwyrdd.

Mae ein herthygl arall, a fydd yn cael ei chyhoeddi yfory, yn canolbwyntio ar bobl, lleoedd ac anghydraddoldebau yng nghyd-destun adferiad economaidd.

Busnesau

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd cam 3 y Gronfa Cadernid Economaidd, a fydd yn canolbwyntio ar gefnogi’r adferiad economaidd, yn helpu “busnesau, yn enwedig y rhai yn yr economi carbon isel, i ddiogelu a chreu swyddi o safon, yn ein cymunedau lleol”.

Mae Cydffederasiwn Diwydiant Prydain yng Nghymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i hybu cystadleurwydd drwy ehangu’r rhyddhad ardrethi busnes i fusnesau canolig eu maint i'w galluogi i gyflawni prosiectau arloesol er mwyn cefnogi’r adferiad economaidd.

Mae Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru wedi nodi bod angen cefnogi busnesau mewn ardaloedd y bydd unrhyw gyfyngiadau symud lleol yn effeithio arnynt yn y dyfodol trwy gronfa ymateb cyflym i fusnesau, a bod angen i Lywodraeth Cymru lunio cynllun cyfathrebu sy'n darparu eglurder i fusnesau yn yr ardaloedd dan sylw ynghylch yr hyn sy'n digwydd gyda’r cyfyngiadau newydd.

Mae'r Athro Dylan Jones-Evans o Brifysgol De Cymru wedi galw am gymhellion i fuddsoddi, o ystyried y gallai busnesau nad ydynt yn gwario ar ymchwil a datblygu a hyfforddiant gael effeithiau parhaol hirach ar gynhyrchiant a thwf yn yr economi.

Mae Sefydliad y Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr yn awgrymu y dylid darparu cymorth ariannol wedi'i dargedu i fusnesau bach i alluogi buddsoddiad i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.

I ariannu’r cymorth, awgrymodd y cyfranogwyr yn sesiynau bord gron Llywodraeth Cymru y gellid rhoi rôl gynyddol i Fanc Datblygu Cymru sy'n cefnogi pontio economaidd a phontio ar lefel cwmnïau, gan ddefnyddio mwy o arolygon “i gael dealltwriaeth fwy manwl o gryfderau, cyfleoedd, gwendidau a thagfeydd o ran ariannu”.

Sectorau

Er bod undebau llafur, Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru a Make UK wedi galw ar Lywodraeth y DU i ymestyn ei Chynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws, mae sefydliadau hefyd wedi tynnu sylw at ffyrdd y gallai Llywodraeth Cymru gefnogi adferiad y sectorau y mae’r pandemig yn effeithio arnynt fwyaf.

Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cymorth i gefnogi’r sectorau gofal plant a diwylliant.

Mae’r sectorau twristiaeth a lletygarwch wedi cael eu taro'n arbennig o galed gan y pandemig. Mae UK Hospitality wedi galw am system o 'grantiau craff' ac, ynghyd â Chynghrair Twristiaeth Cymru, wedi galw am wyliau ardrethi busnes pellach yn 2021-22 i gynorthwyo'r diwydiannau twristiaeth a lletygarwch trwy'r cyfnod nesaf. Mae Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru wedi awgrymu y gellir creu cynllun gaeafgysgu ar gyfer twristiaeth i alluogi busnesau i oroesi tan 2021, trwy ddarparu benthyciadau ar gyfradd llog isel trwy Fanc Datblygu Cymru.

Mae crynhoad ysgrifenedig Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru o sesiynau bord gron Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw at nifer o wahanol awgrymiadau ar gyfer cefnogi gwahanol gategorïau o fusnesau a gweithwyr. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Cymorth i sectorau y bydd angen iddynt ddychwelyd yn raddol at y ‘normal newydd’.
  • Ailhyfforddi gweithwyr mewn sectorau sydd yn annhebygol o allu ailddechrau am gryn amser.
  • Gwell cymorth i weithwyr mewn ardaloedd anghysbell na fydd ganddynt fynediad at swyddi eraill o bosibl, fel llawer o'r gweithwyr a gyflogir ym maes twristiaeth, fel cynllun gwarantu swyddi.
  • Cymorth wedi'i dargedu ar gyfer sectorau fel gweithgynhyrchu lle mae rhai gweithleoedd yn ei chael yn anodd cadw pellter cymdeithasol ac efallai y bydd angen mwy o awtomeiddio i fynd i'r afael â hyn.

Mae gwaith Sefydliad Bevan ar sectorau’r economi sylfaenol yn dod i'r casgliad bod helpu'r sectorau hyn i ddatblygu yn yr economi ar ôl y pandemig yn galw am gymorth wedi'i dargedu at ficro-gwmnïau a mangreoedd addas i ehangu busnesau llwyddiannus. Hefyd, nododd sesiynau bord gron Llywodraeth Cymru y bydd angen cymorth gan y llywodraeth ar rai sectorau sylfaenol, ac y dylid targedu hyn i gefnogi busnesau a fydd yn hyfyw os byddant yn derbyn cymorth tymor byr. At hynny, dywedodd y dylai rhaglenni hyfforddiant galwedigaethol ac ailhyfforddi ganolbwyntio ar roi sgiliau i bobl weithio yn y meysydd hyn.

Seilwaith

Mae nifer o sefydliadau wedi galw am fuddsoddi mewn seilwaith cymdeithasol ac economaidd i roi hwb i'r economi. Mae Sefydliad Bevan yn awgrymu:

A major investment in public infrastructure could not only support business activity but help to get it fit for the future.

Mae Cydffederasiwn Diwydiant Prydain yng Nghymru wedi galw am gyflymu prosiectau adeiladu sy’n barod i fynd i roi hwb i’r galw a chystadleurwydd yn yr economi. Mae Cyngres Undebau Llafur Cymru (TUC) wedi comisiynu gwaith sy'n awgrymu y gellir creu bron i 60,000 o swyddi pe bai Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn prosiectau allweddol, ac mae buddsoddi mewn prosiectau sy’n barod i fynd yn wers allweddol o ddirwasgiad 2008. Mae'n awgrymu y dylid blaenoriaethu'r rhain mewn meysydd fel tai; uwchraddio trafnidiaeth; ynni a'r amgylchedd; gweithgynhyrchu; a band eang.

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi cyhoeddi cynigion ar gyfer buddsoddiad cyfalaf gan awdurdodau lleol. Mae'r rhain yn cwmpasu 10 sector, gan gynnwys seilwaith economaidd a chymdeithasol mewn meysydd fel cymorth busnes; trafnidiaeth a theithio llesol; gofal cymdeithasol a thai fforddiadwy.

Mae Chwarae Teg yn dadlau y dylid blaenoriaethu buddsoddi mewn seilwaith cymdeithasol fel gofal cymdeithasol, gofal plant ac iechyd i ysgogi ac arallgyfeirio'r economi. Mae'n awgrymu y byddai hyn yn rhoi hwb i gyflogaeth, enillion a chydraddoldeb rhwng y rhywiau.

Mae Sefydliad Bevan wedi nodi bod yn rhaid i'r buddsoddiad yn y seilwaith fod yn ychwanegol at unrhyw gymorth y mae Cymru yn ei gael gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, ond y dylid cysoni'r modd y caiff ei gyflenwi. Mae sefydliadau eraill fel TUC Cymru a Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol wedi dadlau bod angen rhoi mwy o bwerau benthyca i Lywodraeth Cymru er mwyn ‘ailgodi’n gryfach’.

Adferiad gwyrdd

Bu nifer o alwadau ar Lywodraeth Cymru i gefnogi’r economi werdd, gyda chonsensws yn dod i’r amlwg ynghylch dulliau posibl o gefnogi mewn rhai meysydd.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn arwain tasglu a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu syniadau sy'n cysylltu gweithredu ar yr hinsawdd â chreu swyddi a thwf economaidd cynhwysol. Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio yn ariannu gosod mesurau effeithlonrwydd ynni mewn hyd at 1,000 o gartrefi presennol sy'n eiddo i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a chynghorau. Hefyd, yn ddiweddar mae wedi cynnal ail rownd Cronfa’r Economi Gylchol, sy'n ceisio lleihau gwastraff trwy gadw deunyddiau mewn cylchrediad cyhyd ag y bo modd.

Mae nifer o sefydliadau wedi cefnogi buddsoddi mewn seilwaith gwyrdd. Mae sefydliadau fel CBI Cymru, TUC Cymru, Cymdeithas Contractwyr Peirianneg Sifil Cymru, Ffederasiwn Meistr Adeiladwyr Cymru a Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol wedi galw am fuddsoddiad mewn meysydd fel adeiladu cartrefi fforddiadwy, ôl-osod tai i wella effeithlonrwydd ynni, teithio llesol, a chynyddu nifer y pwyntiau gwefru trydan.

Mae Cydffederasiwn Diwydiant Prydain yng Nghymru wedi galw am gymorth i alluogi busnesau Cymru i ddarparu cadwyni cyflenwi mwy gwydn. Mae Sefydliad Bevan a Chynghrair y Cymunedau Diwydiannol Cymru wedi awgrymu y gallai hyn olygu bod rhywfaint o gynhyrchu yn dychwelyd (reshoring) mewn meysydd fel gweithgynhyrchu a nwyddau a gwasanaethau hanfodol.

Mae sefydliadau hefyd wedi awgrymu y gallai buddsoddiad leihau allyriadau diwydiannol, a chefnogi ardaloedd sy’n ddifreintiedig yn economaidd. Mae TUC Cymru wedi awgrymu bod angen cronfa fuddsoddi i gefnogi diwydiannau, fel y diwydiant dur, i drosglwyddo i fodelau carbon is a thechnoleg lanach. Mae hefyd yn galw am ystyried diweithdra mewn sectorau a rhanbarthau wrth wneud penderfyniadau ar brosiectau unigol. Mae Cynghrair Cymunedau Diwydiannol Cymru yn dweud y dylai strategaeth ddiwydiannol werdd fod wrth wraidd y broses economaidd, ac y dylai gefnogi’r ardaloedd hynny sy’n wynebu heriau economaidd i hybu cynhyrchiant, cystadleurwydd a mynediad i’r farchnad lafur.

Mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol wedi awgrymu, yn ogystal â buddsoddi i'r economi werdd, y dylid dyrannu cyllid i adfer cynefinoedd a bywyd gwyllt ar raddfa fawr. Byddai hyn yn cynnwys cymorth ar gyfer ailgoedwigo, amddiffyn rhag llifogydd ac adfer natur mewn trefi a dinasoedd. Roedd crynhoad ysgrifenedig Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru o sesiynau bord gron Llywodraeth Cymru hefyd yn amlinellu nifer o ffyrdd y gellir cefnogi’r economi werdd ehangach, fel newid defnydd tir amaethyddol, ymrwymo i brynu cynhyrchion di-garbon, a buddsoddi mwy mewn pŵer gwynt.

Bydd ein hail erthygl yn edrych ar bobl, lleoedd ac anghydraddoldeb mewn perthynas â’r adferiad ar ôl y pandemig.


Erthygl gan Gareth Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Rydym wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau ar y pandemig coronafeirws, gan gynnwys erthygl sy’n nodi’r cymorth a’r canllawiau sydd ar gael i bobl yng Nghymru ac amserlen o ymateb llywodraethau Cymru a’r DU.

Gallwch weld ein holl gyhoeddiadau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy glicio yma. Caiff pob un ei ddiweddaru’n rheolaidd.