Llun o laswelltir sy’n frith o rywogaethau

Llun o laswelltir sy’n frith o rywogaethau

COP15: beth sydd wedi cael ei gytuno a beth mae hyn yn ei olygu i Gymru

Cyhoeddwyd 09/01/2023   |   Amser darllen munud

Yn COP15, sef uwchgynhadledd bioamrywiaeth y Cenhedloedd Unedig, cytunwyd ar fframwaith bioamrywiaeth byd-eang newydd, gan osod pedwar nod a 23 o dargedau i’w cyflawni erbyn 2030. Nod y gyfres o fesurau, sy’n cael ei hadnabod yn swyddogol fel fframwaith bioamrywiaeth byd-eang Kunming-Montreal, yw mynd i'r afael â cholled bioamrywiaeth yn fyd-eang ac adfer ecosystemau naturiol.

Mae'r fframwaith newydd yn gosod targedau ar amrywiaeth o faterion, gan gynnwys ardaloedd gwarchodedig, llygredd maetholion a’r defnydd o blaladdwyr. Mae’r erthygl hon yn edrych ar rai o’r targedau hyn, a’r hyn y mae’n ei olygu i Gymru.

I gael cefndir am COP15, gan gynnwys y materion oedd yn sail i'r trafodaethau, gweler ein herthygl flaenorol.

Diogelu ecosystemau

Un o’r targedau allweddol, ac yn ganolog i'r fframwaith drafft a luniwyd cyn yr uwchgynhadledd, yw'r targed '30x30' (targed tri). Ei nod yw diogelu 30 y cant o ardaloedd daearol, dŵr mewndirol, ac arfordirol a morol erbyn 2030:

… especially areas of particular importance for biodiversity and ecosystem functions and Services...

Ochr yn ochr â thros 100 o wledydd, fe wnaeth Llywodraeth Cymru ymrwymo i gefnogi’r targed 30x30 cyn yr uwchgynhadledd. Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd y byddai hyn yn gofyn am “weithredu strategol, rheoleiddiol a deddfwriaethol”. Fe wnaeth 'Archwiliad Dwfn Bioamrywiaeth' diweddar Llywodraeth Cymru nodi themâu allweddol ac argymhellion ar gyfer camau gweithredu penodol i'w cymryd yng Nghymru i gyrraedd y targed 30x30.

Yn dilyn yr uwchgynhadledd, dywedodd Ymddiriedolaethau Natur Cymru fod cwestiynau pwysig i'w gofyn am sut y caiff 30x30 ei ddiffinio i sicrhau y diogelir ystod o ecosystemau o dan y targed hwn.

Bydd llofnodwyr y fframwaith newydd hefyd yn ceisio dod ag o leiaf 30 y cant o’r holl ecosystemau diraddiedig i ‘adferiad effeithiol’ erbyn yr un dyddiad (targed dau). Atgyfnerthir hyn o'r fframwaith drafft a oedd yn ceisio adfer un rhan o bump o ecosystemau diraddiedig.

Diogelu rhywogaethau

dau ddraenog mewn amgylchedd gwledig naturiolMae’r fframwaith newydd yn ymrwymo cenhedloedd i gymryd ‘camau rheoli brys’ i atal difodiant rhywogaethau dan fygythiad, ac i leihau’r risg o ddifodiant yn sylweddol (targed pedwar). Mae hefyd yn ceisio rhoi amddiffyniad rhag defnyddio, cynaeafu a masnachu rhywogaethau gwyllt (targed pump), a mynd i'r afael â rhywogaethau goresgynnol estron (targed chwech).

Dywedodd yr RSPB ei bod yn siomedig nad yw'r ymrwymiadau hyn yn fwy pendant, oherwydd nad oes canlyniadau mesuradwy ar gyfer adfer rhywogaethau.

Mynd i'r afael â llygredd

Mae llofnodwyr y fframwaith hefyd wedi addo ‘lleihau risgiau llygredd ac effaith negyddol llygredd o bob ffynhonnell, erbyn 2030, i lefelau nad ydynt yn niweidiol i fioamrywiaeth a swyddogaethau a gwasanaethau ecosystem, gan ystyried effeithiau cronnol’ (targed 7).

Mae’r targed hwn yn cynnwys yn benodol:

  • lleihau'r maetholion dros ben a gollir i'r amgylchedd gan o leiaf hanner;
  • lleihau'r risg cyffredinol o blaladdwyr a chemegau hynod beryglus gan o leiaf hanner; a
  • gweithio tuag at ddileu llygredd plastig.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn cymryd camau ar lygredd ffermio a’r diwydiant dŵr, gyda Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn nodi’r rhain fel y ddwy ffynhonnell fwyaf o lygredd dŵr wyneb. Mae wedi cyflwyno rheoliadau llygredd amaethyddol, ac wedi sefydlu’r Tasglu Gwella Ansawdd Afonydd sydd wedi nodi pum maes lle mae angen gweithredu. Yn ogystal, ers hynny mae CNC wedi gosod targedau ffosfforws wedi'u diweddaru, ac mae’r Senedd wedi pasio Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru).

Fodd bynnag, mae'n debygol y bydd angen cymryd camau pellach i leihau'r risg o blaladdwyr a chemegau, rhywbeth y mae Ymddiriedolaethau Natur Cymru yn dweud a fydd yn heriol ond yn angenrheidiol. Ymgynghorodd y pedair gwlad ar Gynllun Gweithredu Cenedlaethol y DU ar gyfer Defnyddio Plaladdwyr yn Gynaliadwy yn gynnar yn 2021, ond rydym yn dal i aros am y canlyniad.

Gweithredu a thargedau domestig

Er mwyn gweithredu’r fframwaith newydd yn llwyddiannus, mae’n dweud bod angen cyfrifoldeb a thryloywder a gefnogir gan fecanweithiau effeithiol ar gyfer cynllunio, monitro, adrodd ac adolygu. Mae hyn yn cynnwys adolygu neu ddiweddaru strategaethau a chynlluniau gweithredu bioamrywiaeth cenedlaethol yn unol â’r fframwaith, ‘gan gynnwys targedau cenedlaethol sy’n cael eu cyfleu mewn fformat safonol’. I Gymru, bydd hyn yn golygu diweddaru Cynllun Gweithredu Adfer Natur Llywodraeth Cymru.

Er nad oes rheidrwydd ar Lywodraeth Cymru i osod targedau cenedlaethol penodol o ganlyniad i'r fframwaith hwn, mae ei rhaglen lywodraethu yn cynnwys ymrwymiad i ddatblygu “dyletswydd statudol a thargedau ar gyfer diogelu ac adfer bioamrywiaeth”. Mae hefyd wedi dweud y bydd targedau bioamrywiaeth sy'n gyfreithiol rwymol yn cael eu harchwilio yng nghyd-destun y fframwaith byd-eang newydd hwn.

Bydd cyrff anllywodraethol amgylcheddol, sydd wedi lobïo ar y mater hwn ers blynyddoedd, yn cadw llygad barcud am ddatblygiad targedau bioamrywiaeth domestig.

Ariannu gwaith cadwraeth

Daeth yr uwchgynhadledd i ddiweddglo dramatig ynghylch sut i ariannu ymdrechion cadwraeth yn y rhannau hynny o'r byd sydd â'r mwyaf o fioamrywiaeth. Fodd bynnag, mae'r fframwaith newydd y cytunwyd arno yn ymrwymo $200bn y flwyddyn erbyn 2030 o bob ffynhonnell ariannu (cyhoeddus a phreifat), gan gynyddu cyllid cyhoeddus i $30bn yn flynyddol erbyn 2030, a datblygu cronfa newydd i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r fframwaith.

Mae Llywodraeth Cymru newydd osod ei chyllideb ddrafft ar gyfer 2023-2024. Fodd bynnag, os yw bioamrywiaeth am gael ei hintegreiddio’n llawn ar draws pob maes polisi (targed 14), bydd angen i Lywodraeth Cymru ystyried effaith ei gwariant ar draws portffolios ar yr argyfwng natur.

Dywed Cyswllt Amgylchedd Cymru fod Llywodraeth Cymru yn rhannu’r ‘negeseuon cywir’:

… but this needs to be matched with the right investment if we have any hope of restoring Welsh nature.

Popeth arall

Mae nifer o’r targedau’n canolbwyntio’n fras ar geisio integreiddio bioamrywiaeth yn well ar draws meysydd polisi amrywiol, gan gynnwys newid hinsawdd, mannau gwyrdd/glas ac ariannu. Ceir ymrwymiad pellach i sicrhau y caiff pobl eu hannog a'u galluogi i wneud dewisiadau defnydd cynaliadwy.

Roedd elfennau nodedig eraill yn y fframwaith newydd yn ymwneud â rhywedd, hawliau pobl frodorol, a mabwysiadu ymagwedd hawliau dynol wrth weithredu’r targedau a’r nodau newydd hyn.

I Gymru, un o'r cenhedloedd mwyaf dirywiedig byd o ran natur, bydd angen ‘sbarduno camau gweithredu yn ddramatig‘ i gyrraedd y targedau hyn erbyn 2030.


Erthygl gan Lorna Scurlock, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru