Weithiau mae deddfwriaeth a basiwyd gan Senedd y DU yn ymdrin â meysydd polisi sydd wedi'u datganoli i'r Senedd. Yn ein herthygl a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, gwnaethom edrych ar y broses a ddefnyddir gan y Senedd i gydsynio i ddeddfwriaeth y DU. Beth sy'n digwydd gyda Deddfau'r Deyrnas Unedig pan fydd y Senedd wedi gwrthod rhoi cydsyniad iddynt? Yn yr erthygl hon, rydym yn ystyried tair Deddf y mae'r Senedd wedi peidio â rhoi ei chydsyniad iddynt, i weld sut mae'r pwerau hynny'n cael eu defnyddio yng Nghymru.
Sut y gofynnir am gydsyniad y Senedd?
Yn ôl Confensiwn Sewel, dylid gofyn am gydsyniad y Senedd fel arfer pan fydd Senedd y DU yn deddfu ar faes polisi sydd wedi'i ddatganoli.
Fodd bynnag, mae mwy a mwy o achosion wedi bod lle mae'r Senedd wedi peidio â rhoi cydsyniad, ond mae Llywodraeth y DU wedi bwrw ymlaen â deddfwriaeth. Yn y Chweched Senedd, mae'r Senedd wedi pleidleisio i beidio â rhoi cydsyniad i chwe Deddf Seneddol y DU, neu rannau ohonynt.
Confensiwn seneddol sy’n nodi na fydd Senedd y DU fel rheol yn deddfu mewn perthynas â materion datganoledig heb gydsyniad y deddfwrfeydd datganoledig.
Nid yw Confensiwn Sewel yn gyfreithiol rwymol.
Deddf Cenedligrwydd a Ffiniau 2022
Mae Deddf Cenedligrwydd a Ffiniau 2022 yn ymdrin yn bennaf â mewnfudo, sy’n faes polisi a gedwir yn ôl. Fodd bynnag, dadl Llywodraeth Cymru yw bod angen cydsyniad y Senedd ar ddarpariaethau o fewn y Bil, fel yr oedd, mewn perthynas â gofal cymdeithasol. Yn benodol, roedd darpariaethau'n ymwneud ag asesiadau oedran, a'r defnydd o ddulliau i bennu oedran rhywun sy'n ymwneud â'r broses fewnfudo, yn rhoi'r gallu i Weinidogion y DU osod swyddogaethau ar awdurdodau lleol Cymru.
Ym mis Chwefror 2022, pleidleisiodd y Senedd i beidio â rhoi cydsyniad ar gyfer y cymalau hyn. Er gwaethaf hyn, arhosodd y pwerau yn y Bil. Ond a yw'r pwerau hyn wedi cael eu defnyddio mewn perthynas â Chymru?
Sefydlwyd y Bwrdd Asesu Oedran Cenedlaethol (NAAB) o dan adrannau 50 a 51 o'r Ddeddf (adrannau y mae'r Senedd wedi gwrthod rhoi cydsyniad iddynt). Bydd yn cynnal asesiadau oedran ar ôl atgyfeiriad gan awdurdod lleol yng Nghymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon. Ar hyn o bryd mae'n cael ei gyflwyno'n raddol.
Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, fod y dulliau o asesu oedran yn “cyferbynnu'n uniongyrchol” â'r dulliau presennol a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru. Byddai hyn yn golygu y byddai gan awdurdodau lleol Cymru “yr her o lywio dau ddull statudol sy'n groes i'w gilydd o asesu oedran”. Mae’n aneglur pryd y bydd y Bwrdd Asesu Oedran Cenedlaethol yn dechrau gweithredu yng Nghymru.
Bil Cymwysterau Proffesiynol 2022
Cyfeiriodd Llywodraeth Cymru at gynnwys ‘pwerau cydredol’ o fewn y Bil fel prif reswm pam na allai argymell cydsyniad. Er bod rhai newidiadau wedi'u gwneud yn dilyn trafodaethau Llywodraeth Cymru gyda Llywodraeth y DU, fel cynnwys pwerau cydredol plws, pleidleisiodd y Senedd ddwywaith i beidio â chydsynio i'r Bil.
Pŵer y caiff Gweinidogion Cymru a Gweinidogion y DU ei arfer mewn perthynas â Chymru.
Pŵer mewn perthynas â Chymru y caiff Gweinidogion Cymru a Gweinidogion y DU ei arfer, ond dim ond gan Weinidogion y DU os bydd Gweinidogion Cymru yn rhoi eu cydsyniad gyntaf.
Mae Senedd y DU wedi pasio un darn o is-ddeddfwriaeth o dan y Ddeddf: Rheoliadau Deddf Penseiri 1997 (Diwygio) 2022. Mae'r rheoliadau hyn yn creu fframwaith newydd ar ôl Brexit ar gyfer cydnabod cymwysterau penseiri yn y DU. Mae rheoleiddio pensaernïaeth fel proffesiwn yn fater a gedwir yn ôl. Felly, ni fyddai Gweinidogion Cymru wedi cael cais i roi cydsyniad o dan y pwerau o fewn y Ddeddf.
Defnyddio pwerau mewn cytundebau rhyngwladol
Yn ddiweddar, cytunodd y DU ar gytuniad gyda'r Swistir ar gydnabod cymwysterau proffesiynol y bydd angen iddynt gael effaith mewn cyfraith ddomestig. Yn ôl memorandwm esboniadol Llywodraeth y DU:
The Professional Qualifications Act 2022 contains powers which can be used by the Government or the Devolved Administrations to implement international recognition agreements.
Mae hyn yn codi cwestiynau allweddol am Gonfensiwn Sewel gan ei fod yn ymwneud â rhwymedigaethau rhyngwladol.
Bil Masnach (Awstralia a Seland Newydd) 2023
Mae Bil Masnach (Awstralia a Seland Newydd) 2023 yn gwneud newidiadau i’r penodau caffael yn y cytundebau masnach rydd ehangach a wnaed rhwng y DU ac Awstralia a’r DU a Seland Newydd.
Nid oedd Llywodraeth Cymru yn gwrthwynebu'r polisi o fewn y Bil, fel yr oedd. Fodd bynnag, gwnaeth argymell i'r Senedd beidio â rhoi cydsyniad i gymal 1, gan ei fod yn cynnwys pwerau cydredol, er bod y Ddeddf fel y'i pasiwyd yn caniatáu i'r Senedd dynnu ochr Llywodraeth y DU o'r pŵer cydredol a'i throi'n bŵer y gellir ei arfer gan Lywodraeth Cymru yn unig. Pleidleisiodd y Senedd i beidio â rhoi cydsyniad ar 31 Ionawr 2023.
Ers dod yn gyfraith, mae un rheoliad wedi ei basio o dan y Ddeddf, gan ddefnyddio'r cymal nad yw’r Senedd yn rhoi ei chydsyniad iddo.
Fodd bynnag, nid yw rhannau mawr o'r rheoliadau hyn yn berthnasol i awdurdodau Cymru. Mae’r nodiadau esboniadol i'r rheoliadau yn dweud bod Gweinidogion Cymru yn cyflwyno eu hofferyn eu hunain i ddiwygio rheolau caffael fel y maent yn berthnasol i awdurdodau datganoledig Cymru. Yn 2023, pasiodd Llywodraeth Cymru 2 reoliad yn y maes hwn.
Mae’r ddadl ar Gonfensiwn Sewel yn parhau
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod defnyddio Biliau y DU i ddeddfu yng Nghymru gyda chydsyniad y Senedd yn “synhwyrol ac yn fanteisiol” o dan rai amgylchiadau. Un o’r rhain yw pan “nad oes amser ar gael i gyflwyno darpariaethau tebyg yn y Senedd”, neu pan fydd maes cyfraith berthnasol Cymru a Lloegr yn hynod gydgysylltiedig. Mae Llywodraeth Cymru wedi argymell cydsyniad i nifer gynyddol o Filiau'r DU yn y Chweched Senedd.
Fodd bynnag, mae'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad hefyd wedi bod yn feirniadol o'r cynnydd yn nifer Biliau’r DU sy'n cael eu pasio nad ydynt wedi cael cydsyniad y Senedd. Yn dilyn cyfarfod o bedair llywodraeth y DU ym mis Mehefin 2023, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol:
Pan nad yw’r Senedd yn rhoi ei chydsyniad i Fil gan Lywodraeth y DU, mae angen i Lywodraeth y DU ailddechrau dangos parch tuag at ddatganoli a gwrthdroi sefyllfa lle’r duedd erbyn hyn yw mynd ati i dorri Confensiwn Sewel.
Mae Michael Gove, Gweinidog Cysylltiadau Rhynglywodraethol y DU wedi dweud ei fod yn credu bod Confensiwn Sewel yn gweithio'n dda, gan fod y mwyafrif helaeth o ddarnau o ddeddfwriaeth Llywodraeth y DU yn sicrhau cynigion cydsyniad deddfwriaethol. Dywedodd y Gweinidog:
some legislation consequent upon our withdrawal from the European Union, because of the different positions taken by the Welsh Government and the Scottish Government on that question, do mean that it is more difficult to secure LCMs.
Mae Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad y Senedd yn parhau i graffu ar y ffordd y caiff Confensiwn Sewel a Biliau’r DU eu defnyddio i ddeddfu mewn meysydd wedi’u datganoli. Gwnaeth y Cwnsler Cyffredinol ymddangos gerbron y Pwyllgor i roi tystiolaeth ar hyn, a materion ehangach o fewn ei gylch gwaith, ddydd Llun 10 Gorffennaf. Mae’r ddadl ar gyfyngiadau a pharch at Gonfensiwn Sewel yn parhau.
Erthygl gan Philip Lewis, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru