Ar 31 Awst 2023, cyhoeddodd Llywodraeth y DU arweiniad newydd ar gyfer RAAC mewn lleoliadau addysg yn dilyn methiannau sydyn planciau RAAC wedi'u graddio fel rhai nad ydynt yn hanfodol dros yr haf. Roedd hyn yn codi pryderon ynghylch risgiau diogelwch uwch mewn adeiladau gyda RAAC.
RAAC: beth ydyw, lle mae'n cael ei ddefnyddio, pam y gall fod yn beryglus
Mae Concrit Awyredig Awtoclafiedig Cyfnerth (RAAC) yn fath o goncrid gyda strwythur ‘swigod’. Fe'i defnyddiwyd rhwng canol y 1950au a chanol y 1990au ar gyfer planciau to, paneli wal, a phlanciau llawr. Mae RAAC yn ysgafn, yn gost-effeithiol, ac yn effeithlon o ran ynni. Roedd yn ddelfrydol adeiladu strwythurau parod i'w codi, ac ar gyfer adeiladau sector cyhoeddus hanfodol yr oedd angen eu hadeiladu'n gyflym.
Fodd bynnag, oherwydd ei strwythur, mae gan RAAC hyd oes byrrach na choncrid traddodiadol. Dros amser, gall craciau arwain at gwymp sydyn. At hynny, RAAC hefyd yn dueddol o dreiddio dŵr a chyrydu. Gall prosesau adeiladu gwael (e.e. cefnogaeth annigonol neu ddeunyddiau trwm ar ben paneli RAAC) hefyd arwain at wendidau.
Llinell amser RAAC
Canllawiau gyda Chwestiynau Cyffredin ar RAAC yn cael eu cyhoeddi.
Diweddaru’r canllawiau ynghylch nodi RAAC.
Canllawiau ar gyfer cyrff cyfrifol a lleoliadau addysg lle cadarnhawyd bod RAAC, yn cael eu diweddaru.
Diweddaru gwybodaeth ynghylch rheoli RAAC.
Cyfanswm o 174 o achosion o RAAC wedi’u cadarnhau mewn lleoliadau addysgol yn Lloegr.
Canlyniadau arolygiadau cam cyntaf yng Nghymru a'r camau nesaf
Ar 1 Medi 2023, galwodd Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru am fwy o eglurder ar fater RAAC mewn ysgolion a cholegau.
Dywedodd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, wrth y Senedd ar 12 Medi: “A yw ein hysgolion ni'n ddiogel yng Nghymru? (…) Ydynt, maen nhw.”
Yn dilyn hyn, ar 22 Medi 2023, cyhoeddodd ef, a’r Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans, fod cam cyntaf arolygiadau ysgolion wedi’i gwblhau.
Pennwyd bod pedair ysgol â RAAC ledled Cymru: Ysgol David Hughes ac Ysgol Uwchradd Caergybi yn Ynys Môn, Ysgol Maes Owen yng Nghonwy, ac Ysgol Trefnant yn Sir Ddinbych.
Ar 22 Medi, roedd Ysgol David Hughes wedi ailagor; Ysgol Trefnant ar fin ailagor ac Ysgol Uwchradd Caergybi yn rhannol ar agor, y naill a’r llall gyda gwaith adfer ar y gweill mewn ardaloedd oedd wedi’u heffeithio, ac ar gau. Roedd Ysgol Maes Owen ar agor ac yn cael ei hadfer yn yr ardaloedd oedd wedi’u heffeithio. Disgwylir y bydd ail gam y broses, h.y. arolygiadau manwl, yn dod i ben ym mis Rhagfyr 2023.
Cyhoeddwyd bod cam cyntaf yr arolygiad o adeiladau addysg bellach wedi'i gwblhau ar 15 Medi. Dim ond rhan fach o ystâd Coleg Caerdydd a’r Fro oedd wedi’i nodi fel un â RAAC.
Cafwyd hyd i RAAC hefyd ym mhrifysgolion Caerdydd a Bangor. Mae'r ardaloedd yr effeithiwyd arnynt wedi eu cau.
Ar 15 Medi, roedd ail gam yr arolygiadau manwl ar gyfer adeiladau addysg bellach yn dal i gael eu cynnal. Mae prifysgolion yn cynnal eu hasesiadau eu hunain trwy’r Gymdeithas Cyfarwyddwyr Ystadau Prifysgolion.
Ar 13 Medi, dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, fod RAAC wedi’i ganfod mewn dau ysbyty, sef Ysbyty Llwynhelyg yn Sir Benfro ac Ysbyty Nevill Hall yn Sir Fynwy; un adeilad ffreutur wedi'i ddadgomisiynu yn Ysbyty Bryn y Neuadd yng Nghonwy; ac un ystafell beiriannau anghysbell, nad yw'n ystafell gyhoeddus, yn Ysbyty Bronglais yng Ngheredigion.
Dywedodd fod disgwyl i'r gwaith arolygu gael ei gwblhau yn ddiweddarach yn yr hydref. At hynny, gofynnodd i’w swyddogion gomisiynu’r GIG i gynnal ymchwiliadau RAAC ar draws portffolio Ystadau’r GIG.
Mae adroddiad dangosfwrdd Ystadau’r GIG ar gyfer 2021/2022 yn amlygu pryderon diogelwch eraill i ysbytai Cymru y tu hwnt i RAAC. Roedd yr ôl-groniad o atgyweiriadau sy’n gysylltiedig â risg uchel neu sylweddol bron yn £650m ar draws saith bwrdd iechyd a dwy ymddiriedolaeth GIG ar gyfer 2021/2022.
Mae Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd wedi ei chau oherwydd pryderon RAAC, ers 7 Medi. Bydd y neuadd gyngerdd ar gau tan tua mis Ebrill 2025, er mwyn newid y to.
Ar 5 Hydref 2023, rhoddodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dawn Bowden, grynodeb o ymchwiliadau RAAC mewn lleoliadau diwylliannol a chwaraeon (Tabl 1).
Tabl 1: Cyflwr ymchwiliadau RAAC mewn lleoliadau diwylliannol a lleoliadau chwaraeon ar 5 Hydref 2023
Sefydliad | Lleoliadau a archwiliwyd | RAAC wedi’i nodi? | Cam yr ymchwiliad ar 5 Hydref 2023 |
Llyfrgell Genedlaethol Cymru |
Pob un | X |
Canlyniadau wedi'u cadarnhau |
Cyngor Celfyddydau Cymru |
Theatr Clwyd | X |
Canlyniadau wedi'u cadarnhau; Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn bwriadu anfon arolwg i bob lleoliad celf ym mis Hydref |
Chwaraeon Cymru |
Canolfannau Cenedlaethol yng Ngerddi Sophia a Phlas Menai | X |
Canlyniadau wedi'u cadarnhau |
Amgueddfeydd lleol sy’n rhan o'r cynllun Achredu Amgueddfeydd |
Pob un |
X | Canlyniadau wedi'u cadarnhau |
Amgueddfa Cymru |
Pob un |
✓ - risg bach | Asesiad o'r Risg |
Safleoedd Cadw |
Pob un |
✓ | Mae ymchwiliad pellach ar gyfer safleoedd a nodwyd bron wedi'i gwblhau |
Mae Llywodraeth Cymru wedi ffurfio grŵp trawslywodraethol i reoli’r camau gweithredu ar gyfer adeiladau sector cyhoeddus ehangach. Mae Ystadau Cymru – a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i annog cydweithrediadau ar gyfer rheoli’r ystâd gyhoeddus – wedi cynhyrchu arolwg i nodi RAAC mewn adeiladau cyhoeddus.
Gofynnodd Llywodraeth Cymru am grynodeb lefel uchel o’r sefyllfa gan awdurdodau lleol a sefydliadau eraill sydd â phortffolios eiddo cyhoeddus erbyn 15 Medi. Gofynnodd hefyd am wybodaeth fanylach ar gyfer safleoedd gyda RAAC o fewn 28 diwrnod i benderfynu ar waith pellach.
Gofynnodd Llywodraeth Cymru i awdurdodau lleol sy’n dal stoc i ymchwilio i bresenoldeb RAAC mewn tai cymdeithasol, ac i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i asesu eu heiddo drwy Cartrefi Cymunedol Cymru.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau RAAC ar 8 Medi, y cawsant eu diweddaru ar 19 Hydref. Mae’r canllawiau’n esbonio mai perchnogion yr adeilad neu’r ystâd, landlordiaid neu’r rheini sy’n gyfrifol am reoli’r eiddo, sy’n gyfrifol am gostau arolygu ac adfer.
Gwnaeth y Gweinidog Cyllid ddweud wrth y Senedd ar 13 Medi 2023 y bydd y rhan fwyaf o’r gwaith adfer ar yr ystâd gyhoeddus yn defnyddio arian a ddyrannwyd eisoes at ddibenion eraill. Dywedodd na ddylai fod yn gostau mawr yn y flwyddyn ariannol gyfredol.
Mae'r canllawiau RAAC yn sôn am fuddsoddiadau Llywodraeth Cymru mewn ystadau cyhoeddus drwy raglenni fel y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy a'r Rhaglen Adnewyddu Cyfalaf Iechyd Cymru Gyfan.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi sicrhau bod £12.8m ar gael i gefnogi gwaith adfer yn Ysbyty Llwynhelyg.
Gwahaniaethau a thensiynau rhwng Llywodraethau Cymru a’r DU
Yn Lloegr, ar 16 Hydref, cadarnhawyd bod 217 o leoliadau addysg a ariennir gan y wladwriaeth (ysgolion, meithrinfeydd, colegau addysg bellach) â RAAC. Roedd 42 o safleoedd ysbyty wedi'u cadarnhau ar 19 Hydref. Mae rhagor o wybodaeth am ymateb Llywodraeth y DU ar gyfer adeiladau addysg ac ysbytai ar ei gwefan.
Ar 4 Medi, dywedodd y Gweinidog Addysg: “Mae’n anffodus dros ben bod y dystiolaeth sydd, i bob golwg, wedi bod yn datblygu dros yr haf wedi’i dal yn ôl nes y noson cyn diwrnod cyntaf y tymor newydd”.
Ychwanegodd ar 12 Medi bod newidiadau i ganllawiau RAAC y DU yn “annisgwyl”. Ar yr un diwrnod, gwnaeth y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, ddweud y gwahoddwyd Llywodraeth Cymru yn hwyr i gyfarfodydd RAAC a drefnwyd gan Lywodraeth y DU.
Fodd bynnag, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol y DU dros Addysg, Gillian Keegan, ar 4 Medi y bu ei swyddogion yn ymgysylltu ar frys â’r Gweinyddiaethau datganoledig i drafod eu canfyddiadau a chynnig cymorth. At hynny, amlygodd fod addysg wedi ei ddatganoli i Gymru. Ar 6 Medi, dywedodd fod Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn hwyr i'r mater.
Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, wrth y Senedd y dylai effaith penderfyniadau a wneir cyn datganoli fod yn gyfrifoldeb i Lywodraeth y DU. Fodd bynnag, gwnaeth yr Ysgrifennydd Gwladol ddweud mai cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw cyllid gan fod addysg wedi’i ddatganoli.
Erthygl gan Amandine Debus, Elfyn Henderson a Sydney Charitos, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru
Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Amandine Debus gan y Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, ac i Sydney Charitos gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol, a alluogodd i’r papur briffio hwn gan y Gwasanaeth Ymchwil gael ei gwblhau.