Mae pridd yn chwarae rhan bwysig mewn cynhyrchu bwyd, atal llifogydd a storio carbon, ond nid yw'n adnodd adnewyddadwy. Dim ond 10-15% o dir Cymru sydd â phridd o ansawdd uchel ar gyfer tyfu ac mae llawer o hyn yn agored i ddiraddiant. Er bod rhai camau gweithredu wedi bod gan Lywodraeth Cymru i ddiogelu priddoedd Cymru, mae llawer o randdeiliaid yn gofyn am amddiffyniadau pellach.
Archwiliodd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig rai o'r materion hyn yn ei ymchwiliad i iechyd pridd mewn amaethyddiaeth. Bydd trafodaeth am yr adroddiad, y mae'r llywodraeth wedi ymateb iddo, yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos nesaf.
Pam mae priddoedd yn bwysig?
Mae priddoedd yn cynrychioli o leiaf 80% o arwynebedd y tir yng Nghymru ac mae ganddynt rôl bwysig mewn cynhyrchu bwyd/ffibr, ansawdd dŵr, atal llifogydd, adfer bioamrywiaeth a storio carbon. Mae tystiolaeth bod priddoedd iach yn allweddol wrth sicrhau bod systemau amaethyddol yn wydn i effeithiau newid hinsawdd, megis mwy o lifogydd a sychder.
Ffigur 1 - Pridd a'r gwasanaethau ecosystem y mae'n eu darparu

Ffynhonell: Llywodraeth Cymru
Nid yw pridd yn adnodd adnewyddadwy. Dywedodd Yr Athro Bridget Emmett, prif wyddonydd yng Nghanolfan Ecoleg a Hydroleg y DU, wrth aelodau Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig fod pridd yn ffurfio mor araf a bod pob darn o bridd wedi’i ffurfio yn yr 11,000 o flynyddoedd diwethaf.
Yn y DU, mae pridd - gan gynnwys mawndiroedd - yn storio tua 94% o garbon y tir. Mae hyn yn golygu y gall priddoedd, yn enwedig glaswelltiroedd, chwarae rôl mewn storio carbon. Ystyrir bod cynyddu cronfa garbon y pridd drwy newid rheolaeth tir yn un opsiwn i helpu i gydbwyso allyriadau i sicrhau Sero Net.
Mae peth tystiolaeth mai cyfyng iawn yw’r potensial ar gyfer storio mwy o garbon oddi mewn i briddoedd Cymru oherwydd 'dirlawnder' carbon (carbon saturation). Fodd bynnag, canfu’r Panel Adolygu Tystiolaeth Atafaelu Carbon (oedd yn hysbysu'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy) ymchwil gymysg a gwahanol farnau ar bwynt dirlawnder carbon mewn priddoedd.
Waeth beth fo'r potensial ar gyfer atafaelu mwy o garbon (ei storio), mae ymchwil yn awgrymu ei bod yn aml yn haws diogelu yn hytrach nag ailadeiladu storfeydd carbon yn ein priddoedd
Fe wnaeth yr Adolygiad o Dystiolaeth Pridd Cymru yn 2022 bwysleisio pwysigrwydd pridd, a thynnwyd sylw yn Natganiad Polisi Pridd Amaethyddol Llywodraeth Cymru (2025) at y bygythiadau sy'n dod i'r amlwg sy'n wynebu priddoedd Cymru: newid hinsawdd a newid rheolaeth amaethyddol.
Cyflwr priddoedd Cymru
Amcangyfrifir fod y gost flynyddol o ddirywiad pridd (dirywiad mewn safon) yng Nghymru a Lloegr yn £1.2 biliwn. Y prif brosesau dirywiad pridd sy'n peri pryder yn y DU yw colli deunydd organig y pridd a chywasgiad. Gall cywasgu ddigwydd wrth i dda byw a pheiriannau gywasgu'r pridd, sy'n lleihau symudiad dŵr, aer a maetholion.
Os nad yw deunydd organig pridd yn dadelfennu, bydd priddoedd yn llai cyfoethog o ran maetholion ac o ganlyniad, yn llai ffrwythlon, gan fygwth twf cnydau a’r ddarpariaeth ar gyfer gwasanaethau ecosystem eraill.
Ffigur 2 – Canran o gyfanswm cost (£1.2bn) dirywiad pridd ar draws categorïau, Data ar gyfer yr holl DU

Ffynhonnell: Cyfoeth Naturiol Cymru
Glaswelltir yw’r rhan fwyaf o dir amaethyddol Cymru, ac roedd glaswelltir parhaol yn cyfrif am 63% o'r defnydd tir ar ddaliadau amaethyddol yn 2020. O ran glaswelltir fe’i ystyrir yn gyffredinol i fod mewn llai o berygl o ddirywiad pridd, ond er hyn, gall dwyster wrth reoli systemau glaswelltir effeithio ar y risg o ddirywiad pridd.
Ar hyn o bryd, mae data'n dangos bod tua 7% o dir yng Nghymru yn dioddef cyfraddau erydu uchel ac ystyrir fod oddeutu 40% o briddoedd Cymru yn agored i gywasgiad.
Ariennir y Rhaglen Monitro a Modelu'r Amgylchedd a Materion Gwledig (ERAMMP), gan Lywodraeth Cymru, ac mae’n darparu tystiolaeth wyddonol i gefnogi'r gwaith o ddatblygu a gwerthuso polisïau defnydd tir.
Mae tri dangosydd iechyd pridd cyffredin, wedi'u mesur gan ERAMMP ac a nodir isod, wedi gweld cynnydd ers dechrau cadw cofnod (1978) ond maent wedi gostwng mewn arolygon mwy diweddar (2013-2016 a 2021-2023), sy'n debygol o gyd-fynd â dirywiad cyffredinol mewn iechyd pridd yng Nghymru.
Ffigur 3 – Newid mewn tri dangosydd iechyd pridd gwahanol, 1970-2023, data Cymru

Ffynhonnell: ERAMMP, Nodwch fod pwyntiau o 1978 i 2007 wedi'u cofnodi fel rhan o'r Arolwg Cefn Gwlad Cymru, y pwynt yn 2015 yw'r cyfartaledd o'r Rhaglen Monitro a Gwerthuso Glastir (GMEP) (2013 i 2016) a'r pwynt olaf yn 2023 yw'r cyfartaledd ar gyfer pob dangosydd o fonitro ERAMMP ei hun (2021 i 2023). Mae'r llinell doredig yn dangos tuedd bosibl yn seiliedig ar ddata presennol ar gyfer cyfnodau o amser lle mae bylchau data yn digwydd. Oherwydd dyluniadau rhaglenni tebyg, gellir cymharu canlyniadau'r 10 mlynedd diwethaf (GMEP ac ERAMMP) â'r rhai o'r Arolwg Cefn Gwlad hanesyddol
Dangosyddion iechyd pridd
|
Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy
Mae disgwyl y bydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn fecanwaith polisi allweddol i warchod priddoedd. Mae Gweithred Gyffredinol 1 yn seiliedig ar brofi pridd. Fodd bynnag, mae galwadau am wneud mwy dros iechyd pridd fel rhan o'r cynllun.
Yn ymchwiliad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, codwyd y mater o beth sy'n digwydd o ganlyniad i'r data a gesglir yn ystod profion pridd. Rhybuddiodd y Rhwydwaith Ffermio Er Lles Natur na fydd profi pridd yn unig yn darparu priddoedd iachach, a soniodd Cymdeithas y Pridd am broblemau posibl gyda logisteg hel samplau a dehongli'r canlyniadau.
Dywedodd NFU Cymru ac Undeb Amaethwyr Cymru wrth y Pwyllgor fod ffermwyr tenant sydd â chontractau byr yn llai tebygol o gynnal profion pridd oherwydd efallai na fydd ganddyn nhw’r amser i ymateb iddo, ac efallai na fyddan nhw'n gweld y manteision os gwnânt hynny.
Argymhellodd y Pwyllgor y dylid gosod safonau statudol ar gyfer priddoedd ar bob ffermwr, gyda'r nod o sicrhau bod ffermwyr sy'n dewis peidio ag ymuno â'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn dewis diogelu iechyd eu pridd. Roedd hyn yn cynnwys gosod safonau ar gyfer gorchudd pridd ac erydiad pridd ar sail statudol.
Diogelu priddoedd drwy gynllunio
Mae’r system Dosbarthiad Tir Amaethyddol yn darparu dull ar gyfer asesu ansawdd tir amaeth (gan gynnwys ansawdd pridd) yng Nghymru a Lloegr. Mae'r Dosbarthiad yn graddio tir o Radd 1 - tyfu bwyd o'r ansawdd uchaf, i Radd 5 - tir garw o ansawdd gwael iawn.
Dim ond 10-15% o arwynebedd y tir yng Nghymru sydd yn y categori 'Y Tir Amaethyddol Gorau a Mwyaf Amlbwrpas' (BMV). Tir o radd 1, 2 a 3a yn y Dosbarthiad Tir Amaethyddol yw’r tir BMV.
Ffigur 4 – Graddau Dosbarthiad Tir Amaethyddol, Cymru

Ffynhonnell: MapDataCymru, Mae'r allwedd yn dangos graddau Dosbarthiad Tir Amaethyddol. Mae NA yn dynodi tir nad yw’n dir amaethyddol ac mae U yn dynodi tir trefol.
Mae Polisi Cynllunio Cymru yn nodi mai tir amaethyddol BMV yw’r:
…tir amaethyddol gorau a mwyaf amlbwrpas, a dylid ei warchod fel adnodd y mae terfyn iddo ar gyfer y dyfodol.
a dylid rhoi:
…cryn bwys ar ddiogelu tir o’r fath rhag ei ddatblygu, oherwydd ei bwysigrwydd arbennig.
Mewn tystiolaeth ysgrifenedig i Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, trafododd Yr Athro Bridget Emmett sut mae datblygu trefol yn tramgwyddo ar dir amaethyddol da (graddau 1, 2 a 3a).
Nododd Undeb Amaethwyr Cymru yn ei bapur tystiolaeth na ddylid diystyru tir nad yw’n dir BMV na’i adael heb ei ddiogelu ar gyfer cynhyrchu bwyd.
Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried datblygu map o Gymru ac arno swyddogaethau a gwasanaethau pridd. Yn ei adolygiad o'r adnodd mapiau swyddogaeth pridd ym mis Gorffennaf 2024, dywedodd mai:
Nod y map fydd darparu'r wybodaeth orau sydd ar gael i gefnogi a chydbwyso penderfyniadau defnydd tir lle mae’r manteision ac anfanteision rhwng swyddogaethau pridd a gofynion defnydd tir yn cystadlu…Bydd y map yn caniatáu i arbenigwyr a rhai nad ydynt yn arbenigwyr ddeall a mesur effaith defnydd tir a phenderfyniadau polisi ar wahanol swyddogaethau a gwasanaethau pridd.
Mae Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn datblygu fframwaith i gefnogi swyddogion cynllunio wrth wneud penderfyniadau i ddiogelu'r priddoedd gorau at ddefnydd amaethyddol. Mae disgwyl i'r Senedd drafod iechyd pridd yr wythnos nesaf. Gallwch wylio’r ddadl ar Senedd TV.
Erthygl gan Liesl van de Vyver Blackman a Dr Katy Orford, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru
Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Liesl van de Vyer Blackman gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol a alluogodd yr erthygl ymchwil hon i gael ei chwblhau.