Bydd cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig yn cael ei dreialu mewn rhannau o Gymru dros y misoedd nesaf.
Ar 14 Ionawr 2025, cytunodd y Senedd ar y rheoliadau sy’n galluogi Gwynedd, Casnewydd a Phowys i gynnal cynlluniau peilot.
Mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio y gallai hyd at 400,000 yn rhagor o bobl fod wedi’u cofrestru i bleidleisio os caiff hyn ei gyflwyno ledled Cymru ar ôl i’r cynllun peilot gael ei gynnal.
Mae’r erthygl hon yn trafod cefndir y cynlluniau peilot hyn ac yn edrych tua’r dyfodol er mwyn ystyried beth fydd yn digwydd nesaf.
Sut mae’r drefn cofrestru pleidleiswyr yn gweithio nawr?
Mae’r system Cofrestru Etholiadol Unigol ar waith ar gyfer pleidleiswyr yn y DU ers 2014. O dan y system hon, rhaid i bleidleiswyr eu cofrestru eu hunain i bleidleisio. Yna, rhaid i awdurdodau lleol gysylltu ag aelwydydd i wirio a yw’r gofrestr etholiadol bresennol yn gywir, i nodi pleidleiswyr newydd, ac i wahodd preswylwyr i wneud cais i fod ar y gofrestr. Disodlodd y drefn hon yr hen system cofrestru aelwydydd, lle’r oedd y ‘penteulu’ yn cyflwyno’r ffurflen gofrestru ar ran yr holl breswylwyr mewn cyfeiriad.
Mae gan y Senedd bŵer i newid y system gofrestru ar gyfer etholiadau’r Senedd ac etholiadau llywodraeth leol, ond nid etholiadau Senedd y DU nac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu.
Mewn ymgynghoriad yn 2017 ar ddiwygio etholiadol ym maes llywodraeth leol, dywedodd Llywodraeth Cymru fod y system Cofrestru Etholiadol Unigol wedi “arwain at gwymp yn y niferoedd sydd wedi’u cofrestru”, yn enwedig ymhlith grwpiau fel myfyrwyr neu boblogaethau symudol eraill. Roedd yn awgrymu y gallai fod “gwerth mewn symud yn llawer agosach at system o gofrestru awtomatig”.
Fe wnaethom drafod ystyriaeth Llywodraeth Cymru o gofrestru pleidleiswyr yn awtomatig yn fanylach yn ein herthygl gynharach.
Beth yw cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig a sut y byddai'n gweithio?
Byddai cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig (a elwir hefyd yn gofrestru heb gais) yn golygu na fyddai rhaid i bleidleiswyr eu cofrestru eu hunain mwyach i fod yn gymwys i bleidleisio.
Mae Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 yn cynnwys darpariaeth sy’n ymwneud â chofrestru pleidleiswyr yn awtomatig ac mae’n cynnwys pwerau i alluogi cynlluniau peilot i gael eu cynnal.
Pe bai’r adrannau’n dod i rym, byddent yn ei gwneud yn ofynnol i Swyddogion Cofrestru Etholiadol baru data i nodi etholwyr cymwys posibl.
Byddai rhaid i Swyddogion Cofrestru Etholiadol hysbysu etholwyr cyn eu hychwanegu at y gofrestr. Yna, byddai gan y person 60 diwrnod i ymateb (megis i optio allan neu ofyn am gael cofrestru’n ddienw) cyn cael ei ychwanegu at y gofrestr yn awtomatig.
Cyn cychwyn yr adrannau hyn, mae Llywodraeth Cymru yn cynnal cynlluniau peilot. Bydd y cynlluniau peilot yn defnyddio “data lleol presennol i nodi a gwirio etholwyr posibl”. Os bydd y cynlluniau peilot hyn yn llwyddiannus, gallai’r drefn cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig gael ei chyflwyno ledled Cymru.
Beth yw barn rhanddeiliaid?
Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai oedd yn gyfrifol am arwain y gwaith craffu ar y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru).
Nododd y Pwyllgor fod y dystiolaeth a gyflwynwyd iddo yn dangos bod mwyafrif llethol yn cefnogi’r egwyddor o gyflwyno cofrestru etholiadol heb gais fel modd o gynyddu nifer y pleidleiswyr cymwys cofrestredig, ond dywedodd mai dim ond “os gellir gwarantu diogelwch etholwyr sy’n agored i niwed” y dylid ei weithredu.
Clywodd y Pwyllgor gan y Comisiwn Etholiadol, a oedd yn cefnogi “rhyw fath o gofrestru awtomatig” er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r 400,000 o bobl yng Nghymru sydd naill ai heb eu cofrestru’n gywir neu sydd â gwallau yn eu cofnodion ar y gofrestr llywodraeth leol.
Soniodd sefydliadau fel RNIB Cymru ac Anabledd Cymru am bwysigrwydd cyfathrebu ynghylch y newidiadau mewn ffordd ragweithiol a hygyrch.
Pwysleisiodd Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru yr angen i ganiatáu cofrestru dienw, a lleisiodd bryderon am y terfyn amser ar gyfer ymateb i hysbysiad cofrestru. Cafodd y cyfnod hwn ei estyn o 45 i 60 diwrnod wrth i’r Bil fynd drwy’r Senedd.
Gwnaeth y Pwyllgor sawl argymhelliad, nifer ohonynt yn ymwneud yn uniongyrchol â’r cynlluniau peilot. Er enghraifft, argymhellodd y Pwyllgor y dylai’r ardaloedd a ddewisir ar gyfer y cynlluniau peilot “gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, gymysgedd o ardaloedd trefol a gwledig, ardaloedd cefnog a llai cefnog ac ardaloedd lle mae cyfrannau uchel o siaradwyr Cymraeg neu siaradwyr Saesneg nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf”.
Argymhellodd hefyd y dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i sicrhau bod sefydliadau sy’n cynrychioli grwpiau agored i niwed yn rhan o’r gwaith o gynllunio cynlluniau peilot.
Cynlluniau peilot cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig
Ym mis Ionawr 2025, cymeradwyodd y Senedd reoliadau i sefydlu cynlluniau peilot yng Ngwynedd, Casnewydd a Phowys rhwng mis Ionawr a mis Medi 2025.
Cadarnhaodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant AS, y bydd sir Gaerfyrddin hefyd yn cymryd rhan yn y cynllun peilot, ond gan na fydd yn ychwanegu pobl at y gofrestr, nid yw wedi’i chynnwys yn y rheoliadau. Ar hyn o bryd, nid oes rhagor o fanylion ynghylch yr hyn y mae hyn yn ei olygu yn ymarferol.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet wrth y Senedd y bydd y cynlluniau peilot yn helpu i feithrin dealltwriaeth o effaith cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig ar “grwpiau anodd eu cyrraedd, pleidleiswyr bregus ac yn enwedig y rhai sydd â sail i gofrestru’n ddienw”.
Ychwanegodd fod swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cynnal gweithdai gyda sefydliadau sy’n cynrychioli grwpiau agored i niwed i amlinellu’r cynlluniau peilot ac i drafod y mesurau diogelu sydd ynddynt, a’u bod yn awyddus i gwrdd ag unrhyw grwpiau eraill sydd â diddordeb yn y gwaith hwn.
A allai gweddill y DU ddilyn trywydd Cymru?
Un pryder a gododd yn ystod y gwaith craffu ar y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) oedd dryswch posibl ynghylch systemau cofrestru gwahanol ar gyfer etholiadau’r DU ac etholiadau Cymru. Mae hynny oherwydd mai dim ond y gyfraith ar gofrestru etholiadol ar gyfer etholiadau’r Senedd ac etholiadau llywodraeth leol y gall y Senedd ei newid.
Bydd ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth effeithiol yn bwysig er mwyn mynd i’r afael ag unrhyw ddryswch posibl. Ond a allai gweddill y DU ddilyn trywydd Cymru?
Yn ddiweddar, pasiodd Senedd yr Alban Fil Etholiadau’r Alban (Cynrychiolaeth a Diwygio). Mae’r Bil yn cynnwys darpariaeth sy’n caniatáu cyllid i gyflwyno trefn cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig mewn sefydliadau addysgol.
Roedd maniffesto Llafur y DU yn yr etholiad cyffredinol yn ymrwymo i wella’r drefn cofrestru pleidleiswyr, gyda rhai adroddiadau yn y cyfryngau yn awgrymu ei bod yn ystyried cyflwyno trefn cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig ar gyfer etholiadau’r DU. Fodd bynnag, ers dod i rym, nid yw Llywodraeth newydd y DU wedi ymrwymo i gyflwyno cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig.
Pryd allai hyn gael ei gyflwyno ledled Cymru?
Rhaid i’r cynlluniau peilot gael eu cynnal cyn 30 Medi 2025.
Yna, rhaid i’r Comisiwn Etholiadol lunio adroddiad ar y cynlluniau peilot cyn 1 Ionawr 2026. Rhaid i’r adroddiad hwnnw gynnwys asesiad ynghylch a ddylid estyn y cynllun ledled Cymru yn barhaol.
Mater i Lywodraeth Cymru wedyn fydd penderfynu a yw am gyflwyno rhagor o ddeddfwriaeth i gyflwyno hyn ledled Cymru.
Erthygl gan Adam Cooke,, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru