Cnoi cil ar y map newydd ar gyfer llywodraeth leol

Cyhoeddwyd 01/07/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

01 Gorffennaf 2015 Erthygl gan Rhys Iorwerth, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Yfory (2 Gorffennaf), fe fydd Leighton Andrews, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, yn ymddangos gerbron Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y Cynulliad mewn sesiwn graffu gyffredinol gyda’r Aelodau. Yn sgil cyhoeddi map newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer llywodraeth leol ar 17 Mehefin, prin fod angen gofyn beth fydd y prif destun trafod. Ers iddi ymateb yn ffurfiol i adroddiad Comisiwn Williams ym mis Gorffennaf 2014, mae’r Llywodraeth wedi datgan yn gyson ei bod hi’n ffafrio’r opsiwn o 12 cyngor a gynigiwyd gan adroddiad Williams. Ar ôl “ystyried ymhellach ... ystod y faterion”, mae’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus bellach wedi cyhoeddi cynigion ar gyfer wyth neu naw awdurdod lleol (gyda’r opsiwn o gael naill ai ddau neu dri chyngor yn y gogledd). Mapiau o ardaloedd llywodraeth leol newydd arfaethedig Llywodraeth CymruMapiau o ardaloedd llywodraeth leol newydd arfaethedig Llywodraeth Cymru Mae’r Gweinidog wedi pwysleisio mai nod ei gynigion yw “lleihau cost gwleidyddiaeth a gweinyddiaeth mewn llywodraeth leol”. Ond y tu hwnt i hynny, prin yw’r wybodaeth ynghylch yr “ystod o faterion” a barodd i’r Llywodraeth fwrw’i choelbren o’r newydd o blaid wyth neu naw awdurdod. Yn ystod gwaith craffu diweddar, mae’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol wedi clywed tystiolaeth sy’n awgrymu bod awdurdodau mwy o faint yn aml yn fwy addas ar gyfer darparu rhai mathau o wasanaethau – gan gynnwys cynllunio strategol, addysg, trafnidiaeth a gwasanaethau cymdeithasol. Serch hynny, mae’n ymddangos fod pobl yn cydnabod hefyd y gall awdurdodau mwy o faint danseilio atebolrwydd lleol a’r berthynas rhwng cynghorau a’r cymunedau y maen nhw i fod i’w gwasanaethu. Oherwydd hyn, tra bo cefnogaeth gyffredinol i ddiwygio’r model presennol, talcen caletach o beth tipyn yw cael consensws ynghylch sut y dylid mynd ati i wneud hynny. Mae’n bosibl y byddai beirniaid yn honni, cyn cyhoeddi unrhyw fap a phenderfynu ar nifer y cynghorau, y dylai’r Llywodraeth fod wedi ailasesu o’r newydd pa fath o wasanaethau y dylai llywodraeth leol fod yn gyfrifol amdanyn nhw mewn Cymru ddatganoledig. Hynny yw, y dylai ffurf y cynghorau gael ei seilio’n uniongyrchol ar yr hyn y maen nhw i fod i’w gyflawni. Ers creu’r strwythur llywodraeth leol presennol yn 1996, bu newidiadau sylfaenol yn y modd y mae Cymru’n cael ei llywodraethu. Gan hynny, mae cynrychiolwyr llywodraeth leol yn mynnu bod angen ailddiffinio’r berthynas rhwng y llywodraeth ganolog a llywodraeth leol, a gwerthuso o’r newydd rôl llywodraeth leol wrth ddarparu gwasanaethau modern. Ym mis Mehefin 2014, yn ei dogfen O Blaid Atebolrwydd Lleol, aeth Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru rhagddi i feirniadu Llywodraeth Cymru am ddatblygu agwedd rhy ganolog tuag at wasanaethau cyhoeddus, a galwodd am fwy o ryddid a hyblygrwydd i lywodraeth leol allu darparu gwasanaethau fel y gweddai hynny i amgylchiadau lleol. Ail-leisiwyd y farn hon yng nghynhadledd flynyddol y Gymdeithas ar 18 Mehefin 2015, pan ofynnwyd drachefn “beth yw llywodraeth leol, a beth ydym am i lywodraeth leol ei wneud?” Ymateb tebygol Llywodraeth Cymru fyddai ei bod wedi ceisio mynd i’r afael â’r union gwestiynau hyn yn ei Phapur Gwyn ym mis Chwefror 2015: Diwygio Llywodraeth Leol: Grym i Bobl Leol. Yn ôl y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, roedd y Papur Gwyn hwn “yn ymwneud yn fawr iawn â datganoli” ac yn “rhoi pŵer cymhwysedd cyffredinol i awdurdodau lleol a rhoi’r pwerau a’r cyfrifoldebau y maent yn eu haeddu ac y maent wedi gofyn amdanynt”. Fodd bynnag, byddai eraill yn dadlau mai dim ond ar ôl ailddiffinio’r pwerau a’r cyfrifoldebau hynny y gellir gwybod pa strwythurau sy’n addas. Mewn geiriau eraill, trwy gyhoeddi map cyn i’r broses honno gael ei chwblhau’n ddigonol, bod y Llywodraeth yn rhoi’r cart o flaen y ceffyl. Mae’r ddadl hon yn dwysáu wrth gofio mai bwriad presennol y Llywodraeth yw dim ond uno’r awdurdodau lleol presennol, heb dorri ar draws y ffiniau cyfredol. Yn wir, mae’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ei hun wedi awgrymu y byddai modd cael strwythur cadarnach a mwy parhaol yn y dyfodol trwy edrych yn fwy sylfaenol ar swyddogaethau a ffiniau. Cwestiwn arall difyr yw’r hyn fydd yn digwydd nesaf yng nghyd-destun y Bil Llywodraeth Leol (Cymru), sydd ar hyn o bryd ar ganol ei daith trwy’r Cynulliad. Dyma’r cyntaf o ddau fil disgwyliedig fel rhan o’r broses ddiwygio. Tra mai yn yr ail Fil y bydd y prif gynigion ar gyfer uno, a thra mai dim ond ar ffurf drafft y mae disgwyl hwnnw yn yr hydref, mae’r Bil cyntaf yn arwyddocaol oherwydd:
  • Fel y mae wedi’i ddrafftio ar hyn o bryd, mae’n dal i alluogi awdurdodau lleol sydd am uno’n wirfoddol – ac yn gynnar – i gyflwyno ceisiadau i wneud hynny;
  • Bydd y Bil yn galluogi’r Gweinidog i gyfarwyddo Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru i gychwyn adolygiadau etholiadol o’r ardaloedd newydd a gyhoeddwyd yn y map – ac i wneud hynny cyn gynted ag y daw’r Bil cyntaf i rym (sef ddiwedd yr hydref, o bosibl).
Mae’r Gweinidog wedi pwysleisio nad yw’r map a gyhoeddwyd ganddo’n “benderfyniad terfynol”, ac mai dim ond “sylfaen” i’w blaid ymgyrchu arni cyn etholiad y Cynulliad yn 2016 yw hon. Fodd bynnag, gallai’r Bil cyntaf, fel y mae wedi’i ddrafftio, roi i’r Gweinidog bwerau i gyfarwyddo’r Comisiwn Ffiniau i ddechrau gweithio ar drefniadau etholiadol yr ardaloedd newydd cyn diwedd eleni. Yn wir, mae hi’n ymddangos bod y Gweinidog yn bwriadu ymgynghori ar gyfarwyddiadau o’r fath cyn hir. Nid yr uchod, wrth gwrs, yw’r unig faterion o bwys. Wrth graffu ar y Bil Llywodraeth Leol (Cymru), mae’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol wedi trafod yn aml gostau tebygol y rhaglen uno. Mae materion sy’n ymwneud â chysoni’r dreth gyngor a defnyddio’r Gymraeg o fewn yr awdurdodau newydd hefyd wedi bod yn destunau trafod. Felly hefyd y goblygiadau i drefniadau cydweithio a gweithio rhanbarthol cyfredol, ynghyd ag effaith yr holl broses ar staff. Efallai y bydd cyfarfod y Pwyllgor fory yn rhoi ychydig mwy o gig ar yr asgwrn o ran yr hyn a wyddom eisoes am gynlluniau’r Llywodraeth. Delweddau o Lywodraeth Cymru (www.gov.wales) View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg