Mae gwaith cloddio glo brig wedi’i grynhoi’n benodol ym maes glo De Cymru, fel y gwelir ar y map isod. Yn ôl astudiaeth ymchwil a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, mae 10 safle gweithredol ac roedd ceisiadau am ganiatâd cynllunio wedi’u cyflwyno ar gyfer 3 safle ychwanegol erbyn diwedd 2013. Cymeradwywyd un o’r rhain, (Bryn Defaid, Llwydcoed), ni chafwyd penderfyniad eto ynglŷn â’r ail (Nant Llesg) a gwrthodwyd y trydydd (Varteg) ond mae cais newydd wedi’i gyflwyno’n awr.
Yr Awdurdod Glo sy’n berchen ar y mwyafrif helaeth o lo ym Mhrydain Fawr, yn ogystal â’r hen byllau glo. Rhaid cael trwydded gan yr Awdurdod Glo cyn dechrau cloddio am lo brig ar safleoedd newydd. Nid yw’r cyfrifoldeb dros drwyddedu felly’n faes datganoledig ar hyn o bryd.
Mae angen caniatâd cynllunio hefyd gan yr awdurdod cynllunio lleol (y 22 Awdurdod Unedol a’r 3 Awdurdod Parc Cenedlaethol). Rhaid penderfynu ar bob cais cynllunio’n ôl y polisïau a nodir yn y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl), oni bai bod rhesymau cynllunio da (sef "ystyriaethau o bwys" ) dros beidio â gwneud hynny. Dylai’r Cynlluniau Datblygu Lleol eu hunain adlewyrchu’r polisïau cynllunio cenedlaethol a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru.
Mae’r polisi Cynllunio Cenedlaethol ar gyfer cloddio glo brig yn cynnwys Polisi Cynllunio Mwynau Cymru (MPPW) a gyhoeddwyd yn 2001 a Nodyn Cyngor Technegol Rhif 2, Glo a gyhoeddwyd yn 2009.
Mae’r MPPW yn disgrifio sut y gall awdurdodau cynllunio lleol ddefnyddio clustogfeydd i greu ardaloedd dan warchodaeth o amgylch gwaith cloddio mwynau a ganiatawyd ac sydd yn yr arfaeth. Yn yr ardaloedd hyn, dylid gwrthwynebu datblygiadau newydd, fel ardaloedd preswyl, ysbytai ac ysgolion, y byddai gwaith cloddio o’r fath yn niweidiol iddynt. Fel arfer, ni ddylid caniatáu gwaith cloddio mwynau newydd ychwaith.
Mae’r MPPW hefyd yn ymdrin â gwaith adfer ac ôl-ofal a chynlluniau i wneud defnydd buddiol o safleoedd wedi i’r gwaith ddod i ben, gan gynnwys gwarantau ariannol. Y nod o ran gwaith adfer yw "sicrhau gwaith adfer ac ôl-ofal o safon uchel, a darparu ar gyfer gwneud defnydd buddiol o safleoedd wedi i’r gwaith mwynau ddod i ben". Dylid ymgymryd â gwaith ôl-ofal drwy ddefnyddio amodau cynllunio a chytundebau cyfreithiol.
Mae MTAN2 yn darparu canllawiau manylach yn ymwneud yn benodol â glo. Yn y canllawiau hyn, nodir bod yn rhaid diffinio a nodi clustogfeydd yn glir mewn Cynlluniau Datblygu Lleol. Bydd yr awdurdod cynllunio lleol yn dangos clustogfeydd ar "Fap Cynigion" y cynllun fel ardal sy’n ymestyn 500 metr o amgylch gwaith a ganiatawyd neu sydd yn yr arfaeth, o derfyn y safle (neu o derfyn y datblygiad ar yr wyneb yn achos cloddio tanddaearol.
Dyma’r amgylchiadau eithriadol a nodir yn MTAN2 dros ganiatáu datblygiadau mewn clustogfeydd:
- Os gwaith glo yw’r ffordd fwyaf effeithiol o atal y peryglon iechyd a diogelwch sy’n codi o waith mwynau blaenorol;
- Os bwriedir adfer tir a ddifrodwyd gan waith glo bas neu wastraff o byllau;
- Os ymddengys mai cloddio glo yw’r dewis mwyaf cynaliadwy;
- Os gwelir y byddai’r topograffi, nodweddion naturiol fel coetiroedd, neu ddatblygiad presennol, yn lliniaru’r effeithiau’n sylweddol;
- Os oes prif ffyrdd neu reilffyrdd rhwng yr anheddiad a safle arfaethedig y gwaith;
- Where the surface expression of underground working does not include the significant handling or storage of the mineral or waste;
- Os yw’r cynnig yn eithriadol o bwysig er mwyn adfer yr ardal leol, neu er mwyn creu gwaith neu roi hwb i’r economi yn yr ardal; neu
- Os bydd y gwaith cloddio’n mynd rhagddo cyn ymgymryd â chynllun datblygu parhaol arall, a ellir ei leoli’n rhesymol yn unman arall.
Mae MTAN2 hefyd yn cynnwys adran ar waith adfer ac ôl-ofal, sef ‘Achieving a high standard of restoration, aftercare, and after-use’. Mae’n dweud y dylid dilyn y camau a ganlyn wrth baratoi cynllun ffurfiol i adennill (neu adfer) safle:
- Trafod â’r Awdurdod Cynllunio Lleol a’r ymgynghoreion statudol cyn cyflwyno’r cais cynllunio;
- Cynnal astudiaeth dichonolrwydd;
- Ei gyflwyno gyda’r cais cynllunio;
- Ei gynllunio’n dda;
- Nodi sut y caiff y gwaith adfer ac ôl-ofal ei gynnwys yn y cynllun gwaith;
- Dangos pa mor addas yw’r gwaith ôl-ofal arfaethedig;
- Ystyried sut y gallai’r cynigion i adfer y safle effeithio ar dir cyfagos;
- Sicrhau bod y safle’n addas ar eu cyfer;
- Gofalu bod y cynllun, yn gyffredinol, yn gydnaws o ran natur a maint, â thirffurf naturiol yr ardal;
- Ystyried goblygiadau posibl llethrau ansefydlog neu symudiad arall yn y tir;
- Cynnwys cynllun rheoli;
- Sicrhau ei fod wedi’i gytuno a’i gynnwys yn yr amodau a’r cytundebau cynllunio, a bod manylebau gwaith manwl ar gael.
Gall Llywodraeth Cymru ‘alw rhai ceisiadau i mewn’ a phenderfynu arnynt yn lle’r Awdurdod Cynllunio Lleol. Mae gan Lywodraeth Cymru y pŵer i nodi rhai mathau penodol o ddatblygiadau y mae’n rhaid eu cyfeirio at Weinidogion Cymru er mwyn iddyn nhw eu hystyried neu eu ‘galw i mewn’, cyn eu caniatáu, os yw awdurdod yn bwriadu caniatáu’r datblygiad. Ers mis Gorffennaf 2012, mae’r Cyfarwyddyd hwn wedi cynnwys "cloddio a gweithio mwynau ac nid yw’r datblygiad yn cydymffurfio ag un neu ragor o ddarpariaethau'r cynllun datblygu sydd mewn grym." Fodd bynnag, nid yw’n cyfeirio’n benodol at hysbysu Gweinidogion Cymru am geisiadau i gloddio glo brig mewn clustogfeydd. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Gyfarwyddyd newydd ym mis Chwefror 2015 ar gyfer ceisiadau’n ymwneud ag olew a nwy sy’n cynnwys cynlluniau i ddefnyddio dulliau cloddio anghonfensiynol fel ffracio.
View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg