Bydd adeiladau'r Senedd a'r Pierhead ar gau i'r cyhoedd ddydd Iau 15 Hydref. Mae rhagor o wybodaeth am gau’r adeiladau ar gael yma.
Clefyd yr Afu yng Nghymru
Cyhoeddwyd 11/05/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munud
11 Mai 2015
Erthygl gan Victoria Paris, Gwasanaeth Ymchwil Cenedlaethol Cynulliad Cymru
Mae cyfraddau marwolaeth ar gyfer clefyd yr afu wedi cynyddu 400% ers 1970 ac mae marwolaethau cynamserol yng Nghymru o glefyd cronig yr afu wedi mwy na dyblu yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf. Er y bu gwelliannau yn y rhan fwyaf o farwolaethau o anhwylderau cronig eraill, megis strôc, clefyd y galon, a llawer o ganserau, cynyddodd nifer y marwolaethau oherwydd clefyd yr afu mewn pobl o dan 65 oed.
Clefyd yr afu yw'r trydydd achos mwyaf cyffredin o farwolaeth gynamserol yn y Deyrnas Unedig ac mae cyfradd y cynnydd yng nghlefyd yr afu yn sylweddol uwch yn y DU na'r gwledydd eraill yng ngorllewin Ewrop.
[caption id="attachment_2955" align="alignnone" width="682"]
Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru, Law yn Llaw at Iechyd – Cynllun Cyflawni ar gyfer Clefyd yr Afu[/caption]
Ceir mwy na 100 math o glefyd yr afu, a gyda'i gilydd maent yn effeithio ar o leiaf ddwy filiwn o bobl yn y DU. Y tri math mwyaf cyffredin o glefyd yr afu yn y DU yw:
Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru, Law yn Llaw at Iechyd – Cynllun Cyflawni ar gyfer Clefyd yr Afu[/caption]
Ceir mwy na 100 math o glefyd yr afu, a gyda'i gilydd maent yn effeithio ar o leiaf ddwy filiwn o bobl yn y DU. Y tri math mwyaf cyffredin o glefyd yr afu yn y DU yw:
- Gordewdra - O'r 25% o boblogaeth y DU sydd wedi'u categoreiddio yn ordew, bydd gan y rhan fwyaf ohonynt glefyd yr afu brasterog, a bydd gan y rhan fwyaf ohonynt greithiau a llid parhaus a fydd yn arwain at sirosis.
- Camddefnyddio alcohol - Mae clefyd yr afu alcoholig yn cyfrif am dros draean o farwolaethau oherwydd clefyd yr afu. Yn 2012, roedd clefyd yr afu alcoholig yn cyfrif am 63% o nifer y marwolaethau cysylltiedig ag alcohol yng Nghymru a Lloegr, 18% yn uwch na nifer y marwolaethau yn 2002.
- Hepatitis Feirysol a Gludir yn y Gwaed (llid yr afu)- Amcangyfrifir bod rhwng 12,000 a 14,000 o bobl yng Nghymru â haint cronig hepatitis C. Ar hyn o bryd, dim ond heintiau hepatitis B acíwt sy'n cael eu cofnodi, felly nid oes unrhyw amcangyfrifon ar gyfer heintiau cronig hepatitis B yng Nghymru. Fodd bynnag, mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn amcangyfrif bod 0.3% o boblogaeth y DU â haint hepatitis B cronig.
- Atal Clefyd yr Afu: Mae'r ffactorau risg sy'n cyfrannu at glefyd yr afu yn cael sylw gweithredol ac mae llai o bobl yn wynebu risg o ddatblygu clefyd yr afu.
- Canfod clefyd yr afu yn gynnar: Caiff clefyd yr afu ei ganfod yn gynnar a chaiff pobl eu hatgyfeirio ar gyfer triniaeth.
- Gofal cyflym ac effeithiol: Caiff pobl â chlefyd yr afu y gofal priodol gan dimau amlddisgyblaethol arbenigol.
- Byw gyda chlefyd yr afu: Caiff pobl â chlefyd yr afu gymorth i reoli eu cyflwr ac i leihau'r risg bod y clefyd yn datblygu.
- Gwella gwybodaeth: GIG Cymru a'i bartneriaid yn darparu gwell gwybodaeth a chymorth i bobl sydd mewn perygl o ddatblygu clefyd yr afu neu eisoes yn dioddef ohono.
- Targedu ymchwil: Cydweithio gweithredol mewn ymchwil sy'n gysylltiedig â chlefyd yr afu, i gyflawni gwelliannau mewn diagnosis, triniaeth a rheolaeth.