Cerddoriaeth fyw: o argyfwng i bandemig

Cyhoeddwyd 18/06/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 18/06/2021   |   Amser darllen munud

Yn 2020, roedd y diwydiant cerddoriaeth fyw mewn argyfwng, ac yna fe darodd y pandemig. Yn un o ymholiadau pwyllgor y Bumed Senedd ynghylch cerddoriaeth fyw yn 2019 dywedodd UK Music fod 35 y cant o leoliadau cerddoriaeth llawr gwlad ledled y DU wedi cau yn y degawd blaenorol.

Ym mis Mai 2021, ar ôl cael ei gwahardd am dros flwyddyn, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y gallai cerddoriaeth fyw dan do ailddechrau am y tro cyntaf ers dechrau’r pandemig. Mae gweithredwyr lleoliadau wedi rhybuddio bod mesurau cadw pellter cymdeithasol yn eu hatal rhag cynnal perfformiadau sy’n gwneud elw, sy'n golygu bod angen cynnal cefnogaeth y llywodraeth am beth amser er mwyn sicrhau nad yw lleoliadau’n cau.

Caeodd y lleoliadau pan roedd perfformwyr eu hangen fwyaf

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae sawl lleoliad cerddoriaeth blaenllaw yng Nghymru wedi cau, megis The Point a Gwdihŵ yng Nghaerdydd, Parrot yng Nghaerfyrddin, a TJ's yng Nghasnewydd. Er bod un o gyrff y diwydiant, UK Music, wedi dweud bod 35 y cant o leoliadau cerddoriaeth ar lawr gwlad wedi cau yn ystod y degawd diwethaf, nid oes ffigurau penodol ar gyfer Cymru. Yn ôl UK Music caeodd y lleoliadau hyn o ganlyniad i gynnydd mewn costau cyffredinol, fel biliau, rhent a chyfraddau busnes, ac anghydfodau cynllunio ynghylch sŵn.

Mae’r lleoliadau hyn wedi cau yng nghyd-destun gostyngiad enfawr mewn gwerthiannau ffisegol wrth i wrandawyr symud i wasanaethau ffrydio, sy’n golygu bod cerddorion wedi dod yn fwy dibynnol ar ennill incwm drwy berfformiadau byw. Soniodd Recordiau Sain am adeg pan roedd 2,000 o werthiannau CD yn rhoi “incwm synhwyrol” i artistiaid a labeli. Mewn cyferbyniad, mae 50,000 o ffrydiau yn rhoi incwm o tua £150.

Cefnogaeth ‘tameidiog ac ad hoc’ i gerddoriaeth fyw

Pan ddechreuodd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ei ymchwiliad yn haf 2019, nododd fod cefnogaeth i’r sector gan gyrff sy’n cynnwys y Cyngor Celfyddydau, Llywodraeth Cymru, ac awdurdodau lleol. Teimlai Undeb y Cerddorion fod bwlch yn y modd y mae’r gwaith hwn yn cael ei gydlynu, a galwodd tystion eraill y gefnogaeth yn ‘dameidiog ac yn ad hoc’.

Ym mis Ionawr 2020 lansiwyd Cymru Greadigol gan Lywodraeth Cymru, sef tîm newydd o fewn Llywodraeth Cymru i gefnogi'r diwydiannau creadigol. Un o'i gamau cyntaf oedd lansio cronfa o £120,000 ar gyfer gweithredwyr lleoliadau cerddoriaeth ar lawr gwlad, a fyddai’n gallu gwneud cais am hyd at £5,000 am welliannau cyfalaf i'w lleoliadau.

Ym mis Rhagfyr 2020 argymhellodd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu y dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu strategaeth gerddoriaeth ar y cyd. Roedd Llywodraeth Cymru yn derbyn hynny, gan nodi “bydd Cymru Greadigol yn datblygu “Cynllun Gweithredu” […] ar gyfer y Diwydiant Cerddoriaeth Fasnachol”.

O argyfwng i bandemig

Ym mis Mawrth 2020, bu’n rhaid i leoliadau cerddoriaeth fyw, ynghyd â lleoliadau diwylliannol eraill, gau ledled y DU. Gweithredwyd rheolau’r cyfyngiadau symud ledled y DU i ddechrau ond, gan fod iechyd wedi cael ei ddatganoli, mae gwledydd y DU wedi newid y cyfyngiadau hyn mewn gwahanol ffyrdd ers hynny.

Er mwyn deall effaith y pandemig ar y diwydiant cerddoriaeth, comisiynodd Ymchwil y Senedd yr Athro Paul Carr i lunio adroddiad ar yr effaith gychwynnol, a sut roedd ymateb Llywodraeth Cymru yn cymharu â chenhedloedd eraill.

Ychydig fisoedd ar ôl ei sefydlu, bu’n rhaid i Gymru Greadigol weithio gyda sector mewn argyfwng. Yn fuan, lansiodd Gronfa Gymorth ar gyfer Cerddoriaeth Llawr Gwlad gwerth £400,000, gan ychwanegu at yr arian y dechreuodd ei ddarparu i leoliadau cerddoriaeth llawr gwlad ychydig cyn y pandemig.

‘Chwarae teg iddyn nhw’, dywedodd yr arbenigwr diwydiant John Rostron wrth y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, gan grynhoi barn tystion eraill, a chanmol pa mor gyflym aeth y tîm ati i roi cefnogaeth i’r lleoliadau hynny - y gefnogaeth orau yn y DU ar un adeg.

Yn dilyn hyn, yn haf 2020 cafwyd Cronfa Adferiad Diwylliannol gwerth £53 miliwn. Daeth cyllid ar gyfer hon o gyllid canlyniadol Barnett o ganlyniad i wariant cyfatebol gan Lywodraeth y DU yn Lloegr. Mae'r Athro Carr yn nodi y bu’n rhaid aros yn hirach am y cyllid hwn o gymharu â chenhedloedd Ewropeaidd eraill. Yn dilyn hynny cafodd y Gronfa ei hestyn ym mis Mawrth 2021 gyda ‘hyd at £30 miliwn’ o gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru.

Roedd y gwaharddiad ar weithgareddau byw yn hirach yng Nghymru nag yng nghenhedloedd eraill y DU, a llawer o genhedloedd Ewropeaidd eraill. Mae'n annhebygol y bydd y gwahaniaeth hwn wedi rhoi llawer o fantais economaidd i leoliadau y tu allan i Gymru, gan fod gigs mewn lleoliadau bach fel arfer yn gweithredu heb lawer o elw, sy'n cael ei erydu gan fesurau cadw pellter cymdeithasol.

Ond, pan siaradodd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu â gweithredwyr lleoliadau ym mis Tachwedd 2020 roeddent yn awyddus i ail-ddechrau perfformiadau gyda mesurau cadw pellter cymdeithasol, hyd yn oed os nad oeddent yn gwneud elw. Dywedodd Sam Dabb o Le Public Space, nad gallu’r lleoliadau i oroesi yn ariannol heb y gigs oedd yn bwysig, ond iechyd meddwl pobl heb gyfleoedd creadigol.

Nododd gweithredwyr lleoliadau eraill y byddai ail-gychwyn gweithgareddau yn sicrhau bod arian yn llifo i'w cadwyni cyflenwi, gan gynnwys artistiaid a thechnegwyr sain. A pho hiraf y byddai Cymru yn mynd heb weithgareddau o’i chymharu â chenhedloedd eraill, po fwyaf y byddai Cymru dan anfantais pan fyddent yn ail-ddechrau.

Mae effeithiau'r pandemig ymhell o fod ar ben

Ers diwedd mis Mai mae perfformiadau byw dan do wedi bod yn bosibl eto yng Nghymru, yn amodol ar fesurau rheoli COVID-19. Yn gynharach ym mis Mai, aeth 500 o bobl i ŵyl Tafwyl, fel rhan o raglen prawf peilot digwyddiadau Llywodraeth Cymru. Dywedodd y Prif Weinidog fod y rhaglen hon yn ‘llwyddiannus iawn’, ac nid oedd wedi gweld tystiolaeth o bobl yn mynd yn sâl o ganlyniad. Gall hyd at 4,000 o bobl yn sefyll, neu 10,000 yn eistedd, fod yn bresennol nawr mewn digwyddiadau neu gynulliadau a reoleiddir yn yr awyr agored.

Ond i'r diwydiant cerddoriaeth fyw, mae effeithiau'r pandemig ymhell o fod ar ben. Dim ond pan fydd gofynion cadw pellter cymdeithasol yn dod i ben - rhywbeth y mae’r Prif Weinidog wedi rhybuddio efallai na fydd yn digwydd yn 2021 - y gall lleoliadau ddychwelyd i broffidioldeb llawn. Hyd yn oed wedyn, gallai presenoldeb gael ei gyfyngu gan ddiffyg hyder defnyddwyr, neu newidiadau mewn arferion hamdden a ddatblygwyd dros flwyddyn o gymdeithasu o'r soffa.

Mae Undeb y Cerddorion wedi galw am gynllun ‘paru seddau’, lle mae'r wladwriaeth yn digolledu lleoliadau am gost cynnal digwyddiadau gyda phresenoldeb isel. Mae'n rhybuddio bod dros draean o gerddorion yn ystyried rhoi’r gorau i’w gyrfaoedd cerddorol.

Mae angen cyfnod hir i drefnu digwyddiadau mawr, fel gwyliau, felly mae angen sicrwydd tymor hir arnynt. Mewn amgylchiadau arferol, gellir lliniaru diffyg sicrwydd gydag yswiriant, ond yn gyffredinol nid yw hyn ar gael ar gyfer risgiau sy'n gysylltiedig â'r pandemig.

Mae gan Bwyllgor Dethol Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Tŷ'r Cyffredin wedi galw ar Lywodraeth y DU i lenwi'r bwlch hwn. Rhybuddiodd fod y sector gwyliau cerddorol yn wynebu 'haf coll' arall o ganlyniad uniongyrchol i amharodrwydd y Llywodraeth i gefnogi yswiriant ar gyfer digwyddiadau sydd mewn perygl o gael eu canslo oherwydd cyfyngiadau COVID-19. Ar adeg ysgrifennu’r erthygl hon, mae gŵyl fwyaf Cymru, Green Man, yn gobeithio bwrw ymlaen ym mis Awst 2021 ac mae wedi gwerthu allan.

Un ffordd o alluogi perfformiadau cerddoriaeth i barhau ac i wneud elw fyddai Tystysgrifau Statws COVID, neu ‘basbortau brechlyn’, a fyddai'n galluogi lleoliadau i fetio’r rhai sy’n bresennol am eu tebygolrwydd o fod â’r feirws. Mae hwn yn fater y mae Llywodraeth Cymru hyd yn hyn wedi bod yn dawel yn ei gylch i raddau helaeth, a disgwylir canlyniad adolygiad gan Lywodraeth y DU yn ystod yr wythnosau nesaf.

I sector a oedd yn ei chael hi'n anodd cyn COVID-19, dim ond un cam ar y ffordd i’r adferiad yw ailgychwyn perfformiadau byw.

Deunydd darllen ychwanegol

Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, Clyw fy nghân: ymchwiliad i’r diwydiant cerddoriaeth fyw (Rhagfyr 2020)

Yr Athro Paul Carr, Prifysgol De Cymru, The Welsh music industries in a post-COVID world (Tachwedd 2020)


Erthygl gan Robin Wilkinson, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru