Mae mwy o bobl yn teithio dramor eto ar ôl i gyfyngiadau COVID-19 gael eu codi. Mae mynediad at ofal iechyd yn Ewrop wedi newid ers inni adael yr UE, felly beth sy'n digwydd os ydych chi'n sâl neu’n cael eich anafu ar wyliau? A chyda rhestrau aros hir am driniaeth y GIG, a all trigolion y DU gael y driniaeth sydd ei hangen arnynt mewn gwlad arall?
Mae ein herthygl yn disgrifio’r trefniadau i drigolion y DU gael mynediad at ofal iechyd dramor.
Teithio i un o wledydd yr UE: Triniaeth heb ei chynllunio
Mae Cerdyn Yswiriant Iechyd Byd-eang y DU (GHIC) yn rhoi mynediad at ofal iechyd sy’n angenrheidiol yn feddygol ac a ddarperir gan y wladwriaeth, i drigolion y DU pan fyddant yn ymweld ag un o wledydd yr UE neu’r Swistir. Mae’r GHIC yn cymryd lle’r Cerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd (EHIC) ar gyfer y rhan fwyaf o geisiadau newydd. Bydd rhai pobl yn gallu gwneud cais am EHIC newydd y DU os oes ganddynt hawliau o dan y Cytundeb Ymadael, a fydd hefyd yn ddilys yn Norwy, Gwlad yr Iâ a Liechtenstein.
Gallwch wneud cais am y GHIC yn rhad ac am ddim drwy Wefan Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG. Gall pobl sydd ag EHIC yn barod barhau i ddefnyddio hwn nes ei fod yn dod i ben.
Mae’r GHIC/EHIC yn cwmpasu triniaeth angenrheidiol na all aros nes y byddwch wedi dychwelyd adref. Mae hyn yn cynnwys triniaeth ar gyfer cyflyrau meddygol cronig neu gyflyrau sydd eisoes yn bodoli a hefyd gofal mamolaeth arferol (byddai’n darparu yswiriant ar gyfer genedigaeth heb ei gynllunio, ond nid ar gyfer rhywun sy'n bwriadu rhoi genedigaeth dramor). Byddai angen trefnu rhai triniaethau ymlaen llaw, er enghraifft, dialysis arennol neu gemotherapi.
Nid yw’r cynllun GHIC/EHIC yn ddewis arall yn lle yswiriant teithio - ni fydd, er enghraifft, yn talu costau achub rhywun a’i ddychwelyd adref yn dilyn damwain. Cynghorir holl deithwyr y DU i gael yswiriant teithio digonol ar gyfer eu taith.
Mae Llywodraeth y DU yn ceisio ehangu'r defnydd o’r GHIC yn y dyfodol i Norwy, Gwlad yr Iâ, a Liechtenstein.
Beth am deithio ar gyfer triniaeth wedi'i chynllunio?
Mae’n bosibl y bydd gan drigolion y DU hawl i gyllid y GIG i gael triniaeth wedi’i chynllunio ar gyfer cyflwr penodol o fewn yr UE a’r Swistir drwy lwybr ariannu S2. Mae rhai meini prawf yn bodoli; mae’r pwyntiau allweddol yn cynnwys:
- Rhaid gofyn am gymeradwyaeth ymlaen llaw gan y GIG (yng Nghymru, gan fwrdd iechyd lleol y claf).
- Rhaid i'r driniaeth y gofynnir amdani fod yn un a fyddai'n cael ei darparu fel arfer gan y GIG i glaf yn ei amgylchiadau penodol.
- Rhaid i'r GIG gadarnhau na all ddarparu'r driniaeth na'r hyn sy'n cyfateb iddi o fewn amserlen sy’n dderbyniol yn feddygol ar gyfer cyflwr/diagnosis y claf (y cyfeirir ato fel 'oedi gormodol'). Nid yw hyn yn seiliedig ar amserlenni targed cyffredinol y GIG ar gyfer triniaeth, ond ar asesiad clinigol o'r claf a'i amgylchiadau unigol.
- Rhaid i 'ddarparwr' y driniaeth fod yn yr UE neu'r Swistir, a rhaid i'r driniaeth fod ar gael o fewn system gofal iechyd gwladwriaeth y wlad sy'n ei darparu. Darperir triniaeth o dan yr un amodau ag a fyddai'n berthnasol i drigolion y wlad honno. Gall hyn olygu bod yn rhaid i'r claf gyfrannu swm penodol tuag at y gost ei hun, a elwir yn dâl cyd-dalu (e.e. mewn gwledydd lle mae'n rhaid i gleifion dalu canran o gost eu triniaeth a ddarperir gan y wladwriaeth). Mae’n bosibl y bydd y claf yn gallu hawlio rhywfaint neu’r cyfan o’i gyfraniad yn ôl ar ôl dychwelyd i’r DU.
Dan Reolau'r UE ar hawliau cleifion o ran gofal iechyd trawsffiniol, roedd cleifion y DU yn gallu prynu gofal iechyd y wladwriaeth neu ofal iechyd preifat yn un o wledydd eraill yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (Gwledydd yr UE ynghyd â Norwy, Gwlad yr Iâ a Liechtenstein) a cheisio ad-daliad gan y GIG. Ni all trigolion y DU ddefnyddio’r llwybr hwn mwyach ar ôl i’r DU ymadael â’r UE, oni bai bod cais yn mynd rhagddo ar 31 Rhagfyr 2020, neu fod triniaeth wedi’i chael cyn 11pm ar 31 Rhagfyr 2020.
Trefniadau penodol ar gyfer Iwerddon
Mae Llywodraeth Iwerddon a Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i gynnal, cyn belled ag y bo modd y trefniadau gofal iechyd o dan yr Ardal Deithio Gyffredin (CTA). O dan y CTA, mae gan drigolion Iwerddon a'r DU sy'n byw, yn gweithio, neu'n ymweld â'r wlad arall yr hawl i gael mynediad at ofal iechyd yno, ar yr un sail a thrigolion y wlad honno.
Mynediad at ofal iechyd mewn gwledydd y tu allan i'r UE
Mae gan y DU gytundebau gofal iechyd dwyochrog gyda nifer o wledydd unigol y tu allan i'r UE, gan gynnwys Awstralia a Seland Newydd. Mae lefel y driniaeth a ddarperir yn rhad ac am ddim i ymwelwyr yn amrywio, ond yn gyffredinol dim ond triniaeth feddygol ar unwaith a fydd yn caniatáu ichi ddychwelyd adref y mae'r cytundebau'n eu cwmpasu. Ni fydd y cytundebau'n talu'r gost o'ch dychwelyd i'r DU (dychwelyd i’ch gwlad eich hun). Cynghorir teithwyr i gael yswiriant digonol ar gyfer eu harhosiad dramor.
Symud dramor
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi canllawiau i wledydd unigol ar gael mynediad at ofal iechyd ar gyfer gwladolion y DU sy’n byw yng ngwledydd yr UE, yn ogystal â Norwy, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein, a’r Swistir. Mae hyn yn cynnwys gweithwyr o’r DU sydd wedi cael eu hanfon i weithio i un o'r gwledydd hyn dros dro.
Mae'r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu (FCDO) hefyd wedi cyhoeddi cyngor ar gyfer gwladolion y DU sy'n byw dramor, gan gynnwys gwybodaeth am fynediad at ofal iechyd. Mae canllawiau ar gyfer gwledydd unigol ledled y byd.
Cysylltiadau a Rhagor o Wybodaeth
Os nad ydych yn siŵr beth sydd angen i chi ei wneud neu eich bod yn ystyried teithio dramor i gael triniaeth, siaradwch â'ch bwrdd iechyd lleol. Dyma’r manylion cyswllt ar gyfer timau’r byrddau iechyd lleol sy’n ymdrin â cheisiadau gofal iechyd yn ymwneud â theithio dramor:
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Ffôn: 01633 623432
E-bost: abb.ipfr@wales.nhs.uk
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Ffôn: 03000 855145
E-bost: Bcu.Overseasvisitorqueries@wales.nhs.uk
Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a’r Fro
Ffôn: 02921 836535
E-bost: CAV.IPFR@wales.nhs.co.uk
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Ffôn: 01443 744800
E-bost: Cwmtaf.IPFR@wales.nhs.uk
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Ffôn: 01437 834485
E-bost: hdd.ipfr@wales.nhs.uk
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Ffôn: 01874 712694
E-bost: Monitoring@powyslhb@nhs.net
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Ffôn: 01639 683615 neu 01639 683389
E-bost: Planning.office@wales.nhs.uk
- GIG 111 Cymru, Eich Gofal Iechyd Tramor
- GIG, Rhestr wirio triniaeth dramor
Erthygl gan Philippa Watkins, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru