Allyriadau nwyon tŷ gwydr yw achos pennaf newid hinsawdd. Mae'r nwyon hyn yn cael eu rhyddhau drwy amryw o weithgareddau sy'n rhan annatod o fywyd modern – o gerbydau ag injan tanio, i gynhyrchu trydan, a ffermio.
Mae'r erthygl hon yn defnyddio’r ystadegau diweddaraf ar allyriadau nwyon tŷ gwydr Cymru i archwilio’r prif ffynonellau a thueddiadau o ran allyriadau rhwng 1990 a 2023.
Y cefndir
Ymrwymodd Cymru yn gyfreithiol i allyriadau nwyon tŷ gwydr sero net erbyn 2050 drwy wneud diwygiad yn 2021 i Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Mae'r Ddeddf hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru leihau allyriadau'n raddol mewn dwy ffordd: targedau interim i leihau allyriadau ar gyfer 2020, 2030, a 2040; a chyllidebau carbon pum mlynedd cronnol, gan ddechrau â chyllideb garbon 1 (2016-2020).
Cyhoeddir data blynyddol ar allyriadau tiriogaethol ar gyfer gwledydd y DU gan Restr Allyriadau Atmosfferig Genedlaethol y DU (NAEI). Mae angen amser i gasglu a gwirio'r data, felly mae datganiad data mis Mehefin 2025 yn ymwneud ag allyriadau tiriogaethol hyd at 2023. Mae allyriadau tiriogaethol yn cynnwys yr holl allyriadau o fewn Cymru, ond nid ydynt yn cynnwys allyriadau sydd wedi'u gwreiddio mewn cynhyrchion a gwasanaethau sydd wedi’u mewnforio i'r wlad o weddill y DU ac o dramor. Trafodir dull arall o fesur allyriadau yn seiliedig ar amcangyfrif o 'ddefnydd' ar ddiwedd yr erthygl hon.
Mae gostyngiadau mewn allyriadau’n cael eu mesur o gymharu â blwyddyn 'waelodlin' – sef 1990 ar gyfer y nwyon tŷ gwydr mwyaf cyffredin, fel carbon deuocsid, a 1995 ar gyfer rhai nwyon tŷ gwydr anghyffredin ond mwy pwerus. Mesurir allyriadau mewn cilotunelli o gyfwerthyddion carbon deuocsid (kTCO2e), er mwyn gallu cymharu nwyon sydd â photensial cynhesu gwahanol yn uniongyrchol.
Cyfanswm yr allyriadau yn 2023
Mae allyriadau absoliwt Cymru yn fach mewn cyd-destun byd-eang. Ei hallyriadau yn 2023 oedd 34,084 ktCO2e, sy’n llai na 0.1% o'r cyfanswm byd-eang. Fodd bynnag, ar ôl addasu ar gyfer ei phoblogaeth, 10.8 TCO2e y pen yw allyriadau Cymru, sef yr allyriadau uchaf y pen ymhlith gwledydd y DU, ac ôl troed y pen sydd 65% yn uwch na'r cyfartaledd byd-eang.
Allyriadau nwyon tŷ gwydr y pen cenedlaethol a rhyngwladol
Ffynhonnell: NAEI, y Swyddfa Ystadegau Gwladol, y Cenhedloedd Unedig, y Comisiwn Ewropeaidd.
A hithau’n un o'r gwledydd cyntaf yn y byd i ddiwydianeiddio, mae cyfraniad hanesyddol Cymru at newid hinsawdd hefyd yn uwch na'r rhan fwyaf o wledydd sydd tua’r un maint â hi.
Mae allyriadau'n gostwng dros amser
Hyd at 2023, mae cyfanswm allyriadau Cymru wedi gostwng 38% o gymharu â'r flwyddyn waelodlin. Cyflawnodd Llywodraeth Cymru ei chyllideb garbon gyntaf (2016-2020) a’i tharged interim ar gyfer 2020 gyda gostyngiad cyfartalog mewn allyriadau o 27.8%.
Cyfanswm allyriadau 2023 oedd yr ail isaf ar gofnod, 6% yn llai nag yn 2022.
Allyriadau tiriogaethol, targedau a chyllidebau carbon Cymru, 1990 i 2050
Ffynhonnell: NAEI, Llywodraeth Cymru, Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU
Mae Llywodraeth Cymru ar y trywydd iawn ar hyn o bryd i gyflawni cyllideb garbon 2021-2025. Bydd angen gostyngiad pellach o 40% o gymharu ag allyriadau 2023 i gyrraedd targed interim 2030.
Rhaid i Lywodraeth Cymru bennu lefel cyllideb garbon 4 (2031-2035) mewn rheoliadau cyn diwedd 2025. Cynghorodd Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU (y Pwyllgor Newid Hinsawdd), sef corff cynghori statudol annibynnol, yn ddiweddar y dylai Llywodraeth Cymru osod targed 73% yn is na'r flwyddyn waelodlin.
O ble mae allyriadau Cymru yn dod?
Daw nwyon tŷ gwydr o ffynonellau amrywiol. Fesul sector, diwydiant oedd ffynhonnell fwyaf allyriadau yng Nghymru yn 2023, ac yna trafnidiaeth ddomestig, amaethyddiaeth, a chyflenwi trydan.
Allyriadau 2023 yn ôl sector
Ffynhonnell: NAEI
Mae’r sectorau datganoledig wedi datgarboneiddio’n arafach
Dim ond cyfrifoldeb rhannol sydd gan Lywodraeth Cymru am leihau allyriadau. Mae rhai sectorau wedi'u cadw’n ôl yn rhannol neu'n llwyr gan Lywodraeth y DU. Mae'r dadansoddiad hwn yn rhannu sectorau yn rhai 'wedi'u cadw'n ôl yn bennaf' neu 'wedi'u datganoli'n bennaf', yn seiliedig ar ble mae’r pwerau o ran polisi, yn unol â diffiniadau’r Pwyllgor Newid Hinsawdd.
Cyfanswm allyriadau 2023 mewn sectorau wedi’u cadw’n ôl a sectorau wedi’u datganoli
Ffynhonnell: NAEI
*Mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd yn ystyried bod 'trafnidiaeth wyneb' ac 'adeiladau' wedi’u datganoli'n rhannol.
†Mae newid defnydd tir, gan gynnwys coedwigaeth a mawndiroedd, yn sinc net o nwyon tŷ gwydr. Felly mae 'allyriadau' y sector hwn yn negyddol.
Roedd y rhan fwyaf (57%) o allyriadau Cymru yn 2023 mewn sectorau wedi’u cadw’n ôl. Roedd allyriadau wedi’u cadw’n ôl wedi gostwng 42% yn erbyn y waelodlin, tra bo allyriadau wedi’u datganoli wedi gostwng 33%.
Y newid mewn allyriadau wedi'u cadw’n ôl ac allyriadau wedi’u datganoli ynghyd â digwyddiadau allweddol, 1990 i 2023

Ffynhonnell: NAEI, Deddf Newid Hinsawdd 2008, Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
Cyflenwi trydan a diwydiant sydd i gyfrif i raddau helaeth am y gostyngiad mawr mewn allyriadau wedi’u cadw’n ôl. Gyda'i gilydd, maent yn cyfrif am fwy na hanner y gostyngiad yng nghyfanswm yr allyriadau yn erbyn y waelodlin.
Gostyngiadau mewn allyriadau mewn sectorau wedi’u cadw’n ôl a sectorau wedi’u datganoli rhwng 1990 a 2023
Ffynhonnell: NAEI
Tueddiadau sector-benodol
Mae allyriadau ym mhob sector wedi gostwng o gymharu â'r waelodlin, er bod maint y gostyngiad hwn yn amrywio gryn dipyn.
Ffynhonnell: NAEI
Mae allyriadau wedi mwy na haneru yn y sectorau gwastraff a chyflenwi trydan. Bu gostyngiadau cymharol gymedrol yn y sectorau trafnidiaeth ddomestig ac amaethyddiaeth.
Mae cau pwerdy glo olaf Cymru yn 2020, a thwf mawr mewn ynni adnewyddadwy fel gwynt a solar, yn cyfrif am ostyngiad o 69% yn yr allyriadau sy’n gysylltiedig â chyflenwi trydan ers 2016.
Allyriadau defnydd
Mae’n gymharol hawdd mesur allyriadau tiriogaethol, y mae’r erthygl hon yn eu dadansoddi, ac maent hefyd yn sylfaen i dargedau lleihau allyriadau statudol Cymru.
Fodd bynnag, nid yw allyriadau tiriogaethol yn cynnwys allyriadau sydd wedi'u 'gwreiddio' mewn cynhyrchion a gwasanaethau sydd wedi’u mewnforio. Er enghraifft, pe bai car wedi'i adeiladu yn yr Almaen a'i fewnforio i Gymru, byddai'r allyriadau sy'n gysylltiedig â'i gynhyrchu yn cyfrif tuag at allyriadau tiriogaethol yr Almaen, ond nid at gyfanswm Cymru. Pe byddem yn mesur cynnydd drwy edrych ar ddim ond allyriadau tiriogaethol, mae perygl y byddem yn gwobrwyo symud diwydiannau sy’n llygru dramor, os yw'r un cynhyrchion a gwasanaethau'n dal i gael eu defnyddio ond yn cael eu cynhyrchu yn rhywle arall.
Mae mesur allyriadau 'defnydd' yn ceisio unioni hyn – gan ystyried allyriadau wedi’u mewnforio, a'r rhai a gynhyrchir yn uniongyrchol gan aelwydydd yng Nghymru. Gellir meddwl am allyriadau defnydd fel cynhyrchiant domestig, ynghyd â mewnforion, ond heb yr allforion.
Yn 2023, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru amcangyfrif o allyriadau defnydd rhwng 2001 a 2020. Mae'r adroddiad hwn hefyd yn rhoi esboniad cynhwysfawr o'r metrig hwn, gyda'r amod fod mwy o ansicrwydd o lawer wrth amcangyfrif allyriadau defnydd o gymharu ag allyriadau tiriogaethol.
Amcangyfrifwyd bod allyriadau defnydd Cymru ychydig yn is na’i hallyriadau tiriogaethol drwy gydol y cyfnod rhwng 2001 a 2020. Priodolodd Llywodraeth Cymru hyn i’r gyfran uchel yng Nghymru o waith gweithgynhyrchu sy'n ddwys o ran allyriadau, y mae llawer ohono'n cael ei allforio. Gostyngodd allyriadau defnydd 37% dros y cyfnod hwn, yn debyg i ostyngiad o 36% mewn allyriadau tiriogaethol. Mae gostyngiadau sydyn yn 2020 oherwydd cyfyngiadau Covid-19 yn effeithio ar y ffigurau hyn.
Allyriadau defnydd ac allyriadau tiriogaethol Cymru, 2001 i 2020
Ffynhonnell: NAEI, Llywodraeth Cymru
Gellir dadansoddi allyriadau defnydd yn ôl eu tarddiad: Cymru, gweddill y DU, neu weddill y byd. Allyriadau o ddefnyddio gwasanaethau a chynhyrchion a wnaed yng Nghymru oedd yr elfen leiaf yn 2020 (22%). Cyfrannodd allyriadau o weddill y DU 32%, tra bo 46% o allyriadau wedi'u gwreiddio mewn cynhyrchion a gwasanaethau o weddill y byd.
Allyriadau defnydd Cymru yn ôl ffynhonnell, 2001 i 2020
Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru
Y rhagolygon ar gyfer y dyfodol
Mae Cynllun Sero Net Cymru Llywodraeth Cymru yn nodi ei pholisïau i gyflawni cyllideb garbon 2 (2021-2025). Bydd angen iddi gyhoeddi cynllun cyfatebol ar gyfer cyllideb garbon 3 (2026-2030) cyn diwedd 2026.
Rhagwelir y bydd cau ffwrnais chwyth olaf Port Talbot yn 2024, cyn rhoi ffwrnais arc drydan yn ei lle, wedi gostwng allyriadau diwydiannol Cymru fwy na 50%, yn ôl y Pwyllgor Newid Hinsawdd. Mae’n debyg y bydd y twf disgwyliedig mewn ynni adnewyddadwy, gan gynnwys ffermydd gwynt arnofiol ar y môr, yn lleihau allyriadau yn y sector cyflenwi trydan sydd wedi’i gadw’n ôl.
Dywed cyngor diweddar y Pwyllgor Newid Hinsawdd y bydd datgarboneiddio yn y dyfodol yn dod yn fwyfwy dibynnol ar gamau polisi mewn sectorau datganoledig, fel amaethyddiaeth, defnydd tir, a thrafnidiaeth wyneb. Felly, mae'n debygol y bydd Llywodraeth Cymru yn ysgwyddo cyfrifoldeb cynyddol am gyfyngu ar gyfraniad Cymru at newid hinsawdd.
Disgwylir i'r data ar allyriadau tiriogaethol ar gyfer 2024 gael eu cyhoeddi ym mis Mehefin 2026.
Erthygl gan Dr Matthew Sutton, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru.